Fferm Coetmor

Fferm Coetmor
Ffermdy Coetmor

Mae fferm Coetmor yn enghraifft arbennig o gynllun ffermdai ar Stad y Penrhyn sy’n dyddio i chwarter olaf y 19g. Adeiladwyd y fferm yn 1874 ar safle hen blasty Coetmor a oedd yn adfail erbyn hynny. Mae’r ffermdy yn dŷ eang wedi ei adeiladu mewn cerrig nadd a gorchudd o lechi ar yr hanner uchaf yn nhraddodiad pensaernïol gorau’r stad o’r cyfnod, a lleolwyd y tŷ ychydig bellter i’r de o adeiladau’r fferm. Cynlluniwyd yr adeiladau i greu un uned integredig yn amgylchynu buarth eang, ond cysgodol, gyda mynediad iddo o gyfeiriad y gorllewin.

Coetmor ysgubor
Ysgubor Coetmor

Ar ymyl deheuol y buarth saif yr ysgubor sef yr unig adeilad sy’n dyddio i gyfnod y plasty gwreiddiol a sefydlodd bwysigrwydd Coetmor yn y lle cyntaf. Mae’n adeilad unigryw gydag ychydig gyfnewidiadau yn unig i’w ffurf wreiddiol. Yn ad-drefniad 1874 gosodwyd ail lawr yn un rhan o’r adeilad gan ddefnyddio’r llawr uchaf yn llofft i storio grawn gydag ychwanegiad o dair llofft wely bach ar gyfer y gweision. Pery rhan ddwyreiniol yr adeilad yn neuadd agored ond ar ymyl y de caewyd y porth eang a safai gyferbyn â phorth y gogledd gan adael yr olaf fel y brif fynedfa i’r ysgubor o’r buarth. Ar ymyl y gorllewin ychwanegwyd hofal gyfleus i gadw’r troliau a drws nesaf yn rhan o’r ysgubor sefydlwyd y stabl i’r ceffylau.

Cynnwys yr adeiladau eraill ddarpariaeth ar gyfer y gwahanol anifeiliaid – beudy eang gyda chwt gwair yn ei ddeupen ar gyfer y gwartheg godro, siediau i’r lloi a’r heffrod gyda’u hiardiau cysylltiedig, tylciau i’r moch a chwt i’r ieir a chwt arbennig i’r tarw. Ar ben dwyreiniol yr ysgubor lleolwyd olwyn ddŵr, y peirianwaith a oedd yn creu’r ynni i weithio holl gyfundrefn fecanyddol y fferm drwy gyfres o echelydd a phwlïau a oedd yn cysylltu drwy ben dwyreiniol yr ysgubor gyda’r cwt malu, a drws nesaf iddo, y llaethdy.

Llyn Corddi 3
Llyn Bach Corddi

Yn mesur oddeutu 3 metr, cymharol fychan oedd maint yr olwyn, a throsglwyddid y dŵr i’w throi drwy gyfres o gafnau pren o gronfa fechan, Llyn Corddi, a leolwyd oddeutu 50 metr i’r dwyrain yng Nghae Llyn ar y ffin â Lôn Bach Odro. Bwydid y dŵr i Lyn Corddi drwy Ffos Coetmor a darddai o Afon Ffrydlas, pellter o tua dau gilometr a hanner i ffwrdd i’r de ddwyrain yng Ngwaun Cwys Mai. Terfynwyd ar ddefnyddio ynni dŵr yng Nghoetmor oddeutu 1976, yr olaf o ffermydd Dyffryn Ogwen i ddefnyddio’r math hwn o ynni mecanyddol, a dinistriwyd yr hen olwyn haearn a chwalwyd y cafn oedd yn ei bwydo.

 

Coetmor oedd y fferm a ddewiswyd i gadw teirw er gwasanaethu gwartheg Dyffryn Ogwen, a chadwyd cofrestrau swyddogol manwl gan y Weinyddiaeth Amaeth o orchestion y teirw hyd nes diddymu’r gwasanaeth oddeutu 1925. Dewiswyd Coetmor mae’n debyg oherwydd ei safle canolog yn y dyffryn ac mae’n eithaf tebyg fod y gwasanaeth wedi ei sefydlu yno pryd yr ailadeiladwyd y fferm yn 1874 er y gallasai  ddyddio i gyfnod llawer cynharach fel rhan o ddyletswydd un o sefydliadau hynafol pwysicaf y fro. Os arbenigedd Coetmor oedd gwasanaeth y teirw yna dewisiwyd Tyn Hendre fel y fferm i gyflenwi ceffylau ar gyfer gwahanol ofynion cludiant y stad, ac ar diroedd breision ardal Llandygái defnyddiwyd yr Home Farm i hyrwyddo hwsmonaeth dda yn yr ardal.

Coetmor ysgubor bach
Buarth fferm Coetmor yn edrych i gyfeiriad y beudy; llun drwy garedigrwydd a chaniatâd David Longley

Mae adeiladau’r fferm wedi eu cofrestru fel enghraifft o fferm weithredol o gyfnod saith degau’r 19g ond yr oedd Coetmor, fel nifer o ffermydd eraill a ad-drefnwyd yn yr un cyfnod, yn rhan o gynllun i wella ansawdd ffermio’r ardal a oedd yn ymestyn yn ôl i deyrnasiad Richard Pennant yn y Penrhyn ar ddiwedd y 18g. Un o benodiadau ysbrydoledig cyntaf Pennant oedd Benjamin Wyatt, ei brif oruchwyliwr i’r stad, a gyflogwyd yn 1790. Disgynnydd oedd ef o deulu medrus o amaethwyr cefnog ger Lichfield yng nghanolbarth Lloegr a meddai ar brofiad helaeth o ffermio ac o gynllunio adeiladau cyn iddo dderbyn y swydd yn y Penrhyn. Mewn cynllun enfawr a chostus i ddiwygio pob agwedd o economi bregus y stad gosododd Pennant bwyslais mawr ar wella ei chyflwr amaethyddol. Dan arolygiaeth Wyatt sylweddolodd yr asiant mai un o’r problemau dwysaf a wynebai amaethwyr mynydd-dir Eryri oedd cynhyrchu digon o fwyd dros gyfnod y gaeaf i borthi eu hanifeiliaid. Yn y broses trefnodd gynlluniau i sychu tiroedd gwlyb, i greu caeau newydd ac i godi cloddiau i ddiogelu hen gaeau eraill er mwyn cynhyrchu mwy o weirgloddiau porthiant. Anogodd y ffermwyr i blannu cnydau mwy llesol, megis cabets a rwdins, i fwydo eu hanifeiliaid, a’u dysgu i’w tyfu dan drefn o blannu cylchdro mewn tir wedi ei wrteithio. Mynnai fod adeiladau newydd yn cael eu codi i gynnal a llochesu anifeiliaid a chyflwynodd gyfundrefn fwy gwybodus a threfnus ar fagu anifeiliaid er gwella ansawdd y stoc yn yr hir dymor. Mewn ardal gydag amodau ffisegol anodd cyflwynodd gynlluniau i wella’r amgylchedd cyffredinol drwy blannu coedlannau er mwyn cysgod a draeniad tir ond hefyd gyda’r bwriad o harddu’r tirlun nid yn unig yng nghynteddau’r plasty ond drwy’r dyffryn yn gyffredinol.

IMG_1859
Buarth yr Home Farm gyda chorn yr injan stêm ar ochr chwith y llun

Olynydd Pennant gyda chynlluniau amaethyddol yr un mor gynhwysfawr â’i ragflaenydd oedd yr ‘Hen Lord’, Edward Gordon, a dderbyniodd olyniaeth y Penrhyn drwy briodas yn 1840. Cymaint oedd brwdfrydedd y Barwn fel y cyfrannodd adroddiad drwy law ei asiant Wyatt yn 1843, dan y teitl eithriadol nawddoglyd ‘To the Farming Peasantry of the Penrhyn Estate’, gyda’r bwriad o wella hwsmonaeth gyffredinol ffermydd ei stad. Fel canlyniad sefydlwyd yr Home Farm i feithrin yr holl dir a gynhwyswyd oddi fewn i ffiniau’r parc, a chynlluniwyd y fferm yn fodel o foderniaeth i gynnwys stablau, llaethdy, beudai, ysguboriau, siediau  ar gyfer dyrnu a chadw’r wagenni ac offer a bythynnod i gartrefu’r gweision. Oherwydd nad oedd yno gyflenwad o ddŵr i weithio peirianwaith y fferm defnyddiwyd injan stem at y gorchwyl penodol hwn ac yn y buarth gerllaw lleolwyd yr injan dân i warchod rhag i’r plasty gerllaw gael ei losgi i lawr. Mae’n gywir nodi mai cynllun sylfaenol yr ‘Home Farm’ oedd i raddau helaeth yn gynsail i adeiladau fferm Coetmor, yr un ar gychwyn a’r naill ar ddiwedd, teyrnasiad goleuedig yr ’Hen Lord’ wrth lyw y Penrhyn. Fel dull pellach i hyrwyddo’r gwelliannau sefydlodd nifer o gyfarfodydd cystadleuol i feirniadu cynnyrch ei stad a chyflwyno gwobrwyon i’r ffermwyr gorau gyda chwpanau arian i’w hennill gan y buddugwyr. Mae’n ddiddorol sylwi fel y gwahaniaethai’r ‘Hen Lord’ rhwng gwobrwyo cynnyrch y ffermwyr ‘mynyddig’, gan gyfeirio at ffermydd llwyfandir Llanllechid yn bennaf, rhag gwobrwyon i ffermwyr yr iseldir ‘hendrefol’. Serch hynny yr oedd y gwobrwyon ariannol yn rhyfeddol o hael o ystyried y cyfnod, er enghraifft, £8 i Elias Williams y Bronydd a Gruffydd Evans Bryn Eithin yn yr ucheldir, tra cofnodir yn fanwl eitemau llwyddiant fferm Aberogwen am un flwyddyn fel a ganlyn – £8 am drin y fferm, £5 am y cae rwdins, £3 am y tarw, £4 am yr heffrod, £3 am y cae haidd a £1.10. am aredig. Nodir hefyd fod ffermydd y stad i’w teilo’n dda gydag ychwanegiadau o lwch esgyrn a giwano.

Mae’n wir y gellir cofnodi fod enw stad y Penrhyn ar un amser yn llawer uwch ei barch ac yn fwy derbyniol ymysg ffermwyr y fro nag a oedd ymysg gweithlu’r chwarel, a hynny am resymau a ddylai fod yn dra amlwg. I raddau golygodd hyn fod math o ddeuoliaeth gymdeithasol anweledig ac answyddogol wedi datblygu i rannu’r ardal rhwng y gymdeithas amaethyddol dderbyniol, ewyllysgar a cheidwadol, a chymdeithas fwy herfeiddiol wleidyddol, ymosodol ac anoddefgar a berthynai i’r chwarel. Adlewyrchir y rhaniad cymdeithasol hwn mewn ardaloedd chwarelyddol eraill yng Ngwynedd, ac sydd yn elfen bwysig nas ymchwiliwyd hyd eto ym mhatrwm cymdeithasol y bröydd hyn.

Ac i gloi ar nodyn diddorol mae aradr rasio Coetmor a ddefnyddid mewn cystadlaethau aredig wedi ei diogelu fel rhan o gasgliad yr Amgueddfa Werin yn San Ffagan, Caerdydd, ac wedi ei chyflwyno i’r Amgueddfa gan y diweddar Ifor Williams, sef Ifor Coetmor a fu’n byw ar fferm Coetmor am ran helaeth o’r ugeinfed ganrif.

Gwybodaeth

Dafydd Jones, Fferm Coetmor Isaf, Bethesda; Geraint Harper, Home Farm, Llandygái

Ffynonellau

Hugh Derfel Hughes. 1866. Hynafiaethau Llandegai a Llanllechid. Bethesda

Peter Ellis Jones, 1981.  The Wyatts of Lime Grove, Llandygái. Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon, 42, 81-116

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s