Chwarel Bryn Hafod y Wern

Tmen Chwarel bryn
Cynllun y domen uchaf yn edrych i gyfeiriad y gorllewin yn dangos rhesi ei gwneuthuriad a’r pentanau llechi ar ei brig.

Chwarelwyr lleol profiadol a ddarganfu nifer o chwareli llechi ym mhlwyf Llanllechid, ond nid hwy a’u datblygodd. Diffyg cyfalaf oedd gwraidd y broblem, a darganfod ffynhonnell gyson a fyddai’n gwarantu llwyddiant. Mae hanes datblygiad chwarel Bryn Hafod y Wern yn cyfrannu at y dystiolaeth. Agorwyd y chwarel yn 1817 gan George Hay Dawkins Pennant wrth aros i dderbyn olyniaeth y Penrhyn wedi marw ei ewythr Richard Pennant yn 1808. Meddiannodd barsel o dir y Goron ar brydles a gwariodd yn helaeth ar y datblygiad, ond heb lwyddiant. Daeth y fenter i ben yn 1824. Ym mhen ysbaid cymerwyd y chwarel gan gwmni Trimmer o Lundain, cwmni cynhyrchu teils pridd ar gyfer toi yn ne Lloegr gyda’r bwriad o ehangu ei marchnad drwy fod yn berchen ar chwarel lechi.. Byrhoedlog oedd eu harhosiad ac yn 1845 sefydlwyd cwmni y Royal Bangor Slate Company gan griw o ‘adventurers’ o Lundain ond, er gwario yn helaeth ar ddatblygu’r gloddfa, methiant fu’r ymdrech.

Erbyn 1873 yr oedd y chwarel dan ofal rhyw Mr Caliver ar brydles gan y cwmni uchod. Yn 1873 sefydlwyd cwmni ‘The Bangor Slate Company’ dan oruchwyliaeth rhyw Mr Cooke ac yr oedd ef yn dal yn ei swydd pan newidiwyd enw’r cwmni i’r ‘New Bangor Slate Company’ yn 1876. Caewyd y chwarel yn derfynol yn 1885 gyda Cooke yn rheolwr ond bellach, oherwydd colledion ariannol enfawr, banc o Gaer oedd yn rheoli’r fenter. Rhwng 1817 ac 1885 yr oedd yr holl gwmnïau wedi gweithio’r chwarel ar brydles gan y Goron, ond yn y flwyddyn ganlynol llwyddodd y banc i brynu hawliau’r Goron. Y bwriad oedd gwerthu’r chwarel i’r Arglwydd Penrhyn gan ei fod wedi dangos diddordeb ynddi, ond er dod i gytundeb gwrthododd George Sholto Douglas Pennant anrhydeddu ei ran ef o’r fargen. Arweiniodd hyn a achos cyfreithiol yn 1889 a gollwyd gan y Penrhyn gan eu gorfodi i brynu’r chwarel. Doedd dim bwriad gan y Penrhyn i’w gweithio a dywedir mai’r prif reswm dros y pryniant oedd er mwyn ei chau yn derfynol fel na fyddai gwesteion yn holi ai hon oedd chwarel y Penrhyn a oedd i’w gweld o’r castell yn Llandygái. Sut mae plethu’r wybodaeth amherffaith a chyfnewidiol uchod â chynllun y chwarel fel nodwedd amlwg yn nhirlun ardal Llanllechid heddiw?

Chwarel Bryn twll
Prif dwll y chwarel gyda hafn gallt y gogledd ar ganol cefn y llun

O holl fân chwareli Dyffryn Ogwen chwarel y Bryn yw’r fwyaf diddorol gan fod ei chynllun yn weddol gyflawn ac y gellir defnyddio nifer bychan o ddogfennau i geisio olrhain ei datblygiad. Agorwyd y chwarel ar drwyn cyfyng o dir y Goron yn ymestyn i’r gorllewin a amgylchynwyd ar bob ochr ac eithrio’r gogledd gan dir stad y Penrhyn. Yr oedd y cyfyngiad hwn yn effeithio ar ddatblygiad y chwarel mewn dwy ffordd. Yn gyntaf, ni ellid ymestyn y gloddfa i ddatblygu’r haenau llechi yn y gorllewin na’r de orllewin a olygai fod yn rhaid agor twll eithriadol ddwfn i weithio’r chwarel yn llwyddiannus. Yn ail, gorfodid codi cyfran helaethaf rwbel y twll yn groes i ddisgyniad naturiol y tir i gyfeiriad y de, gan greu problemau gweithredol anodd a chostus i’r perchnogion. Y drydedd broblem, ac un a drafodwyd mewn ysgrif flaenorol, oedd bod safle’r chwarel ymhell o darddiad digonol o ddŵr i weithio ei pheiriannau, gwendid a orfododd greu ffos o Gwm Caseg gryn bedair milltir i ffwrdd i gyrchu dŵr i ddau argae a leolwyd ar y llethr i’r dwyrain o’r chwarel.

bstPerthyn trefnusrwydd arbennig i gynllun y chwarel. Lleolwyd y twll yn y gogledd orllewin, a threfnwyd y tomennydd rwbel yn ddwy uned i ymestyn i’r de a’r dwyrain. Gellir rhannu’r tomennydd yn ddwy adran – tomen y de sydd â dau lawr yn perthyn iddi (llawr 1, 2), a thomen y dwyrain gyda thri gris i’w chyfansoddiad (gris (a), (b), (c)). Saif prif wastad gweithio’r chwarel ar ymyl de ddwyrain y twll.  Erys nifer o nodweddion amlwg sy’n gysylltiedig â pheirianwaith ei gweithio a chadarnheir y rhain mewn gwahanol gynlluniau o’r chwarel. Gellir eu rhestru fel a ganlyn – dwy allt yn agor i’r twll (North Quarry Incline, Engine Incline), safle i bedair olwyn ddŵr (olwynion A, B, C a D), cwt  peiriant ager, y Water Balance incline, dwy bont (pont gorbel a phont (o)), a sylfaen i ddau beiriant codi (pentan mawr a phentan lifft). Yn ychwanegol lleolwyd dwy gronfa ddŵr ar y llethr i’r dwyrain o’r chwarel Nodir y nodweddion ar y cynllun isod.

Gellir crynhoi datblygiad y chwarel i dri chyfnod, ond nodir fod amheuaeth ynghylch cydberthynas rhai o’r nodweddion yn ogystal â’u safle yn y fframwaith hanesyddol.

  1. Cyfnod y sefydlu hyd at 1856.
Twll Bryn Hafod
Twll y chwarel gyda hafn gallt y de ar ymyl de y llun. Llun o archif Ifor Williams

Ar ddechrau’r cyfnod cyfres o dyllau o wahanol feintiau a oedd ar y safle cyn eu crynhoi yn ddau, sef y Prif Dwll a thwll y Green Vein yn y gogledd.  Awgrymir fod lefel wedi ei dorri ym mhen deheuol y prif dwll i’w gadw’n sych, er mae’n amlwg na  thorrwyd hwn yn ddigon isel i weithio’n effeithiol. Erbyn 1850 awgrymir fod pwmp yn codi dŵr o’r twll  gydag olwyn ddŵr B  (A) yn ei wasanaethu. Yr oedd dwy allt yn cysylltu â’r ddau dwll – gallt y de (Engine incline) yn gweithio gyda pheiriant ager ac yn gwasanaethu’r prif dwll; gallt y gogledd (North Quarry incline) yn gweithio gydag olwyn ddŵr D ac yn agor i dwll y Green Vein.  Agorwyd yr Engine incline yn  1847, a gallt y gogledd yn 1848; erbyn 1851 troswyd yr Engine Incline i weithio gyda dŵr o yriant olwyn C. Bwydai rwbel o’r Engine incline i ffurfio llawr 1 yn uned tomen y de; cyfrannai’r  North Quarry incline at ffurfio gris (a) o domen y dwyrain, a phur debyg at ffurfiant ail ris a orchuddiwyd yn ei gyfanrwydd gan ddau ris uchaf a diweddaraf yr uned.

Adeiladwyd mur uchel i gadw tomen y de rhag llithro i dir stad y Penrhyn. Erbyn 1851 yr oedd holl beirianwaith y chwarel yn gweithio gydag ynni dŵr.  Yr oedd y ddwy gronfa yn weithredol o 1846 ymlaen, y  gronfa isaf yn cyflenwi dŵr i weithio olwyn D a’r North Quarry Incline a’r gronfa uchaf (Llyn Coch) yn bwydo olwyn C i weithio’r Engine Incline. Nodwedd fwyaf diddorol y cynllun yw bod y ffordd o’r fynedfa yn y gorllewin i gysylltu â Bryn Hall yn y gogledd yn cylchu tomen y de cyn troi i arwain drwy ganol gris tomen (a) i gyrraedd y tŷ. Y llwybr hwn oedd yn gyfrifol am adeiladu pont (o) a’r bont gorbel yn y cyfnod dilynol. Perthyn yr holl ddatblygiadau hyn i fuddsoddiadau’r Royal Bangor Slate Company a oedd mewn trafferthion ariannol erbyn diwedd y  cyfnod.

2. Cyfnod Adrefnu rhwng 1850 ac 1870

Nodweddir y cyfnod hwn gan gynlluniau i ail drefnu’r dull o weithio’r chwarel a orfodwyd yn bennaf oherwydd ei lleoliad cyfyngedig. Roedd cysylltu â’r twll drwy gyfrwng gelltydd bellach yn anymarferol oherwydd ei ddyfnder cynyddol, a chyflwynwyd system fwy hyblyg o godwyr neu lifftiau pwrpasol i gyrchu hyd at y gwaelod. Mae’n hawdd deall y broblem ond nid mor hawdd ei gweithrediad. I gychwyn amlygir fod gallt y North Quarry Inclein wedi ei chau yn derfynol cyn, neu ar gychwyn, y cyfnod a olygai fod olwyn ddŵr D bellach yn segur. Golygai hyn ddargyfeirio dŵr y chwarel i weithio’r codwyr newydd. Sefydlwyd dwy angorfa i’r lifftiau, un ar y prif wastad gweithio gerllaw’r Engine Incline a fyddai dan reolaeth olwyn ddŵr C. Lleolwyd yr ail uwchlaw congl fwyaf deheuol y twll gerllaw’r brif fynedfa a chyfarpar y pympiau dŵr, sydd yn ymddangos yn lleoliad tra anhygyrch hyd nes deall rhagor am ffurfiant y twll.  Mewn adroddiad yn 1886 sy’n ymwneud â chyflwr y chwarel nodir fod dwy bonc yn y twll, tystiolaeth a gadarnhawyd yn ddiweddar gan nofwyr tanddwr, a bod un lifft yn codi o’r bonc ganol a’r llall o’r bonc isaf. Tybir felly fod codwr y gwastad gweithio yn cysylltu â’r bonc ganol a chodwr y de gyda’r gwaelod isaf. Ategir hyn mewn adroddiad papur newydd yn 1873 sy’n nodi fod un olwyn ddŵr yn gyfrifol am weithio codwr a phympiau sychu’r chwarel, ac mae’n amlwg mai at olwyn B y  byddai’r cyfeiriad hwn. A fyddai hyn yn dechnegol bosibl sy’n gwestiwn na ellir ei ateb, o gofio fod nifer o gafnau maluriedig yn cysylltu olwyn B gydag olwyn A gyda’r olaf yn sefyll ar erchwyn allanol eithaf y fynedfa. Fe gofir mai prif swyddogaeth olwyn A oedd gweithio pwmp sychu’r chwarel ac yn ôl pob tystiolaeth hon oedd  olwyn fwyaf a chryfaf y chwarel. Mae’n amlwg felly fod holl ddŵr arwynebol y chwarel o’i gweithio yn gorfod llifo i’r lleoliad hwn cyn cael ei arllwys i dir corsiog y Penrhyn islaw a chreu anhawster a fu’n rhannol gyfrifol am gau’r chwarel yn derfynol cyn diwedd y ganrif.

Chwarel Bryn 2
Tomennydd y chwarel yn edrych i gyfeiriad y dwyrain o Ffridd Bryn Hafod y Wern. Llun o archif Rowland Flook drwy ganiatâd.

Sut felly yr oedd trefniant y codwyr yn effeithio ar gynllun y tomennydd? Bellach yr oedd yn angenrheidiol codi’r rwbel o’r gwastad gweithio i fyny’r llethr i greu gris (b) ac (c) o domen y dwyrain. Dyfais fawr y chwarel, a dyfais bur anymarferol, oedd adeiladu’r Water Balance Incline i gario rwbel i’r copa, ond mae’n rhaid bod yno allt gynharach a gyfrannodd at adeiladu gris (b) y domen. Awgrymir fod cob anferthol y Water Balance Incline, sy’n tra arglwyddiaethu ar gynllun y chwarel heddiw, wedi cymryd lle’r allt wreiddiol. Adeiladwyd rhes o dyrrau uchel ar grib y domen i gynnal y cafnau oedd yn cyrchu dŵr o argae llyn Coch ar gyfer gweithio’r allt fawr, a phwysau’r dŵr hwn ar y ffordd i lawr oedd yn gwrthbwyso’r llwyth rwbel ar y ffordd i fyny. Awgrymir mai cyfraniad gweddol fychan a wnaethpwyd gan yr allt fawr i adeiladwaith gris uchaf y domen sy’n cynnwys ond nifer bychan o benrhynnau culion yn unig. Wrth droed yr allt fawr ar y prif lawr gweithio lleolwyd adeilad sydd bellach wedi diflannu’n llwyr o gynllun y chwarel. Nodir fod cysylltiad uniongyrchol rhwng yr adeilad hwn a safle’r codwr ar ymyl y twll ac mae’n amlwg fod y ddau sefydliad yn derbyn ynni o olwyn C sydd â’i leoliad nepell i ffwrdd ar y gwastad.  Awgrymir y derbynnid cerrig o’r twll i’w trin a’u llifio yn yr adeilad cyn eu dosbarthu i nifer o waliau hollti a naddu a ddosbarthwyd ar naill ochr y gwastad, ac o’r adeilad hwn y danfonid rwbel i ffurfio ail lawr tomen y de yn benrhynnau culion o un canolbwynt gerllaw iddo.  Mae’n debyg y gellir priodoli’r cyfnewidiadau uchod i dymor ansicr a byrhoedlog y Bangor Slate Company a derfynwyd fwy neu lai erbyn diwedd saith degau’r ganrif.

Bryn Hafod cynllun 1891
Cynllun y chwarel yn 1891 ar achlysur ceisio gwerthu’r gloddfa

3. Cyfnod cau’r chwarel rhwng 1870 ac 1890

Yn ystod y cyfnod helbulus hwn wynebodd perchnogion y chwarel ddau achos cyfreithiol niweidiol iawn ac o ganlyniad ni ellir disgwyl fod unrhyw fuddsoddiad o bwys wedi digwydd i adfywio ei ffawd fel uned weithredol. Pan gaewyd  y chwarel yn derfynol yn 1889 dan law’r Penrhyn, cychwynnodd cyfnod o ddatgymalu araf ond sicr sy’n parhau hyd y presennol, ac yn sgil y malurio difethwyd nifer o nodweddion diddorol a fyddai wedi ateb rhai o’r cwestiynau  anodd sy’n aros heb eu datrys yn hanes y chwarel nodedig hon ger pentref Llanllechid. Un dehongliad amherffaith a gyflwynwyd yn yr ysgrif hon ond mae’n fodd o gywiro rhai o’r cam argraffiadau sy’n britho’r ddwy erthygl y cyfeirir atynt yn y llyfryddiaeth isod.

tyrau Chwarel Bryn
Pentannau llechi ar frig y domen uchaf. Llun o archif Ifor Williams.

Ffynonellau

Hugh Derfel Hughes. 1866. Hynafiaethau Llandegai a Llanllechid. Bethesda

J. Ll. W. Williams., D. A.Jenkins.  1994. Tair Chwarel ym Mhlwyf Llanllechid, Bethesda. Rhan 1. Trafodion  Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon. 55. 47-70.

J. Ll .W. Williams., D. A.Jenkins.  1995. Rhai nodiadau ychwanegol ar  Chwarel Bryn Hafod y Wern. Trafodion  Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon. 56. 87-107

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s