Ysgol Glan Rhyd Idwal

ysgol GRhI

Gwnaeth Marian Elias gymwynas enfawr â hanes ein hardal pan ddarbwyllodd  y diweddar Margaret Roberts, Tal y Braich, i ysgrifennu ei chlasur o lyfr ‘Oes o Fyw ar y Mynydd’ a gyhoeddwyd gyntaf yn 1979. Ac er clod i Margaret Roberts heb ei phennod hi ar ‘Yr Ysgol Ddyddiol’ ni fyddai prin ddim o hanes  Glan Rhyd Idwal wedi goroesi hyd heddiw ac ni fyddai’r cofnod hwn yn bodoli ychwaith. Mae lleoliad y safle neilltuedig  yn gyfarwydd i lawer, ond rhag ofn bod yr encil yn ddieithr i eraill gwell nodi lle y saif. Adeiladwyd Glan Rhyd Idwal ar grib y Benglog yn drothwy i ehangder Nant Ffrancon islaw. Gellir cyrraedd y safle o ben Llyn Ogwen drwy gymryd hen lwybr Ffordd y Lord heibio i ganolfan wybodaeth Parc Cenedlaethol Eryri ac yno, ar fin y llwybr o fewn canllath neu lai, y saif yr adeilad mewn planhigfa o goed trwchus.

Mae cynllun yr adeilad ar ffurf eglwys oherwydd fel eglwys y cynlluniwyd y safle gan yr Arglwydd Penrhyn fel cyfrwng i wasanaethau Eglwys Loegr ar y Sul. Mae dyddiad ei hadeiladu yn ansicr ond credir ei bod yn dyddio o gyfnod 50au neu 60au’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, sef oes aur adeiladu eglwysi yn Nyffryn Ogwen o dan nawdd Edward Gordon, yr ‘Hen Lord’. Yn ystod yr wythnos fe’i defnyddid fel Ysgol Wladwriaethol (mudiad y National Society) dan nawdd yr Eglwys i addysgu plant o aelwydydd anghydffurfiol ardal Nant y Benglog a Nant Ffrancon. Hon oedd yr ysgol a fynychodd Margaret Roberts, a chydnabod ei theulu am genedlaethau cyn hynny, hyd oni chaewyd ei drws yn derfynol oddeutu 40au neu 50au’r ganrif ddiwethaf.  Heddiw troswyd yr adeilad yn dŷ.

Roedd Margaret Roberts yn un o ddeg o ddisgyblion yr ysgol yn y cyfnod 1917-1922, fwy neu lai, gan nad yw’n manylu ar y dyddiadau yn yr ysgrif.  Deuai’r athro i’w dysgu yno o Fethesda, yn ŵr caredig nad oedd wrth ei natur yn ddisgyblwr ciaidd ond, o ddarllen rhwng y llinellau, na feddai ar lawer o drefn. Yr oedd yr ysgol ar agor o ddeg y bore hyd at hanner awr wedi tri y prynhawn i groesawu’r fintai fechan o ddisgyblion a fyddai’n  cyrchu yno o ddalgylch gwasgaredig ffermydd y fro. I Margaret Roberts golygai hyn y byddai’n cerdded yno o’i chartref yn Nhal y Braich, siwrnai o chwe milltir y dydd yn ôl ac ymlaen.  Yn yr ysgol cuddid yr allor y tu cefn i lenni coch nad oedd wiw i’r disgyblion eu hagor ac eithrio drwy fynnu cipdrem slei yn wrthgefn i’r athro. Dechreuid y dydd gyda gwasanaeth crefyddol hirfaith gyda’r Credo yn dwyn y sylw pennaf. Diflas oedd yr addysg wedyn drwy adrodd y tablau yn ddi- ddiwedd a chofio sut i sillafu rhesi diderfyn o eiriau Saesneg. Saesneg oedd iaith yr addysg, ac meddai Margaret Roberts yn un o frawddegau mwyaf cofiadwy’r llyfr – ‘Credem yn siŵr mai lord oedd pob Sais ac mai ein braint fawr oedd iddynt siarad ond ychydig eiriau â ni’. Onid hon oedd y gyfundrefn addysg a luniwyd er creu gwaseidd-dra?

Ond yr oedd gwaredigaeth wrth law o gaethiwed y dosbarth. Ar rai prynhawniau byddai’r athro, yn ei fawr ddoethineb, yn tywys y disgyblion i werthfawrogi gwychder amgylchedd yr ysgol ar deithiau i Lyn Idwal neu lwybrau’r Benglog gan edrych ar gyfansoddiad cymhleth y creigiau neu ogoniant byd natur yn ei gyflawnder a’i amrywiaeth.  Ac yn ystod yr awr ginio yr oedd Llyn Ogwen a chwarel cerrig hogi’r Benglog ar y trothwy i’w archwilio a’u mwynhau cyn troedio yn ôl i undonedd blinedig yr ysgol weddill y prynhawn.  Er mai Saesneg oedd prif gyfrwng y dysgu mynnai’r athro drosglwyddo gwybodaeth am enwau lleoedd yr ardal gan egluro beth oedd eu hystyr, a thrwy hynny gyfoethogi gwybodaeth y disgyblion am eu hamgylchfyd. Mae ei disgrifiad o Ysgol Glan Rhyd Idwal, er mor fychan ei maint, yn adrodd cyfrolau am ba mor gaethiwus, ac ailadroddus oedd cyfundrefn addysg y National Society yng Nghymru ar dro’r bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau’r ugeinfed. Dengys hefyd ba mor gyfeiliornus oedd mynnu mai Saesneg oedd iaith yr addysg gan amddifadu cenedlaethau o blant o’r cyfle i ddysgu yn eu mamiaith. Eto, er mor gaeth oedd y dysgu ailadroddus,  gallai Margaret Roberts ddweud iddi ‘gael addysg werthfawr yn Ysgol Glan Rhyd Idwal’, ond efallai mai’r rheswm am hynny oedd gweledigaeth un athro dawnus a fynnai addysgu ei ddisgyblion yn eu cynefin y tu allan i gaethiwed yr ystafell ddosbarth.

Llyfryddiaeth

Margaret Roberts, Oes o fyw ar y mynydd, Gwasg Gwynedd, 1979.

2 sylw ar “Ysgol Glan Rhyd Idwal

    1. Edgar Roberts

      Diddorol dros ben. Credaf y byddai Margaret Roberts yn aros yn 2 Rhes Mostyn gyda Mrs Polly Thomas yn ystod yr amser y byddai’n yr ysgol uwchradd.

      Hoffi

Gadael ymateb i Sian Beidas Diddymu ymateb