Pwmp codi dŵr Easton ac Amos chwarel y Penrhyn

Dyma gyfraniad a ysgrifennwyd ar y cyd ag Idris Lewis, Ffordd Bangor

20190108_101456
Llun o ffos ddŵr wyneb agored yn llifo dan y bpnt ac i’r dde o’r llun

Dŵr, yn ail i lechen, oedd un o adnoddau pwysicaf chwarel y Penrhyn. Mantais fawr y chwarel oedd ei bod wedi ei lleoli ar drothwy dwy afon – afon Ogwen yn llifo o gyfeiriad y de ac afon Galedffrwd o gyfeiriad y gorllewin. Dyfroedd yr afonydd hyn oedd yn gyrru peirianwaith y gloddfa am ran helaethaf ei bodolaeth, a chynlluniau rheoli’r dŵr wnaeth arwain at gyflawni rhai o’r amcanion mwyaf anturus a drudfawr yn hanes y gwaith. Rhaid ond nodi yn fras rai o’r cynlluniau mwyaf uchelgeisiol. Er enghraifft, dŵr oedd yn gyrru’r saith lifft codi a oedd yn cysylltu â rhannau isaf twll y chwarel a dŵr o nifer o gronfeydd yn nyffryn afon Galedffrwd oedd yn cyflenwi’r cyfaint angenrheidiol i weithio peirianwaith y Felin Fawr. Dŵr o Bont Ogwen oedd yn gyrru’r compresor i weithio system ager dan wasgedd i dyllu’r graig yn y chwarel. Dŵr hefyd oedd y prif reswm dros ddargyfeirio rhan o afon Ogwen ym Mhont Ogwen yn 1922 rhag bod ei dyfroedd yn bylchu a gorlifo prif dwll y chwarel islaw.

20190108_100607

Prif strata daearegol y chwarel yw’r llechfaen, craig a ffurfiwyd o haenau gwaddodion llaid a silt a  gywasgwyd dan bwysedd metamorffig enfawr yn ystod y cyfnod Ordoficaidd. Mae’n graig galed a chryno sy’n hollti’n berffaith, ond nid craig hydraidd mohoni, ac felly nid yw dŵr yn cronni yn ei chyfansoddiad megis mewn calchfaen neu dywodfaen. O ganlyniad, ffynhonnell holl ddŵr wyneb y chwarel yw’r glaw sy’n disgyn ar y Fronllwyd ac ar safle eang y gwaith, a gall hwn fod yn rhai miloedd o alwyni y dydd, yn arbennig yn dilyn glaw cyson, storm neu eira. Wrth edrych ar hagrwch y gwaith heddiw mae’n bwysig sylweddoli nad cyfres o dyllau, ponciau a thomennydd digyswllt sydd yno. Yn hytrach roedd yn gweithredu fel un cyfanwaith cytbwys, gyda phob uned yn cyd asio, y naill â’r llall, a chydbwysedd y cynllun cyflawn o dan reolaeth rhediad y dŵr. Yn hanes y chwarel yr oedd cadw rheolaeth rhwng derbyn y dŵr wyneb, yn ogystal â’r dŵr peirianyddol uchod, ac yna ei waredu o’r safle yn ddiogel, yn hanfodol bwysig i’w bodolaeth a’i llwyddiant. Oni wneid hynny yna byddai’r holl chwarel yn boddi yn ei dyfroedd.

 

20190108_113706
Trawstoriad o bwmpiau’r chwarel

Y cynllun mwyaf sylfaenol yn hanes y chwarel oedd yr un a gyflawnwyd yn 1847 pan naddwyd twnnel tanddaearol 7 troedfedd wrth 6 troedfedd drwy’r graig er mwyn gwaredu holl ddŵr y gwaith. Tyllwyd y twnnel hwn o bonc Sebastapol sydd 380 troedfedd islaw prif bonc weithredol y chwarel yn Red Lion, gan griw o fwynwyr o Ferthyr Tudful, mintai o Formoniaid wrth eu crefydd, a adawodd yr ardal ymhen y rhawg i ymsefydlu yn Salt Lake City. Mae’r draen hon, sy’n gwagio ei dŵr i afon Ogwen yn Llyn Ceini gryn 1,837 llath o’i tharddiad, wedi ei nodi yn y ffigur sy’n dangos trawstoriad ffigurol o’r chwarel. I’r draen hon mae holl ddŵr wyneb y chwarel yn llifo drwy gyfres o gamlesi agored a ddosbarthwyd hyd wyneb y ponciau ac fe gâi’r rhain eu harchwilio yn ddyddiol i’w cadw’n glir rhag bo’u llif yn cael ei atal. Mae’r ffigur hefyd yn dangos fod dŵr o un o’r tanciau codi (B, sef tanc Sebastapol), pan oedd ar waelod y siafft hefyd yn llifo’n uniongyrchol i’r draen hon, ac felly hefyd i danciau Fitzroy, George a Douglas, yr oedd eu dŵr yn arllwys i’r draen mawr drwy nifer o dwneli atodol. Ond fel y dengys y ffigur mae’r ddau danc codi nesaf yn y ffigur (tanciau Lord a Lady) yn cyrraedd i ddyfnder islaw’r draen mawr. Roedd felly angen peirianwaith arbennig i godi’r dŵr, yn ogystal ag unrhyw ddŵr wyneb o berfeddion y twll, i ymuno â’r brif ffos uwchlaw ar bonc Sebastapol.

Y tanc dyfnaf yn y chwarel oedd  tanc Princess May (A, yn y ffigur), a oedd yn cyrraedd dyfnder o 480 troedfedd islaw ponc Red Lion. Yng ngwaelod siafft y tanc hwn lleolwyd pedwar pwmp (tri thrydan, un hydrolig) gyda’r gallu i godi cyfanswm o 6,250 galwyn o ddŵr y funud dros ddau gan troedfedd i gyrraedd y ffos fawr. Lleolwyd y pympiau nesaf mewn cell ddwbl (C yn y ffigur) gerllaw siafft B. Yno yr oedd dau bwmp hydrolig yn codi 800 galwyn o ddŵr y funud i uchder o 130 troedfedd i gyrraedd y ffos fawr. Gwneuthurwyr y pympiau hyn oedd cwmni Easton ac Amos o Lundain, un o gwmnïau enwocaf Prydain ym maes peirianneg hydrolig a sefydlwyd yn 1837.  Mae dyddiad adeiladu’r ddau bwmp, y cyntaf yn 1859 a’r ail yn 1872, yn nodi’n fras gyfnod eu mabwysiadu yn y chwarel. Er mwyn diogelu’r peiriannau pwmpio yn y ddau leoliad rhag eu gorlifo gan lifeiriant enfawr, adeiladwyd  gwrthgloddiau ychwanegol i’w gwarchod, a lle’r oedd yn angenrheidiol, bympiau atodol i ddihysbyddu’r dŵr yn ddiogel.

 

img031
Pwmp codi dŵr Easton ac Amosion

Ni ellir ond rhyfeddu at anferthedd a chymhlethdod y cynlluniau peirianyddol a ddyfeisiwyd i gadw Chwarel y Penrhyn yn sych, yn ddiogel, ac mewn gwaith am yn agos i ganrif a hanner, a hynny heb gyfrif y gost mewn llafur a’r buddsoddiad o’u gweithredu. Yn sylfaenol i hyn oll yr oedd elfen o barch gan y gweithlu yn ogystal â’r weinyddiaeth at adnoddau naturiol y gwaith. Peidiodd hyn pan ddaeth y chwarel i feddiant cwmnïau rhyngwladol wedi chwedegau’r ganrif ddiwethaf oedd â’u bryd ar ganibaleiddio’r adnodd ar allor proffid cyflym. Ac yn y broses collwyd pob parch at wychder y gorffennol – chwalwyd y ponciau, chwythwyd y graig yn yfflon gyda ffrwydron, a drylliwyd rhannau helaeth o lwybrau’r camlesi dŵr. Mae tynged un o bympiau unigryw Easton ac Amos yn cyfleu’r holl ddifrawder.  Aethpwyd ati, ar gost uchel mewn llafur ac arian, i godi, ddarn wrth ddarn holl beirianwaith y pwmp o ddyfnder ei leoliad gyda’r bwriad o’i ddiogelu fel symbol bychan, ond gweladwy, i genedlaethau’r dyfodol o orchestion y gorffennol. Yn anffodus, daeth newid olyniaeth yn y weinyddiaeth a daethpwyd i benderfyniad hurt mai gwell fyddai claddu’r peiriant o dan filoedd o dunelli o sbwriel yn hytrach na’i gadw. Y fath amarch at grefftwaith unigryw y gorffennol! A’r fath eironi ein bod wedi cael gwared ar beirianwaith ynni dŵr y gorffennol ond yn sylwi ar ei fanteision ac yn buddsoddi ynddo o’r newydd yn y presennol.

Gwybodaeth ychwanegol gan Idris Lewis,  Ffordd Bangor.

Ffynhonnell

The Penrhyn Quarry – over 150 years of progress. Llyfryn heb ddyddiad; cyhoeddwyd gan The North Wales Chronicle, Bangor.

 

Gadael sylw