
Nid oes angen pwysleisio fod chwarel yn lle eithriadol beryglus i weithio ynddo gyda damweiniau angheuol yn tanlinellu peryglon disymwth y fenter o ennill y graig ac afiechyd yn gysgod marwol yn sgil y grefft o’i thrin. Dros gyfnod o ddau gant a mwy o flynyddoedd ers sefydlu chwarel y Penrhyn newidiodd amodau iechyd a diogelwch yn araf er gwell i gyrraedd safonau uchel y presennol, ond mae’n ffaith ddiymwad i 397 o chwarelwyr golli eu bywydau yn y gwaith rhwng 1782 a 1960. Sefydlwyd rhestr swyddogol marwolaethau yn y chwarel yn 1843 ond mae yna hefyd gofnod sy’n nodi fod 214 wedi eu lladd yno rhwng 1782, dyddiad ei sefydlu gan Richard Pennant, ac 1865, sef cyfnod hanner cant a deugain cyntaf ei bodolaeth. Os cywir y cofnod yna gellir ychwanegu 183 o farwolaethau o’r rhestr swyddogol am y can mlynedd o 1865 hyd 1960 i roddi’r cyfanswm a nodwyd uchod. Nid yw graddfa’r marwolaethu i gymharu â’r trychinebau anferthol a ddigwyddodd yn y diwydiant glo yn yr un cyfnod er enghraifft pan laddwyd 439 glöwr yn Senghennydd yn 1913 a 266 a yn nhrychineb Gresffordd ger Wrecsam yn 1934. Ond rhestr ydyw sy’n dangos amledd cyson marwolaethau drwy ddamwain a hynny i unigolion yn bennaf, ac roedd yn bur anghyffredin i fwy nag un farwolaeth ddigwydd ar yr un pryd, ac unwaith yn unig y bu farw cymaint â thri ar yr un pryd. Mae un farwolaeth yn ormod wrth gwrs ac mae’n rhestr sy’n sobri darllenydd ac yn gofnod eithriadol drist ei chynnwys.
Mae rhestr swyddogol y marwolaethau yn cychwyn flwyddyn ar ôl penodi Dr Hugh Jones yn feddyg cyntaf y chwarel yn 1842, a dyma flwyddyn agor ysbyty’r gwaith yn ogystal. Yn y ddogfen cofnodir yn Gymraeg enw a chyfeiriad y truan gan nodi fod hanner y marwolaethau yn ganlyniad ‘anafu yn y chwarel’ neu i’r person farw oherwydd ‘anhwylder meddygol’ . Prin iawn yr ymhelaethir am achos y damweiniau, oni nodir i’r anffodusion gael eu taro gan lwmp rhydd o graig o bonc uwchben, neu fod y fargen wedi disgyn yn ddisymwth, neu fod i’r twll ffrwydro yn annisgwyl.

Rhwng 1843 a 1891 bu farw cant ac un o ddynion o anafiadau cyffelyb i’r uchod. Un o broblemau mawr y chwarel cyn 1855 oedd bod diffyg rheolaeth ar y defnydd o ffrwydron, ond yn y flwyddyn honno sefydlwyd rheol gaeth fod holl ffrwydriadau’r gloddfa i ddigwydd ar yr awr yn unig, mesur a oedd yn gorfodi trefn ar y sefyllfa gynt o anhrefn. I arwyddo fod ffrwydriad i ddigwydd cenid corn o rybudd ar yr awr a dewiswyd safle arbennig ar bonc Ffridd, lleoliad a oedd â golygfa banoramig o’r holl chwarel islaw, i’r gŵr gyflawni ei ddyletswydd. Yn eithriadol eironig yn 1877 rhestrir fod gŵr o’r enw Thomas Pritchard Price wedi ei ladd yn y chwarel, ac er nad oes cofnod yn manylu beth oedd achos ei farwolaeth ychwanegir y cymal enigmatig mai ef oedd ‘yr hen ganwr nos a bora adeg saethu’.

Tybed ai hwn yw’r gŵr a ddarlunnir yn y llun enwog o chwythwr y corn a gyhoeddwyd mewn nifer o gyhoeddiadau darluniadol o’r chwarel? Yn ddiweddarach defnyddiwyd cloch yn hytrach na chorn i rybuddio fod saethu i ddigwydd, ond dewiswyd yr un lleoliad uchel yn y chwarel fel y corn gynt.

Yn y rhestr marwolaethau ceir un manylyn annisgwyl, ond tra arwyddocaol yn hanes y chwarel, sy’n cofnodi tarddle daearyddol y dieithriaid a ddaeth i weithio i’r chwarel o ardaloedd oddi allan i Ddyffryn Ogwen ond a laddwyd yn y gwaith. Yn dra gwahanol i chwarel Llanberis ni ddarparwyd barics ar gyfer lletya’r dieithriaid hyn yn chwarel y Penrhyn, ac er mai cipdrem arwynebol a geir yn y rhestr mae’n pwysleisio pwysigrwydd y chwarel fel canolfan waith yn hanner cyntaf y 19g. Cofnodir fod un Sais ar y rhestr, er bod rhai enwau Eingl Sacsonaidd eraill yn gynwysedig, ond Cymry yw’r mwyafrif llethol gyda dalgylch y chwarel yn cyrraedd yn eang cyn belled â Rhuthun a Dyffryn Conwy yn y dwyrain a Sir Fôn yn y gorllewin. Mae’n ddiddorol sylwi hefyd fod cynifer o’r gweithwyr yn hanu o ardaloedd chwarelyddol a mwyngloddio eraill yn y gogledd megis Llandudno, Capel Garmon, Llanddeiniolen, Llanfairfechan, Rhyd Ddu, Capel Garmon, a hyd yn oed Ffestiniog, gan gynnwys un gŵr o Sir Benfro, sef ardal chwarelyddol arall bellennig yn ne orllewin Cymru.
Ym mis Rhagfyr 1891 gwelir newid sylfaenol yn y dull o gofnodi’r marwolaethau, ac mae’r newid yn cydoesi â thymor Dr E. Williams Bryn Meurig a Dr E. R. Edwards yn feddygon y chwarel. O hyn allan cofnodir yn Saesneg ac mae’r ddogfen yn llawer mwy ffurfiol a phroffesiynol ei chynnwys gan fanylu ar achos y damweiniau a chanlyniadau clinigol yr anafiadau. Yn wahanol i’w hanner cyntaf perthynol gwelir fod y lladdedigion i gyd bellach yn hanu o ardal Dyffryn Ogwen, ac mae nifer y marwolaethau yn lleihau yn flynyddol wrth i fesurau diogelwch wella, ac o ganlyniad dogfennir mai deuddeg person yn unig a laddwyd rhwng 1940 a dyddiad olaf y ddogfen ar 6 Mehefin 1960.

Damweiniau ar amrantiad sy’n gynwysedig yn y rhestr uchod ond nid yw’n cofnodi’r marwolaethau cudd sy’n gysylltiedig ag anadlu yn ddiarwybod lwch y garreg. Sefydlwyd mor gynnar ag 1895 mewn astudiaeth o chwarelwyr Ffestiniog fod llwch y llechen o’i anadlu dros amser yn creu niwed terfynol i iechyd yr unigolyn, ond rhaid oedd disgwyl tan 1930 cyn y gwnaethpwyd arolwg meddygol o effeithiau clefyd y llwch ar chwarelwyr ardal Gwyrfai. Dangosodd yr astudiaeth fod bygythiad y llwch yn llawer uwch i chwarelwyr a oedd yn trin y llechen nag i’r rhai a fyddai’n ei hennill o’r graig. Mae’r llechen yn cynnwys rhwng 25 a 42% o gwarts yn ei chyfansoddiad ac yn y llwch o’i thrin, cyfyd cyfartaledd y cwarts mân i rhwng 50 ac 80%. Yn ddiarwybod gwaethygwyd y sefyllfa pan benderfynwyd canoli’r holl waith o lifio a naddu’r llechen mewn siediau caeedig gan hepgor yr hen drefn o gynnal y gwaith mewn waliau lled agored lle’r oedd y gwynt yn gwasgar cyfran helaeth o’r llwch – mesur a oedd yn cyfnewid anhwylder y cymalau am salwch yr oedd ei lesgedd yr un mor ddamniol. Profwyd yn ogystal fod salwch y llwch i’w weld ar ei waethaf yn y rhai a fu’n gweithio yn y diwydiant am fwy nag 20 mlynedd, ond y drasiedi fawr oedd y bu rhaid i’r dioddefwyr ddisgwyl tan ddiwedd yr ugeinfed ganrif cyn i salwch y llwch i chwarelwyr gael ei gydnabod fel anaf diwydiannol a bod iawndal i’w dderbyn am y dioddefaint.

Diolchiadau
Y ddiweddar hoffus Caryl Jones, Bryn Eglwys, Llanllechid gyda diolch am gael gweld rhestr y marwolaethau; Idris Lewis, Dolwern, ac Alaw Jones, Parc Moch, am eu caniatâd i ddefnyddio nifer o luniau’r chwarel o’u harchifau personol.
Ffynonellau
C. L. Sutherland, S Bryson. 1930 Report on an inquiry into the occurence of disease of the lungs from inhalation in the slate industry in the Gwyrfai district. HMSO. Llundain.