Fferm Kemnay, yn Brandon, Manitoba

Mae’n amhosibl ysgrifennu hanes Dyffryn Ogwen yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg heb i enw W. J. Parry ymwthio i’r wyneb mewn rhyw gyswllt neu’i gilydd. Ef yn anad neb oedd cymeriad mwyaf cyhoeddus ac anrhydeddus yr ardal ac fe ymledodd ei enwogrwydd i weddill Cymru a thu hwnt. Cyfrifid ef ymhlith yr amlycaf o wŷr busnes llwyddiannus gogledd Cymru, yn cyfuno gyrfa broffesiynol fel cyfrifydd ariannol â rhedeg busnes llewyrchus fel masnachwr cyffredinol yn gwerthu amrediad eang o nwyddau adeiladu ac yn arbenigo mewn marchnata ffrwydron a phylor du ar gyfer diwydiannau’r fro. Ymhlith y mentrau niferus y bu’n gysylltiedig â hwy roedd nifer o fentrau masnachol yn amrywio o sefydlu gweisg i gyhoeddi papurau newydd i sefydlu cwmnïau i redeg chwareli llechi (gweler er enghraifft erthyglau am Chwarel Banrdreiniog, Bethesda ac Aur y Wladfa). Yr oedd W. J. Parry hefyd yn berchen ar fferm, neu i fod yn fanwl gywir yn gydberchennog. Ac nid fferm fechan oedd hon fel y rhelyw yn Nyffryn Ogwen, ond yn hytrach fferm enfawr yn Nhalaith Manitoba yng Nghanada.

Ymwelodd Parry â Gogledd America ar dri achlysur, am y tro cyntaf yn 1871, am yr eildro yn 1879 ac am y tro olaf yn 1888. Taith breifat heb ymrwymiad i unrhyw gorff swyddogol oedd y gyntaf, pan ymwelodd â rhai o brif drefi diwydiannol y dwyrain ac ardaloedd chwarelyddol gogledd talaith Efrog Newydd a Vermont, dwy ardal a oedd yn derbyn mewnlifiad sylweddol o weithwyr o Wynedd yn ystod y cyfnod hwn. Dysgodd ar y daith hon beth oedd y manteision i Gymry ymfudo i’r America, a pha ragolygon economaidd fyddai’n aros darpar ymfudwyr. Taith wedi ei threfnu gan Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru oedd yr ail daith, gyda Parry, yn rhinwedd ei swydd fel Llywydd yr Undeb, yn adrodd yn ôl yn swyddogol i’r Cyngor i amlinellu: yn gyntaf, gyflwr diwydiant llechi’r Unol Daleithiau a’r cyfleoedd oedd yno, ac yn ail briodoldeb a manteision ymfudo i Ganada. Yn sgil ei ymweliad â Chanada fe’i penodwyd yn ymgynghorydd anrhydeddus i Lywodraeth Talaith Manitoba gyda’r cyfrifoldeb o hyrwyddo ymfudwyr i ymsefydlu yn y rhanbarth hwn o’r wlad.

Yr oedd ymfudo i’r Byd Newydd yn digwydd yn gyson yn ardaloedd y chwareli yn ystod chwarter olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac yn dilyn argymhellion Parry yr oedd hyrwyddo ymfudo ar un cyfnod yn rhan o bolisi swyddogol Undeb y Chwarelwyr er mwyn sicrhau gwell amodau byw i’w haelodau. Dan gynllun yr Undeb amcangyfrifir i oddeutu 250 o chwarelwyr ymfudo i America rhwng 1879 ac 1881, ac yn ystod cyfnod anghydfod diwydiannol chwerw chwarter olaf y ganrif chwyddodd nifer yr ymfudwyr yn sylweddol. Yr oedd Parry mewn safle allweddol i ymelwa o’r sefyllfa hon ac yn ystod nawdegau’r ganrif yr oedd yn asiant i oddeutu 30 o brif  gwmnïau llongau teithio Prydain ac America, cwmnïau megis Cunard Steamship, American Lines, Anchor Lines a Beaver Lines i enwi ond ychydig. Yn ystod streic 1896/97 yn chwarel y Penrhyn gweithredai’n ddyfal yn y dirgel i sicrhau’r telerau mwyaf ffafriol iddo ef yn bersonol pe llwyddai i gymell chwarelwyr i ymfudo i Ganada. Gwnâi hynny drwy gysylltu ag asiant ymfudo swyddogol Llywodraeth Canada yng Nghymru yn ogystal ag ysgrifennu at nifer o gyfreithwyr ac asiantwyr tir unigol yng Nghanada. Greddf Parry, fel gŵr busnes llygadog a thra diegwyddor, oedd manteisio ar unrhyw gyfle i wneud arian ni waeth a oedd hynny ar gorn pobl gyffredin.

Brandon 3
Rosser Avenue, Brandon, Manitoba

Teithiodd Parry i Ogledd America am y trydydd tro yn 1888. Taith oedd hon i ymweld â threfi a rhanbarthau yng nghanolbarth y cyfandir, megis taleithiau’r paith yng Nghanada a thaleithiau dros y ffin yn yr Unol Daleithiau megis Dakota, Wisconsin a Michigan. Ysgrifennodd am ei brofiadau ar y daith mewn cyfres o erthyglau a ymddangosodd yn Y Werin, ond ni fradychodd ynddynt ei fod hefyd yn berchen ar fferm yn nhalaith Manitoba. Mae’n debyg mai ar daith 1888 y buddsoddodd yn y fferm gyda’i gyfaill W. J. Williams, cyfreithiwr yng Nghaernarfon ac Ysgrifennydd Undeb y Chwarelwyr, yn gydberchennog. Lleolwyd Kemnay, fferm 640 erw gerllaw gorsaf reilffordd Brandon oddeutu 200 cilomedr i’r gorllewin o Winnipeg ac fe’i prynwyd ar brydles gan gwmni y Canadian Pacific Railway ar yr amod fod gweddill y pris pryniant o $2005.66 i’w dalu’n ôl i’r rheilffordd erbyn 1 Mawrth 1895. Tir agored wedi ei barselu yn bedwar chwarter oedd y fferm, a dim ond un chwarter oedd wedi ei ddiwyllio. Gartref yng Nghymru gobaith y ddau berchennog oedd gweld y fenter yn llwyddo dan oruchwyliaeth William Henry Parry, y canol o dri mab Parry, a chyfle i’w annog i fod yn ffermwr cysurus yn ennill bywoliaeth frasach yn y byd newydd nag a wnaethai gartref yng Nghymru. Buan iawn y datblygodd Kemnay i fod yn fwy o boen meddwl nag o fuddsoddiad i Parry a’i gydberchennog.

Brandon 4
Brandon yn 1888 – wagenni yn llawn grawn yn disgwyl cael eu dadlwytho i’r stordai

Llanc 19 oed oedd William Henry nad oedd yn meddu ar unrhyw gymhwyster i’w alluogi i ffermio darn o baith gwyllt yng Nghanada. I lwyddo yr oedd yn rhaid wrth rym penderfyniad, ymroddiad, gwytnwch, doethineb a’r gallu i drin a rheoli arian yn ofalus, ac ni freintiwyd y mab â’r un o’r cymwysterau angenrheidiol hyn. Erbyn Mai 1895 yr oedd gan William Henry ddyled treth o $300.68 i fwrdeistref Brandon, a rhybudd y gallasai’r fwrdeistref werthu’r tir ar ocsiwn i adfer y swm dyledus. Mae llythyrau Parry at ei fab yn croniclo ei anesmwythyd. Meddai mewn llythyr dyddiedig 11 Mai 1895 – I am surprised that you should let matters come to this pass and endanger us losing the land. I trust you will not fail to see that this is paid immediately you get this letter as I cannot send any money and certainly when you have not paid any rent and have collected rent from those who rented land from you, you should have seen to the paying of the taxes.

Bedwar mis yn ddiweddarach mae’n ysgrifennu’r canlynol –

I wrote you two months ago but have not had any reply yet. This is very unkind and unworthy of you. I once more beg of you to let me know how you are getting on with the farm. Have you had any crops in? And how much land had you under wheat and corn and hay?

Oherwydd anwadalwch William Henry, ac yn ddiarwybod iddo, yr oedd cynlluniau ar droed mor gynnar â Rhagfyr 1894 i werthu rhan o’r fferm gyda bargyfreithwyr ac asiantwyr tir yn ceisio hyrwyddo’r trefniant. Gellir cydymdeimlo ag anesmwythyd a siom Parry, fel mae’r llythyr canlynol at gyfreithiwr yn Brandon yn ei gyfleu-I shall feel very much obliged if you can let me know by return the best offer you can get on 1/4, 1/2 or the whole of the farm as I have decided to sell for the best offer that I can get. I have written my son on the same date but as usual cannot get any reply from him. … It is useless to hold on in this manner, not getting – (gair aneglur) or replies to my letters from my son.

Er dirfawr siom i’r perchnogion nid oedd darpar brynwyr yn heidio i bwrcasu fferm a oedd mewn anrhefn llwyr, ac roedd prisiau tir y dalaith hefyd yn hynod anwadal. Gorfodwyd y perchenogion i dderbyn mai drwy fenthyciad tymor byr yn unig y gellid talu’r holl ddyledion ac arwyddwyd y cytundeb ar 12 Ragfyr 1895 ym Mangor. Erbyn mis Chwefror 1896 yr oedd y dyledion wedi eu talu a’r cam nesaf oedd bargeinio gyda’r cyfreithwyr am y telerau gorau i werthu’r holl fuddsoddiad yn ei gyfanrwydd. Ond rhaid oedd disgwyl tan fis Gorffennaf 1899 cyn i’r pryniant fynd rhagddo pan gododd prisiau tir yn sylweddol yn Manitoba. Derbyniwyd cynnig cwmni o frocwyr tir o Winnipeg i brynu’r fferm am $7500 ar delerau a olygai mai enillion prin a ddaethai i ran y cydberchnogion yng Nghymru. Cadarnhawyd y pryniant ym mis Medi, a gellir bron glywed ebychiad o ryddhad pan ysgrifennodd Parry at y cyfreithiwr- Yours of the 12th came to hand yesterday morning, and I wired immediately on your advice – Sell. … and the matter settled in the next 30 days.

Brandon 2
Stestion Brandon, Manitoba ar Reilffordd y Canadian Pacific oddeutu 1920

Ac felly y daeth pennod drofaus Kemnay yn Manitoba i ben i ddau hapfasnachwr o Wynedd a oedd wedi breuddwydio gwneud ffortiwn fechan ddidrafferth yng Nghanada. Ond beth am William Henry? Yr oedd ef wedi gadael y fenter yn Kenmay mor fuan â 1895 i dreulio’r pedair blynedd nesaf yn cardota fwy neu lai yn yr America hyd nes iddo ddychwelyd i Fethesda yn fab afradlon yn 1899. A beth am Brandon? Ar ôl Winnipeg hon yw ail ddinas bwysicaf y dalaith gyda phoblogaeth o 53,000. Mae’n ddinas lewyrchus, yn ganolbwynt i fasnach a busnes ac mae ei phrif ddiwydiannau yn gysylltiedig ag amaethyddiaeth, a thyfu grawn yn arbennig. Mae’n gyffordd bwysig ar reilffordd y Canadian Pacific yn ogystal â bod yn dref brifysgol. Mae’n amlwg i William Henry fethu cyfle i sefydlu ei hun yn y byd mawr.

Ffynhonnell

J. Ll. W. Williams.  2005.  W. J. Parry, Coetmor Hall, Bethesda: Portread o Gyfrifydd, Masnachwr a Hapfasnachwr Cymreig yn negawdau olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon, 66, 137-167.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s