Castell y Penrhyn

Mae’n rhyfedd fod modd cyffelybu bod ar fwrdd llong â byw mewn castell; yn y ddau fan mae cyswllt gyda’r byd allanol wedi ei dorri. Dyna oedd profiad Annie Evans, merch i gipar ar stad y Penrhyn, a weithiai fel morwyn cegin yn y castell yn ystod blynyddoedd cyntaf yr ugeinfed ganrif. Ei sylw ysgytwol oedd na wyddai hi, na’r gwasanaethyddion eraill, sut oedd y boneddigion yn byw, ac felly yr oeddynt oll fel gwasanaethyddion yn hollol fodlon ar eu byd. I ddadansoddi ei sylw ymhellach gellir awgrymu y cynlluniwyd Castell Penrhyn i fod yn gastell o fewn castell, a thrwy ei amgylchynu gyda mur uchel byddai hyn yn gofalu na allai’r byd allanol feiddio tarfu ar urddas y preswylwyr.

Cyfrifiad 1881 – Yr Arglwydd Penrhyn a’i deulu

Pan gynhaliwyd y cyfrifiad yn 1881 y teulu a oedd yn byw yn barhaol yn y castell oedd Edward Gordon Douglas Pennant, yr Arglwydd Penrhyn cyntaf; ei wraig Mary; tair o’i ferched Louisa, Gertrude ac Adela, a thri o’i wyrion. Nodir yn y cyfrifiad fod yr Arglwydd yn wythdeg oed, ei wraig yn chwedeg dau a’r ieuengaf o’i wyrion yn saith mis oed. Hwn oedd y teulu creiddiol yn y castell ar y pryd, ond yr oedd gan yr Arglwydd deulu estynedig yn ogystal, gyda dau fab a thair merch o’i briodas gyntaf, ac wyth o ferched o’i ail briodas. O bryd i’w gilydd byddai aelodau’r teulu estynedig yn ymwelwyr dros dro yn y castell. Yr oedd yr Arglwydd hefyd yn berchen ar dŷ moethus yn Llundain a chartref yn y wlad yn Swydd Buckingham.

Ond i gynnal y teulu dedwydd yn nhawelwch cyfyng a digyffro castell y Penrhyn yr oedd yn rhaid wrth wasanaeth teyrngar ac ufudd llu o weision, morynion, cogyddion, garddwyr, ciperiaid ac ostleriaid. Yn wir, byddin o wasanaethyddion i redeg trefniadau cymhleth mewn castell moethus o’r maint hwn. Ar derfyn y bedwaredd ganrif ar bymtheg cyflogid rhestr eithriadol estynedig a chynhwysfawr o bobl yn y castell. Yno yr oedd: bwtler; prif forwyn y tŷ; cogyddes; gweision lifrai cyntaf; ail a thrydydd gwas; saith morwyn i’r Arglwyddes a’i merched; tri falet i’r Arglwydd a’i feibio; wyth morwyn tŷ; dwy is forwyn tŷ i ofalu am lofftydd y staff; tair morwyn yn y ddistyllfa; prif forwyn cegin; tair morwyn cegin a’r gegin gefn; stiward lanc i weini yn ystafell y stiwardiaid; dyn lampau a dyn i osod y tanau. Cyflogid pum merch yng ngolchdy’r castell a dyn i droi’r mangl a dwy hen wraig i olchi dillad staff y stabl. Yn yr ardd yr oedd trideg o arddwyr yn gweithio o dan awdurdod y pen garddwr a deuddeg gwastrawd yn gofalu am y ceffylau.

Cynllun cegin Castell y Penrhyn

Yn y castell yr oedd ystafelloedd gorwych y teulu bonheddig wedi eu neilltuo oddi wrth ardaloedd domestig yr adeilad a gynhwysai geginau a mannau byw’r gwasanaethyddion. Ac ni chaniateid i’r rhengoedd isaf eu swyddi siarad â’r rhengoedd uchaf gan fod yn rhaid gwarchod preifatrwydd y perchennog a’i deulu hyd yr eithaf. Ni chaniateid i’r morynion siarad yn uniongyrchol gyda’r arglwyddes, ac yr oedd holl ofynion y teulu i’w cyfathrebu i glyw’r gwasanaethyddion drwy enau’r brif gogyddes neu’r brif forwyn, ac yr oedd yn ofynnol i’r holl forwynion gyfarch y ddwy uchel weinyddes gyda’r teitl ‘Ma’am’. Prin iawn y cyflogid pobol leol ar staff y castell onid oedd gan yr unigolyn eisoes gysylltiad mewnol gyda’r gyfundrefn. O’r holl staff o chwedeg a gyflogid yn 1881 hanai pedwardeg ohonynt o Loegr, wyth o’r Alban, un yr un o’r Iwerddon, Ffrainc a’r Almaen, gan adael y tri ar ddeg a oedd weddill yn Gymry. Drwy ofalu fod y gynrychiolaeth leol yn fychan yr oedd yn llai tebygol y byddai sibrydion yn ymledu yn y gymdogaeth am fywyd oddi fewn i furiau caeedig y castell. Cyflog morwyn yn y gegin gefn yn negawd cyntaf yr ugeinfed ganrif oedd £5 y chwarter, gyda hanner coron yr wythnos i dalu am olchi dillad a hanner coron ychwanegol yr wythnos i brynu cwrw yn ôl tystiolaeth Annie Evans.

Cynllun mewnol y castell

Nid oes angen ychwanegu mwy, dim ond nodi bod Castell y Penrhyn yn symbol gweladwy heddiw o drachwant blysiog a gwancus pendefigaeth a oedd â’i phen yn y cymylau a’i thraed yn ymelwa ar lafur rhad gweithlu chwarel y Penrhyn, a chyn hynny, ar lafur am ddim caethweision yn stadau siwgr ynys Jamaica yn India’r Gorllewin. A gwell peidio anghofio fod teulu’r Penrhyn wedi derbyn iawndal o oddeutu £14,000 am y caethweision hynny a enillodd eu rhyddid ar eu stadau yn Jamaica drwy’r Mesur Diddymu Caethwasiaeth yn 1807.#

Castell y Penrhyn

Ffynhonnell

Llyfr Adnoddau i Athrawon – Castell Penrhyn,  Gwasanaeth Archifau Cyngor Gwynedd.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s