Coedwig Coetmor

Coetmor 1900
Cynllun Telford 1820 o’r ffordd bost rhwng Bryn Bella a safle Bethesda yn dangos rhan o Goedwig Coetmor. Trwy ganiatâd yr Archifdy Cenedlaethol, Kew

Ymwelodd Thomas Pennant â phlasty Coetmor ar ei daith drwy Ogledd Cymru yn 1781 gan gyfeirio mewn disgrifiad dramatig at safle’r plas ’seated in the midst of lofty trees every now and then opening so as to admit sight of the exalted mountains and rocks soaring above with misty tops’. Cyfeirio yr oedd wrth gwrs at y goedwig dderw drwchus, ‘y coed mawr’, a roddodd yr enw i’r hen blasty nodedig hwn. Ers ymweliad Pennant  mae rhan helaethaf o’r goedwig wedi ei thorri i greu caeau i fferm bresennol Coetmor. Pan oedd Thomas Telford yn adeiladu’r ffordd bost drwy Ddyffryn Ogwen yn 1815 fe wnaeth fap o’r cymal o Fryn Bella i bont Afon Ffrydlas a dengys y map hwn faint y goedwig. Bryd hynny yr oedd y coed yn ymestyn i’r dwyrain o Lôn Bach Odro i Ddol Goch ac o lan Afon Ogwen hyd at safle chwarel Llety’r Adar lle saif Capel Bethania heddiw. Mae enw’r chwarel, hyd yn oed, yn cyfleu coedwig mor drwchus oedd yno ac mae’n amlwg y gorfu i Telford dorri llwybr ei ffordd drwy ei chanol. Yn rhyfeddol, mae rhannau o’r goedwig yn aros hyd heddiw mewn parciau bychan digyswllt ar ymyl gogleddol y pentref. Mae Cae Gas yn ogystal â’r goedlan dderw fechan sydd dros y ffordd yn un o nifer o enghreifftiau a oroesodd ddymchweliad y goedwig wreiddiol. Yn nes i’r gogledd canfyddir Parc Wil Coed, Parc Sion Ifan, a’r mwyaf diddorol ohonynt oll, efallai, Parc Bwtsieriaid sydd y tu cefn i rai o dai Ffordd Bangor lle byddai cigyddion Bethesda yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn lladd eu hanifeiliaid ar gyfer y farchnad gig.

Y dderwen yw brenhines y goedwig, y goeden sy’n cynrychioli uchafbwynt datblygiad llystyfiant naturiol ein rhan ni o orllewin cyfandir Ewrop. Yn fuan wedi diflaniad y rhewlifoedd oddeutu deuddeg mil o flynyddoedd yn ôl daeth rhywogaethau blodau alpaidd a gweiriau i feddiannu’r tir ac mae’r olyniaeth yn dilyn gydag ymddangosiad coedlannau bedw, ynn a phinwydd cyn i’r goedwig ddatblygu i’w huchafbwynt gyda sefydliad y dderwen fel y brif goeden. O’r cychwyn cyntaf mae dyn wedi ymyrryd â llystyfiant naturiol ei gynefin drwy ei thorri a’i ystumio i greu tirlun addasedig ac amgylchfyd o’i ddewis ei hun.

 

Coed brynderwen1
Coed Brynderwen

Felly, rhan o goedwig fwy estynedig yn dyddio o’r Canol Oesoedd a fyddai, ac a yw, gweddillion Derw Coetmor heddiw – un o goedwigoedd brenhinol Eryri – ac mae’n debyg mai yn y ddeuddegfed ganrif y dechreuwyd ymosod ar y goedwig wreiddiol yng Ngwynedd. Dengys tystiolaeth y paill o safleoedd megis Llyn Idwal, Nant Ffrancon a Llyn Cororion fod ciliad sylweddol ym mhaill rhai o’r coed pwysicaf wrth i’r goedwig gael ei thorri i greu caeau, a chyflenwi coed ar gyfer adeiladu a thannwydd. Ac wrth i lennyrch agor yn y goedwig yr oedd anifeiliaid gwyllt a dof, ceirw, geifr a defaid yn bennaf, yn atal y coed rhag ail dyfu. Datblygiad arall yn y goedwig oedd i archeolegwyr ganfod helfa ceirw brenhinol a berthynai, yn ôl y ddamcaniaeth, i Lywelyn Fawr ar dir stad Bryncir yng Nghwm Pennant. Yno neilltuwyd rhan o’r goedwig ar ffurf hanner crwn ar gyfer gyrru’r ceirw at agoriad cyfyng lle’r oedd y saethwyr yn eu disgwyl, a chredir mai hon yw’r helfa gyntaf o’i bath i gael ei hadnabod yng Ngwynedd er bod eraill wedi eu darganfod i’r dwyrain yng Nghlwyd. Ni chafodd ceirw eu difa o goedlannau Eryri hyd at 1626, a chyn hynny yr oeddynt yn bla i amaethwyr fel y cyfeiriodd John Leland  atynt wrth deithio’r ardal rhwng 1536 a 1539.

Erbyn yr unfed ganrif ar bymthegfed  gallai Leland gyfeirio at goedydd Eryri fel ‘meatly good woods’ a rhydd sylw arbennig i’r coed yng Nghoetmor a Choed y Parc. Mae’n amlwg fod bylchau mawr wedi bod ac yn dal i ddigwydd yn y goedlan olaf hon erbyn 1768, ffaith a adlewyrchir yn enwau rhai o’r lleiniau a berthynai i ffermydd a thyddynnod yr ardal. Ar fferm Coed y Parc yr oedd llain pedwardeg acer yn dwyn yr enw ‘coed’, ac un  tebyg yn ddeunaw acer ym Mryn Llys. Roedd llain ‘coed y ddôl’ o’r un maint yn y Ddôl, a chlwt arall o ddeunaw acer ‘maes y gollen’ yn Nhŷ Hen ac yng Nghilgeraint roedd tair acer y ’waen helyg’.

Y rhyfeddod yw bod coedlan ‘y coed’ yn aros hyd heddiw yng Nghoed Bryn Meurig a rhai o dderw mwyaf a hynaf yr ardal yn britho’r goedwig hon. Cynyddodd yr ymosodiadau ar y coedlannau yn ystod y canrifoedd a ddilynodd wrth i amaethyddiaeth ledaenu a chreu newidiadau mawr yn y tirlun. Sefydlwyd defaid fel un o brif gynheiliaid y gyfundrefn ffermio, ac yn yr ail ganrif ar bymtheg gwnaethpwyd cyfnewidiadau sylweddol i’r amgylchfyd gan economi a gyfeiriwyd at fagu gwartheg ar gyfer y porthmyn. Adlewyrchir hyn eto yng nghofnod y paill, yn arbennig felly gyda gostyngiad mewn coedydd helyg. Unwaith yn rhagor mae enwau caeau ffermydd Dyffryn Ogwen yn Arolwg 1768 yn ategu hyn gyda 116 allan o gyfanswm o 2205 o gaeau’r Arolwg yn cynnwys y gair ‘gwern’, sef 5.2% o’r cyfanswm. Mae’n amlwg felly fod yr ardal ger yr afonydd, ac yn arbennig yn y Wern Fawr, cors anferth rhwng Cororion a Lôn Isa, yn arwydd o ba mor llaith oedd rhannau o Ddyffryn Ogwen ar ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Heddiw mae prosesau dilyniant naturiol llystyfiant i’w gweld heddiw ar waith yn Ffridd Tŷ’n Clwt. Yno mae’r goedwig yn ail sefydlu ei hun wrth i goed derw ieuanc gychwyn tyfu unwaith eto ar ffridd a oedd hyd at ddeugain mlynedd yn ôl yn dir pori agored rhwng man dociau o brysgwydd a llwyni. Absenoldeb defaid o’r ffridd yw’r prif reswm am yr adfywiad sydd, wrth gwrs gan brofi anifail mor niweidiol yw’r ddafad i lystyfiant naturiol ardal Dyffryn Ogwen.

Ffynhonnell

Rhind, B. Jones. 2003 The Vegetation History of Snowdonia since the Late Glacial Period. Field Studies, 10, 539-552.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s