Tan-y-bwlch


Cynllun Tanybwlch
Cynllun chwarel Tan-y-bwlch

Stad fechan annibynnol sy’n gwasgu’n glos ar ysgwydd gogledd pentref Rachub yw Tan-y-bwlch. Ei maint yn 1906 oedd 35 acer a chynhwysai  ffermdy Tan-y-bwlch yn ogystal ag un ar hugain o fythynnod a chwarel lechi. Cyfrannai’r bythynnod rent o £57.5.0 y flwyddyn i goffrau’r stad.  Ond mae hanes y stad yn ymestyn yn ôl i gyfnod cynharach na dechrau’r ugeinfed ganrif.

Canolbwynt y stad yw ffermdy Tan-y-bwlch. Mae’r dyddiad 1718 wedi ei dorri i bren y pentan yn un o ystafelloedd y tŷ, ac mae’r dyddiad yn dynodi fod seiliau llawer cynharach i’r stad yn ymestyn yn ôl mae’n bur debyg i fwrllwch amhenodol y Canol Oesoedd. Enw gwreiddiol Tan-y-bwlch oedd Tyddyn y Lôn ac mae’n eithaf tebygol mai teulu Hugh Williams oedd perchen y stad yn 1718. Bu ef farw yn 1765 ac yn ei ewyllys mae’n rhannu ei eiddo rhwng ei ddau fab Morris a Richard. Yr oedd Richard yn derbyn Kiltreflys a Chae Gwigyn yn ogystal â sawl tyddyn a gardd ar y tiroedd hyn, gwobr Morris oedd derbyn Tyddyn Tan-y-bwlch, Dol Ddafydd a Chae Ronw. Dengys y manylion hyn fod stad Tan-y-bwlch yn llawer mwy na’i chanolbwynt yn Llanllechid gyda thiroedd Ciltrefnus a Chae Ronw yn Gerlan, Dol Ddafydd i’r gogledd o bentref Bethesda a Chae Gwigyn yn Nhalybont. Morris oedd y penteulu yn Nhan-y-bwlch yn 1833 ac ar ei farwolaeth ef y flwyddyn honno etifeddodd Jane ei unig ferch yr holl eiddo. Ymhen dwy flynedd priododd Jane â John Taylor, Sais o Cumberland yn wreiddiol, ond a ymgartrefodd yng Nghae Bold yng Nghaernarfon. Yn 1861 gadawodd Taylor a Jane Dan-y-bwlch i symud i Fangor i gadw tafarn yr Albion ac erbyn cyfrifiad 1871 y preswylwyr newydd oedd Joseph Twigge a Joseph Salt, y ddau yn hanu o Hanley yn Swydd Stafford. Disgrifir Joseph Twigge yng nghyfrifiad 1871 fel ffermwr yn ffermio 50 acer a chanddo wraig a phedwar o blant. Fel slate quarry agent y disgrifir Joseph Salt ac yr oedd yntau yn briod a chanddo saith o blant. Crefft arbenigol y ddau Joseph oedd agor siafftiau a lefelau tanddaearol ac mae’n amlwg fod gofyn mawr am eu medrusrwydd yn chwareli a mwynfeydd eu hardal fabwysiedig.  Canfyddir, er enghraifft, fod Twigge wedi gweithio mewn chwarel yn Nghroesor yn ogystal â chwarel y Penrhyn ond eu cyfraniad mwyaf arbennig oedd datblygu’r gloddfa ar garreg eu drws yn Nhanyblwch.

Chwarel Tanybwlch)
Tomennydd chwarel Tanybwlch (canol y dde o’r llun)

Agorwyd chwarel Tan-y-bwlch yn gyntaf yn 1805 a cheir cyfeiriad ati gan y teithiwr Hyde Hall ar ei ymweliad â’r sir rhwng 1809 ac 1811. – ‘ a quarry of purple Slate has been opened on the Tanybwlch property above the Church from which a few loads are occasionally caried down to Bangor’. Cymro o Lerpwl o’r enw Roberts oedd cychwynnydd y gloddfa a chynrychiolai ef gwmni o’r dref honno. Yn groes i honiad Hyde Hall yr oedd y chwarel yn dra llewyrchus ar y cychwyn gan ddanfon llechi i’r farchnad o borthladd Aberogwen, ond yna daeth tro ar fyd a bu’r gwaith yn sefyll yn segur tan 1862. Bryd hynny cymerwyd y chwarel gan gwmni o Lundain, The Port Bangor Slate Company,  gyda gŵr o Gernyw, Michael Williams, yn gyfarwyddwr a gŵr lleol o Garneddi, John Griffith, yn rheolwr. Ar ddyfodiad y Twigges a’r Salts ehangwyd y fenter yn sylweddol gan agor siambrau tanddaearol yn dilyn crefft y swyddogion newydd.  Daeth tro pellach ar fyd a bu’r chwarel ym meddiant cwmni o Saeson am ysbaid byr a geisiai, yn niffyg profiad, ddatblygu’r haenau tanddaearol yn hytrach nag agor y chwarel ar yr wyneb. Perchennog y stad erbyn diwedd y ganrif oedd siopwr o Frynsiencyn o’r enw W. J. Jones, ac yn y wasg Gymreig yn 1896 ceid adroddiadau ei fod ef am weithio’r chwarel gan roddi gwaith i’r ardalwyr mewn cyfnod anodd ac ansefydlog yn hanes Dyffryn Ogwen. Aflwyddiannus fu ei ymdrechion ac yr oedd y chwarel ar gau unwaith eto cyn diwedd y ganrif.

cwt injan Tanybwlch
Cwt injan Tan-y-bwlch

O holl chwareli plwyf Llanllechid, ac yr oedd pump ohonynt yn y plwyf, Tan-y-bwlch oedd yr unig un heb gyflenwad parhaol o ddŵr i yrru ei pheiriannau. Yn ogystal, hon oedd y chwarel oedd â’r haenau anoddaf i’w gweithio gan fod dau wely o dywodfaen caled yn cywasgu gwely’r lechen las gan effeithio’n groes ar ei natur a’i hollt.  Mae’r chwarel wedi ei gweithio i gynnwys dau dwll agored a nifer o siambrau tanddaearol ac mae ei chynllun yn rhannu’n adrannau cyfleus. Fel y nodwyd eisoes y  canolbwynt yw’r hen ffermdy sy’n dyddio i gyfnod cynharach na datblygiad y chwarel. I’r gogledd-ddwyrain o’r tŷ lleolwyd prif dwll y chwarel ac mae ail dwll llawer llai wedi ei agor i gyfeiriad y  de-orllewin. I’r dwyrain o’r tŷ lleolwyd y siafft sy’n cysylltu gyda’r siambrau tanddaearol, ac ar ben y siafft mae’r adeilad a gynhwysai beirianwaith y Beam Engine a oedd yn gweithio’r offer codi rhwng y siambrau a’r lan. Ar hyd ymyl y gorllewin trefnwyd y tomennydd sbwriel sy’n llenwi’r llethr i gyfeiriad pentref Rachub. Adeiladwyd muriau cadarn ar ffin allanol y tomennydd ac ar ddwy ochr y llwybr sy’n arwain i’r gloddfa o gyfeiriad pentref Llanllechid. Mae’r ffaith fod Beam Engine stem yn gweithio mecanwaith y chwarel yn nodwedd unigryw yn hanes cloddfeydd llechi Dyffryn Ogwen. Bu raid defnyddio peiriant eithriadol ddrudfawr i’w bwrcasu a’i gynnal, cyn bod rheilffordd yn dwyn glo rhad i’r ardal, oherwydd nad oedd cyfaint digonol o ddŵr ar gael i  weithio’r peirianwaith fel yn chwareli eraill y dyffryn. Mae’n bur debyg mai Twigge a Salt, o’u profiad cynharach yng nghanolbarth Lloegr, a fyddai wedi cymeradwyo defnyddio peirianwaith o’r fath, ond erbyn 1872 bu raid defnyddio ail Beam Engine stem i weithio’r pympiau a oedd yn sychu’r twll. Erbyn hynny aeth problemau daearegol y gloddfa, a chostau cynnal y peiriannau, yn drech na’r datblygwyr a chaewyd y chwarel yn ddisymwth yn 1876.

Tan Bwlch Mynedfa
Muriau cadarn ar ddwy ochr y llwybr i fynedfa’r chwarel

Ar ddechrau’r ugeinfed ganrif cafwyd atgyfodiad o fath yn chwarel Tan-y-bwlch dan gynllun cydweithredol beiddgar y North Wales Quarries Limited. Ar derfyn streic fawr chwarel y Penrhyn  ym mis Awst 1903 trefnwyd i ffurfio’r cwmni arloesol i agor a rhedeg tair o chwareli plwyf Llanllechid sef Pantdreiniog, Moel Faban a Than-y-bwlch. Pwrcaswyd y tair chwarel am swm o £18,400. Y bwriad oedd darparu gwaith sefydlog i chwarelwyr mewn ardal ddrylliedig yn dilyn y streic, ac i gynhyrchu llechi  ar gyfer y farchnad agored a fyddai’n cystadlu â chynhyrchion y chwareli mawr. Derbyniwyd cefnogaeth ariannol  parod gan Undebau Llafur a chymwynaswyr dyngarol ledled Prydain i sefydlu’r cwmni a phenodwyd W. J. Parry i redeg y cynllun. Afraid dweud na fu’r cynllun uchelgeisiol yn llwyddiannus a gorfu  ei derfynu yn 1907 ond nid cyn cyflawni rhai newidiadau yn Nhan-y-bwlch. Bwriad y cynllun oedd creu un gloddfa fawr yn Rachub drwy uno chwarel Tan-y-bwlch gyda chwarel Moel Faban. Y cynllun ym Moel Faban oedd i ehangu twll Voel ym mhen y de tra bo ponc a thwll Grey yn y gogledd i’w ddyfnhau a’i agor i gysylltu gyda siambrau tanddaearol Moel Faban. Drwy wneud hyn byddid hefyd yn defnyddio’r agen fel ffos i sychu’r twll. Amcangyfrifwyd y byddai’r cynllun yn costio £60,000 cyn y byddai’n talu ei ffordd. Cododd anghydfod rhwng Parry y rheolwr ac aelodau bwrdd y cyfarwyddwyr. Teimlai Parry y byddid yn afradu arian drwy wario ar y cynllun yn Rachub a chredai y dylid canolbwyntio ar ddatblygu Pantdreiniog; credai eraill o’r cyfarwyddwyr fod gwerth mewn datblygu chwarel newydd ym Moel Faban/Tan-y-bwlch.  Rhoddwyd mwy o sylw i ddatblygu Moel Faban a gwariwyd yn helaeth ar wella’r adnoddau yno ond derbyniodd Tan-y-bwlch lawer llai o gefnogaeth ariannol. Yno buddsoddwyd drwy adeiladu gallt i gysylltu â’r twll, atgyweiriwyd adeilad y ffermdy a dau o’r bythynnod, cafwyd swyddfa newydd ar y safle  a rhoddwyd sylw i wella’r ffordd rhwng y ddwy chwarel. Argymhellodd Parry yn 1906 y dylid gwario £10,000 ar wella’r adnoddau ond erbyn hynny yr oedd brwdfrydedd ariannol y cefnogwyr i gynnal y cynllun wedi pallu. Dengys ystadegau’r cwmni  yn Nhan-y-bwlch iddynt werthu gwerth £450 o lechi rhwng Awst 1903 a Medi 1906 a bod £236 wedi ei gyfrannu mewn cyflogau i’r gweithwyr. Mae’r ystadegau hyn yn llawer llai mewn cymhariaeth â’r ddwy chwarel arall oherwydd yn yr un cyfnod cynhyrchwyd gwerth £20,739 o lechi yn Pantdreiniog a gwerth £1,730 ym Moel Faban a thalwyd £20.980 mewn cyflogau yn Pantdreiniog a £7,150  yn Moel Faban. Pe byddai cynllun y North Wales Quarries Limited wedi bod yn llwyddiant yna byddai amgylchedd pentref Rachub yn bur wahanol i’r hyn a welir yno heddiw.

Ffynonellau

Hugh Derfel Hughes. 1866. Hynafiaethau Llandegai a Llanllechid. Bethesda

Trebor Llechid – Chwarel Tanybwlch, Llanllechid – adroddiad yn Baner ac Amserau Cymru, Hydref 31ain , 1896.

Fôn Williams, D. 2015. ‘Dau Deulu Lwcus’. Darlith heb ei chyhoeddi a drafodwyd i Cymdeithas Hanes Rachub, Mis Tachwedd, 2015.

W. J. Parry, 1906 A New Chapter in the History and Co-peration of Labour: North Wales Quarries Limited. Co-operative Printing Society Ltd. Manchester.

J.Ll.W. Williams, D.A.Jenkins.  1996. Tair Chwarel ym Mhlwyf Llanllechid, Bethesda  Rhan 2. Trafodion  Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon. 57. 65-84.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s