Ponciau Greenfield

Fig 1Chwarel Penrhyn 1808
Chwarel Penrhyn 1808

James Greenfield oedd rheolwr chwarel y Penrhyn yn y cyfnod rhwng ei benodiad yn 1799 hyd at ei farwolaeth annhymig yn 1825. Ef gafodd y weledigaeth o ddatblygu’r gloddfa  yn gyfres o bonciau cymesur yn dringo llethr y Fronllwyd ar ymyl ddeheuol plwyf Llandygái. Ychydig sy’n wybyddus am Greenfield oddieithr ei fod yn frodor o Swydd Sussex; iddo fyw ym Mryn Derwen, tŷ ysblennydd a gynlluniwyd yn arbennig ar ei gyfer ac iddo briodi â merch Benjamin Wyatt, prif ysgrifennydd stad y Penrhyn bryd hynny, ac yn olaf iddo foddi yn yr Afon Ogwen yn 1825 mewn amgylchiadau amheus nas eglurwyd.  Yr oedd yn amlwg yn un o benodiadau ysbrydoledig ei feistr Richard Pennant, ac yn ddyn anghyffredin ei ddoniau fel peiriannydd sifil, yn gymaint felly fel y gallai hawlio gan yr oruchwyliaeth adeiladu dŷ a fyddai yn gymesur â’i bwysigrwydd.

Yn 1802 mabwysiadodd Greenfield gloddfa oedd wedi ei datblygu gan ei ragflaenydd William Williams, yn gyfres o byllau dyfnion yn dilyn y gwely llechfaen  ar echel o’r dwyrain i gyfeiriad y gorllewin.  Mae cynllun o’r chwarel sy’n dyddio i 1826, flwyddyn wedi ei farwolaeth, yn cloriannu ei gampwaith arloesol. Bwriad y cynllun oedd cyflwyno  datblygiadau diweddaraf y chwarel.  Nid yw’r cynllun yn hawdd i’w ddehongli gan fod y chwarel wedi ei darlunio mewn un dimensiwn yn hytrach nag mewn tri, er cymaint ymdrech y cartograffydd  i oresgyn y broblem.  Yn y cynllun mae’r chwarel yn agor i gyfeiriad y gorllewin gyda llethr serth y Fronllwyd ar ochr chwith y darlun. Yn ôl confensiwn y  cartograffydd po dywyllaf y  cynllun po ddyfnaf y gloddfa, gyda’r gwrthwyneb yn cyflwyno uchder gan ysgafnder y lliw. Mae graddfa’r cynllun mewn mesur o lathenni ond yn dra anffodus nid oes mesur o uchder wedi ei gynnwys sy’n ychwanegu at ei ddiffyg eglurder.

P Q Greenfield 1825
Cynllun James Greenfield o Chwarel y Penrhyn ,  drwy garedigrwydd a chaniatâd  Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor. -Mapiau Penrhyn PFA/6/320

Er mor anodd yw dehongli manylder y cynllun mae tair elfen bwysicaf  y chwarel yn berffaith eglur,  sef dyfnder y twll, uchder y ponciau, a pheirianwaith ei gweithio fel un uned gynhwysfawr.  Mae’r twll sy’n mesur ar ei waelod oddeutu 100 llath ar ei draws wrth 250 llath ar ei hyd wedi ei dorri mewn ponciau – tair ar ochr y de (Lower quarry) a phedair ar ymyl  y gogledd (Nantwich a North quarry).  Mae’n amlwg fod dwy bonc is hefyd ar gychwyn eu datblygu. Uwchlaw’r twll mae ponciau Pool Quarry, ac Agor Goch yn dringo’r llethr ar ymyl y de,  a phonciau Twll Dwndwr, Porth yr Aur a Ffridd yn agor i gyfeiriad y de orllewin. Amcangyfrifir bod o leiaf saith ponc  yn dringo llethrau’r Fronllwyd erbyn 1826.  Yn olaf, mae peirianwaith y chwarel yn weithredol yn y ddwy brif allt sy’n dringo’r llethrau i’r de ac i dde orllewin o’r twll, yn ogystal â’r drydedd allt sy’n disgyn i’r twll. Dengys y cynllun fod rhannau o’r rhwydwaith yn newydd ond nid oes cyfeiriad i ddangos sut yr oedd yr elltydd  yn weithredol. Er hynny, mae’n ymddangos fod pob ponc yn uned annibynnol  ond eto drwy gyfrwng y gelltydd yn cyfrannu i gynllun integredig yr holl waith.  Gellir mesur llwyddiant y chwarel yn y nifer oedd yn gweithio yno yn 1825, sef 800 yn ôl ystadegau Hugh Derfel Hughes. Serch hynny, hon oedd y flwyddyn pan roddodd y gweithlu’r rhybudd cyntaf i’r oruchwyliaeth nad oedd telerau eu cyflogaeth yn deg. Cynhaliwyd streic a barhaodd am un dydd yn unig, ond hon oedd y rhagoel y byddai diffyg cytundeb rhwng gweithwyr a pherchennog yn arwain at chwerwder eithriadol mewn cysylltiadau diwydiannol yn y chwarel hyd derfyn y ganrif.

Ffig 5 Engrafiad 1850
Engrafiad o’r chwarel yn 1850

Greenfield sefydlodd y cynsail peirianyddol i lwyddiant chwarel y Penrhyn, a’i eiddo ef oedd y cynllun chwyldroadol a ddilynwyd mewn chwareli eraill ledled y byd lle’r oedd y ddaeareg a’r tirlun yn caniatáu gweithio ar lethr agored fel ar glogwyni’r Fronllwyd yn  Nyffryn Ogwen.

Ffynhonnell

Hugh Derfel Hughes. 1866. Hynafiaethau Llandegai  a Llanllechid. Bethesda

Un sylw ar “Ponciau Greenfield

  1. Andre Lomozik

    James Greenfield, diddorol oedd darllen am hanes James Greenfield a’i gyfraniad at ddatblygiad ponciau chwarel y Penrhyn, ar ddechrau’r pedwerydd ganrif ar bymtheg. Tynnwyd fy sylw wrth ddarllen yr erthygl am ei farwolaeth trwy foddi yn yr Afon Ogwen, yn y flwyddyn 1825, mewn amgylchiadau amheus nad oedd modd eu egluro. Bu anghydfod rhwng gweithwyr y chwarel a’r oruchwyliaeth y flwyddyn yma, yn ogystal cawn adroddiad yn y newyddiadur ‘The Cambrian’ mis Ionawr 1825, fod merch hynnaf James Greenfield wedi marw yn cartref ei hewythr Lewis Wyatt Esq. Suffolk-Street, yn 19eg mlwydd oed. A’i cyfuniad o’r sefyllfa yn y chwarel a marwolaeth ei ferch a arweiniodd at farwolaeth James Greenfield, trwy iselder?

    Hoffi

Gadael sylw