
Rhwng Hydref 1758 a Mai 1759 bu Evan Evans (oedd â’r enwau barddol Ieuan Fardd ac Ieuan Brydydd Hir (1731-1788)) a oedd yn ysgolhaig, bardd, offeiriad ac yn bererin ansefydlog ei natur, yn gurad eglwys Llanllechid. Yng Nghymru hwn oedd cyfnod yr ‘eingl esgyb’ yn hanes yr Eglwys Anglicanaidd pan oedd yr holl esgobion yn Saeson uniaith heb na diddordeb na’r brwdfrydedd lleiaf i gynnal a hyrwyddo iaith a diwylliant Cymru.
Brodor o Ledrod yng Ngheredigion oedd Ieuan, ac fe’i haddysgwyd yn ysgol enwog Ystrad Meurig. Yn fachgen ieuanc dylanwadwyd arno yn fawr gan Lewis Morris, un o Forisiaid athrylithgar Môn a’i dysgodd yng nghelfyddyd cerdd dafod ac i werthfawrogi llenyddiaeth a hanesyddiaeth gynnar ei wlad. Yn Rhagfyr 1750 aeth i Goleg Merton, Rhydychen, ond ansefydlog fu ei arhosiad gan adael heb raddio yn 1753. Ddwy flynedd yn ddiweddarach derbyniwyd ef yn offeiriad yn eglwys Gadeiriol Llanelwy a dyna ddechrau ar ei bererindota fel curad a’i harweiniodd i nifer fawr o fywoliaethau yng Nghymru yn ogystal â nifer yn ne ddwyrain Lloegr. Yr oedd ei yrfa yn yr Eglwys yn un eithriadol rwystredig. Ni lwyddodd i sicrhau offeiriadaeth sefydlog yn unrhyw un o’r plwyfi y bu yn gwasanaethu ynddynt a gorfu iddo symud yn anfoddog a rhwystredig o un ofalaeth i’r nesaf. Ar un cyfnod cyn cyrraedd Llanllechid bu’n gaplan yn y llynges am ddeufis, a dro arall ymunodd â’r fyddin, profiad a barhaodd am bedwar diwrnod yn unig cyn i’r awdurdodau ei atal ar ôl darganfod ei fod yn offeiriad ac awgrymu ei fod hefyd yn dioddef o iselder.
Flwyddyn cyn iddo gyrraedd Llanllechid yn 1758 treuliodd Ieuan dri mis yn copïo barddoniaeth Gymraeg o Lyfr Coch Hergest yn Rhydychen, profiad a’i hysbrydolodd i ymchwilio i lawysgrifau cynnar Cymru drwy weddill ei oes. Yn saithdegau’r ganrif noddwyd ef am gyfnod gan Syr Watkyn Williams Wynn i ddefnyddio ei lyfrgell yn Wynnstay, ond wedi treulio rhai blynyddoedd yn ymchwilio yno ni lwyddodd i gyhoeddi ffrwyth ei ymchwil a surodd y berthynas rhyngddo a’r noddwr. Cyfrifid Ieuan yn un o bennaf awdurdodau Cymru ar y llawysgrifau cynnar a chymaint ei ysgolheictod oni ddaeth i gysylltiad personol â nifer o brif gasglwyr a hynafiaethwyr Lloegr a oedd yn awyddus i wybod mwy am ddiwylliant Cymru. I’r perwyl hwn y cyhoeddodd Ieuan yn 1764 gasgliad pwysig o gyfieithiadau a dadansoddiadau o farddoniaeth gynnar Cymru yn Saesneg sef Some Specimens of the Poetry of the Welsh Bards, cyfrol a sicrhaodd athrylith ysgolheigaidd Ieuan. Yn 1770 pan oedd yn gurad ym Maesaleg yn Sir Fynwy ysgrifennodd ei ‘Englynion i Lys Ifor Hael’ a ystyrir yn un o’i gyfraniadau barddonol pwysicaf.
Llys Ifor hael, gwael yw’r gwedd, ─ yn garnau
Mewn gwerni mae’n gorwedd;
Drain ac ysgall mall a’i medd,
Mieri lle bu mawredd.
Yno nid oes awenydd, ─ na beirddion,
Na byrddau llawenydd,
Nac aur yn ei magwyrydd,
Na mael, na gŵr hael a’i rhydd.
I Ddafydd gelfydd ei gân ─ oer ofid
Roi Ifor mewn graean;
Mwy echrys fod ei lys lân
Yn lleoedd i’r dylluan.
Er bri arglwyddi byr glod, ─ eu mawredd
A’u muriau sy’n darfod;
Lle rhyfedd i falchedd fod
Yw teiau ar y tywod.
Yr oedd blynyddoedd olaf Ieuan yn rhai trist a chythryblus iawn. Dioddefodd ar hyd ei fywyd gan aflwydd y ddiod, efallai’r prif reswm am ei ddiffyg i ennill cydnabyddiaeth yn yr Eglwys. Ar y llaw arall rhaid nodi nad oedd hierarchaeth yr Eglwys Anglicanaidd yng Nghymru yn barod i hyrwyddo gyrfa athrylith a ymddiddorai mewn cyfoethogi diwylliant ac ysgolheictod Cymru. Dyma anghyfiawnder yr oedd Ieuan yn ymwybodol ohono gan iddo ysgrifennu traethawd llym ei gondemniad o’r agwedd hon, ond truth nas cyhoeddwyd ganddo. Treuliodd Ieuan ddeng mlynedd olaf ei fywyd mewn anrhefn a chyni yn crwydro’r wlad ac yn byw ar garedigrwydd ei gyfeillion. Ar un cyfnod ceisiodd hyfforddiant i ddysgu Hebraeg ac Arabeg yng Nghaerfyrddin a dro arall ceisiodd yn aflwyddiannus agor ysgol yn Aberystwyth. Drwy gydol ei oes, ac yn arbennig yn ei gyfnod olaf, yr oedd yn awyddus i gyhoeddi ffrwyth ei ymchwil ond ni lwyddodd i ddenu cefnogaeth ariannol gan foneddigion Cymru i gyflawni’r gorchwyl. Ar ei farwolaeth pwrcaswyd can cyfrol o’i ymchwiliadau gan Paul Panton o’r Plas Gwyn ym Môn fel rhan o’r nawdd a gyfrannodd i Ieuan yn ystod ei lesgedd olaf. Eraill, felly a fyddai’n derbyn y clod ac yn ymelwa o’i ysgolheictod.
Mae’n bur debyg na fyddai plwyfolion Llanllechid wedi gwerthfawrogi ysywaeth eu cysylltiad byr dymor ag athrylith Ieuan Brydydd Hir, ys dywed yr hen ymadrodd wrth ystyried doniau rhai dynion galluog ‘lle bo camp mae rhemp’. Fel y dywedodd y bardd Siôn Dafydd Las wrth groniclo bywyd Ieuan :
‘Y gwŷr llên rhagor y lleill
A fyn gwrw’n fwy nag eraill’.
Ffynhonnell
Hugh Derfel Hughes. 1866. Hynafiaethau Llandegai a Llanllechid.
Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion. 19 53. Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940. Llundain.
Gweler hefyd y Bywgraffiadur Cymreig https://bywgraffiadur.cymru/article/c-EVAN-EVA-1731
Gweler hefyd Eglwys Llanllechid.