Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i holl ddarllenwyr gwefan Hanes Dyffryn Ogwen. Diolch i chi am fod mor ffyddlon yn darllen y wefan yn ystod y flwyddyn hon a gobeithio y gwnewch ddal ati yn y flwyddyn newydd yn ogystal. Ers sefydlu’r wefan ym mis Tachwedd 2016 mae rhagor na chant o erthyglau byr wedi ymddangos ac mae bron i gant arall yn yr arfaeth. Bydd cyfraniadau gan nifer o gyfranwyr gwadd yn ymddangos yn ystod y flwyddyn nesaf a buasem yn falch o dderbyn cyfraniadau gennych chithau hefyd ddarllenwyr y wefan. Mae’r wefan yn cael ei darllen yn rheolaidd yn Unol Daleithiau America ac yn Hong Kong, ac yn achlysurol mewn rhannau eraill o’r byd lle mae pobol Pesda yn bresennol. Pob dymuniad da i chi oll.
Dymuniadau gorau,
John a Lowri
Diolch am yr holl erthyglau, edrych ymlaen iw Darllen pob mis. Blwydden Newydd Dda.
HoffiHoffi