Llwybr Main a Than y Bwlch

Mynydd 1900
Cynllun Llwybr Main a Than y Bwlch yn 1890. Map OS 1890 drwy garedigrwydd a chaniatâd  Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru

Mae Llwybr Main a stryd gyfochrog Tan y Bwlch ym Mynydd Llandygái yn bictiwr o drefnusrwydd – maent wedi’u cynllunio yn gymen os nad yn gatrodol ofalus i gynnwys acer o dir gyda phob tŷ pâr. Adeiladwyd y ddwy res yn sgil ehangu eithriadol poblogaeth Dyffryn Ogwen a ddigwyddodd yn ystod cyfnod anterth datblygiad Chwarel y Penrhyn yn chwedegau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Awgrymir fod Mynydd Llandygái yn enghraifft o bentref ‘model’ ar raddfa fechan, y cyntaf, ac efallai’r unig, bentref o’i fath yng Nghymru a adeiladwyd yn arbennig i gartrefu gweithlu diwydiannol. Mae’n debyg y byddai cynllun trefnus y datblygiad wedi’i seilio ar gynlluniau a fabwysiadwyd gyntaf ar stadau siwgr y Penrhyn yn Jamaica ddiwedd y ddeunawfed ganrif.  Yno yr oedd yn rhaid cartrefu caethweision yn drefnus a rhoddi iddynt lain bychan o dir i ychwanegu at eu cadw gan arbed costau ychwanegol i’w meistri. Mabwysiadwyd y cynllun gyntaf yn Nyffryn Ogwen gan Richard Pennant yn 1798, a ffurf fwy datblygedig o’r drefn a sefydlwyd ar gomin agored Moelyci gan Edward Gordon ei ddisgynnydd yn olyniaeth y Penrhyn.

Os derbynnir y diffiniad fod Llwybr Main a’i gymar yn ffurf gynnar ar  bentref ‘model’, yna mae’n dra gwahanol i’r pentrefi ‘model’ diweddarach a ddatblygwyd mewn rhannau eraill o Brydain, rhai a ysgogwyd yn bennaf gan Grynwyr megis Bournville ac eraill o dan ddylanwadau cydweithredol megis New Lanark. Nodwedd y pentrefi hyn yw eu bod yn gytbwys eu cynllun ac yn cynnig nifer o wasanaethau cyhoeddus hanfodol i’r preswylwyr. Ond nid felly yr oedd hi ym Mynydd Llandygái – fe’i cynlluniwyd yn bentref gwasgaredig heb ganolbwynt, ac yn wreiddiol nid oedd ganddi wasanaethau na siop, nac ysgol, nac eglwys na chapel na neuadd na thafarn ar gyfer y trigolion. Adeiladwyd y tai drwy lafur y preswylwyr ar brydles i’r Penrhyn. Roedd yr holl ddatblygiad yn arddangos agwedd lethol dadol y meistr tuag at ei  wasanaethyddion -acer o dir i gynnal y deiliad yn ogystal â’i wasanaeth yn y chwarel – ‘an acer and a cow’ oedd yr ymadrodd, gyda phrinten o fenyn i’w ychwanegu at y rhent. Fel ychwanegiad i fap o stad y Penrhyn o 1803 ceir y cymal canlynol – ‘the proprietors of the Penrhyn Estate are entitled to what are called the small tithes of the whole parish of Llandygai which they annually collect viz kids, pigs, geese and eggs’. Fersiwn o’r hawl hwn oedd ar waith yn Llwybr Main erbyn canol y ganrif. Ar derfyn y brydles byddai’r eiddo yn trosglwyddo yn ôl i’r tirfeddiannwr oni fyddai’r cytundeb yn cael ei adnewyddu. Yn 1891/4 amcangyfrifwyd fod 1600 o weithlu Chwarel y Penrhyn yn byw ar stad y Penrhyn ac yn talu rhwng £1 a £6 y flwyddyn mewn rhent, gyda’r swm yn amrywio yn ôl maint y denantiaeth. Mewn lleoliad megis Llwybr Main, gyda chae o faint digonol i gadw buwch ynghlwm â’r tŷ, gellid disgwyl talu uchaf bris y rhent.

Un o broblemau mawr Dyffryn Ogwen drwy gydol y bedwaredd ganrif ar bymtheg oedd y diffyg stoc tai ar gyfer cartrefu gweithlu diwydiannol mewn ardal wledig. Yr oedd stad y Penrhyn yn dra ymwybodol o’r diffyg, ac er gwaethaf adeiladu cynlluniau diddorol megis y ddwy res tai i chwarelwyr ym Mynydd Llandygái, y ‘garden suburb’ i bentref Bethesda ym Mhenybryn, a’r pentref ‘delfrydol’ yn Llandygái i gartrefu gweithwyr y castell –  cynlluniau oll yn dyddio i chwedegau’r ganrif – prin fod y darpariaethau hyn yn ateb prif angen y dyffryn. Serch hynny, yr oedd y diffyg er mantais i’r Penrhyn. Drwy berchnogi’r hawl i’r stoc tai gallasai’r tirfeddiannwr, a oedd hefyd yn brif gyflogwr yr ardal, ddefnyddio hyn fel erfyn cudd i gadw rheolaeth ar y tenant a mynnu ei ufudd-dod a’i deyrngarwch. Nid oes yr un rhan o Ddyffryn Ogwen lle defnyddiwyd y bygythiad cyfrwys a gormesol hwn yn fwy nag yn Llwybr Main.

Yn eironig iawn yr oedd nifer o gytundebau tai Llwybr Main a Than y Bwlch yn terfynu yn ystod blynyddoedd cyntaf yr ugeinfed ganrif. Roedd angen eu hadnewyddu mewn cyfnod pan oedd Dyffryn Ogwen wedi’i rwygo gan ddiflastod y Streic Fawr o 1900 i 1903. Ym Mynydd Llandygái yr oedd i hyn oblygiadau pur ddifrifol. Ym mis Rhagfyr 1901, gwta flwyddyn wedi i’r streic gymryd gafael, yr oedd chwech ar hugain o dai Llwybr Main ym meddiant chwarelwyr oedd ar streic. Dim ond tri thŷ yn y rhes oedd ym meddiant rhai a oedd wedi dychwelyd i’r chwarel. Y broblem fawr a wynebai’r Arglwydd Penrhyn a’i swyddogion oedd p’un a ddylid adnewyddu tenantiaeth y streicwyr ai peidio. Yr oedd y farn yn rhanedig, ac yn eithriadol anfoddog y penderfynwyd adnewyddu prydlesau’r tenantiaid, yn bennaf oherwydd pryder ynghylch llid y farn gyhoeddus pe byddai’r casgliad wedi bod yn wahanol.

Yr oedd yn ofynnol gosod amod ar y penderfyniad, sef pe byddai’r streicwyr yn aflonyddu ar y rhai a fynnai weithio yna byddent yn colli tenantiaeth eu tai. Fel mae’n digwydd, yr oedd hon yn amod pur anodd ei gweithredu fel y dengys adroddiadau am nifer o’r ymosodiadau geiriol a chorfforol a ddigwyddai drwy’r ardal. Mae’r ddwy enghraifft isod yn nodi pa mor agored y digwyddai’r ymosodiadau hyn. Yn Llwybr Main ar Ragfyr 26ain adroddodd Robert Hughes, Robert Griffith, R R Griffith, Owen Parry (Gefnan) a William Pritchard (Llwybr Main) y canlynol, fod ‘crowds of strikers about their houses through the holidays. They all reported that the police cannot give protection because they are afraid of the strikers’. Mae’r ail adroddiad, sy’n ddyddiedig i fis Ebrill 1902, yn nodi’r digwyddiad canlynol yn Gefnan – ‘Thomas Williams (of Tan y Bwlch) the man who resumed work on the 10th reported that crowds filled the road by Ammana Chapel on his return from work and heckeled him . In Gefnan the children aggravated him’.

Yr oedd gorthrwm annheg prydlesau byr dymor yn fater o drafodaeth genedlaethol ym Mhrydain yn ystod diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac yng Nghymru ystyrid y pwnc gyn bwysiced ag addysg a datgysylltiad eglwysig gan y Blaid Ryddfrydol. Yn 1888 sefydlodd y Llywodraeth Bwyllgor Dethol i drafod y mater a gwahoddwyd W. J. Parry i roddi tystiolaeth gerbron y pwyllgor gan yr Aelod Seneddol Tom Ellis. Ers rhai blynyddoedd yr oedd Parry wedi beirniadu annhegwch y drefn er, yn dra eironig, disgwylid iddo ef weinyddu prydlesau o’r fath yn ei swydd fel asiant stad y Cefnfaes ym Methesda. Mewn adroddiad ysgrifenedig dadlennol yn dilyn ei ymddangosiad argymhellodd y dylai’r prydlesau gael eu gweinyddu gan yr Awdurdodau Lleol yn hytrach na chan landlordiaid unigol gyda rhent y tenantiaid yn cael ei dalu yn uniongyrchol i’r awdurdod. Defnyddiodd Lloyd George rai o argymhellion Parry wrth frwydro’r achos yn ystod yr un cyfnod, ond ni wireddwyd rhai o’r awgrymiadau hyd oni ddaeth Deddf Cynllunio Gwlad a Thref i rym yn 1947.  Araf mae melinau cyfiawnder yn gweithredu!

Ffynonellau

Judith Alfrey. 2001.  Rural Building in Nineteenth Century North Wales; the role of the great estates. Archaeologia Cambrensis, CXLVII (1998), t. 199-216.

Jean Lindsay. 1987. The Great Strike : A History of the Penrhyn Quarry Dispute of 1900-1903. Newton Abbot.

Roose Williams. 1978. Quarryman’s Champion: the life and activities of William John Parry of Coetmor. Dinbych.

J. Ll. W. Williams, Lowri Wynne Williams ‘In different parts around are scattered the whitewashed cottages of the workmen, built from the designs of Mr Wyatt’ (Bingley 1804) – the provision of quarrymen’s housing in the industrial expansion of Dyffryn Ogwen, Gwynedd, in the 19th century. Erthygl heb ei chyhoeddi

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s