Ffordd Dyrpeg Dyffryn Ogwen 1802 

Gerddi014
Adrefniad y ffyrdd tyrpeg yn 1800, lluniau Llais Ogwan

Cyn i Thomas Telford osod ei stamp ar Ddyffryn Ogwen ac adeiladu’r Ffordd Bost yn 1820 yr oedd Ffordd Dyrpeg yn rhedeg drwy Ddyffryn Ogwen. Yn 1800 trafodwyd y dylid newid llwybr y ffordd dyrpeg o Bentrefoelas i Gaergybi i redeg drwy Gapel Curig a Nant

Telford Figure 3
Cynllun y ffordd dyrpeg drwy Ddyffryn Ogwen

Ffrancon yn hytrach na thrwy’r ffordd swyddogol o Bentrefoelas i Lanrwst, Conwy a Llandygái ac ymlaen i’r Fenai. Mantais y cynllun newydd fyddai torri deg milltir oddi ar y siwrnai a hepgor y daith beryglus dros y Penmaenbach a heibio mynydd y Penmaenmawr. Ond nid oedd y cynllun wrth fodd dinasyddion tref Conwy fel y gellid disgwyl oherwydd y gallasai arwain at greu dirwasgiad a cholledion ariannol i economi’r dref. Drwy Ddeddf Seneddol yn 1802 derbyniwyd cynllun, a ffurfiwyd Ymddiriedolaeth Ffordd Dyrpeg Pentrefoelas i Landygái i fod yn gyfrifol am ei hadeiladu a rhedeg ei buddiannau. Golygai ail gyfeirio llwybr y ffordd drwy adeiladu rhannau cwbl newydd i’w defnyddio a hynny yn fwyaf arbennig yn y rhan rhwng Capel Curig a Llandygái. Y rhan bwysicaf, a’r anoddaf, oedd cynllunio ei llwybr ar ochr ddwyreiniol Nant Ffrancon o’r Benglog yn Llyn Ogwen i arwain drwy Dyn y Maes hyd at Bont y Tŵr.

P0nt y Twr
Pont Tŵr

Oddi yno hyd at Landygái yr oedd y ffordd i ddilyn cynsail cynharach Ffordd y Lord a gynlluniwyd gan Benjamin Wyatt, prif asiant stad y Penrhyn yn 1786, i’w feistr Richard Pennant. Adeiladwyd rhannau o’r ffordd newydd yn gyflym iawn ac yr oedd yn agored i drafnidiaeth ysgafn yn 1804 ac i drafnidiaeth swyddogol erbyn 1805. Derbyniodd y cynllun gefnogaeth ariannol gan Richard Pennant, Arglwydd y Penrhyn, a phenodwyd Benjamin Wyatt yn brif oruchwyliwr ar  y rhan rhwng y Fenai a Phentrefoelas.

Yr oedd y ffordd yn llwyddiant ond nid heb ei gwendidau amlwg. Cyfeiriodd Hyde Hall, un o dramwywyr cynnar y ffordd ar ei daith drwy Sir Gaernarfon yn 1809, at ei pheryglon yn Nant Ffrancon gan nodi fod ei seiliau ar gerrig ansefydlog ‘which about thirty years ago rolled down the side of the mountain after heavy and continuous rain’,  gan ychwanegu  ‘the evil is unavoidable’. Roedd Telford hefyd yn barod ei gondemniad o gyflwr israddol ei hadeiladwaith ac mewn adroddiad yn 1824 yn cyfeirio’n benodol at y rhan o Tŷ’n Tŵr i Landygái.

Mae’n werth dyfynnu rhannau o’i adroddiad oherwydd, mewn gwirionedd, ychydig iawn o newid sydd wedi digwydd i lwybr y ffordd ers dyddiau ei hadeiladu ddau gan mlynedd yn ôl. Gwrandewch! Daliwch eich gafael yn dynn!, a Telford sy’n gyrru’r cerbyd ’…..The whole road from Capel Curig was notorious for upset of carriages and broken springs — indeed it was almost impossible to keep the surface good along these hills as there was generally large fragments of rock, stones and dirt and so steep that proper materials would have been torn off in dragging them down….

Tolldy Hendyrpeg
Llun o dollborth Hendyrpeg

 

…..Near the slate mills [Coed y Parc] a steep and rugged descent commenced that followed a rough road, very irregular in its section to the Tollgate [Hen Dyrpeg]. Shortly after passing the gate the road became confined along a steep rock side for nearly half a mile, the Penrhyn railway occupying the space above, a bold precipice that below. The breastwalk of the road were very bad, and those of the railway no better, the failing of either would have stopped the road. Afer crossing this inclined plain the road descended a rough surfaced hill and 1:8 to Dinas; from thence a narrow crooked ill drained portion succeeded; then another descent at 1:15 across the railway and a long and narrow lane, not more in places than 12 feet wide to near Llandygai……

 

Lon Dyrpeg Dinas
Tyrrau mawr Dinas

…….From Llandygai to Penrhyn Arms the road was completely cut to pieces, the descents in particular being little better after rain than a ploughed field, or to use the coachman’s terms, it was like pulling through a bed of glue’

Ac mae nodweddion eraill sy’n perthyn i’r ffordd dyrpeg yn aros i’w gweld hyd heddiw. Yn y Benglog mae bwa’r bont wreiddiol sy’n croesi uwchlaw’r rhaeadr yn llechu dan bont ddiweddarach Telford; yno hefyd mae llwybr y ffordd dyrpeg yn arwain ar hyd sarn sydd bellach yn cynnal y ffordd bost yn y rhan hon o Nant Ffrancon. Hendyrpeg, fel mae’r enw yn ei gyfleu, oedd safle tollborth Dinas lle y cesglid tollau defnyddwyr y ffordd, ond gyda gresyn y cofnodir fod yr adeilad hynod hwn wedi ei chwalu yn saithdegau’r ganrif ddiwethaf ar gyfer lledu’r groesffordd yno.

Tynyclwt Isa'
Tyn Clwt Isa

Ychydig bellter i ffwrdd i’r de saif Tyn Clwt Isaf a gofrestrwyd fel tafarn yn 1801 (Ale Housekeepers Recognisance Book) ar gyfer disychedu’r teithwyr ond a barhaodd  mewn gwasanaeth fel tafarn hyd at ddyddiad ei chau yn 1888, pryd y penderfynodd Stad y Penrhyn i gau’r holl dafarnau ar ei thiriogaeth.

I’r pegwn arall o Hendyrpeg mae y tyrrau uchel sy’n cynnal y rheilffordd a llwybr cul y ffordd islaw yn dal i godi braw fel yn nyddiau Telford. Ac mae un rhyfeddod yn aros, wel efallai? Ar y ffordd gerllaw Bryn Derwen mae cilfach fechan hanner crwn yn rhan o’r wal ar ochr orllewinol y lôn. Gyferbyn ar yr ochr ddwyreiniol mae adeilad drylliedig wedi ei godi o grawiau llechi a’i saernïo i ffurf lloches gul ac wrth ei droed mae afonig fechan yn llifo heibio. Mae’n amlwg fod gan y ddwy safle gyd gysylltiad gyda’r ffordd, ond o ba gyfnod ac i ba bwrpas nis gellir gwybod? Erys un ddamcaniaeth, heb sail, ond yn un tra diddorol. Honnir mai cyfleusterau oedd y rhain ar gyfer teithwyr y ffordd, efallai i ferched yng nghaban y dwyrain ac i ddynion yn y gorllewin yn agored i’r pedwar gwynt. Tybed, a tybed pellach fod y cyfleusterau hyn yn dyddio i gyfnod y ffordd dyrpeg?

 

 

Cyfyd un cwestiwn arall nad oes ateb pendant iddo, sef beth oedd cysylltiad Tŷ’n y Maes â datblygiad y ffordd dyrpeg, os oedd cysylltiad o gwbl?  Nodir fod Tŷ’n y Maes yn gyfnewidfa i geffylau ar y ffordd rhwng Capel Curig a Llandygái ond yn perthyn i ba gyfnod? Is gyfnewidfa a fyddai ar ffordd bost Telford yn 1820 ac mae’n ddadleuol a fyddai angen newid ceffylau’r goits fawr yno ar y ffordd i, ac o, Gapel Curig. Yno y gweithiai William Roberts, cerddor ac awdur y don enwog ‘Andalucia’ fel ostler, ond prin gyfeiriad sydd i bwysigrwydd y safle yng nghofnodion Telford ynghylch adeiladu’r ffordd bost. Tybed, felly, mai fel cyfnewidfa ar gyfer y ffordd dyrpeg y sefydlwyd Tŷ’n y Maes yn gyntaf cyn dod yn rhan o gyfundrefn ddiweddarach a mwy swyddogol y ffordd bost.

Tyn Maes
Tŷ’n y Maes

Tydi hanes yn un doreth o gwestiynau, rhai yn bwysig ac eraill yn gwbl ddibwys, ond beth bynnag fo’r cwestiwn mae’r gair ‘tybed’ bob amser yn ganolog!

 

 

 

 

Gwybodaeth ychwanegol gan Enid a Glyn Griffiths, Ffynnon Bach, Pen y Ffriddoedd, Tregarth;  Wyn Roberts, Bryn Difyr, Tregarth; Emyr Roberts, Brynderwen, Coed y Parc Bethesda

Ffynonellau

Archif Telford – PRO MT27/76, 13 May 1824 – Yr Archifau Cenedlaethol, Kew..

Waddilove, E. 1999. The Roman Roads of North Wales: recent discoveries. Denbigh

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s