Ysgol y Cefnfaes

llun efo'r chwarel
Ysgol y Cefnfaes yn fuan wedi agor yr adeilad yn 1907. > Hanes DO 2, Cefnfaes a Pantdreiniog

Agorwyd ysgol Ganolraddol y Cefnfaes yn 1907 wedi i ysgol Frutanaidd Tan Capel gael ei chau yn seler capel Bethesda. Chwalwyd rhesi tai’r Tŵr i wneud lle i’r adeilad newydd a oedd yng nghanol y pentref a thafliad carreg o’r stryd fawr. Cynlluniwyd yr adeilad ar ddau lawr i gynnwys neuadd ganolog a saith ystafell ddosbarth ar y llawr cyntaf; a labordy, ystafell gwaith coed a thair ystafell ar gyfer ymarferion domestig ar y llawr isaf. Yn wahanol i weddill ysgolion canolraddol y sir neilltuwyd rhan o’r ysgol fel adran i’r babanod, tra bo pum dosbarth ar gyfer plant yr adran ganolraddol. Yn ôl adroddiad Arolygwyr ei Mawrhydi o gyfnod cychwynnol yr ysgol nid oedd y disgwyliadau academaidd yn uchel. Meddent mewn cymal sy’n swnio mor nawddoglyd heddiw ag yr oedd bryd hynny – ‘the majority of the boys become quarrymen, while the girls generally do housework, either at home or in service, when they have left school. A small number of both sexes find employment in offices or as shop assistants’. Wrth gwrs yr oedd ysgol ramadeg gerllaw, a bwriad yr academi uchelaidd honedig hon oedd addysgu cenedlaethau o blant i ‘wella eu byd’ drwy ateb gofynion bröydd y tu allan i Ddyffryn Ogwen.Er cymaint dirmyg yr Arolygwyr breintiwyd ysgol y Cefnfaes â nifer o athrawon a phrifathrawon goleuedig iawn a lwyddodd i gyflwyno addysg lawnach na’r gofyn i genedlaethau o blant a thrwy hynny ddenu sylw cenedlaethol i’w camp.

Twr cefnfaes 1905
Safle wedi ei ddynodi mewn melyn yn y Twr ar gyfer adeiladu Ysgol y Cefnfaes yn 1905 > Llais Og photos Twr 1905

Y prifathro mwyaf dylanwadol ac ysbrydoledig ei weledigaeth a sefydlodd amcanion nodedig yr ysgol oedd J. J. Williams (1884-1950), a benodwyd yn 1915 yn ystod cyfnod anodd y Rhyfel Byd cyntaf. Ei nod fel prifathro oedd gofalu fod canonau’r cwricwlwm disgwyliedig wedi eu sefydlu, ond fod y plant hefyd yn gwerthfawrogi pob agwedd ar ddiwylliant drwy eu hymwybyddiaeth o wyddoniaeth, gwleidyddiaeth, yr amgylchfyd a’r celfyddydau. Y nod felly oedd creu personoliaethau cyflawn y byddai eu cyfraniad i’w cymdeithas, o ganlyniad, yn llawer mwy cytbwys. Ef oedd y cyntaf i sylweddoli pwysigrwydd y Gymraeg fel cyfrwng dysgu gan ddefnyddio’r iaith i gyfoethogi profiadau’r disgyblion. Addysg, drama, cerddoriaeth, celfyddyd, gwleidyddiaeth, pêl droed; yr oedd gan J. J. Williams wybodaeth drylwyr am bob un o’r meysydd hyn a’r gallu i rannu ac ysbrydoli ohonynt drwy ymgom a dadl. Dyn coeth a diwylliedig, cyfeillgar a chywir oedd efe, a’i farn bendant, hyd at fod yn bedant ar brydiau, yn codi gwrychyn ond yn creu awydd i ddarllen, i ymchwilio ac i wybod mwy. Gan ei fod yn ŵr mor ddiddorol meddai ar y ddawn o gasglu llu o gyfeillion i’w ganlyn. Yn 1923 cwblhaodd draethawd MA. yn Adran y Gymraeg ym Mhrifysgol Lerpwl.

 

Foster a JJWms,Allt Penbryn
J. J. Williams (chwith) ac Idris Foster ar Allt Penybryn

Cysylltiad J. J. Williams â’r adran hon arweiniodd at ddod â’r Athro J. Glyn Davies i sylw’r ysgol, a’i gyfraniad nodedig ef i’r ysgol oedd cyfansoddi caneuon Cerddi Huw Puw yn 1923 i’w canu gan gôr yr ysgol. Yn ei gyflwyniad i’r gyfrol ysgrifennodd J. Glyn Davies  – ‘This collection of songs began some years ago, as experiments on my own children…My old pupil, Miss Jennie Thomas, pounced down on half a dozen of these experiments, and badgered me into writing the rest for the Cefnfaes Central School. Mr J. J. Williams, the head master, another old pupil of mine, and Miss  Annie Davies… took up the songs, and tried each new experiment in turn on the children, who seemed to wolf them. The simple fact is that there was a vacuum, ready to suck in anything near the mark, so long that it was not unfamiliar Welsh, and not oppresive literary’. Dyna ei gyflwyniad a chyflwyniad hefyd i athrawes nodedig arall yn hanes yr ysgol ac yn hanes addysg Cymru yn gyffredinol, sef Jennie Thomas.

Ym Medi 1921 y daeth Jennie Thomas gyntaf i Fethesda yn brifathrawes adran y babanod yn yr ysgol. Mae’n debyg fod ei dyfodiad wedi creu peth siarad yng nghoridorau dysg Sir Gaernarfon ar y pryd. Roedd llawer yn teimlo’n chwithig fod merch ieuanc ddibrofiad, dair ar hugain oed, o’r tu allan i Fethesda, a thu allan i Gymru o ran hynny, wedi ei dyrchafu i swydd yn un o ysgolion mwyaf blaenllaw’r sir. Ar ben hynny siaradai’n awdurdodol hyderus mewn Cymraeg oedd â thipyn o lediaith iddi. Dyma ‘city slicker’ go iawn mewn pentref pur fewnblyg. Hyfdra anturus prifathro gyda gweledigaeth oedd yn gyfrifol am ei phenodi gyda chymeradwyaeth ysgubol J. Glyn Davies. Ymdaflodd Jennie Thomas i’w swydd newydd gydag egni a gweledigaeth. O fewn dwy flynedd o gyrraedd cwblhaodd ei thraethawd MA gan sefydlu ei hun yn awdurdod ar broblemau addysg ddwyieithog. Yn ei swydd sylweddolodd fod prinder deunyddiau darllen graddedig ar gyfer plant o bob oed yn y Gymraeg ac aeth ati i lenwi’r bwlch drwy ysgrifennu ar gyfer plant. Cymhelliad proffesiynol oedd ganddi, felly, i ysgrifennu ac eiddo hi y weledigaeth fod angen llyfr swmpus ar gyfer darllenwyr ifanc, a hwnnw, pe bai modd wedi ei raddio’n ofalus ar gyfer darllen plant o bob oed a gallu, a hynny mewn Cymraeg graenus ond nid yn rhy lenyddol annealladwy. Dyna’r weledigaeth a arweiniodd at ysgrifennu Llyfr Mawr y Plant a gyhoeddwyd gyntaf yn 1931. A dyna gyflwyno un arall o gyfeillion mawr J. J. Williams, J Glyn Davies a Jennie Thomas sef J. O. Williams, cydawdur cyfrolau’r Llyfr Mawr ac un arall o’r criw llengar a ddatblygodd ym Methesda drwy ddylanwad a chyfeillgarwch y prifathro.

Erbyn 1931 yr oedd Jennie Thomas a J. J. Williams wedi gadael ysgol y Cefnfaes, ef i swydd yn ddirprwy gyfarwyddwr addysg Penbedw, a hithau yn drefnydd addysg gynradd Sir Gaernarfon ac yn ddiweddarach yn drefnydd iaith ysgolion cynradd y sir. Olynwyd J. J. Williams gan R. E. Hughes fel prifathro ysgol y Cefnfaes, apwyntiad arall dylanwadol o addysgwr ysbrydoledig a roddodd ei stamp ar orchestion ei ddisgyblion a statws arbennig i’r Gymraeg yng ngweinyddiad yr ysgol. Cynhaliodd ynteu hefyd gysylltiad agos gyda J. Glyn Davies a ffrwyth eu cydweithrediad oedd cyhoeddi Cerddi Robin Goch yn 1934 a gyflwynwyd unwaith yn rhagor i‘r ‘famous Cefnfaes children’s choir’ i ddefnyddio ei eiriau ef yn ei ragymadrodd i’r gyfrol.

Er cymaint llwyddiannau J. J. Williams yn arbrofi a thorri tir newydd fel prifathro ysgol y Cefnfaes , eto wrth adael ei swydd yn 1930 yr oedd yn ddigon diymhongar i gofnodi ‘…excellent as many of our results have been, that the Central Schools, as at present constituted, are not the general solution of the Education problem in a neighbourhood like Bethesda’.

Ffynonellau

J. Glyn Davies. 1923. Cerddi Huw Puw. Lerpwl

J. Glyn Davies. 1934. Cerddi Robin Goch. Lerpwl

Elwyn Hughes. 2007. Canmlwyddiant Ysgol y Cefnfaes, Bethesda. Llangefni

J. Ll. W. Williams. 1991. Daear Siôn Blewyn Coch. Taliesin, 72, (Gaeaf/Gwanwyn), 21-39.

 

2 sylw ar “Ysgol y Cefnfaes

  1. LYNDA PRITCHARD

    Diddorol iawn unwaith eto – diolch. Oes yna hanes i’r enw ‘twr’ ar y rhesi tai oedd yn yr ardal be adeiladwyd Ysgol y Cefnfaes?

    Hoffi

  2. Now Jones

    Ar ôl darllen hanes Ysgol Cefnfaes, daeth i’m cof ddigwyddiad pan oeddwn yn y Coleg Normal yn y chwedegau cynnar.

    Roeddwn yn un o ddau ar bymtheg o ddynion yn y Grŵp Cyfrwng Cymraeg a dderbyniodd ddarlith neu ddwy gan Miss Jennie Thomas.

    Yn y ddarlith gyntaf, gan nad oedd Miss Thomas yn ein hadnabod, roedd disgwyl i ni ysgrifennu ein henwau ar ddarn o bapur oedd yn cael ei basio o un i’r llall.

    Ysgrifennodd y myfyriwr cyntaf “Wil Cwac Cwac” a phasiodd y papur ymlaen i’r nesaf. Ysgrifennodd hwnnw “Sioni Ceiliog Glas” a phasio’r papur ymlaen. Ysgrifennwyd Ifan Twrci Tena, Twm Tatws Oer, Dic Pen Moel, Now Trwyn Smwt, Huw Herc, Bobi Dwdl Dŵ, Siôn Blewyn Coch, Eban Jones ac yn y blaen nes bod pawb wedi arwyddo rhyw gymeriad o Llyfr Mawr y Plant. Doedd dim byd wedi ei gynllunio ymlaen llaw – roedd y cwbl wedi cychwyn oherwydd y “Wil Cwac Cwac” cyntaf!

    Tra roedden ni’n ysgrifennu ein “henwau” roedd Miss Thomas wrthi’n traddodi ei darlith. Ar ôl i’r ail ar bymtheg enw gael ei ysgrifennu pasiwyd y papur i Miss Thomas.

    “O’r hen hogia’ drwg!”, meddai hi. Ond roedd hi wrth ei bodd – dyna beth oedd cydnabyddiaeth o wasanaeth clodwiw i blant Cymru!

    Hoffi

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s