Capel Jerusalem

Capel Jerusalem 3
Capel Jerusalem gyda’r ardd a thŷ’r gofalwr i’r chwith

Wrth gyfeirio at gapel Jerusalem yn Y Drysorfa yn 1842 meddai Richard Jones, Abercaseg ‘bernir fod yr addoldy hwn yn un o’r rhai mwyaf, harddaf a gwerthfawrocaf yng Nghymru’, a gellir ategu’r sylw hwn gan fod y capel yn parhau yn un o drysorau pensaernïol addoldai Cymru hyd heddiw. Er hynny, gellir ei ystyried fel un o addoldai mwyaf hunangyfiawn ardal Dyffryn Ogwen.  Hwn oedd capel ‘byddigions’ y gymuned yn ystod hanner olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Trafodwyd sefydlu’r capel ar dro rhwng 1839 ac 1840 gan ddau ŵr, Owen Jones, Brynsalem, a oedd yn flaenor yn y Carneddi ac Evan Edward, Bethesda. Sefydlwyd pwyllgor a danfonwyd Cornelius Roberts, Dolawen at yr Arglwydd Penrhyn i ofyn am dir ar brydles i adeiladu arno. Bu’r cais yn llwyddiannus a derbyniwyd cytundeb dros gyfnod o drideg mlynedd. Aethpwyd ati i adeiladu’r capel yn 1841 ar lain o dir gwlyb a chreigiog, Drysni Uwch Ben yr Afon, a oedd yn rhan ddigon diwerth o Fferm Penybryn. Gwnaethpwyd y gwaith o arloesi a sychu’r gors gan fyddin fechan o wŷr ieuanc yn eu hamser hamdden – enwir naw dyn ac yr oedd gan saith ohonynt gyfeiriadau ym Mraichmelyn. Darpar aelodau oedd hefyd yn gyfrifol am adeiladu’r capel, y gwaith wedi ei rannu rhwng y crefftwyr ac aelodau’r pwyllgor a oedd yn gyfrifol am ddarparu ‘r defnyddiau ac am y cyfrifon. I dalu am y fenter casglwyd arian drwy addewidion di-log dros gyfnod o ugain mis, a derbyniwyd addewidion cychwynnol a oedd yn ychydig dros £1100. Oherwydd trafferthion yn Chwarel y Penrhyn ni ellid gwireddu’r holl addewidion a chwtogwyd y swm cychwynnol i £800. Adeiladwyd y capel ar raddfa helaeth a hynod uchelgeisiol o’r cychwyn cyntaf. Pensaer y cynllun oedd T. Evans o Fangor a mesurai’r adeilad 24 wrth 20 metr oddi , ac oddi fewn cynlluniwyd yr adeilad i gynnwys hyd at fil o seddau. Aethpwyd ati’n fuan i greu gardd a chae o flaen yr adeilad a fyddai’n deilwng o’r capel drwy gyrchu pridd o Ogwen Banc lle’r oedd tomennydd y chwarel yn prysur orchuddio’r fan honno.

Ymunodd 160 o gapel Carneddi i sefydlu aelodaeth y capel newydd. Adeiladwyd capel Jerusalem ar gost o £3041/13/0½ ac mae’n rhyfeddod fod yr holl waith wedi’i gwblhau’n wirfoddol mewn cwta flwyddyn, ac yn barod ar gyfer y cyfarfodydd agoriadol a gynhaliwyd rhwng y seithfed a’r nawfed o Hydref 1842. Agorwyd y capel gan y Parch John Jones, Talysarn gyda chymorth gweinidogion o gylch eang yng ngogledd Cymru. Yn fwy rhyfeddol fyth gorffennwyd talu’r ddyled yn llawn erbyn 1872, sef cyfanswm o £6,605 a gynhwysai dalu am yr adeilad, yr adeiladau cysylltiedig, y rhenti, y trethi a’r morgais, oll drwy gasgliadau gwirfoddol di-log a’r dull cyffredinol o dalu’n flynyddol am eisteddle yn y capel. Dechreuwyd ail lunio’r capel yn 1874/5 drwy adeiladu o’i fewn awditoriwm ar hanner cylch a llunio nenfwd addurnedig a phulpud a sêt fawr osgeiddig o bren mahogani.  Gallasai’r capel eistedd 950 o addolwyr ac ychwanegwyd porth ac iddo fwa enfawr i gysgodi’r brif fynedfa. Pwrcaswyd ffenestr lliw gan gwmni o Lerpwl i addurno cefn y porth. Holl draul yr adlunio oedd £2050, ac eto cyfrifwyd yr arian drwy glwb di-log a gorffen talu’r ddyled yn llawn ymhen pedair blynedd o’r ail agoriad swyddogol yn Sulgwyn 1875. Gyda balchder gallasai un o’r blaenoriaid ymffrostio’n falch ‘ni bu angen darlith, cyngerdd na chwrdd te i dalu dim o’r ddyled’. Fel aelwyd grefyddol ni ellir beirniadu cyfraniad capel Jerusalem i fywyd ysbrydol yr aelodau, ond gellir awgrymu yn gwrtais mai cyfraniad sefydliadol ‘sidet’ ydoedd ar rai amseroedd yn hanes yr eglwys.

New Picture (31)
Llun oddifewn i’r capel

Mewn capel a oedd mor unigryw ei gynllun ac mor ganolog ei leoliad ni ellir honni fod ei gyfraniad ehangach i gymdeithas Dyffryn Ogwen yn fwy nodedig, ac efallai yn llawer llai, na chyfraniad capeli eraill yn y gymdogaeth.  Nid oedd yno draddodiad cerddorol enwog megis yn eglwys Llanllechid neu gapel Carneddi, er y sefydlwyd côr i ganu yn y moddion. Serch hynny pwrcaswyd organ reiol i arwain y canu yn 1905 ac ar y dechrau defnyddiwyd ffynhonnell dŵr y gors i wyntyllu ei phibau. Cynhelid Ysgol Sul hynod lewyrchus yn y capel ond eto yng nghapel Bethesda y cynhelid ysgol Tan Capel, er bod Jerusalem wedi cyfrannu’n ariannol at ei sefydlu. Ac yn ystod y Streic Fawr tawel iawn oedd ymyrraeth yr eglwys yn yr heldrin mewn cymhariaeth â chefnogaeth gyhoeddus gan rai o weinidogion ymneilltuol yr ardal. Ac yng nghapel Bethesda y sefydlwyd eisteddfod y plant a wnaeth ddwyn bri cenedlaethol i’r gymdogaeth. Nid ymddengys chwaith fod y capel yn ddylanwad ysol yng nghynteddau cyfundrefn enwad y Methodistiaid Calfinaidd yng Nghymru, ac ni adnabyddid gweinidogion cynnar yr eglwys fel pregethwyr, diwinyddion neu weinyddwyr nodedig oddi allan i gylch cyfyng a pharchus eu presenoldeb plwyfol. Yn wir parhaodd gweinidogaeth y Parch Thomos Roberts yn ddifwlch yn Jerusalem o 1866 hyd at 1899.

Gellir awgrymu felly mai dyletswydd capel Jerusalem oedd bod yn gyson geidwadol gul gyda’r pwyslais ar barchusrwydd o beidio tramgwyddo a chynhyrfu’r dyfroedd. Mae’n debyg fod sawl rheswm i gyfrif am hyn. Gellir nodi natur ddethol y gynulleidfa; gellir nodi balchder yr eglwys yn ei harddwch sefydliadol; gellir nodi pwyslais y swyddogion ar ariannu dyled yr adeiladu a’r ail adeiladu; gellir nodi, fel sefydliad ar brydles gan stad y Penrhyn, yr amharodrwydd  i dramgwyddo perchennog y tir. Mae’r rhain oll yn rhesymau dilys ond gellir priodoli’r prif reswm, efallai, i gryfder a grym awdurdodol y blaenoriaid a arweiniodd yr eglwys o’i chychwyn cyntaf. Mae’n amlwg nad oedd amgylchiadau sefydlu’r capel yn hawdd a bod y blaenoriaid cynharaf yn sicr o dan bwysau enfawr. Bryd hynny cofnodir agwedd anhrugarog blaenor blaenllaw, Thomas Jones, Bryn Llwyd, dyn a ddisgrifiwyd fel ‘gŵr llym a garw y byddai troseddwyr yn arswydo rhagddo’, pan gyhuddodd ddau o’i gyd flaenoriaid o lwfrdra oherwydd iddynt ymfudo i’r America yn hytrach nag aros i ysgwyddo baich y ddyled. Blaenor mwyaf dylanwadol y cyfnod, a gŵr a fu’n driw i’w ddyletswyddau yn yr eglwys am hanner canrif o 1842 ymlaen, oedd Robert Parry, arweinydd y chwarelwyr yn streiciau Chwarel y Penrhyn yn 1865 ac 1874. Adnabyddid y gŵr hwn fel ‘Y Llywydd’, dyn cadarn, gyda llygaid braidd yn llym, a gŵr ‘i’w ofni i’r cryf yn gystal â’i fod yn amddiffyn i’r gwan’ yn ôl un disgrifiad ohono.

Robert Parry
Llun o Robert Parry

Ond beth, efallai, oedd ymateb yr eglwys i gampau diplomyddol y gŵr hwn o gofio na fyddai yn gymeriad wrth fodd awdurdodau’r Penrhyn?  Ceir un ateb yn ysgrif gŵr anhysbys, ond diacon bur debyg, a gofnododd yn gampus hanes pum deg mlynedd cyntaf yr achos yn Jerusalem. Tra oedd yn amlwg yn ymwybodol o ‘hawliau cyfiawn’ y gweithwyr oedd yn ‘sefyll allan’ yn 1865, eto yr oedd yn bryderus fod swyddogaeth ddiwydiannol a swyddogaeth eglwysig yn mynnu tarfu ar weithgaredd ysbrydol y capel. Yr oedd hefyd yn dra ymwybodol o dactegau llechwraidd y gyfundrefn o danseilio ymdrechion y gweithlu ac yn feirniadol o bolisi’r oruchwyliaeth ‘mai’r ffordd i drin y Cymro ydoedd gwasgu ar ei boced’.  Ond eto daw i’r casgliad yn 1874 ‘nid oes a fynnom ni a’r cweryl, nag am ddoethineb neu annoethineb y pleidiau, digon yw dywedyd i’r gweithwyr yr holl amser yma gael cydymdeimlad y wlad yn gyffredinol a’u cynhorthwy yn sylweddol – iddynt ymddwyn yn weddus, na chafwyd hwy yn droseddwyr cyfraith y wlad, nag achosi terfysg mawr un modd;  ac i Robert Parry ddangos doethineb, a medrusrwydd  anarferol yn rheoli cynifer o ddynion dan y fath amgylchiadau a’u cadw o fewn terfynau gweddusrwydd’. Efallai nad oes tegwch mewn derbyn fod barn un dyn yn gyfystyr ag agwedd y ‘capel’ yn ei gyfanrwydd, ond o ddarllen rhwng y llinellau gellir amgyffred parodrwydd y sylwebydd i gadw’r ddysgl yn wastad rhag creu unrhyw drallod cymdeithasol neu, yn llawer gwaeth, rwyg yn yr eglwys. Troedio’r llwybr cul didramgwydd oedd y nod gyda’r canlyniad fod gweddusrwydd yn bwysicach nag egwyddor.

Tybed beth fyddai ymateb gŵr mor deg a chadarn ei argyhoeddiadau â Robert Parry i’r anghydfod blin yn 1940 pan orfu’r blaenoriaid i‘r Parch Thomas Arthur Jones ymddiswyddo o ofalaeth yr eglwys? Craidd yr anghydfod oedd cais gan y Cyngor Sir i ddefnyddio ystafelloedd gwag y capel fel ysgol ddyddiol dros dro ar gyfer plant o Lerpwl a ddanfonwyd  i’r pentref i’w gwarchod rhag y rhyfel. Dewisodd y gweinidog ganiatáu’r cais, a dewisodd y blaenoriaid ei wrthod, ac yn ddisymwth diswyddwyd y gweinidog – enghraifft arall o rym a phenderfyniad sêt fawr gul ei gorwelion i weithredu’n llym a digyfaddawd. Gallasai parchusion y sêt fawr gyfiawnhau eu gwrthodiad drwy ddatgan fod adeiladwaith y tŷ yn gysegredig, ac mai i bwrpas crefydd yr adeiladwyd y capel. O ddehongli’r penderfyniad yn fwy cignoeth awgrymir fod balchder yn yr adeilad yn bwysicach na graslonrwydd y moddion cysegredig a oedd i’w cynnig ynddo.

Tybed ai dylanwad gwarcheidiol swyddogion yr addoldy oedd y prif rwystr i atal capel Jerusalem yn y gorffennol rhag cyfrannu’n helaethach i gymdeithas ehangach Dyffryn Ogwen?  Yr eironi mawr, serch hynny, yw mai capel Jerusalem, o holl addoldai anghydffurfiol yr ardal, yw un o’r unig dri sydd bellach yn cynnig moddion gras i holl gymuned Dyffryn Ogwen yn y flwyddyn 2020.  Rhyfedd o fyd!

Diolch – i Andre Lomosik, Brig y Nant, Heulwen Roberts, Ystradawel, Idris Lewis, Dolwern a Dafydd Roberts, Cae’r Wern, am eu cyfraniadau i’r nodyn hwn.

Ffynonellau

Llawysgrif heb awdur a dyddiad – Crynodeb – Hanes Dechreuad a Chynnydd yr Achos Methodistaidd yn Jerusalem. Llawysgrif ym meddiant Dr Dafydd Roberts, Cae’r Wern.

John Owen 1992. Dathlu Canrif a Hanner Jerusalem, Bethesda, 1842-1992. Dinbych

D Huw Owen 2005. Capeli Cymru. Talybont, Ceredigion. 41—42

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s