Lloc amddiffynnol Rachub

Mae peryg fod y nodyn hwn yn ailadrodd y cyfeiriadau a wnaethpwyd at y safle hwn mewn dau nodyn cynharach ar y wefan. Er hynny gadewch i ni fod yn berffaith sicr o bwysigrwydd y safle yn hanes ardal Rachub yn ystod cyfnod Oes yr Haearn/Rhufeinig gynnar rhwng y seithfed ganrif Cyn Crist a’r ail ganrif Oed Crist.

Cynllun o’r lloc amddiffynnol yn Rachub – delwedd drwy garedigrwydd a chaniatâd Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, Aberystwyth

Disgrifir y safle yng nghyfrol y Comisiwn Brenhinol ar henebion Sir Gaernarfon fel ‘clwstwr cytiau amddiffynnol’ a leolwyd ar benrhyn bychan ac iddo ymylon serth sy’n ymestyn allan i gyfeiriad y gogledd orllewin o Foel Faban ar uchder o tua 900 troedfedd. Amddiffynnwyd gwegil y penrhyn gyda ffos ddofn a atgyfnerthwyd â rhagfur cerrig sydd bellach yn adfeiliedig. Adeiladwyd mur o gerrig sychion rhwng 8/10 troedfedd mewn trwch i amgylchynu’r safle ac mae hon hefyd mewn cyflwr pur adfeiliedig. Oddi fewn i’r safle lleolwyd chwe chwt crwn oddeutu 20 troedfedd mewn trawsfesur, pob uned wedi ei sefydlu ar lwyfan bychan a dorrwyd i oleddf y llethr. Lleolwyd mynedfa’r safle ar ymyl y gogledd orllewin.

Dyma  felly ddisgrifiad moel o nodweddion pwysicaf y safle sydd yn enghraifft o glwstwr cytiau yn ogystal â bod yn gadarnle amddiffynnol. Mewn disgyblaeth lle mae dosbarthu nodweddion yn holl bwysig mae gosod y safle mewn un blwch cyffredinol yn broblemus –  ai clwstwr o gytiau ydoedd ynteu gaer amddiffynnol?  Fel caer amddiffynnol mae gan y safle ei gwendidau amlwg. I’r gogledd mae tir uchel godreon Moel Faban, ond i gyfeiriad y gorllewin mae gan y  safle agoriad di rwystr dros lwyfandir eang o dir a chysylltiad pellach gyda chaer Pendinas yn Nhregarth ac ymhellach draw i gaer Dinas Dinorwig yn Llanddeiniolen. Mae’r ddwy gaer olaf hyn yn fawr eu maint mewn cymhariaeth ag arwynebedd cyfyng y safle yn Rachub. A dyma broblem ychwanegol pe’i defnyddid fel lloches amddiffynnol, byddai yn eithriadol orlawn yn cartrefu cymuned ar ffo mewn cyfnod o argyfwng neu ymosodiad.

Cynllun o nodweddion archeolegol gwaun Corbri rhwng Caellwyngrydd a Chwarel Bryn Hafod y Wern – delwedd drwy garedigrwydd a chaniatâd Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, Aberystwyth

Oddeutu chwarter milltir i ffwrdd  ar lwyfandir gweunydd Corbri i’r gogledd ddwyrain ceir crynhoad arbennig o safleoedd a berthyn yn y mwyafrif  i’r un cyfnod hanesyddol â’r safle yn Rachub. Yn y cymhlethdod hwn gellir adnabod clystyrau cytiau yn dai crwn sengl neu yn gyplau o ddau, rhai wedi eu hamgylchynu gan fur pridd neu gerrig isel ac eraill mewn safleoedd agored. Mae yno hefyd dai hirion hirsgwar yn rhan uchaf y llecyn gan rannu’r un ardal â’r tai crynion sengl, tra bo nifer uwch o dai crynion â buarth yn yr ardal gyfan. Yn gysylltiedig â’r tai mae nifer o gaeau bychan o amryfal feintiau a ffurf rhai wedi eu cysylltu â therasau  hirion isel neu gaeau wedi eu hamgylchynu gan gloddiau isel. Mae’n amlwg fod haen ar ben haen o ymsefydlu o gyfnodau gwahanol wedi cyfrannu at greu’r cymhlethdod arbennig sydd ar weunydd Corbri.

Awyrlun manwl o gloddiau caeau ar waun Corbri – delwedd drwy garedigrwydd a chaniatâd David Longley, Porthaethwy

Mewn amser, a thrwy ddefnyddio technegau soffistigedig ‘radar’ o’r awyr sy’n cofnodi cyfnewidiadau bychan yn y pridd islaw, bydd yn bosibl canfod a dosbarthu’r nodweddion a berthyn i’r gwahanol haenau archeolegol a gyfrannodd at greu tirwedd hanesyddol mor bwysig yn yr ardal hon. Er hynny, mae’n annhebygol iawn y gellir canfod y cysylltiad a oedd ar un amser rhwng y lloc enigmatig yn Rachub a’r sefydliadau amaethyddol ar weundir Corbri oherwydd, yn y cyfamser, adeiladwyd pentref Caellwyngrydd gan ddifrodi’r haenau bregus  a fyddai o bosibl yn amlygu’r cyswllt rhwng y ddau leoliad.

Ffynhonnell

RCAMW. 1956 – An Inventory of the Ancient Monuments in Caernarvonshire Volume 1 East. HMSO, Llundain.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s