Gwaith copr Parc Moch

hafn 3
Un o hafnau y gwaith copr ym Mharc Moch

Yn 1768 cloddiwyd copr am y tro cyntaf ar Fynydd Parys, Amlwch, safle a ddatblygodd i fod y mwynglawdd fwyaf y byd yn ei chyfnod. Ar yr un pryd , os nad ychydig yn gynharach, rhwng 1760 a 1770 yr oedd mwynglawdd lawn mor llwyddiannus yn turio ym Mharc Moch yn Nyffryn Ogwen. Yno yr oedd mwyngloddwyr o Gernyw yn agor lefelau a phydewau dyfnion o lan Afon Ogwen i dir stad Coetmor. Cymaint oedd eu llwyddiant hyd nes, yn ôl Hugh Derfel Hughes, ‘na ddiffoddid canhwyllau ddydd a nos am saith mlynedd’ yn y mwynglawdd. Byr dymor oedd y fenter oherwydd datblygodd ffrae rhwng y mwyngloddwyr ac aerion y stad, a therfynwyd y gwaith. Ond er byrred ei thymor o waith erys olion y mwyngloddio ar lan yr afon ym Mharc Moch. Atgyfnerthwyd glan yr afon rhwng Pont Coetmor ac agen gyntaf y gwaith gyda therasau, ac mae muriau cerrig yn gwarchod y fynedfa i’r brif agen sy’n agor o lan yr afon ychydig fetrau i’r gogledd o bont y rheilffordd.

O ystyried dyddiad cynnar y fenter, ac o gofio nad oedd cynllun ffyrdd yr ardal yn gwasanaethu Parc Moch bryd hynny, rhaid ystyried pa fodd y cludid y mwyn o’r mwynglawdd i lan y Fenai i’w ddanfon oddi yno i’w brosesu yn Abertawe neu ar lannau Afon Merswy. Gan fod Parc Moch ar dir stad Coetmor ni ddangosir yr ardal mewn manylder ar brif fap stad y Penrhyn yn 1768 ac, yn anffodus, nid yw’r map yn nodi bodolaeth llwybr sy’n mynd o gyfeiriad Rachub i ardal Bryn Bella. Ni chafodd Pont Coetmor ei hadeiladu tan 1788, er y gallasai fod pompren gynharach yn croesi’r afon yn y lleoliad pwysig hwn. Ar fapiau cyfredol y ffordd fyrraf o fynd o Barc Moch i Lôn Goed, sef priffordd gynnar y cyfnod, fyddai ar y llwybr troed sy’n arwain drwy’r parc i Goed Isaf ac ymlaen i Goed Uchaf a’r ffordd. I ful dan ei bwn ni fyddai rhwystr, ond mae p’un a oedd y llwybr mewn bodolaeth bryd hynny yn gwestiwn nad oes ateb pendant iddo.

 

Oddeutu’r un pryd, rhwng 1759 a 1760, yr oedd consortiwm yn cynnwys etifeddion stad y Penrhyn -Syr Hugh Warburton a Syr George Young; John Ellis, ficer Bangor; Francis Lloyd, meddyg o Fynachdy, Sir Fôn a Richard Hughes, stiward stad y Penrhyn, hefyd yn edrych am gopr yn Nyffryn Ogwen. Eu mentrau hwy oedd yn Nolawen yn Nant Ffrancon ac ym Mhendinas o lan yr Afon Ogwen gyferbyn â chloddfa Parc Moch. Ond er mor barchus y cyfalafwyr, rhwygwyd y bartneriaeth mewn byr amser gan anghydfod blin yn dilyn penderfyniad Young i ochri gydag arolygwr y gwaith yn Nolawen, sef gŵr o Gernyw o’r enw Climo. Cloddiwyd un llwyth o gopr yn Nolawen a daeth y fenter i ben yn ddisymwth.

 

llun 1Oddeutu’r un pryd, rhwng 1759 a 1760, yr oedd consortiwm yn cynnwys etifeddion stad y Penrhyn -Syr Hugh Warburton a Syr George Young; John Ellis, ficer Bangor; Francis Lloyd, meddyg o Fynachdy, Sir Fôn a Richard Hughes, stiward stad y Penrhyn, hefyd yn edrych am gopr yn Nyffryn Ogwen. Eu mentrau hwy oedd yn Nolawen yn Nant Ffrancon ac ym Mhendinas o lan yr Afon Ogwen gyferbyn â chloddfa Parc Moch. Ond er mor barchus y cyfalafwyr, rhwygwyd y bartneriaeth mewn byr amser gan anghydfod blin yn dilyn penderfyniad Young i ochri gydag arolygwr y gwaith yn Nolawen, sef gŵr o Gernyw o’r enw Climo. Cloddiwyd un llwyth o gopr yn Nolawen a daeth y fenter i ben yn ddisymwth.

Mae’n amlwg fod datblygwr craff fel Richard Pennant (1737? – 1808), perchennog stad y Penrhyn yn dilyn ei briodas â merch Warburton yn 1765, wedi sylweddoli nad oedd bonansa ariannol Mynydd Parys i ddigwydd yn Nyffryn Ogwen. Fe fyddai dyn mor graff ag ef yn ymwybodol fod adroddiad Hugh Stephens, arolygwr mwyngloddiau, yn barnu nad oedd rhagolygon arbennig i ddatblygu potensial mwynau’r fro. Dysgodd Pennant a’i olynwyr y byddai’n llawer haws, ac yn fwy proffidiol drefnu cytundebau gyda mentrau annibynnol, gyda breindal uchel ar y cynnyrch, yn hytrach na llosgi bysedd yn datblygu cnau gweigion. Yn 1782, er enghraifft, yr oedd prydles cwmni Roe ym Mynydd Parys yn annhebygol o gael ei hadnewyddu, ac felly daeth y cwmni i archwilio yng Nghwm Graeanog, yn Nant Ffrancon. Menter aflwyddiannus oedd hon eto pan gloddiwyd rhwng pump a chwe thunnell o gopr ar draul o £400. Ond nid oedd pall ar awch y datblygwyr oedd yn gymysgfa o Gymry, o Fôn yn bennaf, ac o Saeson a fynnai ennill ffortiwn o’r cawg copr. Trefnwyd nifer o gytundebau hyd at 1850 cyn i fenter y copr bylu yn Nyffryn Ogwen unwaith ac am byth. Unwaith y temtiwyd Pennant i fagl y twll mwynau pan fentrodd ailagor mwynglawdd Dinas yn 1802, ymdrech a brofodd unwaith yn rhagor i fod yn fethiant.

18
Cwm Graeanog yn Nant Ffrancon

Nid nad oedd Pennant, er hynny, yn chwilio am gyfleoedd i ddatblygu portffolio diwydiannol ehangach i’w etifeddiaeth. Un llinyn yn unig i’w fwa oedd chwarel lechi Cae Braich y Cafn . Fel aelod seneddol dros ddinas Lerpwl gwyddai fod yno farsiandwyr a oedd yn dra awyddus i ddatblygu golud Gwynedd. Yn 1800 arwyddodd gytundeb 21 mlynedd gyda chwmni Michael Humble, Samuel Holland a Nicholas Hurry i ddatblygu melinau grawn, fflint ac ocar ar dir ei stad. Arwyddwyd pedwar trefniant ychwanegol yn 1803 ar gyfer datblygu mwynau ac amaethyddiaeth yr ardal. Y gŵr canolog yn yr holl drefniant oedd Samuel Worthington, cyfaill agos i Pennant, a pherchennog melin flawd yn Lerpwl. Yr oedd ef drwy drefniant cynharach wedi cael yr hawl i chwilio am fwynau ar stad y Penrhyn ac wedi datblygu’r cysylltiad drwy ddod yn brif asiant gwerthu llechi chwarel y Penrhyn, a than ei warchodaeth ef y gweithiai Humble a Holland. Derbyniodd Worthington brydles ar y chwarel gerrig hogi yn Nant y Benglog a sefydlodd felin i’w trin fel rhan o’r fenter, i falu callestr yn y Felin Isa yn Llandygái i’w ddanfon i wydro llestri porslen yng nghrochendy’r Herculaneum yn Lerpwl. Ychwanegodd at ei bortffolio yn 1800 drwy dderbyn prydles ar y gloddfa ocar yng Nghoed y Parc.  Talodd £40 am y felin, yr odyn, y pwll mwyn a’r siediau i drin y cynnyrch cyn symud y datblygiad i’r Felin Isa a sefydlu yno waith paent fel isgynnyrch i’r ocar. Datblygiad arall o bwys gan Worthington oedd y ffatri llechi ysgrifennu ar y cei ym Mhorth Penrhyn. Anturiaethwr a adawodd ei farc ar ddiwydiant cynnar Dyffryn Ogwen oedd Worthington ond eto erbyn 1829 yr oedd yr holl fentrau hyn wedi rhedeg eu rhawd ac yntau wedi ymddeol i Lanfairfechan ar ôl anghytuno â Dawkins Pennant, perchennog newydd stad y Penrhyn.

Yr oedd dyfodol Dyffryn Ogwen wedi ei glymu i’r diwydiant llechi, ac wedi’r ymchwydd cyntaf i ddarganfod copr llithrodd y diwydiant mwynau crai i ebargofiant gan adael prin greithiau’r mwngloddiau ar y llechweddau, megis menter y gwaith arsenig yn Nolawen yn 1827; arbrofion gwaith copr yn Nhai Newyddion yn1839 a’r fenter i fwyngloddio manganîs yng Nghwm Pen Llafar yn chwarter olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn ogystal â’r mentrau y cyfeirir atynt uchod.

Diolch i Einion Thomas am ei gyfraniad at y nodyn hwn.

Ffynonellau

Hugh Derfel Hughes. 1866. Hynafiaethau Llandegai a Llanllechid . Bethesda.

M. Bassett. 1974. Diwydiant yn Nyffryn Ogwen. Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon. 35. tt. 73-84.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s