Enwau Caeau Dyffryn Ogwen

2020-02-18 (3)
Dosbarthiad enwau DO ar fap digidol Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru drwy ganiatâd a charedigrwydd Rhian Parry, Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru

Mae pob enw ar gae yn hwyluso tasg y perchennog yn trefnu gwaith dyddiol y fferm neu’r tyddyn yn llwyddiannus, ond mae’r enwau hefyd yn ddrych i etifeddiaeth ardal a’i threftadaeth. Ym Mhrydain byth ers i drefn amaethyddol y Neolithig chwe mil o flynyddoedd yn ôl ddechrau rhannu’r amgylchfyd gwyllt yn gyfres o unedau trefnus caeedig, megis caeau, felly hefyd y daeth y rheidrwydd i gyfeirio atynt yn unigol gydag enw. Ac mae’r enwau, fel ffurf ffisegol y caeau, wedi gorfod newid dros y canrifoedd yn ymateb i gyfnewidiadau mewn dulliau amaethu, datblygiadau economaidd, gofynion statudol y llywodraeth neu reol y tirfeddianwyr, ac mae’r enwau gan amlaf yn adlewyrchu’r newidiadau hyn.  Ond tra bod y newydd yn disgrifio’r presennol erys rhai enwau o’r hen, hen amser.

Gellir dosbarthu enwau caeau i fras gategorïau syml – categori lleoliad, megis ‘cae dan beudy’ neu ‘cae pella’; categori eu defnydd megis’ buarth yr ŵyn’ neu ‘gweirglodd y tro’; categori disgrifiadol megis ‘boncen eithin’ neu ‘talwrn y rhedyn’; categori enwau personol megis – ‘cae Rhys Powel’ neu ‘tyddyn Morfydd uchaf’; ac yn olaf caeau ag enwau anghyffredin arnynt, megis ‘ cae gwrnog’, ‘bichd’,  ‘pedair llathen’, ‘cae cyd’ neu ‘dalar bengam’, i enwi ond ychydig.

Wrth bwyso a mesur cofnod enwau caeau ardal Dyffryn Ogwen heddiw, sydd bellach yn rhestr o dros fil o enwau, ychydig iawn o eiriau anghyffredin a berthyn iddi.  Caiff ei nodweddu yn bennaf gan amledd enwau lleoliad a defnydd sydd, ar yr olwg gyntaf, yn ymddangos yn ailadroddus a dibwys. Ond fel y nodwyd uchod mae’n gofnod hyfyw a gwerthfawr sy’n cynrychioli agwedd ar gymdeithas amaethyddol y presennol, ond er hynny mae’n agored i’w newid ac felly mae’n frau a bregus i’w cholli oni chaiff ei chofnodi. A dyna yn union sydd wedi digwydd ym Mynydd Llandygái, er enghraifft. Cyn 1800 gweundir agored heb neb yn byw ynddo ydoedd, ond yn ystod y ganrif ganlynol amgaewyd yr holl ardal yn gyfres o gaeau bychan ynghlwm â nifer o fythynnod, unedau o rhwng dwy a chwe acer mewn maint, a oedd yn cynnal poblogaeth o chwarelwyr llawn amser a thyddynwyr rhan amser, y gwaith gartref yn bennaf yn ddyletswydd y wraig a’r plant. Yr oedd i bob cae ei enw syml yn y categorïau lleoliad neu ddefnydd mae’n bur debyg, ond heddiw wrth geisio cofnodi’r enwau dim ond deuddeg sydd wedi goroesi o gyfnod cymdeithas sydd bellach wedi diflannu bron yn llwyr ers bron i hanner canrif.  Ac yn y broses o golli enwau a breuo’r iaith Gymraeg aeth cymeriad ardal Mynydd Llandygái hefyd ar chwâl.

I’r rhai sy’n ymddiddori mewn hanes mae’n resyn na chofnodwyd enwau caeau Dyffryn Ogwen yn Arolwg y Degwm yn 1834 a hynny oherwydd esgeulustod y cofnodwr mae’n debyg, ac o ganlyniad mae plwyfi Llandygái a Llanllechid ymhlith yr ychydig yng Nghymru sydd heb restr berthnasol.  Serch hynny mae yn Nyffryn Ogwen gofnod yn Arolwg y Penrhyn 1768 sy’n dyddio i bron  ganrif yn gynharach na’r Degwm. Mae’r Arolwg yn rhestru holl enwau caeau’r ffermydd, tyddynnod a bythynnod y fro a berthynai i’r stad gan nodi eu lleoliad ar fapiau sydd yr un mor fanwl eu cynnwys â’r rhestrau enwau. Mae’r casgliad hwn felly yn agor ffenestr annisgwyl i ddadansoddi economi amaethyddol Dyffryn Ogwen ar derfyn y Canol Oesoedd megis, a chyn cychwyn y cyfnod diwydiannol a wnaeth chwalu seiliau’r hen drefn yn y fro.  Fel y byddai’r disgwyl mae enwau lleoliad a defnydd yn britho’r casgliad ond mae enwau disgrifiadol, personol ac anghyffredin yn llawer pwysicach nag yn y cofnod modern presennol.  Dengys yr enwau bwysigrwydd magu gwartheg yn yr economi, ac mewn cyfundrefn sydd â phwyslais ar fod yn hunangynhaliol mae tyfu grawn, tatws a magu geifr, ebolion a cheffylau yn chwarae eu rhan. Mae corsydd, gwlypdiroedd a choedlannau gwern, ponciau anhydrin, tir gwyllt a chreigiog yn mynnu sylw, ac mae’r enwau anghyffredin yn cyfeirio at hen, hen ddulliau amaethu yn y ‘tir agored’ a oedd yn prysur ddiflannu cyn, ac yn ystod, cyfnod cofnodi’r arolwg – hen enwau megis tir gwag, pedair pladur, gwrthgwys a llociau.  Yn y rhanbarth ar y ffin rhwng plwyfi Llanllechid ac Abergwyngregyn ymddengys nifer uchel o enwau personol – Barbara, Ellen, Ednyfed, Joseph, Heilyn ac Ifan – a rhai ohonynt â chysylltiad agos â Llys y Tywysogion yn Abergarthcelyn yn y drydedd ganrif ar ddeg;  cymeriadau pwysig megis Ednyfed Fychan, disdain Llywelyn ap Iorwerth, a Heilyn ap Cynfrig a oedd yn un o lysgenhadon Llywelyn ap Iorwerth.

Wrth gwrs mae enwau a ffiniau caeau yn newid yn nhreigl amser ond mae’n rhyfeddol mor wydn y deil rhai. Ym Mryn Eithin, Llanllechid, er enghraifft, erys ‘Bryn Llwm’ a ‘Cae Tŷ’r Ffeltiwr’ yn enwau digyfnewid ers 1768 ar y ddau gae sy’n gyfochrog â’r ffordd i Fryn Hafod y Wern, a thebyg fod llawer mwy o enghreifftiau i’w darganfod yn yr archif drwy ymchwil pellach.  Ond beth am yr enw ‘Cae Ysbyty’ a berthyn i ddau gae sydd yn yr ardal?  Mae un ohonynt bellach yn gae chwarae i blant yn Rachub, a’r ail yn stribyn bychan cul,  llai na hanner acer ei faint, ar allt serth ger y tŷ ym Mlaen y Nant yn Nant Ffrancon.  Yn arolwg 1768 gelwir y cae yn Rachub yn Cae Groes  ac adnabyddir yr ail fel Gweirglodd Tŷ Croes. A dyma pryd y gall dychymyg redeg yn rhemp! Beth tybed yw arwyddocâd y gair ‘croes’ yn y ddau enw? A oes yma gysylltiad rhyngddynt â llwybr pererinion y Canol Oesoedd, troedffordd a oedd yn Rachub nepell o safleoedd eglwysi cynnar Llanerchyn. Ym Mlaen y Nant gwelir y cae o’r un enw yn dringo’n serth uwchlaw’r fferm yn llwybr cydnabyddedig, os gerwin, i Fuarth Rhiwiau ac ymlaen hyd ochr Foel Goch i gysylltu yn y man â Chwm Gafr cyn arwain i wastadnant Nant Peris.  Ond pam yr enw Cae Ysbyty tybed? Gellir egluro hwn ym Mlaen y Nant ond nid yn Rachub, ysywaeth. I’r cae hwn ym Mlaen y Nant y danfonir pob anifail sy’n glaf, ac yno i’w gwella ymhen y rhawg o flasu’r amrywiol flodau a phlanhigion a dyf yn rhan o lystyfiant naturiol y llethr, llystyfiant a gatalogiwyd gan ymwelydd diweddar i gynnwys oddeutu 70 math o blanhigion lleol a’r mwyafrif ohonynt yn meddu ar rinweddau  meddyginiaethol arbennig.

Mae pob enw yn drysor boed mor ddinod ac ailadroddus a ‘cae isaf pellaf’ neu ‘cae tan y beudy’ oherwydd maent yn rhan o’n treftadaeth a’n hetifeddiaeth, i’w cadarnhau, a’u trosglwyddo  i genedlaethau ein dyfodol. Mae prosiect enwau caeau Dyffryn Ogwen bellach wedi tynnu i’w derfyn ar ôl dwy flynedd o waith casglu manwl ac mae’n gyfuniad o weithgaredd diflino nifer o gasglwyr diwyd ac o gydweithrediad parod ffermwyr ac aelodau o gymdeithas amaethyddol Dyffryn Ogwen, yn bobl leol ac yn bobl sydd bellach ar wasgar.  Ni ellid fod wedi cwblhau’r gwaith heb gefnogaeth a nawdd Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru a’r Gymdeithas sydd bellach yn gwarchod yr archif enwau ar goflein ddigidol genedlaethol. Tybed sut y bydd cymdeithas Dyffryn Ogwen ymhen wyth can mlynedd yn dadansoddi’r drysorfa hon?  Mawr obeithiwn y byddant yn cofnodi’r cyfnewidiau a ddigwydd drwy dreigl y canrifoedd ond â’n gwaredo, os mai donkey paddock number one fydd yr enw a ben y rhestr!

Diolch i Rhian Parry, Porthaethwy, Gwyn Thomas, Blaen Nant, a Ieuan Wyn, Talgarreg am eu cymorth gyda’r nodyn hwn.

3 sylw ar “Enwau Caeau Dyffryn Ogwen

  1. Difyr iawn, wir. Gwaith arwrol gennych acw’n y fro. Rwy’n edrych ymlaen i gael amser o bori’r rhestr (nid y caeau). Mae’n drueni mawr bod enwau Mynydd Llandygái wedi diflannu – cysylltiad teuluol trwy fy hen daid a aeth oddi yno ac o’r chwarel i’r pulpud a thua De Cymru.

    Dwi wrthi ar hyn o bryd yn ceisio dylanwadu ar gwmni o ddatblygwyr tai yng nghanol Caerdydd (a’r Cyngor lleol) i beidio defnyddio “The Laundry Quarter” (heb fersiwn Cymraeg) yn enw ar y datblygiad, (na Donkey Paddock chwaith!) am fod na bwt o londri ‘di bod yno’n ddiweddar. Wedi cynnig ‘Tair Erw Gain’ iddynt, sef enw’r cae ar Fap Degwm 1840 lle saif y datblyiad heddiw.

    Hefyd ar drywydd enwau hyfryd ‘Fawr Erwr ychin’, ‘Whech Erwr Duke’, ‘Erwr Lynch’, ‘Penrhyddwaun’, a ‘Dwy Erw Evan William’ a llawer mwy sy’n debyg iddynt. Maent oll ar y “Splott Moors” yng Nghaerdydd. Lle Seisnig ‘di Caerdydd medda rhai! Mae ysbryd Evan William yn crwydro maes parcio Tesgo Pengam Green!

    Hoffi

  2. Diolch am nodiadau manwl a chynhwysfawr ar enwau caeau’r ardal. Hoffwn ymateb i’r sylwadau canlynol
    a rhai ohonynt â chysylltiad agos â Llys y Tywysogion yn Abergarthcelyn yn y drydedd ganrif ar ddeg; cymeriadau pwysig megis Ednyfed Fychan, disdain Llywelyn ap Iorwerth, a Heilyn ap Cynfrig a oedd yn un o lysgenhadon Llywelyn ap Iorwerth.

    Peth peryglus iawn ydy cysylltu enw daliad o dir gyda pherson hanesyddol, onid oes tystiolaeth bendant o’r cysylltiad, neu os nad yw’r enw mor unigryw fel na all fod yn neb arall. Mae’r perygl hwn yn cynyddu ymhellach fyth yn ôl mewn hanes yr eir. Nid yw’r ffaith fod caeau yn yr ardal hon yn dwyn enwau dau sy’n gysylltiedig â llys Llywelyn heb fod nepell i ffwrdd ond yn profi fod yr enwau yr un; nid oes prawf o unrhyw gysylltiad rhwng y tir a’r personau. Mae hynny’n fwy amlwg gydag enwau cyffredin fel Ednyfed a Heilyn. Hoffwn dynnu eich sylw at yr enwau canlynol, mewn ardaloedd eraill ( Nodir nifer yr enghreifftiau yn y cromfachau )
    Bryn Ednyfed, Mynydd Ednyfed, Llwyn Ednyfed, Tyddyn Ednyfed ( 2 ), Cae Ednyfed ( 5 ), Gwern Ednyfed
    Tyddyn Heilyn (4),Llyn Heilyn, Cae Heilyn (6), Nant Heilyn ( 3 )
    Nid oes tystiolaeth o gysylltiad yr un o swyddogion Llywelyn gyda’r un o’r rhain, mwy nag oes gyda’r caeau yn Llanllechid.
    Diolch am y gwaith diddorol!

    Hoffi

  3. Andre Lomozik

    Diffyr oedd darllen am enwau caeau ardal Dyffryn Ogwen, ar ddau Cae Ysbyty. Rwyf yn cofio pan oeddwn yn aelod o Gymdeithas Archaeoleg Llanllechid a Llandegai flynyddoedd yn ol bellach I rhywun son am Cae’r Meddyg, sydd yn cael ei adnabod heddiw fel cae Henbarc neu cae boncs.

    Hoffi

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s