Tyn yr Hendre

Dyma gyfraniad gan Dafydd Fon, un o’n cyfranwyr gwâdd.

Wrth fwrw golwg ar fap Arolwg Degwm 1840 o ddaliadau gwaelod plwyf Llanllechid, mae Tyn Hendre yn sefyll allan fel ploryn unig, oherwydd mai dyma’r unig ddaliad yn yr ardal honno nad yw’n eiddo i George Hay Dawkins Pennant. Perchennog Tyn Hendre yw uchelwr arall, sef Iarll Egmont. Roedd hwn yn aelod o deulu pwerus Percival, gyda chanolbwynt eu tiroedd yn Iwerddon a Gwlad yr Haf. Fodd bynnag, roedd yr Iarll yn berchen ar un ar bymtheg o ddaliadau o wahanol faint yn Llanllechid, i gyd, ar wahân i Dyn yr Hendre, o gwmpas pentref Llanllechid, a rhwng Lôn Coed ac afon Ogwen. Tiroedd oedd y rhain a fu, unwaith, yn perthyn i hen stâd Coetmor, cyn i honno fynd ar chwâl trwy orchymyn Llys y Siansri yn 1801-2. Mae’n debyg i’r daliadau hyn yn Llanllechid ddod i ddwylo Iarll Egmont trwy briodasau gyda Wyniaid Coetmor, a phriodas yr Iarll ei hun gyda Jane Wynne o’r Wern.

Bid a fo am hynny, daliad gweddol fychan o 63 acer  ar y llethrau oedd Tyn Hendre yn 1840, pan oedd yn cael ei ffermio gan Richard Thomas a’i bartner. Oherwydd na fu yn rhan o diroedd Stâd y Penrhyn,  gyda’i chofnodion manwl o weithredoedd, mae’n anodd cael cyfeiriadau cynnar ati, ar wahân i fap o’r daliad yn 1786,’ belonging to James Coytmore Pugh’.

Yn ôl Cyfrifiad 1851 roedd tri Tyn Hendre, un yn 20 acer, un arall yn 26 acer, a’r olaf yn 10 acer, i gyd yn cael eu ffermio gan dri theulu gwahanol. Beth bynnag, roedd tro ar fyd ar ddod i’r fferm. Erbyn 1848, fel holl ddaliadau Iarll Egmont yn y plwy, roedd wedi mynd i ddwylo’r Penrhyn, ac, fel rhan o ad-drefnu tiroedd y stâd, gwnaed newidiadau mawr i’r fferm. Penderfynwyd gwneud un fferm fawr o nifer o ddaliadau canolig a bychain o’i chwmpas, a’u huno yn un fferm o dan enw Tyn Hendre. Roedd hen fferm Winllan ar y llethrau; roedd hon yn ddaliad o 52 o aceri. Yn Nhachwedd 1855 nodir yn Llyfr Rhent y Penrhyn land added to Tyn Hendre, a diflannodd Winllan am byth (Erys ei henw yn y goedlan garegog, Marian y Winllan, sef y cyfair coed sy’n cario’r un enw heddiw, ac a roes ei enw i Tan y Marian, a adeiladwyd ar y llethrau oddi tani). Mae teulu Hugh Hughes yn ei ffermio yn ôl Cyfrifiad 1851, ond nid oes sôn am Winllan yng Nghofnodion 1861.

Y fferm fwyaf ar derfyn de-orllewinol Tyn Hendre, rhyngddi hi a Winllan,  oedd Tŷ Gwyn, fferm 143 o aceri, yn ymestyn o’r llethrau i lawr gwlad. Yn 1855 nodir yn y llyfr rhent land added to Tyn Hendre. Yn wahanol i Winllan, cadwyd y tŷ yn yr achos hwn, gan ei osod i un o giperiaid y stâd, ac yn 1861, Richard Butler, Gamekeeper, a aned yn Swydd Rhydychen, oedd yn byw yno. Ugain mlynedd yn ddiweddarach, cipar arall o Sais oedd yno, dyn o’r enw Gumbelton.  Bum mlynedd cyn uno Tŷ Gwyn a Thyn Hendre, yn 1850, roedd rhan o hen dyddyn Tyddyn Fertos (oherwydd dieithrwch y gair, mae sawl fersiwn o’r enw, pob un yn ddieithr), wedi ei ychwanegu i diroedd Tŷ Gwyn. Aeth gweddill tir y tyddyn bychan i ddaliad arall, felly roedd Tyddyn Fertos, hefyd, bellach wedi diflannu. I Dyn Hendre, hefyd, yr aeth Tyddyn Isaf, daliad oedd wedi cael ei osod am nifer o flynyddoedd gyda Thyddyn Fertos, felly roedd yn rhesymol i’r ddau ddaliad fynd efo’i gilydd.

Ble mae tai Tan y Lôn yn awr, roedd hen dyddyn bychan 10 acer Tyddyn y Lôn; yn 1855 nodir land added to Tyn Hendre and cottage let separately. O Galan Gaeaf 1855 gostyngwyd rhent Talybont Public House oherwydd Land added to Ty’n Hendre. Roedd Talybont Public House yn nhenantiaeth Henry Ellis, aelod arall o’r teulu lluosog, yn gefnder i Ellisiaid Cefnfaes. Roedd, hefyd, yn rhentu Cae’r Ffos a Thyddyn Cwta.

 Erbyn 1861 roedd Tyn Hendre wedi tyfu’n sylweddol, yn fferm o 242 acer, ac yn cael ei rhedeg, ers ei ffurfio’n derfynol yn 1856, gan Sais 31 oed (yn 1861)o’r enw Charles Newcomb Bicknell, oedd yn enedigol o ardal Coventry. Er mai mab i was fferm oedd Bicknell, mae’n amlwg ei fod yn ffermwr galluog, oherwydd yn 1851, ac yntau ond yn 21 oed, ef oedd tenant fferm 260 acer Cae Mawr yn Llaniestyn, Ynys Môn, ar stâd Bulkeleys, Baron Hill. Roedd yn talu rhent, o dan yr enw C Bicknell and Son, o £320 y flwyddyn am y fferm. Ymhen ychydig, yr oedd Bicknell, hefyd, yn arwerthwr, gyda swyddfa ym Mangor. Nid tenant o ffermwr arferol oedd Bicknell, ond un o swyddogion y stâd, hefyd, ac roedd rheswm penodol am hynny. Yn ôl cynlluniau rheolwyr Stâd y Penrhyn, er y byddai Tyn Hendre yn fferm arferol yn ei hanfod, fe’i bwriadwyd, yn benodol,  i arbenigo mewn magu ceffylau, yn gobiau, ceffylau gwedd, a cheffylau tynnu coetsys a marchogaeth, gyda’r ceffylau at ddefnydd ffermydd cyfagos, y stâd yn gyffredinol, a theulu’r Penrhyn eu hunain. Hi fyddai bridfa a magwrfa ceffylau Stâd y Penrhyn. O’r herwydd, byddai’r tenant yn fwy na thenant arferol. Yn unol â’r bwriad, erbyn 1862, fe welir fod £20 o rent y fferm yn cael ei dalu gan The Penrhyn Home Farm; hynny, mae’n sicr, i adlewyrchu’r magu ceffylau ar gyfer y stâd a ddigwyddai yno.

 

Yn ogystal ag uno’r tiroedd, oddeutu 1860, yn unol  â’r bwriad o arbenigo,  fe gododd y stâd adeiladau newydd ar gyfer y fferm, yn ogystal â thŷ newydd, gyda’r cyfan i fod yn fodel o fferm. Mae’r tŷ wedi ei adeiladu gryn bellter (70 medr) oddi wrth yr adeiladau amaethyddol, sy’n eithriad hyd yn oed i fferm fodel, ond nid yw hynny ond yn adlewyrchu’r ffaith mai swyddog stâd, yn hytrach na thenant cyffredin, sy’n byw yno. Mae’r tŷ ar batrwm lled-Gothig a ddefnyddiwyd yn gyson gan  y Penrhyn ar gyfer ei hadeiladau yn ail hanner y 19 ganrif, ar ffurf H, deulawr, gydag adeiladau allan ar ffurf L ynghlwm yng nghefn y tŷ.

 

Mae’r adeiladau amaethyddol wedi eu cynllunio a’u hadeiladu yn ôl cynlluniau modern yr oes, gyda’r pwrpas o fod yn ymarferol, hawdd gweithio ynddynt, a’u cynnal, yn gadarn a chymesur, ac yn hawdd gweithio yn eu gofod. Er y cafodd beudai, ysgubor, a thylciau moch eu codi, y prif adeiladau oedd y stablau ar gyfer ceffylau.

Adeiladau cymesur ydynt, wedi eu trefnu’n 4 ochr o gwmpas cowt sgwâr, gyda thoeau o lechi, wedi eu hawyru. Mae beudai’r gwartheg ar yr ochr orllewinol, gyda stablau’r ceffylau ar hyd yr ochr ogleddol, a hanner yr ochr ddwyreiniol.

Mae gweddill yr ochr ddwyreiniol wedi ei neilltuo ar gyfer gofod i gadw troliau ac ati, tra bo llofftydd granar uwchben y stablau. Mae’r cyfan yn dangos obsesiwn oes Fictoria efo trefn a chynllun, ac yn sicrhau, yn yr achos hwn, ofod trefnus, hawdd gweithio ynddo, a chysur i’r anifeiliaid, yn enwedig y ceffylau gwerthfawr.  Mae’r adeiladau hyn yn dangos y fformiwla oedd gan reolwyr stâd y Penrhyn ar gyfer eu ffermydd; rhyw ddeng mlynedd ar hugain yn ddiweddarach, yn nechrau’r 1890au, fe adeiladodd y stâd eu hadeiladau amaethyddol olaf yn eu cynllun gwelliant, sef adeiladau fferm Tai’r Meibion, ac y mae’r rhain, ar wahân i’r diffyg pwyslais ar y stablau, ar yr un cynllun ag adeiladau Tyn Hendre. Oherwydd bod yr adeiladau hyn wedi profi’n hynod o ymarferol a defnyddiol , ynghyd â chadarn eu hadeiladwaith, dros y blynyddoedd, ni fu fawr ddim newid arnynt, ac, oherwydd eu bod mor agos i’r gwreiddiol, y mae adeiladau amaethyddol y ddwy fferm, yn ogystal â’r tai,  wedi eu rhestru.

Er mai Sais oedd preswylydd cyntaf  Tyn Hendre, yn ôl i ddwylo Cymry y daeth yn weddol fuan. Bu Bicknell farw yn ŵr gweddol ifanc 46 oed yn 1876, a daeth Owen Ellis i  Dyn Hendre. Mab oedd ef i ysgolfeistr Llanfaelog ym Môn, ond un a oedd wedi ei eni yn Nhalybont, ac wedi priodi merch Aberogwen. Er bod yr enw’n awgrymog, nid wyf, hyd yn hyn, wedi gallu ei gysylltu ag Ellisiaid niferus y plwyf. Bu ef farw’n weddol ifanc, ond ei deulu ef fu’n ffermio Tyn  Hendre am ddegawdau wedi hynny.

Fel ôl-nodyn, rhag ofn i rywun gael darlun o luchio tenantiaid druan ar y clwt wrth uno daliadau i greu Tyn yr Hendre yn 1855, rhaid dweud nad felly y bu. Yn wahanol i nifer o stadau, roedd gan y Penrhyn yr enw o fod yn dda gyda’u tenantiaid amaethyddol, os oedd y rheiny’n ffermwyr effeithiol. Dyna fu yn yr achos hwn. Rhoddwyd tenantiaeth ffermydd mwy i’r ddau ffermwr a gollodd eu ffermydd wrth greu Tyn yr Hendre. Aeth Huw Hughes a’i deulu o Winllan i  Grymlyn, lle disgrifir ef yng Nghyfrifiad 1861 fel farmer of 100 acres, a rhoddwyd tenantiaeth Pant y Cyff, plwyf Llandygai, i Thomas Jones wedi iddo ef a’i deulu adael Tŷ Gwyn.

Erbyn heddiw, erys Tyn Hendre yn un o brif ffermydd yr ardal, ac erys yr adeiladau a adeiladwyd mor gadarn. Fodd bynnag, nid ceffylau, ond pobl, sy’n cael swcr yno heddiw, a hwy sy’n troedio’r stablau a fu unwaith yn rhan o gynlluniau uchelgeisiol Stâd y Penrhyn yng nghanol Oes Fictoria.

Ffynonellau

Dogfennaeth y Penrhyn yn Archifdy Prifysgol Bangor, yn enwedig Llyfrau Rhent

Ystadegau Cyfrifiad 1841 – 1911

Cofnodion Geni, Priodi, a Marwolaethau Dosbarth Bangor

Gwefan  ‘British Listed Buildings’

Cynlluniau Cyngor Gwynedd i restru pentref Llanllechid

Un sylw ar “Tyn yr Hendre

  1. Hoffwn ychwanegu mai rhent Tyn Hendre oed £320 y flwyddyn yn 1860; mae fy mrawddeg wreiddiol yn awgrymu mai rhent Cae Mawr oedd hynny. Ymddiheuriadau!

    Ers ysgrifennu’r darn hwn yn wreiddiol, yr wyf wedi gwneud ychydig mwy o ymchwil, ac yr wyf am awgrymu newid. Nodaf mai Gwefan British Listed Buildings sy’n dweud mai’r rheswm am y ffaith fod ty ac adeiladau amaethyddol Tyn Hendre gryn bellter oddi wrth ei gilydd oedd oherwydd y bwriadwyd y ty ar gyfer un o swyddogion y Penrhyn. Derbyniais innau air yr arbenigwyr! Fodd bynnag, nid wyf wedi gweld unrhyw gyfeiriad at Charles Bicknell fel un o swyddogion y Penrhyn, ac nid oes gofnod ohono ar unrhyw gyflogres a welais. Mae pob cyfeiriad ato yn ei nodi fel Amaethwr ac arwerthwr, gyda swyddfa ym Mangor. Yn dilyn hyn, hoffwn awgrymu rheswm arall pam fod ty’r fferm a’i hadeiladau ar wahan, yn wahanol i ffermydd eraill y stad.
    Fe wnaed map o waelod Llanllechid ar gyfer Stad y Penrhyn yn 1822, yn dangos yr holl dai/ daliadau. Enwir rhai, ond dim ond dangos eraill a wneir. Yng nghyffiniau’r Tyn Hendre presennol dangosir dau annedd, heb fod ymhell oddi wrth ei gilydd, ar ochr ogleddol gwaelod ffordd Nant y Garth. Ni ddangosir unrhyw annedd ar yr ochr ddeheuol, ble mae Ty Gwyn heddiw. Dangosir pob ty annedd arall yn yr ardal. Tybed ai Tyn Hendre oedd yr uchaf o’r ddau hyn, a Thy Gwyn yr isaf? Byddai hynny cydfynd gyda lleoliad tiroedd y ddwy fferm wreiddiol. Byddai’n rhesymol, wedyn, wrth greu daliad newydd, i ddefnyddio safle Ty Gwyn ar gyfer adeiladau’r fferm, a safle Tyn Hendre ar gyfer y ty newydd. Yna adeiladwyd ty newydd ar gyfer un o giperiaid y stad yr ochr arall i’r ffordd, a roi hen enw Ty Gwyn arno.
    Erys mwy o ymchwil i’w wneud ar hyn yng nghofnodion manwl y Penrhyn, ond mae’n awgrym dilys o’r dystiolaeth newydd a ganfum

    Hoffi

Gadael sylw