
Ar dro’r ddeunawfed ganrif, yr oedd dyffryn cul afon Galedffrwd yn ferw gwyllt gan ddiwydiant a oedd lawn mor arbennig, er yn llawer llai peryglus, na’r fenter gloddio am arsenig yn Nolawen. Yn yr Ocar datblygwyd gwaith i adennill clai ocr o ystlys yr afon uwchlaw safle’r Felin Fawr. Ocsid haearn sy’n gyfrifol am greu amrediad o liwiau naturiol, sy’n amrywio o felyn, coch a haenau o gochddu, mewn clai neu dywod mân. Yn y cyfnod modern defnyddid ocr i liwio paent, ac ocr wedi ei gymysgu â saim oedd un o’r prif bigmentau ar blât lliwiau’r artistiaid hynny a oedd yn gyfrifol am baentio mewn ogofau yn ystod cyfnod yr Uwch Balaeolithig oddeutu 14,000 o flynyddoedd yn ôl. Ac ym Mhafiland, ogof ar arfordir Penrhyn Gŵyr yn Ne Cymru , darganfuwyd beddrod gŵr ieuanc a’i esgyrn wedi eu gorchuddio mewn ocr coch fel pe byddai’n ymgais i roddi’r gwaed yn ôl yn y corff marw. Dyddiad y beddrod enwog hwn, a adweinir yn gamarweiniol fel y ‘ferch goch o Bafiland’, yw oddeutu 33,000 o flynyddoedd yn ôl. Ocr hefyd oedd y sail i liwiau melyngoch rhai o artistiaid pennaf y Dadeni gydol y bedwaredd ganrif ar ddeg hyd at y bymthegfed yn Ewrop. Ac felly y mae gan ocr ei dras fonheddig sy’n ymestyn yn ôl i gyfnod cyn hanes.
Gŵr o’r enw William Hughes o Gaernarfon a sefydlodd y gwaith ocr yn y ceunant gerllaw’r Felin Fawr yn 1793. Y rhyfel rhwng Ffrainc a Prydain, a dorrodd allan yn 1793, oedd cychwyn y gwaith ocr yn nyffryn y Galedffrwd. Ffrainc oedd prif gynhyrchwyr ocr y cyfnod cyn hynny. Darganfuwyd y broses o gynhyrchu ocr ar raddfa ddiwydiannol gan wyddonydd o Ffrainc, Jean-Etienne Astier, a hanai o Roussilion ym Mhrofons lle’r oedd clogwyni o ocr yn britho amgylchedd yr ardal. Yn 1780 sefydlodd Astier y broses a ddilynwyd gan William Hughes ar y Galedffrwd ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach. Cyfyd hyn gwestiwn diddorol sef p’un ai dyfeisiwr ynteu efelychydd a oedd y gŵr o Gaernarfon?

Tyrchid y clai o geuffordd gul ar ochr y dyffryn a’i falu yn gymysg â dŵr mewn melin yr oedd ceffyl yn troi ei pheirianwaith. Yna gollyngid y gymysgedd i lynnoedd setlo pwrpasol i’w sychu drwy anweddu cyn torri’r cynnyrch yn dalpiau ar ffurf brics i’w sychu mewn odyn. Danfonid yr ocr wedi ei buro i Aberogwen i’w ddygyd oddi yno mewn llongau i farchnadoedd yng ngogledd Lloegr. Olynydd Hughes yn y gwaith oedd Joseph Wilson, gŵr lleol eto, ac ef a drosglwyddodd yr ynni i weithio’r felin yn fwy ymarferol o’r anifail i ddŵr afon Galedffrwd. Yr oedd prif geuffordd y gloddfa wedi ei lleoli y tu cefn i’r tŷ presennol sydd ar y safle ac yn ymestyn i gyfeiriad y de oddi tan y ffordd i Fynydd Llandygái. Mae ceg y geuffordd wedi’i chuddio gan dyfiant ac ysbwriel, ond ar ochr arall y dyffryn ar y llethr uwchlaw’r bont mae’n amlwg fod cloddfa arall wedi ei chychwyn. Mae’n bur debyg fod tŷ presennol yr Ocar wedi’i adeiladu ar safle’r felin, ond i gyfeiriad y dwyrain o safle’r bont mae’n ymddangos fod ymyl y dyffryn wedi ei derasu. Yn y drysni sydd yn y safle mae’n anodd gwybod ai nodweddion modern yw’r adeiladwaith carreg ar ffurf hirsgwar sydd i’w weld yno ond gallasai’r nodweddion hyn hefyd ddynodi lleoliad y tanciau gwreiddiol. Wrth gwrs mae’r holl nodweddion sydd ar safle’r Ocar yn haeddu ymchwiliad mwy manwl a ddylai ddigwydd yn y dyfodol.
Pan arwyddwyd cytundeb i derfynu rhyfel Boneparte yn 1815 daeth y fenter o gloddio’r ocr hefyd i ben. Erbyn hynny yr oedd y gwaith yn nwylo Samuel Worthington, yr entrepreneur o Lerpwl a fu’n sylfaenydd nifer o ddiwydiannau’r cyfnod yn Nyffryn Ogwen gan gynnwys y felin grisiant yn Llandygái. Yr oedd y gofyn am ocr hefyd wedi newid o ogoniant bwrdd lliw artistiaid y Dadeni, bellach i beintio hwyliau llongau pysgota mewn coch i’w gwarchod rhag yr heli. Ac yn nyffryn cul afon Galedffrwd dim ond y fynedfa i’r geuffordd lle y cloddiwyd y clai ocr sydd bellach yn aros.
Ffynonellau
Hugh Derfel Hughes. 1866. Hynafiaethau Llandygai a Llanllechid. Bethesda.
M. Bassett. 1974. Diwydiant yn Nyffryn Ogwen. Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon, 35. , 73-84.