Fferm Blaen y Nant

Saif fferm Blaen y Nant ar y talcen mawr sy’n gwarchod pen deheuol Nant Ffrancon. Mae’n hen fferm a berthynai yn wreiddiol i stad y Penrhyn ym mhlwyf Llandygái, daliadaeth o 963 acer. Cynhwysai hyn ucheldir Llwyn y Tarw a ymestynnai hyd at 600 acer at fynydd Tryfan a Llyn Bochlwyd yn ogystal â chan acer ar graig fawr y Benglog. Ar lawr y Nant yr oedd plethiad o weirgloddiau llai eu maint ynghyd â chors sylweddol, ac ar y llethrau uwchlaw ymestynnai gweirgloddiau brasach eu natur i gyrion Creigiau Gleision a Chwm Coch. Deiliad y fferm yn ôl manylion Arolwg stad y Penrhyn yn 1768 oedd Rowland Williams. Bu ef farw yn 1774 gan adael ewyllys a restrai ei eiddo. Yr ewyllys hon yw testun y cofnod hwn.

blaen-nant3.jpg
Ffermdy Blaen y Nant yn ei safle godidog

Mae’r ewyllys yn gyforiog o wybodaeth am natur y drefn amaethyddol yn Nant Ffrancon ar diwedd y ddeunawfed ganrif. Mae’n rhestru manylion ynghylch maint y stoc, amrediad oedran yr anifeiliaid, a’u gwerth ar farwolaeth y perchennog. O’r manylion hyn gellir cael bras amcan beth fyddai maint disgwyliedig incwm blynyddol y deiliad, ac yn fwy penodol, beth oedd gwerth terfynol stad y deiliad ar ei farwolaeth. Drwy ystyried y manylion hyn gellir canfod beth oedd craidd y gyfundrefn amaethyddol a thrwy hynny werthuso ei chyfraniad i’r gymdeithas yr oedd y ffermwr hwn yn rhan ohoni.

Dengys y tabl isod hanfodion yr ewyllys.

Stoc a porthiant Nifer Gwerth
Buwch 14 £47.5.0
Bustach 12 £30.0.0
Ych 0 0
Heffer 2 £5.0.0
Llo 5 £5.0.0
Dafad 90 £27.0.0
Gafr 24 £4.0.0
Ceffyl 1 £2.0.0
Gwair £1.0.0
Grawn £0.10.0
Tatws 0

Cyfanswm gwerth amaethyddol = £123.9.0

Cyfanswm gwerth cyflawn yn cynnwys offer a dodrefn = £152.0.0

Mae perthnasedd y manylion yn amlwg. Diben yr holl gyfundrefn oedd magu gwartheg stôr ar gyfer y farchnad a hynny ar gynllun cylchol o dair neu bedair blynedd i gynnwys lloi blwydd, heffrod a bustych yn eu llawn dwf. Cynsail y drefn oedd y gwartheg magu, adnodd pwysicaf a mwyaf gwerthfawr Rowland Williams, er yn yr achos hwn nid oedd yn berchen ar darw i’w gwasanaethu. Roedd pwyslais hefyd ar fagu defaid ac ŵyn gyda bodolaeth praidd nid ansylweddol ei maint, gyda geifr yn adnodd ychwanegol er llawer llai eu gwerth. Rhoddir sylw hefyd i fesurau bychan o rawn a gwair, yr olaf yn ffrwyth tyfiant o weirgloddiau llawr y dyffryn, a’r grawn yn gynnyrch a bwrcaswyd i mewn yn fwy na thebyg. O ystyried ei ewyllys, a gwerth cyflawn ei stad, bernir fod Rowland Williams yn ffermwr cysurus ei fyd er nad y mwyaf cefnog o bell ffordd o’i gyfoedion yn Nant Ffrancon a Nant y Benglog.

Yn gyffredinol mae ewyllysiau ffermwyr ucheldir Dyffryn Ogwen yn arddangos cyfoeth arbennig. Canfyddir mai cyfartaledd enillion amaethyddol deuddeg ffermwr yn yr ucheldir o gyfnod diwedd y ddeunawfed ganrif oedd £186 gyda’r amrediad yn amrywio o £52 i £643. Amcangyfrifir y gallasai incwm blynyddol rhai o’r unigolion hyn fod o leiaf £44, y swm wedi ei bennu ar sail gwerthiant chwech bustach (£21), chwech llo (£8) a 75 o ddefaid (£15). Mantais fawr y ffermydd oedd eu maint, yn amrywio yn Nant Ffrancon rhwng 141 acer (Penisa’r Nant) a 1388 acer (Pentref) a olygai fod y sefydliadau yn cynnal cyfartaledd uchel o stoc er mor erwin y tir ac er cymaint y colledion mae’n bur debyg. Cymharer, er enghraifft, fferm 287 acer Rowland Williams, Tŷ Gwyn, Nant Ffrancon yn 1768, gyda Talysarn, fferm 110 acer Richard Williams ar lwyfandir llawer brasach Llanllechid yn 1781. Gwerth amaethyddol Tŷ Gwyn oedd £288 yn cynnwys naw buwch, 30 o wartheg stôr, 140 o ddefaid ac ŵyn, chwe cheffyl, tri mochyn a phedair gafr gyda gwerth £34 o haidd a £23 punt o wair yn ychwanegol. Yn Nhalysarn y stoc gyfatebol oedd chwe buwch, 16 bustach a lloi, 40 dafad a saith ceffyl gyda £4 o wair a £7 o rawn i roddi cyfanswm terfynol o £95 punt.

Mae’n werth edrych ar ewyllys Robert Coytmor yn 1725 i gael cadarnhad pellach am flaengaredd economi yr ucheldir. Y gŵr bonheddig hwn oedd perchen stad Coetmor, oedd ar y pryd â meddiannau helaeth ym mhlwyf Llanllechid. Mae tair adran ddadlennol i’r ewyllys, un yn cyfeirio at gnewyllyn y stâd ym mhlasty Coetmor ar lwyfandir Llanllechid, yr ail yn crybwyll eiddo ar fferm Tŷ’n Hendre ar fras diroedd yr iseldir, a’r drydedd yn rhestru cynnwys y fferm fynydd yn Nhal Llyn Ogwen yn Nant Ffrancon. Yng Nghoetmor gynhwysai’r stoc 14 buwch, wyth ych, un anifail blwydd a phum mochyn – y cyfan werth £64 punt. Ond coron y sefydliad oedd y ceffylau, o leiaf 24 ohonynt a oedd yn werth £96, ac un, y ‘chesnut stone horse’, ei hun werth £30. Dyma felly arddangos cyfoeth uchelwr o dras. Yn Nhŷ’n Hendre nid yw cyfanswm y gwartheg wedi’i gofnodi, ac eithrio pum llo ac un fuwch, ond pris y cyfan, gan gynnwys ‘corn chest and old table’, oedd £17. Yn Nhal Llyn Ogwen, fferm na wyddys ei maint yn 1725, nifer y gwartheg oedd pump, y gwartheg stôr yn 63, i gynnwys saith ych, wyth bustach, 14 heffer, 13 heffer blwydd, naw bustach bychan a 12 llo blwydd, gyda chyfanswm ariannol y cyfan yn £105. Yn ychwanegol yr oedd gan y sefydliad 383 o ddefaid a 74 gafr oedd werth £37.5s. Yn dra diddorol mae’r rhestr hefyd yn cynnwys cyfeiriadau at dair troell, parsel o edafedd, pum tunnell o lo a pharsel o olosg, yr oll yn gwneud cyfanswm ychwanegol o £8.4s. Gwerth ariannol Robert  Coetmor yn 1725 oedd £341.9s gyda chrynswth yr arian yn deillio o’i fferm yn ucheldir Nant Ffrancon.

Mae’n amlwg o’r drafodaeth uchod fod llewyrch ariannol yn gysylltiedig ag economi ffermydd ucheldir Dyffryn Ogwen. Mae’r canlyniad yn ategu ymchwil ddiweddar sy’n dangos, yn groes i’r farn gyffredin am aflwyddiant economi amaethyddol ucheldir Cymru, fod cyfundrefn ucheldir Eryri yn braffach ac yn fwy cost effeithiol na’r economi gyfatebol a berthynai i lawr gwlad yr ardal. Manteision mawr yr economi oedd maint y sefydliadau, cyfartaledd uchel y stoc, traddodiad gwydn o ffermio a chraffter yr amaethwyr yn goresgyn holl amodau anodd yr amgylchedd. Ac mae ewyllys megis un Rowland Williams yn 1774 yn gofnod o flaengaredd yr economi hon.

Ffynonellau

Nia Powell. 2007. ‘Near the margin of existence’? Upland prosperity in Wales during the Early Modern Period. Studia Celtica. XLI (2007), 137-162.

J. Ll. W. Williams a Lowri W. Williams. 2013. Portread o gyfoeth a gwerth yn economi amaethyddol Dyffryn Ogwen ar derfyn y ddeunawfed ganrif. Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 35, (4), 31-69.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s