Y Caffi

Penrhyn TerasDyma gyfraniad gan Idris Lewis, Dolwern, Ffordd Bangor.

Bid sicr, jyncet i’w gofio oedd hwnnw a gynhaliwyd un Sadwrn ym mis Awst 1882 i ddathlu agor y Caffi yn Nheras Penrhyn, Bethesda, gyda holl bwysigion yr ardal yn bresennol. Sylwer ar yr enw, y Caffi, fel y’i galwyd yn yr adroddiad a ymddangosodd yn Y Gwyliedydd yr wythnos ganlynol i gofnodi’r achlysur, er mai ei enw yn llawn oedd The Bethesda Temperance Cafe. Y Caffi oedd yr adeilad a goronai un pen i Res Penrhyn. Adeilad a ddiffiniwyd gan y dair gris a esgynnai o’r pafin islaw i’w ddrws ffrynt a chan ei falconi bychan trawiadol a grogai uwchlaw’r stryd. Fel yng ngweddill y teras defnyddiwyd brics coch llachar i’w adeiladu. I genedlaethau o ddinasyddion o gyfnodau diweddarach yn Nyffryn Ogwen adwaenid yr adeilad fel y Clwb neu gan eraill fel yr Aelwyd.

A pham y rhoddwyd cymaint o bwysigrwydd i’r Caffi i deilyngu seremoni i’w agor? Gwell rhoi’r holl fenter yn ei gyd-destun. Adeiladwyd Penrhyn Teras gan stad y Penrhyn yn fwgwd urddasol i guddio bryntni hen Chwarel Llety’r Adar oedd y tu cefn iddo, a thrwy hynny greu mynedfa fwy lliwgar a derbyniol i’r rhai ddeuai i mewn i bentref Bethesda o’r gogledd. Hwn oedd y teras hefyd a groesawai’r holl deithwyr a gyrhaeddai Bethesda ar y trên. Nid cyd-ddigwyddiad felly mai ar Orffennaf 1af 1884 y cyrhaeddodd y trên cyntaf o Fangor ar reilffordd newydd y London and North Western. Ac yr oedd lleoliad Y Caffi hefyd yn strategol bwysig, wedi ei adeiladu ar drothwy eithaf stad y Penrhyn cyn cyrraedd craidd y pentref oedd ar stad Cefnfaes. Y Caffi oedd y trothwy syber i bentref a gynhwysai hyd at 18 tafarn ar ei brif stryd ychydig lathenni tua’r de. Ac yng ngeiriau’r colofnydd – ‘Yr oedd mawr angen am sefydliad o’r fath gan nad oedd gan ddynion ieuanc yr ardal unrhyw fan i gyrchu iddo ar ôl oriau llafur ond y tafarnau yn unig’.

A dyna oedd thema y cyfarfod agoriadol. Cafwyd anerchiad adeiladol gan Ficer Eglwys St Ann’s yn amlinellu amcanion y fenter gan nodi’r rheidrwydd i gynnal y gweithgareddau fel menter fasnachol. Aeth ymlaen i bwysleisio ‘that the building would be useful in promoting temperance and morality, in providing innocent in-door recreation for young men, in furnishing opportunities for mental improvement through the reading rooms and lectures, and in supplying convenient reasons for the work of good institutions such as benefit clubs, savings banks, young men’s friendly societies and the like’ (bonllefau o gymeradwyaeth). Dilynwyd yr araith gan wasanaeth defosiynol byr cyn i’r Cyrnol West afael yn yr awenau gan nodi fod nifer ym Methesda wedi buddsoddi nid er budd ariannol ond i gynnal ‘a place which had been much needed’ (bonllefau o gymeradwyaeth eto). Uchafbwynt yr areithio oedd cyfraniad Arglwydd Esgob Bangor, ac aeth yntau ymlaen i ailadrodd yn llafurus am ganlyniadau llygredig y ddiod feddwol a’r waredigaeth a geid rhagddo mewn sefydliad megis y Cafe (sawl bonllef o gymeradwyaeth i ddilyn). Yna, er syndod efallai, ‘Mr T. H. Owen and Mr R. Jones (Cloth Hall) having spoken in Welsh, an adjournment was made for dinner’. Ac i goroni’r amgylchiad gyda’r hwyr cynhaliwyd cyngerdd cerddorol gan ‘local amateurs’.

Yn 1881, flwyddyn cyn yr agoriad, sefydlwyd cwmni i adeiladu’r fenter gyda gwarant o 50 mlynedd ar brydles rhad ei thelerau i’w thalu i’r Arglwydd Penrhyn. Ef hefyd oedd y prif gyfranddaliwr mewn cynllun cyd gyfalafol i greu buddsoddiad mewn enw o 3000 cyfranddaliad am £1 yr uned. Cyhoeddodd gohebydd y North Wales Express fod 1800 eisoes wedi eu cymryd ers cychwyn y fenter. Gosodwyd y gwaith adeiladu i Owen Morris, adeiladydd o Gaernarfon, am bris o £2100, i gynllun gan John Williams, Penylan, Llandygái. Yr oedd yn adeilad cynhwysfawr ei gynllun. Ar y llawr cyntaf yr oedd ystafell paratoi lluniaeth ysgafn, bar coffi a neuadd chwarae biliards gyda dau fwrdd o’r safon uchaf, y ddau o werth  £67 yr un. Y cyfleuster mwyaf uchelgeisiol ei nod ar y llawr nesaf oedd neuadd eang ei maint gydag oriel uwchlaw ar ei hystlys ac ystafell fechan gerllaw’r llwyfan y gellid ymneilltuo iddi’n gyfleus. Gellid defnyddio’r neuadd ar gyfer cynnal cyngherddau neu ddarlithoedd yn ôl y gofyn. Ar yr un llawr yr oedd darllenfa loyw ei golau lle gellid darllen papurau newydd dyddiol ac wythnosol yn y ddwy iaith cyn belled â’u bod yn amhleidiol ac yn anenwadol eu barn. Ar y trydydd llawr cynhwysai’r adeilad dŷ helaeth ei faint i’w ddefnyddio fel llety i’r gofalwr, er i’r gegin gael ei lleoli braidd yn anghyfleus ar y llawr cyntaf islaw.

Gyda sefydlu canolfan mor uchelgeisiol ei natur roedd rheidrwydd penodi pwyllgor cyfrifol i’w wasanaethu a’i warchod. Mae rhestr cyfarwyddwyr y fenter yr un mor ddiddorol ag amcanion y fenter. Ar flaen y gad roedd yr Anrhydeddus W. E. Sackville West – rheolwr stad y Penrhyn; Y Fonesig Maria Louisa – gwraig Edward Gordon, Arglwydd Penrhyn; G. W Cooke – perchennog Chwarel Bryn Hafod y Wern; Y Parch D. W. Thomas – ficer Eglwys St Ann’s; John Williams Penylan, cynllunydd yr adeilad a phensaer i stad y Penrhyn; D. G. Morris Hughes – rheolwr Banc yr N. P. ym Methesda; ac yna dri o ardalwyr y fro – R. Hughes, Llwybrmain, W. Jones, Cefnbryniau ac Owen Williams, Cefnbryniau; ac yn olaf yr Ysgrifennydd  E. Philip Williams, Victoria Place, Bethesda. Yr hyn sy’n nodedig am y rhestr yw nad oes merched wedi’u dewis, ac eithrio’r Fonesig wrth gwrs; yn ail, fod yr holl aelodau yn drigolion plwyf Llandygái ac eithrio Cooke, rheolwr y Banc a’r Ysgrifennydd. Yn olaf tybed pwy oedd y tri aelod cyffredin o’r pwyllgor a sut y cawsant eu dethol. Dengys cyfrifiad 1881 fod y tri yn chwarelwyr cyffredin, dau ohonynt yn eu chwedegau diweddar a’r trydydd, Owen Williams, yn ei bedwardegau cynnar. Tu draw i’r manylion prin hyn ni ellir ond rhesymu fod y tri, bur debyg, yn Anglicaniaid, a’r tri yn amlwg wedi’u clymu’n deyrngar i’r Arglwydd o ran eu galwedigaeth ac amodau eu llety.

Mae absenoldeb cynrychiolaeth aelodau o bentref Bethesda, yn gynghorwyr, masnachwyr, yn aelodau cyffredin o’r gymuned neu yn weinidogion anghydffurfiol, yn drawiadol ond nid efallai yn annisgwyl. Pennaf nod Y Cafe Company Limited ar y cychwyn oedd gweithredu fel lloches ddirwestol cyn iddo ail sefydlu ei hun fel Clwb i’r Blaid Geidwadol yn Nyffryn Ogwen, sef bwriad cudd o’i sefydlu yn y lle cyntaf. Ym mis Ebrill 1884 gellir synhwyro nodyn o bryder yn adroddiad gohebydd Y Llan sy’n adrodd fod mantolen Y Caffi am y flwyddyn wedi’i chytuno ac yn dangos fod yr adeilad a’r dodrefn wedi costio tua £2850 a bod y cwbl wedi ei dalu gan adael £20 mewn llaw. Serch hynny, ni fyddai llog i’w dalu i’r cyfranddalwyr hyd nes y byddai’r fasnach yn cynyddu gyda’r gobaith y byddai dyfodiad y rheilffordd yn cyfrannu at chwyddo’r gofyn. Ac fel Clwb i’r Blaid Geidwadol y rhygnodd y sefydliad ymlaen hyd at 1903 pan gafodd ei werthu i gyfranddalwyr Y Bethesda United Club, Ltd. Roedd y pwyslais o hynny ymlaen ar yr ‘united’, ac ar aelodaeth a fyddai’n llawer mwy eangfrydig a llai amlwg ei ufudd-dod i stad y Penrhyn.

Ffynonellau

Agoriad y Cafe – adroddiad ym mhapur newydd Y Gwyliedydd, Awst 16, 1882.

Inauguration of the Bethesda Temperance Cafe – adroddiad yn y North Wales Express, Awst 11, 1882.

Y Cafe Company Limited – adroddiad ym mhapur newydd Y Llan, Ebrill

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s