Adeiladwyd Bryn Derwen ar gyfer James Greenfield, brodor o swydd Sussex, a benodwyd yn rheolwr chwarel Cae Braich y Cafn yn 1802 gan Richard Pennant, Arglwydd cyntaf stad y Penrhyn. Mae’n dŷ ysblennydd a leolwyd gerllaw ffordd bwysicaf y cyfnod sef Ffordd y Lord a oedd i’w throsi yn 1805 yn Ffordd Dyrpeg rhwng Pont Tŵr a Llandygái. Nid yw’n sicr mai Benjamin Wyatt, prif asiant Stad y Penrhyn, oedd cynllunydd y tŷ ond yr oedd yn amlwg yn ddigon crand i dynnu sylw Thomas Telford pan oedd ef yn cynllunio’r ffordd bost drwy’r dyffryn yn 1815. Disgrifiwyd y tŷ yn 1810 gan Richard Fenton yn ei lyfr Tours in Wales fel ‘…a new creation out of a spot lately covered with rocky excrescences and surrounded by bog and turbary, (but) now displaying pleasure grounds, groves, and gardens walled and cropped with fruit and fine meadows’.

Greenfield oedd y rheolwr a gynlluniodd y chwarel i fod yn un o gloddfeydd llechi mwyaf y byd. Cyn ei ddyfodiad yr oedd y gloddfa o dan ofal William Williams yn datblygu yn gyfres o byllau dyfnion ar echel dwyrain i’r gorllewin. O dan gynllun Greenfield datblygodd ef y chwarel yn gyfres o bonciau cymesur i ddringo hyd lethr y Fronllwyd a phob ponc wedi’i chysylltu â system o elltydd ar naill ochr y gwaith. Dan ei arweiniad datblygodd y chwarel i gyflogi oddeutu 600 o weithwyr gan gynhyrchu hyd at 40,000 tunnell o lechi a phroffid y gwerthiant wedi chwyddo o £7000 yn 1808 i £18,415 erbyn 1813.
Ond daeth tro ar fyd. O 1800 ymlaen bu anghydfod rhwng y gweithwyr a’r perchennog ynghylch cyflogaeth sefydlog ac amodau gwaith teg, gyda rhai chwarelwyr yn ennill 17 swllt y mis tra oedd eraill yn derbyn £6 am wneud yr un gwaith. Torrodd yr anghydfod yn streic yn 1825 a barhaodd am un diwrnod yn unig ond, er byrred y brotest, ni thrafodwyd cwynion y gweithwyr yn gymodlon, a’r aflwyddiant hwn a arweiniodd at y pegynnu mewn cysylltiadau diwydiannol a fu’n gymaint o faen tramgwydd yn y chwarel hyd weddill y ganrif. Ychydig amser wedi’r digwyddiad darganfuwyd Greenfield wedi boddi yn yr Afon Ogwen a bu cryn ddyfalu am y rhesymau a arweiniodd at y fath drasiedi – ai drwy ddamwain y bu iddo foddi ynteu a oedd y sen o orfod wynebu’r brotest ddiwydiannol gyntaf yn hanes Chwarel y Penrhyn yn ddigon iddo gymryd ei fywyd? Mae cryn ddyfalu ynghylch pa union lyn yn yr afon y cyfarfu Greenfield â’i dynged. Y farn gyffredinol yw mai Llyn Du, sef pwll ar ochr Parc Meurig o’r ynys sydd y tu isaf i Bont yr Inn, yw’r lleoliad tebycaf. Mae gan y llyn hwn ail enw sef Llyn Dronfield, ond tybed a drodd yr enw Greenfield yn Dronfield yn nhafodiaith Dyffryn Ogwen?
Ffynhonnell
Hugh Derfel Hughes. 1866. Hynafiaethau Llandegai a Llanllechid. Bethesda.
Richard Fenton. 1804-1817. Tours in Wales, (ed). J. Fisher.