Bryniau Gwyddelod a Phen y Bonc

Panorama Mynydd Llandygái yn 1947 – capel Hermon yn y canol blaen, Llwybr Main canol i gefn y llun, Tanybwlch ar y chwith top, safle’r Gymdeithas Gymunedol ar y dde isod. Llun drwy garedigrwydd a chaniatâd Georgina Llewelyn, Llanfairfechan

Nodyn ar y cyd ag Idris Lewis, Dolwern, Ffordd Bangor

Pe byddai gofyn i chwi ddisgrifio Mynydd Llandygái a fuasech yn dewis ei alw yn bentref ynteu yn ardal?  O edrych ar gymunedau Dyffryn Ogwen y tu draw i Fethesda mae’r gwrthgyferbyniad rhwng  Rachub a Mynydd Llandygái yn weddol amlwg. Fel Rachub, creadigaeth y bedwaredd ganrif ar bymtheg yw Mynydd ond amgylchiadau pur wahanol oedd i gyfrif am arwahanrwydd cynllun  y ddwy gymuned. Cywasgwyd Rachub yn bentref cryno i lain bychan o dir a berthynai i stad annibynnol, tra bo Mynydd yn gasgliad o dai a thyddynnod gwasgaredig ar ehangder o ddaear a berthynai yn ei gyfanrwydd i stad y Penrhyn.  A thra gellir adnabod canolbwynt i Rachub megis yn y sgwâr, nid mor hawdd yw diffinio canolbwynt tebyg yn y Mynydd. Lleolwyd yr ysgol a’r eglwys ar y cyrion ond eto gallasai trigolion Mynydd gyfeirio at y ffaith fod cynifer o’r gwasanaethau hynny sy’n angenrheidiol i greu pentref wedi bodoli yno yn ystod cyfnod ei datblygiad  – ar un amser yr oedd yno ddwy siop nwyddau, siop baco a fferins, siop cigydd, crydd, pobydd, swyddfa bost, siop chips a thri chapel,  Hermon i’r Methodistiaid Calfinaidd, Peniel i’r Wesleaid ac Amana i’r Annibynwyr – ond nid oedd yr un o’r rhain yn ddigon amlwg i weithredu fel canolbwynt daearyddol sefydlog yn y cynllun.

Mynydd Llandygái yn 1768  yn dangos y llwybr unig, di-anedd, sy’n croesi’r ‘turbary’  i gyfeiriad y de orllewin o Chwarel Goch.  Noder y tyddynnod o amgylch Llyn Meurig  a safle comin Cae Braich y Cafn i’r de ddwyrain o’r map. Map Arolwg 1768. Archif Penrhyn Ychwanegol 2944, drwy ganiatâd Archifau a Chasgliadau Arbennig, Prifysgol Bangor. 

Yn y ddeunawfed ganrif yr oedd yr holl ardal ar drothwy mynydd Moelyci yn anghyfannedd a chyfeirir ato yn Arolwg y Penrhyn 1768 fel ‘turbary and common 1009 acres’ a ‘Moelyci and common below 692 acres’.  Dengys map yr Arolwg o’r un flwyddyn fod nifer o dyddynnod ac anheddau bychan yn ymwthio hyd y gelltydd islaw, yn arbennig yn ardal Llyn Meurig, gyda chomin 190 acer Cae Braich y Cafn eisoes wedi ei amgáu, a ffermydd mwy wedi eu sefydlu yng Nghoed y Parc a Chilgeraint.  I’r gogledd uwchlaw Tregarth yr oedd yno gyfuniad o dai unigol a thyddynnod bychan yn ymledu yn unedau llinynnol yn Braich, Bodfeurig, Chwarel Goch a Nant y Graean, ond erys y comin yn fangre agored di-annedd.  Ymddengys fod un llwybr yn croesi’r comin o  Chwarel Goch gan arwain i’r de orllewin i gyfeiriad gweunydd Gwaun Gynfi i  gysylltu, maes o law, gydag ardal Carreg y Gath a Bigil yn Neiniolen yn hytrach nag anelu i gyfeiriad Cae Braich y Cafn a Nant Ffrancon yn y de  ddwyrain. Y llwybr hwn oedd cychwyn amgáu a phoblogi ‘turbary’ Mynydd Llandygái  a chynsail y ffordd bresennol  o Fodfeurig i Ddeiniolen.

Y cam cyntaf oedd cynllun Richard Pennant yn 1796 i blannu can acer o datws ar y ffridd agored uwchlaw Llyn Meurig fel abwyd dyngarol i leddfu newyn mewn cyfnod digon anodd yn amgylcheddol yn yr ardal, ond a oedd hefyd yn cyd-daro’n fanteisiol gydag ymgyrch etholiad sirol yr Arglwydd ar y pryd. Dichon fod arwydd graslon yr Arglwydd  hefyd wedi sefydlu polisi a weithredwyd yn ddygn yn y Mynydd gan y Penrhyn, fel mewn rhannau  eraill o’r stad, sef bod yr Arglwydd yn rhoddi yn hael arian i’r ymgeisydd i adeiladu annedd neu dwlc, ond o gwblhau’r adeilad drwy  lafur personol, byddai’r stad yn codi rhent ar yr eiddo ymhen cyfnod byr o amser.  Dwy flynedd wedi plannu’r tatws, yn 1798, ac yng nghanol y blanhigfa,  adeiladwyd rhes o wyth o dai Tai’r Mynydd, cynllun a oedd eto i sefydlu polisi o anheddu – sef tŷ a gardd helaeth yn gyfagos – ac a ailadroddwyd yn llwyddiannus yn hanes gwladychu’r Mynydd.  Dengys map y Degwm yn 1840 fel yr oedd cynlluniau i amgáu’r comin  ar gychwyn i droi’r rhostir anffrwythlon yn gyfres o dyddynnod bychan i gynnal trefn o amaethu ymgynhaliol. Y cam cyntaf oedd cynllunio gwe o lwybrau i’r de o Lyn Meurig, a’r fframwaith hon roddodd drefn i ddatblygiad anheddu Mynydd Llandygái yn ogystal â chreu mynedfeydd pwrpasol i’r chwarel.

Mynydd Llandygái ym map Degwm 1836/40. Sylwer fod enwau rhai sefydliadau oedd yno cyn amser y map wedi eu hychwanegu (e.e. Bryniau Gwyddelod a Thai’r Mynydd) yn ogystal ag enwau safleoedd a ddatblygwyd yn ddiweddarach (e.e. Capel Amana,  Llwybr Main) . Sylwer ar y datblygiad yn Nyffryn Afon Galedffrwd, Y Felin Fawr  yng Nghoed y Parc, llinell y dramffordd i’r chwarel, a safle Llyn Meurig ar ffin eithaf de y map

Yr oedd dau fath o sefydliad yn gyrru’r broses. Y cyntaf oedd sefydliad y tŷ a’r ardd helaeth a welwyd yn gyntaf yn Nhai’r Mynydd, ond a  ailadroddwyd yn y Gefnan gyfagos yn 1843, ac am y trydydd tro yng nghynlluniau rheolaidd Tan y Bwlch a Llwybr Main yn 1862. Y cynlluniau hyn sy’n rhoddi hynodrwydd arbennig i batrwm gwladoli Mynydd Llandygái, ac yn achos Tan y Bwlch a Llwybr Main golygodd sefydlu dwy res drefnus, gyfochrog, gydag acer o dir yn gysylltiedig â phob annedd ddwbl,  y cyfan yn cyfrannu cyfanswm o tua 80 o dai yn y ddau gynllun. Yr ail sefydliad oedd y bythynnod, gwasgarog eu dosbarthiad, gyda nifer o gaeau bychan ynghlwm, a oedd yn llenwi’r bylchau rhwng y blociau cynlluniedig uchod. Y norm oedd bod rhwng pedwar a chwe chae yn perthyn i bob uned i greu daliadau o rhwng pedwar a chwe acer – a dyna roddi bodolaeth i fythynnod Bryniau Gwyddelod, Bron y Foel, Plas y Nant, Bwlch y Ffordd, Geufron, Cefn’r Ynys, Cae Gybi, Ty’n Buarth, Bryn Gwalchmai, Glanrafon Bach, Pen y Bonc a llawer mwy.

Tanybwlch a Llwybr Main

Mae cynllun caethiwus y ddau floc yn cynrychioli patrwm o feddiannu gorfodol ar dirwedd yr ardal, ac yn eu hanfod dyna yn union oedd eu hamcan. Yr oedd Llwybr Main a Tanybwlch yn rhan o gynllun ehangach gan y Penrhyn i adeiladu tai ar gyfer gweithwyr y chwarel mewn cyfnod pan oedd prinder eithriadol yn stoc tai’r ardal wrth i Chwarel y Penrhyn ehangu i’w maint mwyaf yn ystod ail hanner y ganrif.  Mantais safle’r Mynydd oedd ei agosrwydd i’r chwarel, a gallasai yn ogystal  gynnig amodau brau i weithwyr y chwarel i gyfuno eu galwedigaeth yno gyda bywoliaeth ymgynhaliol ychwanegol ar dyddyn neu yn y stribedi tai.  ‘Acer and a cow’ oedd yr ymadrodd yn y rhestai, a chynhaliaeth galed, ond darbodus, oedd i’w chynnig yn y tyddynnod fel yn economi ymylol rhannau eraill o ardaloedd chwarelyddol Gwynedd.  Pedwar cae a berthynai i Fryniau Gwyddelod. Yr oedd  gŵr y tŷ yn gweithio fel glanhawr ffordd gan ysgwyddo dyletswyddau trymion y tyddyn yn ei amser hamdden gan ddibynnu ar ei wraig i ofalu am gynhaliaeth ddyddiol y tyddyn. Dwy fuwch ac ychydig o ddefaid a dofednod oedd y stoc – y gwartheg i’w godro’n ddyddiol, y defaid i wyna a’r ieir i ddodwy a’r ceiliogod i greu incwm ychwanegol at y Dolig.  Yr oedd yno ardd lysiau ar gyfer gofynion y tŷ a chyda’r llaeth dros ben arferid gwneud menyn i’w werthu yn lleol, a phe byddai gofyn, am yr wyau yn ogystal. Arferid cadw tri o’r caeau ar gyfer tyfu gwair a’r pedwerydd yn borfa haf i’r anifeiliaid, tra ond yn y gaeaf cedwid y ddwy fuwch yn y beudy i’w bwydo gyda gwair y tri chae. Nod pob tyddyn oedd bod mor hunangynhaliol â phosib ond o fewn terfynau eu maint a’u gallu. Diwrnod mawr, a mwyaf pryderus y flwyddyn, fyddai teithio i dalu’r rhent yn Lim Gro. sef Lime Grove ger Porth Penrhyn. Dim ond un tyddyn ym Mynydd Llandygái allai gynnig cynhaliaeth amser llawn i’w ddeiliad a hwn oedd Pen y Bonc,  a llefrith o’r tyddyn hwn a ddosberthid yn ddyddiol i’r gymuned  drwy gyfrwng trol a’r gaseg amyneddgar Poli.  Ac ar y penwythnosau  rownd lefrith John Pen Bonc oedd cyfrwng pres poced hogia’r fro, y llefrith i’w fesur mewn jwg o’r fudai, ond y dosbarthiad i’w rheoli gan arhosiad o hir brofiad Poli’r gaseg.

Poli a’r drol lefrith yn yr eira, John Pen Bonc ar y dde ac Idris Lewis yn hogyn bach ar y chwith. Llun drwy garedigrwydd a chaniatâd Idris Lewis.

Erys tai a bythynnod Mynydd Llandygái, a  llawer ohonynt bellach ar eu newydd wedd, ond ciliodd yr hen gymdeithas ddarbodus megis gwlith y bore. Daeth y newid mawr yn ystod canol yr ugeinfed ganrif pan ddisodlwyd yr hen economi ymylol o gyfnod cynt gan drefn pleser o gadw diadell fechan o ddefaid neu ferlen neu geffyl er mwyn diddordeb.  Trodd  nifer o’r caeau a enillwyd drwy lafur caled o’r ffridd yn llecynnau di-gloddiau i’w mygu gan dyfiant brwyn, eithin a phrysgwydd.  Bu i’r siopau a’r capeli gau, ond erys yr eglwys yn ei safle newydd, ac adeiladwyd canolfan gymdeithasol i hyrwyddo bywyd gwahanol y gymuned fodern sy’n trigo ym Mynydd Llandygái ar ddechrau’r unfed ganrif ar hugain.

Gwybodaeth ychwanegol gan Huw John Huws, Porthaethwy.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s