Jamaica

jamaica b

Rhan o fap Archifdy Prifysgol Bangor. Penrhyn 2790 – cynllun stadau siwgr Richard Pennant yn Jamaica – Denbigh, Coates a Bullards

Pan briododd Ann Susannah, aeres y Penrhyn, â Richard Pennant yn 1765 mae’n anodd gwybod pwy a gafodd y fargen orau – y fo a ddaeth yn berchen ar hanner stad yn Nyffryn Ogwen a oedd mewn cyflwr truenus, ynteu hi o briodi i mewn i deulu oedd â phlanhigfeydd siwgr eang yn Jamaica.

Yr oedd gwladychu Ynysoedd India’r Gorllewin yn rhan o bolisi Prydain yn ystod yr ail ganrif ar bymtheg a’r deunawfed. Y bwriad oedd y byddai gwneud hynny yn cyfrannu at gyfoeth y wlad drwy greu marchnadoedd newydd i’w chynhyrchion ac ar yr un pryd yn cyflenwi danteithion trofannol i’w phoblogaeth – siwgr, coco, indigo, baco, pimento a sinsir yn bennaf. Dechreuwyd ar y broses o rannu ynys Jamaica yn rhanbarthau ar gyfer tyfu siwgr cansen o tua 1670 ymlaen ond oherwydd gofynion amgylcheddol mawr tyfu’r cnwd a gofynion trwm y llafur o’i brosesu ni ddaeth yn adnodd poblogaidd tan ar ôl 1700. Gwarchodwyd cynhyrchu siwgr yn nhrefedigaethau Prydain yn India’r Gorllewin gan fesur y Molasses Act yn 1733 ac arweiniodd hyn at sefydlu siwgr yn gonglfaen economi’r ynys yn yr oes aur rhwng 1740 a 1775. Mewn arolygiad yn 1670 amcangyfrifwyd mai 15,000 oedd poblogaeth wyn Jamaica, ond yn dilyn rhyfeloedd yn erbyn Ffrainc disgynnodd y boblogaeth wyn i 7,000 erbyn 1699. Ond yn gyfesur â hynny chwyddodd poblogaeth caethweision yr ynys o 30,000 yn 1689 i 55,000 erbyn 1713.

Sylfaenydd ffortiwn Pennant yn Jamaica oedd Giffard Pennant, un o ddisgynyddion teulu enwog y Pennantiaid o Dreffynnon a Bagillt yn Sir y Fflint, milwr wrth ei alwedigaeth ac aelod o gatrawd warchodol yn Jamaica. Pan fu farw yn 1676 yr oedd yn berchen ar gyfanswm o 7,327 acer o dir mewn dau ranbarth o’r ynys ym mhlwyfi Clarendon a King’s Valley. Cyfeiriodd sylwebydd at Clarendon yn 1774 fel “one of the largest, healthiest and best settled parishes in the whole island”. Cnewyllyn y stadau siwgr ar y tiroedd hyn a etifeddodd Richard gan ei dad, John Pennant, yn 1781. Er bod Richard wedi ei eni yn ôl pob tebyg ar yr ynys, fel perchennog absennol y byddai’n gweinyddu ei diriogaethau yn Jamaica a rheolwyr oedd yn gyfrifol am redeg ei holl stadau fel yn achos y mwyafrif o’i gyd berchnogion ar yr ynys.

Jamaica a
Rhan o fap Archifdy Prifysgol Bangor. Penrhyn 2790 – cynllun stadau siwgr Richard Pennant yn Jamaica – Denbigh, Coates a Bullards

Yr oedd Richard yn berchen ar saith stad ar yr ynys – Coates, Denbigh, Thomas River, Kupius, King’s Valley, ‘Waterwork’ estate a Bullards Savanna, oll yn cael eu gweithio gan lafur caethweision. Yr oedd yr holl gyfundrefn yn ddibynnol ar gaethweision – ‘nothing can be done without negroes’ oedd barn sylfaenol yr asiant bryd hynny. Yn 1780 ar bedair o stadau Richard llafuriau 471 caethwas, ac yn King’s Valley roedd 295 caethwas. Gellir dosbarthu oedolion King’s Valley i wahanol gategorïau o ran oed fel a ganlyn:

20/30 blwydd 30/40 blwydd 40/50 blwydd 50/60 blwydd 60/70 blwydd
Dynion 42 23 12 8 2
Merched 55 28 12 9 5
Cyfanswm 97 51 24 17 7

Nid oedd cydwybod ynghylch moesoldeb caethwasiaeth yn mennu dim ar fywyd breintiedig Richard Pennant. Dyna oedd moes dderbyniol y dydd ac yr oedd ef fel un o ddau Aelod Seneddol dinas Lerpwl, un o brif borthladdoedd masnachu ag ynysoedd India’r Gorllewin, yn amddiffynnydd brwd iawnderau ei gydberchnogion ar lawr Tŷ’r Cyffredin. Mynegai yn ei lythyrau at y rheolwr agwedd dadol dros y caethweision gan holi am eu buddiannau, eu tasgau gwaith, cyflwr eu hiechyd ac ansawdd y bwyd ar eu cyfer. Meddai -‘Humanity, as well as the interest of the proprietor, demand that they should be taken care of’. Wedi’r cyfan onid oedd pob un ohonynt yn fuddsoddiad ariannol? Ar un achlysur yr oedd Richard yn bryderus am foesoldeb y merched, gan gyfeirio at eu hanniweirdeb, ond dro arall pryderai nad oedd genedigaethau yn cyflenwi gofynion parhaol ei stadau am lafur o gofio yn arbennig fod magu yn llawer rhatach na phrynu. Meddai un sylwebydd  ‘Every infant that a planter can raise on his estate is worth two he can buy … how expedient then it is for us to turn our attention and thought to so important a concern’. Ac meddai’r asiant wrth John Pennant yn 1772 -‘There is no such thing as long credit for negroes.  I have bought six men for Kupius’s and six for Denbigh and ten  boys and girls for Kupius and ten for Denbigh and I must buy six men more for each and six for Thomas’s River  … and these 20 boys and girls bought will do no service for two years more than weeding canes and … for these bought I must draw bill very soon, the men are £65 and the boys and girls £50’.

Yr oedd bywyd y caethwas yn un caled a thorcalonnus. Cymerai’r gansen siwgr fwy na blwyddyn i’w thyfu ond rhaid oedd paratoi’r tir yn ofalus cyn ei phlannu. Byddid yn rhofio’r tir dair neu bedair gwaith i gychwyn cyn plannu, y gorchwyl yn gofyn am waith llaw gan y caethwas heb ddefnyddio aradr i’w gynorthwyo. Yna agorid cyfresi o dyllau er mwyn plannu’r gansen ynddynt, gyda gofod o tua chwe throedfedd rhwng pob un, ac yna gwrteithid y tir yn drwyadl a chyson yn ystod y cyfnod tyfu rhwng misoedd Awst a Hydref. Gorchwylion yn y maes oedd y caletaf o holl orchwylion y caethwas ac yno o dan orthrwm goruchwylwyr didrugaredd y byddai creulondeb diangen a gwarthus yn digwydd. Dyma oedd tystiolaeth llygad dyst yn 1774 – ‘In the mornings,…the overseers were generally setting their slaves to work, which was mostly attended by loud peals of whipping …and the method was in this case to whip them on the outside of their clothes, which is in general of a coarse linen for breeches for the men and a petticoat of the same fabric for the women. On their coming into the field after the overseer, a few steps before they join the main gang, they throw down their hoe, and clap both hands upon their heads, and patiently take from ten to fifteen or twenty lashes, but those who have not the resolution to stand without shrinking were sure to be stretched upon the ground, or holden by four of their fellows at each extremity, till they had received their complement’.

Er bod perchennog megis Pennant, yn mynegi pryder yn ei lythyrau ynghylch lles ei fuddsoddiadau dynol nid oedd ef fel preswylydd breintiedig yng Ngwynedd yn ymwybodol, neu gallai bledio anwybodaeth, o’r trais a’r bryntni a ddigwyddai ar ei diriogaeth mewn ynys bellennig yn India’r Gorllewin. Wedi’r cyfan drwy ohebiaeth ei reolwr y deuai newyddion am y stad ac nid y gwirionedd fyddai sail y dystiolaeth.

Yr amser prysuraf yn y maes oedd cyfnod cynaeafu’r cnwd yn ystod y misoedd sych o fis Ionawr hyd at fis Mai pryd y byddid yn torri’r cansennau a’u danfon ar wagenni i’r melinau i’w cywasgu rhwng rholiau trymion i gasglu’r sug. Danfonid yr hylif i’w ferwi mewn cyfres o goprau, o’r enfawr i’r lleiaf, gan adael i anweddiad naturiol leihau ei faint hyd nes yn y copor olaf y byddai’n barod i risialu’n siwgr. Wedi ei oeri tywalltid y gronynnau i gasgenni ac yno yn y burfa dros rai wythnosau casglid y triagl ohonynt ar gyfer ei ddistyllu i wneud rym, isgynnyrch pwysig a phroffidiol o’r broses o wneud siwgr. Wedi ei becynnu yr oedd y siwgr yn barod i’w allforio ar ffurf siwgr brown muscovado bras ei ansawdd i’w buro ymhellach wedi cyrraedd y farchnad ym Mhrydain. Yn 1752, cynhyrchodd un o stadau Pennant, sef stad Denbigh, 137 casgen fawr a 36 casgen fach o siwgr a 71 mesur mawr o rym, ac ar gyfartaledd gallai’r perchennog ddisgwyl cynhyrchion tebyg o weddill ei stadau ar yr ynys.

Pan dderbyniodd Richard Pennant freintiau Jamaica gan ei dad yn 1781 yr oedd ymgyrch Wilberforce i ddiddymu caethwasiaeth ar gychwyn ym Mhrydain ac yn raddol daeth cydwybod cenedl i sylweddoli fod erchylltra caethwasiaeth yn sen ar hawliau dynol. Ar 1 Mai 1807 daeth Deddf Dileu Caethwasiaeth i rym a hynny flwyddyn cyn i Richard Pennant farw yn 1808. Ei nai George Hay Dawkins Pennant etifeddodd holl olud proffidiol stadau ei ewythr, yn ychwanegol at y stadau siwgr a berchnogai drwy linach teulu Dawkins yn Jamaica. Mae cyfnod y chwyldro yn hanes dynoliaeth felly yn cyd-daro â chyfnod y trosglwyddo mewn perchnogaeth yn Jamaica, ond mae hefyd yn cyd-fynd â chyfnod o ddatblygiadau rhyfeddol yn Nyffryn Ogwen. Dan arolygaeth Richard Pennant y datblygwyd chwarel y Penrhyn o 1782 ymlaen, diwydiant a sefydlodd fodolaeth pentref Bethesda yn 1820, ac o dan deyrnasiad George Hay yr adeiladwyd Castell y Penrhyn dros gyfnod yn dechrau yn 1830. Ar arian budr caethwasiaeth y seiliwyd yr holl ddatblygiadau hyn, ac o ganlyniad mae Dyffryn Ogwen, er efallai yn ddiarwybod, yn gyfrannog yn y diwydiant erchyll hwn. Bellach mae trefi, ardaloedd a diwydiannau ym Mhrydain yn gorfod o gywilydd gyfri’r gost foesol o fod â chysylltiad uniongyrchol â’r camwri enfawr hwn. Meddai Nicholas Draper, Cyfarwyddwr canolfan ym Mhrifysgol Llundain sy’n astudio etifeddiaeth perchnogion caethweision Prydain – ‘Anywhere there is the significant imprint of slavery,… then this will happen more and more (gwrthwynebu i anrhydeddu cyn berchnogion caethweision). We have a public culture that has been relatively unreflective of the post-colonial moment, and that’s no longer a tenable position’. Tybed a yw cydwybod euog Dyffryn Ogwen hefyd yn pigo heddiw?

Gyda llaw fe gymerodd hyd at ganol yr ugeinfed ganrif i deulu’r Penrhyn dorri’r cysylltiad â Jamaica a gwerthu eu stadau ar yr ynys unwaith ac am byth.

Ffynonellau

Jean Lindsay. 1982. The Pennants and Jamaica 1665-1808. Part 1 : The growth and organisation of the Pennants estates. Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon, 43, 37-82.

Jean Lindsay. 1983. The Pennants and Jamaica 1665-1808. Part 2 : The economic and social development of the Pennants estates in Jamaica. Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon, 44, 59-96.

Un sylw ar “Jamaica

  1. Hysbysiad Cyfeirio: Melin Cochwillan – Hanes Dyffryn Ogwen

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s