Ffair y Byd

Cor penrhyn 1893
Llun Côr y Penrhyn adeg Ffair y Byd

Dyma gyfraniad gan un o gyfranwyr gwadd y wefan sef Idris Lewis, Ffordd Bangor, Bethesda.

I ddathlu pedwar can mlynedd ers i Christopher Columbus ‘ddarganfod’ America trefnwyd Ffair y Byd yn Chicago yn 1893. Prif amcan y ffair oedd arddangos sut y datblygodd yr Unol Daleithiau i fod y wlad bwysicaf a’r fwyaf yn y byd yn ei chyfnod. Yr oedd hefyd yn fuddugoliaeth arbennig i Chicago a orfu i lwyfannu’r ‘ecstrafagansa’ yn hytrach nag Efrog Newydd, Washington, St Louis neu unrhyw ddinas arall a fyddai wedi cystadlu i fod yn ffenest siop i’r byd. Yn ystod y chwe mis y bu’r ffair ar agor ymwelodd 27 miliwn o ddinasyddion y wlad â’r arddangosfeydd, sef yn agos at hanner poblogaeth y wlad. Rhoddodd y ffair symbyliad o’r newydd i’r celfyddydau ac i bensaernïaeth drefol yn America a bu’n fodd i greu hyder newydd mewn diwydiant ac yn sbardun i chwyddo golud y wlad.

Fel rhan o’r dathliadau trefnwyd y byddai eisteddfod yn cael ei chynnal dros ddau ddiwrnod sef 5 a 6 Medi 1893. Cymdeithas Cymmrodorion Chicago oedd trefnwyr yr eisteddfod, sydd yn dangos dylanwad mor gryf oedd gan gymdeithasau, ac yn arbennig gapeli Cymraeg, ar fywyd diwylliannol America ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg.  Cafwyd gwybodaeth fod holl dreuliau ariannol yr eisteddfod wedi eu talu fwy neu lai gan y derbyniadau ar y tocynnau mynediad a bod gwobrwyon gwerth 10,200 doler i’w hennill yn y cystadlaethau.

Ar y diwrnod tyngedfennol Hwfa Môn oedd yr Archdderwydd a agorodd yr Orsedd o’r maen llog ger Adeilad y Llywodraeth, gan alw yn ‘wyneb haul llygad goleuni’ am ‘heddwch’, ac atseiniwyd yr alwad gydag arddeliad cenedlaetholgar gan y dorf. Mor gynnar ag 1890 yr oedd rhag hysbysebion wedi ymddangos yn y wasg Gymreig fod yr eisteddfod i’w chynnal yn Chicago gyda’r bwriad mai hon fyddai Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn ôl gobeithion Cymry alltud y wlad honno. Pwysleisid y dylid gwneud paratoadau ar gyfer amgylchiad a oedd mor unigryw.

Ac fe wrandawyd ar neges y Wasg ym Methesda.  Penderfynwyd y byddai Côr y Penrhyn yn mynychu’r eisteddfod ac yn cystadlu yn y brif gystadleuaeth i gorau meibion heb fod dan 50 na mwy na 60 eu nifer.  Y darnau prawf oedd y ‘Cambrian Song of Freedom’ gan T. J. Davies, a ‘Pilgrims’ dan Dr Parry. Y wobr gyntaf oedd $1,000, yr ail wobr $500, gyda thlysau aur i’w cyflwyno i’r arweinwyr. Y beirniaid oedd John Thomas o Lundain , W. M. Tomlins o Chicago a Dr J. H. Gower o Denver.

O wneud y penderfyniad aethpwyd ati i gasglu arian i dalu costau’r daith. Apeliwyd i unigolion a chymdeithasau yng Nghymru a ledled Prydain a chynhaliwyd nifer o gyngherddau gyda’r nod o gyrraedd £1,000 cyn bod y côr yn ymadael ar 24 Awst 1893. Gwnaethpwyd cyfraniad gan George Sholto, Arglwydd Penrhyn ac mae’n ddiddorol sylwi mae Mr W. Grey, swyddog yn swyddfa’r stad ym Mhorth Penrhyn, fyddai’n derbyn y cyfraniadau yn hytrach nag ysgrifennydd y côr ym Modfeurig, Tregarth, fel y byddai’r disgwyl. Gellir awgrymu fod gan Sholto ddiddordeb personol yn yr ymgyrch, ei nawdd yn rhyngu bodd yn lleol oherwydd ei amhoblogrwydd yn diddymu cytundeb Pennant Lloyd yn y chwarel, a’i lygad yn ogystal ar geisio ennill parch ac efallai fasnach bellach o fod brand y Penrhyn i’w weld ar y llwyfan rhyngwladol yn Chicago.   Mae’n amlwg felly fod  gan Mr Grey ddylanwad mawr ar drefniadaeth y daith ac nid yw’n syndod felly ei fod i gyd-deithio gyda’r côr fel math o chaperone i ofalu am ei llwyddiant. Sylwer er hynny mai côr y Penrhyn-Dinorwig y’i gelwid yn y wasg leol ond fe’i gelwid yn gôr y Penrhyn yn Chicago. Mae’n amlwg felly  fod gofyn atgyfnerthu aelodaeth y côr cyn y gallasai gyrraedd gofynion y gystadleuaeth o ran ei niferoedd.

Gadawodd y côr Lerpwl ar fwrdd y Vancouver ar ddydd Iau 24 Awst 1893 gan gyrraedd Québec yr wythnos ganlynol cyn mynd yn ei flaen i Chicago. Cafwyd cyngerdd cofiadwy yn Lerpwl cyn cychwyn a chyfrannwyd oddeutu £50 ychwanegol at y costau a oedd bellach yn £1,300. Cyn cychwyn cafwyd anerchiad o rybudd gan y Parch James Davies yn ‘hyderu y byddai eu hymddygiad ar y daith ym mhob ystyr yn anrhydedd i genedl y Cymry’ – mewn geiriau eraill roeddent i fihafio yn Chicago!  Yr oedd disgwyliadau’r ardal yn fawr ac fel yr eglurodd gohebydd Y Cymro ‘fe’n synnir ac fe’n siomir yn fawr os na ddeuant â’r wobr gyda hwynt yn ôl’. Yn cyd-deithio ar fwrdd y Vancouver yr oedd côr Meibion y Rhondda.

Canodd saith côr yn y gystadleuaeth, pump ohonynt o wahanol rannau o’r Unol Daleithiau – Pitttsburg, Wilkesbar, Salt Lake City,  Edwardsdale ac Iowa a chôr Meibion y Rhondda a chôr y Penrhyn o Gymru.  A chôr Meibion y Rhondda a orfu gyda’r Penrhyn yn ail mewn cystadleuaeth a ystyriwyd ymysg yr orau yn yr holl eisteddfod. O ddarllen rhwng y llinellau nid oedd yr eisteddfod yn llwyddiant ysgubol, yr oedd cynulleidfaoedd y dydd yn denau ond roedd rhai cyngherddau’r nos yn llawer mwy niferus. Yr oedd y cystadlaethau llenyddol yn brin iawn eu henillwyr ac ataliwyd gwobrwyo mewn llawer o’r cystadlaethau, ac nid oedd y gornestau canu yn wefreiddiol a mynegwyd siomiant nad oedd safon wych ym mhrif gystadleuaeth y corau cymysg. Nodwyd fod y safon uchaf gan gorau o Gymru gan gynnwys côr merched o Gaerdydd.  Ataliwyd hyd at gyfanswm o $800 mewn gwobrwyon yn yr eisteddfod. Un a lwyddodd, serch hynny, oedd Dewi Glan Ffrydlas o Fethesda, a fu’n fuddugol yng nghystadleuaeth cyfres o englynion ar y testun ‘Cydwybod’, a llwyddo’r ail dro am gyflawni Hir a Thoddaid ar destun eithriadol ysbrydoledig sef beddargraff i’r Parch Lewis Meredith.

Ni fu’r daith gartref mor gyfforddus â’r daith i’r Unol Daleithiau. Cwynodd nifer fach o aelodau’r côr fod teithio o Montréal yn steerage y llong Oregon yn dra anghyfforddus a hynny tra oedd yr arweinydd Mr Broome a chyfaill iddo (Mr Grey tybed?) yn cael aros yn y saloon. I ychwanegu halen ar y briw ysgrifennodd arweinydd côr y Rhondda fod aelodau ei gôr ef yn berffaith fodlon â’r cyfleusterau ac y byddai yn berffaith sicr o deithio gyda’r un cwmni eto pe  byddai’r cyfle yn codi.  Glaniodd y dyrfa yn lluddedig yn Lerpwl wedi mordaith ystormus a dychwelyd i Fethesda i groeso tywysogaidd gan y lliaws a oedd wedi tyrru i’r stesion i’w derbyn ddechrau Hydref.  Yr oedd un colyn i ddilyn y daith –  ar ddechrau mis Tachwedd cyhoeddwyd fod Mr Broome, yr arweinydd, wedi ymddiswyddo gan iddo dderbyn penodiad cyffelyb yn Montréal. Ond i gantorion Bethesda, heb anghofio’r ychwanegiad o Ddinorwig, yr oedd y daith i ffair y byd i’w chofio gyda chwilfrydedd a llwyddiant.

Ffynonellau

Mae’r nodyn hwn yn seiliedig ar yr adroddiadau canlynol yn y wasg yn 1893 – Y Cymro, Awst a Hydref; Y Werin, Tachwedd; Y Drych, Awst; Y Tyst, Medi;  Tarian y Gweithiwr, Gorffennaf, 1890.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s