Eglwys y Gelli

Eglwys y Gelli
Eglwys y Gelli, drwy garedigrwydd a chaniatâd Alaw Jones, Parc Moch

‘Helaetha dy babell, ac estyn gortynnau dy breswylfeydd’oedd y testun Beiblaidd a ddefnyddiwyd wrth agor Eglwys y Gelli yn 1869 fel capel anwes i fam eglwys y plwyf yn Llandygái.

Erbyn canol y ganrif yr oedd poblogaeth pentref Tregarth yn tyfu’n sylweddol, a’r farn ymysg Anglicaniaid y fro oedd y dylid sefydlu eglwys yn lleol gan fod mynychu Eglwys Llandygái ddwywaith ar y Sul i’r moddion gras yn dreth arbennig i rai o’r selogion oedrannus. Cyn 1850 yr oedd yr enwadau Anghydffurfiol eisoes wedi sefydlu nifer o gapeli yn y fro – y Methodistiaid Calfinaidd ym Mhenygroes yn 1837, y Wesleaid yng nghapel Sheilo yn 1829 a’r Annibynwyr yn Amanah, Mynydd Llandygái, yn 1846.

Yn 1850 dechreuwyd cynnal Ysgol Sul mewn tŷ gwag yn y Pandy, ond gyda’r niferoedd yn tyfu penderfynwyd ar gynllun o gylchdaith rhwng pedwar tŷ yng Nghraig Pandy gyda’r Pandy yn fan cychwyn ac yn fan gorffen yr orig sanctaidd i adrodd y Deg Gorchymyn.  Blwyddyn yn unig y parhaodd y trefniant  hwn cyn i offeiriad y plwyf, Y Parch W. D. Morgan, dderbyn nawdd o ddeg punt ar hugain, coed a chalch, a darn o dir gan yr Arglwydd Penrhyn i adeiladu ysgoldy yn y Gelli yn 1852, gorchwyl a gyflawnwyd yn llwyddiannus drwy gyd lafur y plwyfolion yn ystod yr wythnos. Y cam nesaf oedd ychwanegu mynwent i’r ysgoldy yn 1858, ac erbyn 1864 penodwyd curad sefydlog i gynnal gwasanaeth yn yr ysgoldy ddwywaith ar y Sul, ond ar y Sul cyntaf o bob mis y rheidrwydd oedd cymuno yn y fam eglwys yn Llandygái.  Y gofyn yn awr oedd sefydlu eglwys yn y Gelli a dechreuwyd casglu arian ymysg y plwyfolion i gyrraedd y nod cyn i raslonrwydd yr Arglwydd Penrhyn gyfrannu £1,500 i adeiladu’r eglwys.  Adeiladwr yr eglwys oedd contractwr o Borthaethwy, Mr Parry, a gyflawnodd y dasg ac yng ngeiriau’r  North Wales Chronicle yn 1869 -‘a very neat little church, and will accomodate almost 300 people and [the builder] deserves great  praise for the thoroughly honest  way in which he has performed his contract’. Eglwys y Gelli felly oedd yr olaf o eglwysi Anglicanaidd Dyffryn Ogwen  a adeiladwyd drwy nawdd Edward Gordon yn ystod ei arglwyddiaeth yn y Penrhyn.

Cofiannydd Eglwys y Gelli oedd William Roberts, Penarbronydd, a fu’n glochydd yr eglwys am gyfnod. Ysgrifennodd lith pur ddiddorol am hanes sefydlu’r addoldy yng nghylchgrawn Yr Haul yn 1904. Mae’r flwyddyn yn nodedig sef y flwyddyn yn dilyn diwedd trist y Streic Fawr a holltodd gymuned ardal  Dyffryn Ogwen. Rhwng llinellau’r cofiant gellir sawru peth o’r surni a fodolai rhwng yr Anglicaniaid a’r Ymneilltuwyr yn yr ardal. Yng nghyfnod canol y ganrif credai William Roberts mai mantais fawr yr Ymneilltuwyr oedd bod ganddynt wasanaeth hwyrol ar nos Sul tra mai gwasanaeth boreol am ddeg a gwasanaeth yn Saesneg am dri oedd ar gynnig fel moddion gras yn yr Eglwys. Meddai wrth egluro ei safbwynt – ‘Ac felly, yn lle bod yn y tŷ, neu ar bennau ffyrdd, neu hyd y ponciau, gwell oedd gan lawer ohonynt fyned gyda rhai o’u cydnabod i’r capel. Ystyrient hynny yn llai o ddrwg nag aros adref, a chânt wenau’r Ymneilltuwyr am ddod gydag ef’. Edrychid yn ddirmygus ar Eglwyswyr bryd hynny felly diffyg mawr y byddent yn troi at yr Ymneilltuwy. Mae olion y cyfnod hwnnw i’w ganfod yn yr ardal hyd heddiw’.

Dan nawdd y Penrhyn a than warchodaeth yr Eglwys y sefydlwyd ysgol y pentref yn Ffrwd Galed yn 1897 a oedd yn atgyfnerthiad pellach i’r achos, ac mae hefyd yn amlwg i gysylltiad agos ddatblygu gyda’r cartref i blant amddifad a sefydlwyd yn 1885 ar hytrawst y ffordd i’r Eglwys yn y Gelli. Yr oedd William Roberts yn falch o hysbysu fod cylch ‘claddfa Gelli’ gyda phoblogaeth o 1,260 yn cynnwys 271 o dai a bod Eglwyswyr yn byw mewn 108 ohonynt a bod nifer cynulleidfa’r Eglwys yn 400 ac od 150 ohonynt yn gymunwyr.  Yn 1967 torrodd yr Eglwys y cysylltiad gyda’r fam eglwys yn Llandygái ac ymuno â’r Eglwys yn St Ann’s  ar Allt Bryngeraint. Eleni bydd yr Eglwys yn dathlu cant a hanner o flynyddoedd o wasanaeth i blwyfolion ardal Tregarth.

Gwybodaeth ychwanegol gan Rosemary Williams, Ffordd Tanrhiw, Tregarth.

Ffynhonnell

Eglwys Y Gelli, Tregarth, Centenary Souvenir and Celebration Programme, June 7th-15th, 1969

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s