
Mae’n siŵr fod Dr Hughes, pwy bynnag oedd o, wedi gobeithio gwneud ei ffortiwn yn cloddio am lechi yn y chwarel sy’n dwyn ei enw ar lethr Mynydd Moel yng Nghwm Caseg. Ond Dr Hughes fentrus ac anwybodus oedd o, oherwydd cloddio yr oedd mewn brig o shalgraig Ordoficaidd gwael ac nid mewn haenau llechfaen Cambriaidd megis yn Chwarel Cae Braich y Cafn. Mae mân lefelau’r chwarel bitw yn dyddio i tua 1860, cyfnod pan oedd anturwyr blysiog yn heidio i Wynedd yn y gobaith o efelychu ffortiwn teulu’r Penrhyn. Er enghraifft, cyflogodd perchnogion y Royal Bangor Slate Company, cwmni o Lundain oedd yn ceisio datblygu Chwarel Bryn Hafod y Wern yn 1854, chwarelwr i agor lefelau arbrofol mewn tri gwahanol fan yng Nghwm Caseg, sef Llidiart y Graean, Clogwyn yr Heliwr a Phant y Daren. Ac ym mhellafoedd eithaf Cwm Caseg fe gynlluniwyd chwarel enfawr ar bared Cwm Bychan wrth droed Carnedd Llewelyn, ac fe agorwyd ffordd drwy’r dyffryn ar gyfer y fenter aflwyddiannus.
Perthyn un nodwedd arbennig i chwarel Dr Hughes a hwn yw’r barics a adeiladwyd ychydig bellter oddi wrth safle’r gloddfa. Yn yr adeilad, sydd bellach mewn cyflwr pur ddrylliedig, mae hyd at ddeuddeg o ystafelloedd, ac mewn chwarel sydd mor ddiarffordd gellir deall y rheidrwydd i baratoi cyfleuster o’r fath ar gyfer gweithlu a fyddai’n aros yn barhaol ar y safle yn ystod yr wythnos waith. Nid oedd barics yn rhan o’r ddarpariaeth ar gyfer gweithlu Chwarel y Penrhyn megis yr oedd yn Chwarel Llanberis ac mae darganfod enghraifft o adeilad o’r fath yn cyfoethogi cofnod diwydiannol Dyffryn Ogwen.

Yr oedd yn rhaid wrth fuddsoddiad pur sylweddol cyn gallu mentro agor chwarel. Nodir mewn adroddiad i Gomisiynwyr y Brenin yn 1824 fod Dawkins Pennant, Arglwydd y Penrhyn, wedi gwario £2,131,15,6½ yn agor lefelau arbrofol ym Mryn Hafod y Wern rhwng Hydref 1818 ac Awst 1824 a gynhyrchodd gwerth £173. 6. 3 o lechi yn unig. Mae’n amlwg hefyd fod rhai o gyfalafwyr amlycaf Prydain y cyfnod yn rhan o’r fenter o ddatblygu chwareli yng Ngwynedd. Yn gynnar yn 1825 yn ystod cyfnod o ymelwa brwd sefydlwyd cwmni The Welsh Slate, Copper and Lead Mining Company gan ‘a company of gentelmen’, dan arweinyddiaeth teulu’r Rothschild a chyda’r Arglwydd Palmerston yn un o’r cyfarwyddwyr, i ymholi am chwareli i’w gweithio ym Methesda, Nantlle a Ffestiniog. Nod y cwmni oedd cael ‘take note of some promising ground, where from £20,000 to £50,000 might be laid out to profit’ ond ni chofnodwyd pa chwareli a archwiliwyd yn Nyffryn Ogwen gan y consortiwm. Serch hynny dengys ymholiadau o’r fath gymaint yr oedd hapfasnachwyr am fentro’n ariannol i geisio efelychu llwyddiant teulu’r Penrhyn yn datblygu’r farchnad yn y diwydiant llechi.
Chwarel pur wahanol oedd yr un a ddatblygwyd wrth droed y Gyrn ar gyfer cynhyrchu cerrig sets. Nid yw dyddiad y datblygiad yn wybyddus na phwy oedd y datblygwyr, ond mae’n amlwg yn perthyn i gyfnod canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg pan oedd chwareli tebyg yn datblygu’n llwyddiannus ym Mhenmaenmawr. Ond nid oedd disgwyl i chwarel mewn lleoliad mor ddiarffordd lwyddo er bod tramffordd ar rheiliau wedi ei datblygu hyd at Fwlch Molchi, a ffordd oddi yno i Dan y Foel er mwyn dwyn y cerrig i gyrraedd y farchnad. Mae’r holl ddatblygiadau aflwyddiannus hyn yn destament i awch datblygwyr estron gan fwyaf i greu llwyddiant tebyg i Chwareli y Penrhyn neu Benmaenmawr, ond heb y cyfalaf na’r wybodaeth angenrheidiol o ddaeareg na lleoliad i wneud y mentrau yn llwyddiant.
Ffynonnellau
Dylan Pritchard. 1942. Historical Aspects of the Welsh Slate Industry: early days of the Slate industry. Quarry Managers’ Journal, July, 1942.
Dylan Pritchard. 1942. The Financial Structure of the Slate Industry: of North Wales 1780-1830. Quarry Managers’ Journal, December, 1942.