Stad y Coetmor a Stad y Cefnfaes

Mae hanes datblygiad pentref Bethesda wedi ei reoli gan amodau cymhleth a berthyn i dair stad – Penrhyn, Coetmor a Chefnfaes. Un o’r dogfennau sylfaenol i ddeall y cymhlethdodau yw’r arolwg a gynhaliwyd gan Richard Pennant yn 1768 i bennu cynnwys ei etifeddiaeth yn stad y Penrhyn. Pwysigrwydd y ddogfen yw ei bod yn nodi terfyn, fwy neu lai, ar hen fyd y canol oesoedd ac yn sefydlu canllawiau ar gyfer datblygiadau’r cyfnod a ddilynodd yn Nyffryn Ogwen. Dengys y mapiau manwl sy’n atodi’r Arolwg fod stad y Penrhyn yn berchen ar blwyf Llandygái yn ei gyfanrwydd o’r Fenai i Gapel Curig, er bod rhannau helaeth yn aros yn dir agored heb ei ddatblygu, megis rhostir Moelyci rhwng Chwarel Goch a’r Fronllwyd a ddisgrifir fel ‘Turbary and Common’. Yr oedd y darlun yn bur wahanol ym mhlwyf Llanllechid. Yno yr oedd rhannau helaeth o’r plwyf mewn perchnogaeth annibynnol, naill ai yn glytiau bychan gwasgaredig, neu wedi eu canoli mewn stadau mwy eu maint. Mewn cymhariaeth â Llandygái yr oedd perchnogaeth stad y Penrhyn ar diriogaeth plwyf Llanllechid, er yn enfawr, yn fylchog, ac o ganlyniad mae manylder map yr Arolwg yn y bylchau annibynnol yn arwynebol ac, ysywaeth, yn annigonol.

Stad Cefnfas cynllun
Amlinell o ffiniau Stad Cefnfaes – y llinell di-fwlch yn gywir; y llinell fylchog yn fraslun

Y ddwy stad annibynnol bwysicaf yn y plwyf oedd Coetmor a’r Cefnfaes, y ddwy ohonynt yn ymestyn dros ran helaethaf canol y dyffryn. Stad Coetmor oedd y fwyaf gan ymestyn o Bont y Pandy yn y gogledd hyd at Stad Cefnfaes yn y de gyda’r Lôn Goed yn ffurfio ei ffin ddwyreiniol ac Afon Ogwen ei ffin orllewinol. Roedd tir y stad yn cynnwys plethiad o gaeau agored, bryniau isel creigiog a nifer o goedlannau, a’r prif ffermydd oedd Coed Isaf, Coed Uchaf, Tai’n y Coed, a Coetmor, y sefydliad mwyaf a’r pwysicaf ohonynt oll. Plasty yn dyddio o’r Canol Oesoedd oedd Coetmor ac un o’i ragoriaethau oedd y goedwig dderw drwchus a’i hamgylchynai gan ymestyn hyd at lan afon Ogwen yn y gorllewin. Y goedwig hon, wrth gwrs, a roddodd yr enw – coed mawr – i’r plasty hynafol y cyfeiriwyd ati’n glodfawr gan Thomas Pennant (1726-1798) ar ei daith drwy Ogledd Cymru rhwng 1773 a 1776. Ar ffin y de, yn ymylu â stad Cefnfaes, datblygwyd chwarel lechi fechan Llety’r Adar, a adweini’r hefyd fel chwarel Coetmor. Erbyn 1850 yr oedd plasty Coetmor yn adfail a’i awdurdod canolog wedi pylu’n llwyr a’r stad mewn cyflwr truenus. Oddeutu 1855 prynwyd y stad gan y Penrhyn ac o hynny ymlaen peidiodd Coetmor â bod yn endid annibynnol.

Hanes gwahanol oedd i stad y Cefnfaes. Lleolwyd hon ar rimyn hirgul o dir serth sy’n estyn o lan Afon Ogwen i’w therfyn yn ucheldir Gwauncwysmai yn y dwyrain. Ei maint gwreiddiol oedd 128 acer ac ar y clwt cyfyng hwn o dir rhwng Allt Caffi, Ffordd Carneddi ac Allt Penybryn, y sefydlwyd cnewyllyn pentref Bethesda fwy neu lai o 1820 ymlaen. Drwy gyd-ddigwyddiad manteisiol yr oedd yr haenau llechfaen Cambriaidd, tarddle holl gyfoeth y Penrhyn yn chwarel Cae Braich y Cafn, hefyd yn brigo ar y llain gyfyng hon o dir, ac mewn cystadleuaeth â thwf y pentref datblygodd chwarel lechi Pantdreiniog ar yr un safle yn ystod yr un cyfnod. Tra gellir olrhain sefydlu stadau Penrhyn a Coetmor yn ôl i’r canol oesoedd, gyda thras fonheddig i’r ddau sefydliad, nid oedd yr un peth yn wir yn achos stad Cefnfaes.

Nodwyd yn gynharach nad yw Arolwg 1768 yn taflu nemor ddim goleuni ar berchnogaeth na nodweddion perthynol y stad ac eithrio cofnodi fod y safle yn rhan o ‘Coetmor Land’. Ac nid yw’r dynodiad hwn yn llythrennol gywir chwaith. Oddeutu 1641 sefydlwyd elusen gan William Griffith o Fodfaio ym mhlwyf Llanllechid i’w defnyddio i ddarparu gwerth deuddeg ceiniog o ‘fara gwenith iachus’ i’w rannu ar foreau Sul drwy’r flwyddyn rhwng deuddeg neu lai o dlodion y plwyf ar ôl y gwasanaeth yn yr eglwys. Ffynhonnell yr arian oedd y rhent blynyddol o 56 swllt a delid ar ddau glwt o dir – ‘parciau uchaf’ a ‘parciau isaf’ – a oedd yn rhan o dyddyn Cilyfoden (Cilhafoden > Cilfodan). Deiliad y tyddyn cyn 1866, yn ôl tystiolaeth Hugh Derfel, oedd Owen Ellis, ffermwr dylanwadol a deiliad Cefnfaes, fferm sylweddol ei maint yn dilyn ad-drefnu tir ym mhumdegau’r ganrif ar wastatir plwyf Llanllechid. Erbyn 1857 Humphrey Ellis oedd deiliad fferm Cefnfaes Newydd, yn ôl cofnodion Cymdeithas Warchod Comin Plwyf Llanllechid, a’r gŵr hwn a fu’n ddigon hirben i brynu 78 acer o dir tyddyn Cilyfoden am swm a oedd yn llai nag £800 o arian. Y llain tir oedd ‘parciau isaf’ a gyfenwyd yn Cefnfaes gan ei berchennog newydd ac felly y daeth stad i fodolaeth a berthynai i hen deulu o Fedyddwyr a goleddai ddaliadau radicalaidd ac ymneilltuol tra gwahanol i draddodiadau perchnogion stad gyfagos y Penrhyn. Nid nad oedd cyfalafiaeth, serch hynny, yn rhan estron o ddaliadau mwy rhyddfrydig y teulu. Gellir mesur llwyddiant stad Cefnfaes mewn ystadegau a gyflwynwyd i Bwyllgor Dethol ar Ddaliadau Trefol a gyfarfu yn Llundain yn 1888. Cyflwynydd y dystiolaeth oedd W. J. Parry, sef asiant y stad ers ei benodi i’r swydd yn 1878. Yn ei ddatganiad cyfeiriodd at y ffaith nad oedd mwy nag 20 tŷ ar y safle ar ddechrau’r ddeunawfed ganrif a bod cyfanswm eu rhenti blynyddol yn llai na £80. Erbyn cyfnod yr adroddiad yr oedd cyfanswm yr adeiladau yn cynnwys oddeutu 600 tŷ, pum capel a dwy ysgol genedlaethol, oll yn cyfrannu rhent blynyddol o £1700. Gwerth yr eiddo ar ddechrau’r ganrif oedd £1500, ond bedair ugain o flynyddoedd yn ddiweddarach chwyddodd gwerth yr eiddo i £60,000. O ganlyniad bu farw Humphrey Ellis yn ŵr goludog a’i werth ariannol yn filiynau o bunnoedd yn nhermau arian gloywon heddiw. Mae’n anodd esbonio sut y bu i ‘olwyn chwil y ffair’ droi deuddeg ceiniog o ‘fara gwenith iachus’ yn ffortiwn enfawr.

Raw024
Cynllun Johnson o bentref Bethesda yn 1855 yn datblygu o fewn ffiniau stad Cefnfaes; drwy ganiatâd Adran Archifau a Llawysgrifau Prifysgol Bangor, Papurau a Mapiau Penrhyn Ychwanegol PFA/6/173> Mapiau 1855

Fel y nodwyd eisoes pan brynwyd stad Coetmor gan y Penrhyn yn 1855 amgylchynwyd y Cefnfaes gan sefydliad llawer mwy pwerus ac eang ei adnoddau, er nid o reidrwydd yn fwy bygythiol ei ofynion, a thrwy weddill y ganrif tyfodd pentref Bethesda yng nghysgod cystadleuol ei gymydog uchelgeisiol. Serch hynny yr oedd y Penrhyn wedi colli mantais enfawr pan etifeddodd George Hay Dawkins Pennant olyniaeth y stad o 1808 ymlaen. Prif ddiddordebau y pendefig hwn oedd gwleidyddiaeth, lledaenu ei ddylanwad yn ninas Bangor a Gwynedd yn gyffredinol ac adeiladu ei gastell gorwych yn Llandygái a’i amgylchynu â wal uchel. Nid oedd ganddo’r diddordeb lleiaf mewn gwella lles dinasyddion Dyffryn Ogwen drwy adeiladu tai ar eu cyfer . O ganlyniad  manteisiwyd ar y sefyllfa gan stad Cefnfaes ac adeiladwyd cnewyllyn y pentref ar eu tir o 1820 ymlaen. Mae’n werth ystyried pe byddai George Hay Dawkins Pennant wedi bod yn fwy ymwybodol o ofynion cartrefu ei weithlu yn chwarel y Penrhyn a fyddai canolfan y pentref wedi ei leoli ar stad Cefnfaes?

Gwybodaeth ychwanegol – Dafydd Fôn Williams. ‘Dau Deulu Lwcus’. Darlith i Gymdeithas Hanes Rachub, Tachwedd, 2015.

Ffynonellau

Hugh Derfel Hughes. 1866. Hynafiaethau Llandegai a Llanllechid. Bethesda.

Roose Williams. 1978. Quarryman’s Champion: the life and activities of William John Parry of Coetmor. Dinbych.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s