Yr Athro Syr Hubert von Herkomer

Dyma gyfraniad gan gyfrannwr gwadd i’r wefan sef Griff Morris, Rhos y Nant.

Hunanbortread Hubert von HerkamorArtist enwog yng nghyfnod Oes Victoria oedd Hubert von Herkomer (1849-1914). Fe’i ganed yn Bafaria yn yr Almaen cyn i’r teulu ymfudo i’r America pan oedd yn ddwyflwydd oed ond, ac yntau yn wyth, ailsefydlodd y teulu yn Southampton wedi dychwelyd yn waglaw i Brydain. Er eu tlodi llwyddodd Hubert yn bedair blwydd ar ddeg i dderbyn ychydig hyfforddiant fel artist mewn ysgol gelf yn South Kensington, Llundain, cyn sefydlu ei hun yn ei ugeiniau cynnar fel artist medrus ac uchelgeisiol a fynnai hawlio sylw fel realydd cymdeithasol yn ei bortreadau teimladol  o fywyd tlodion ac anffodusion ei gyfnod. Yn 1870 prynwyd un o’i luniau mwyaf nodweddiadol, ‘After the Toil of the Day’ gan Charles  William Mansel Lewis, mab yr Aelod Seneddol David Lewis, adeiladydd Castell Stradey ym mhumdegau’r ganrif a pherchennog stad sylweddol ei maint yn Llanelli.  Bwriad Lewis oedd bod yn artist, ac er bod cefndir y ddau yn bur wahanol, un yn gynnyrch ysgol fonedd a Phrifysgol Rhydychen a’r llall o hil teulu o fewnfudwyr, seliwyd eu cyfeillgarwch a dylanwadodd Herkomer yn drwm ar ddatblygiad cynnar Lewis fel artist.  Yn sgil eu cyfeillgarwch datblygodd gyrfa artistig Herkomer yn arlunydd portreadol llwyddiannus ond enillodd hefyd fri fel critig celfyddyd llym ei feirniadaeth ac fel trefnydd arddangosfeydd arlunio o bwys. Ymhen amser, wrth i’w enwogrwydd ymledu llwyddodd i sefydlu  ei ysgol arlunio ei hun yn Bushey ar gyrion Llundain. Oes aur ei gelfyddyd oedd y cyfnod rhwng 1879 ac 1884 pryd yr oedd y gofyn am ei bortreadau ar ei fynychaf, ond yr oedd hefyd wedi datblygu yn dirlunydd golygfeydd medrus ei grefft.  Ymhlith y pwysigion a fynnai ei ddawn oedd Edward Gordon, Barwn cyntaf Penrhyn, yr ‘Hen Lord’ fel yr adweinid ef yn lleol, a bortreadwyd gan Herkamor yn 1881, er nad oedd y llun yn dderbyniol gan y teulu yn ôl y sôn! Yn 1885 penodwyd Herkomer i gadair Gelf y Slade ym Mhrifysgol Rhydychen, penllanw i yrfa bachgen a oedd o gefndir mor dlawd a difreintiedig ar y cychwyn.

Hwfa M^ón
Hwfa Môn yn ei regalia fel Archdderwydd a gynlluniwyd gan Herkomer

Ei gyfeillgarwch agos gyda Lewis oedd cychwyn cysylltiad Herkomer â Chymru a chyda’r Eisteddfod Genedlaethol yn fwyaf arbennig. Ef oedd y beirniad celf yn eisteddfod Dinbych yn 1882 ac am yr ail dro yn eisteddfod Llanelli yn 1895 pryd y bu’n eithriadol llym a dirmygus ei feirniadaeth ar safon isel y cystadleuwyr ac at ddiffyg parch a statws i’r celfyddydau cain yng Nghymru. Mewn ymdrech i godi’r safon gwahoddwyd ef i gynllunio gwisgoedd newydd i Archdderwydd yr Orsedd ac yn Eisteddfod Genedlaethol Llandudno yn 1885  Hwfa Môn oedd y cyntaf i’w arwisgo yn y regalia newydd. Urddwyd Herkomer yn aelod o’r Orsedd.

Ond beth sydd a wnelo gyrfa Herkomer â Dyffryn Ogwen? Fel athro celfyddyd lawn cyn bwysiced â bod yn artist cydnabyddedig yr oedd ganddo ddiddordeb ymarferol mewn addysgu ei ddisgyblion yn y grefft o arlunio.  Ac am gyfnod arbennig rhwng 1877 ac 1884 yng Nghwm Idwal y sefydlodd nifer o gyrsiau ar sut i arlunio’r tirlun, er ei fod yn ystyried ei hun yn arlunydd portreadau yn bennaf.  Yn ei lyfr ‘My School and my Gospel’ mae’n disgrifio sut, yn ei eiriau ef, ‘the methods of procedure for landscape painting were the most cumbersome ever adopted’. Ymwelai â Chwm Idwal yn ystod misoedd Mawrth hyd gychwyn Mai a byddai’r achlysuron hyn yn fater i ryfeddu gan y boblogaeth leol, neu y ‘natives’ fel y cyfeiriai ef atynt. Yng Nghwm Idwal cynhwysai ei wersyll bedair pabell a gartrefai ddeg person yr un, ond ychwanegai fod rhai pebyll i gynnal ei deulu a gynhwysai ei ddau blentyn a’i dad. Yn y gwersyll yr oedd hefyd ddau gwt arbennig ar gyfer arlunio ynddynt, ac mewn gohebiaeth gyda Lewis trafodai Herkomer archebu naw trawst 29 troedfedd o hyd ar gyfer pontio’r afon yn Idwal er mwyn gosod un o’r cytiau arlunio ar y fframwaith. Disgwylid i’r cytiau fod yn troi i wynebu llewyrch yr haul drwy gydol y dydd. Yr oedd cyflenwi gofynion yr holl ymgyrchoedd hyn yn rhyfeddol o gymhleth. Amcangyfrifid fod pwysau defnyddiau crai yr adeiladau a holl offer y dysgu a chynhaliaeth y preswylwyr yn ddeg tunnell, a’r nwyddau hyn i’w danfon o Lanelli gyda’r trên i Fetws-y-coed ac yna i’w halio oddi yno i Lyn Idwal gyda cheffylau, gan gofio, wrth gwrs, nad oedd rheilffordd yn cyrraedd Bethesda yn ystod y cyfnod sydd dan sylw. Ac meddai, wrth ddisgrifio Cwm Idwal mewn brawddegau synhwyrus, ond tra secsist ac israddol yn ein hymadrodd ni heddiw – ‘ Idwal must be seen in its wild mood. In the soft, sunny days of Summer, it carries a false face – as false as the face of a woman who is rouged and powdered’.

Mae cyfrifiad 1881 ym Methesda, ac yn benodol yn ardal Penybryn, yn  cynnwys un cofnod cwbl annisgwyl. Cartref  Henry Jones, chwarelwr 51 oed, a’i briod Ann, oedd rhif 46 Penybryn, sef rhif 18 Pantglas heddiw, yn dilyn ad-drefnu cynllun gwreiddiol tai Penybryn. Yno hefyd y trigai William Hughes, gŵr dibriod a chlerc wrth ei alwedigaeth, ac yn aros ar ymweliad o Plymouth yr oedd chwaer Ann, a’i mab.  Ac yna rhyfeddod y

Edward Gordon DP
Portread Hubert von Herkomer o Edward Gordon Douglas Pennant, Barwn y Penrhyn

rhyfeddodau – Hubert Herkomer, 31 oed, penteulu ac artist, Lorenz Herkomer, 67 oed, penteulu ac artist, a Lulu Griffiths, 31 oed, morwyn ond hefyd a ddisgrifir fel ‘medical student’. Gwnaethpwyd y cyfrifiad ym mis Mai 1881, ond beth tybed a fyddai’r achlysur a ddenodd y tri ymwelydd i aros ym Mhenybryn? A oedd y tri ar daith arbennig i Ddyffryn Ogwen, ai ynteu chwennych cysgod cyfforddus rhag gerwinder Cwm Idwal yr oeddynt? A phwy o’r triawd oedd Lulu Griffiths? Gellir cynnig rhai awgrymiadau yn unig. Y flwyddyn 1881 oedd achlysur peintio portread Edward Gordon, Barwn Penrhyn, a pha well achlysur efallai nag i’r artist ieuanc ymddangos yng nghastell Penrhyn yn drwsiadus ac yng nghwmni ei dad a’r nyrs ieuanc a ofalai am ei dad.  Ond yr oedd hefyd efallai is gynllun i’r achlysur. Lulu Griffiths oedd y ferch o Ruthun a gyflogwyd gyntaf gan Herkomer i ofalu am ei wraig Anna a’u dau blentyn. Yn 1882 chwalodd y briodas a’r flwyddyn ganlynol bu farw Anna. Flwyddyn yn ddiweddarach yn 1884 priododd Herkomer â Lulu a gall y darllenydd ystyried ym mha fodd y datblygodd eu perthynas tan hynny.  Yn drasiediol bu farw Lulu yn 1885 dri mis ar ôl rhoddi genedigaeth yn farw anedig i’w phlentyn yn dilyn damwain ac i gwblhau’r hanes yn gyflawn, priododd Herkomer â’i chwaer hi Margaret yn 1888.

Cyfrannodd Hubert von Herkomer yn adeiladol at fywyd artistig a diwylliannol Cymru yng nghyfnod Oes Fictoria, ond fe wnaeth Dyffryn Ogwen hefyd gyfrannu at ddatblygiad cymhleth y cymeriad amryddawn hwn ei ddoniau a ystyrid yn ffigur mor ddylanwadol yng nghoridorau dysg ac orielau celf ei gyfnod.

Ffynhonnell

Hubert von Herkomer,  My School and my Gospel, 1908.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s