Chwarel William Williams

williams williams
William Williams o’r Tŷ Mawr yn Llandygái

William Williams o’r Tŷ Mawr yn Llandygái, y gŵr gwybodus ac amryddawn y mae Dafydd Glyn Jones wedi ysgrifennu cofiant mor ardderchog yn clodfori ei gyfraniad a’i fywyd, oedd rheolwr chwarel lechi Cae Braich y Cafn. Hon oedd y chwarel, ar odre Y Fronllwyd ym mhlwyf Llandygái a drawsnewidiodd ardal dawel, wledig Dyffryn Ogwen yn un o fwrlwm gwyllt y Chwyldro Diwydiannol. Hon oedd y chwarel hefyd a roddodd gychwyn hael i  lwyddiant ariannol teulu’r Penrhyn yn ystod oes aur y diwydiant llechi yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Yn 1782 prynodd Richard Pennant brydlesau wyth deg o gloddwyr ar ffridd Cae Braich y Cafn gan sefydlu yno un chwarel wnaeth uno’r cloddfeydd afreolus a oedd ar safle’r comin cyn hynny. A William Williams, fel is-reolwr ymarferol y stad a dderbyniodd gan Richard Pennant y swydd o ddatblygu’r chwarel.

cynllun chwarel
Cynllun W. Jones, Bangor o Chwarel y Penrhyn yn 1793 – atodiad yn Chwareli a Chwarelwyr, W. J. Parry 1897.

Tybed sut chwarel oedd Cae Braich y Cafn pan fabwysiadwyd hi gan William Williams yn 1782? Ceir cipdrem ar gyflwr y gwaith mewn adroddiad, â chynllun i’w ganlyn, a gyflwynwyd i’r Arglwydd Penrhyn ym mis Mehefin 1793 gan W(illiam?) Jones o Fangor.  Yr oedd y chwarel wedi’i rhannu yn saith adran a’i datblygiad yn dilyn nifer o dyllau yn y brig llechi ar echel o’r dwyrain i’r gorllewin. Rhestrwyd y tyllau yn yr adroddiad ac mae’n amlwg fod rhai ohonynt eisoes yn hen ac eraill megis ar gychwyn.  Twll Hen Nantwich, ar drothwy de-ddwyrain y gwaith, oedd canolbwynt y chwarel gyntaf, tra bo twll Nantwich Newydd yn y broses o’i ail ddatblygu o hen gloddfa gynharach. Yr oedd y ddau dwll, Dwndwr Uchaf a Dwndwr Isaf, yn gloddfeydd newydd yn gweithio hyd at ben eithaf y gorllewin o’r wythïen lechi, ac yn amlwg i’w datblygu gyda gofal. Yr oedd twll Dwndwr Uchaf eisoes wedi torri drwy wal warcheidiol y mynydd ac yn rhybudd y byddai’r chwarel yn sicr yn y dyfodol o ymestyn ymhellach i gyfeiriad y gorllewin. Yn olaf, megis ar gychwyn eu gweithio yr oedd pyllau arbrofol Chwarel y Pwll i’r de a Phwll yr Aur i’r gogledd. Ar derfyn y gogledd o’r gwaith gwelir fod y tomennydd rwbel wedi’u trefnu i agor i’r tir agored fel na fyddent yn tagu datblygiad pellach yn y tyllau.

Mewn chwarel a oedd megis ar ei chychwyn yr oedd gofyn goresgyn nifer o rwystrau. Yn dra phwysig nodwyd ar y cynllun drywydd y graig folcanig a oedd yn brigo drwy’r chwarel ar ffurf croes. Mae’n amlwg fod presenoldeb y graig galed hon eisoes yn creu rhwystr i ddatblygiad y gwaith ac yr oedd, ymhen amser, i amlygu ei hun ym mhinacl talsyth, caled y Talcen Mawr nas chwalwyd hyd at gyfnod diweddarach yn hanes y chwarel. Rhwystr arall oedd fod dŵr yn cronni wrth i’r pyllau gael eu dyfnhau. Nodir, er enghraifft, fod angen rhyddhau dŵr o waelod twll Hen Nantwich, ac yn y cynllun fe welir fod dwy ffos yn arwain allan o’r twll gydag olwyn ddŵr yn gyrru’r peirianwaith i sychu’r safle. Yn gysylltiedig â’r holl byllau yr oedd 69 o fargeinion wedi’u gosod a’u hansawdd yn amlwg yn amrywio o’r gwael, i’r derbyniol a’r penigamp yn ôl y manylion a gyflwynwyd gan William Jones. Wedi’u gwasgaru drwy’r chwarel, ond heb gynllun arbennig i’w dosbarthiad, gwelir y waliau ar gyfer trin y cerrig ond ni roddir sylw pellach i’w nodweddion yn yr adroddiad. Mae’n agos i 30 o’r waliau wedi’u nodi yn y cynllun. Yn 1793 wynebai nifer dda o’r bargeinion broblemau ymarferol anodd cyn y byddent yn gynhyrchiol. Y broblem bennaf oedd torri pen rhydd yn y fargen i gyrraedd at graig dda, ac mewn rhai bargeinion yr oedd rwbel o gyfnod cynharach neu, yn fwy arbennig yn Nhwll Dwndwr Uchaf, gysylltiad â’r trawst folcanig, yn creu rhwystrau ychwanegol. Mewn rhai bargeinion yr oedd yn angenrheidiol dyfnhau’r twll er mwyn dadorchuddio’r lechfaen islaw, ac yn ddiddorol iawn nodir mai deuddeg ceiniog y dydd oedd y tâl am glirio’r brig yn Nantwich Newydd. Nodir enwau deiliaid pob un o’r bargeinion. Er bod rhai enwau yn cyfateb i rai o gloddwyr cyntaf y chwarel, megis John Edmwnd neu Gruffydd Jones, Tŷ Hen, ni ellir bod yn sicr faint o’r cloddwyr gwreiddiol cyn 1782 a oedd yn dal yn gweithio yn chwarel William Williams yn 1793.

Chwarel y Penrhyn yn 1808 –engrafiad
Chwarel y Penrhyn yn 1808 – engrafiad S Rawle o lun gan J. Dixon, Casgliad Tirlun Cymru. Trwy ganiatâd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth.

Mae darlun Rawle o’r chwarel yn 1808 yn un eithriadol ddiddorol oherwydd nid yn unig mae’n portreadu cyflwr y gwaith ond hefyd mae’n darlunio amrywiol ddyletswyddau’r gweithlu. Felly, math o bortread cyfansawdd o’r chwarel a gyflwynir yn hytrach nag un o olygfa benodol. Fel y byddai disgwyl, lleolir y llun yn y twll ac amlygir ei ddyfnder drwy leoli rhai o’r dynion yn sefyll ar ei ymyl fel pe baent yn hofran yn yr entrychion. Ar ochr dde’r llun ymddengys bod dau lwyfan wedi’u creu, un uwchben y llall. Ym mlaendir y llun dangosir rhan o reilffordd amrwd ei ffurf sy’n ymddangos fel pe bai wedi’i saernïo o bren. Er ei symled, hwn oedd cyfrwng cysylltu’r ddwy bonc, fel y dengys y ddau ddyn, rybelwyr bur debyg, sy’n gofalu am y wagenni ar y rheiliau.  Y rhyfeddod yw mai dynion sy’n tynnu a gwthio’r wagenni ac nid ceffylau. Portreadir y gweithlu wrth eu gwahanol ddyletswyddau. Yn y cefndir mae dau yn pileru yn y fargen; creigwyr yn sefyll ar sgaffold ac eraill yn hongian o raff yn tyllu ar gyfer chwythu’r graig; un dyn yn glanhau am i lawr o ben y clogwyn. Yn y blaendir, ar y chwith, mae dyn yn gofalu am ddau gawg a allasai gynnwys pylor du neu ffrwydron; ychydig i’r dde mae pentwr taclus o lechi toi ond ni welir yr holltwr na’r naddwr a’u cynhyrchodd. Yng nghanol y llun, ond yn y cefndir, mae dyn yn gweithio ym môn y graig a chanddo beiriant ar ddwy droed wrth ei ymyl. Tybed ai hwn oedd y sgriw a ddyfeisiwyd gan James Greenfield i chwalu’r graig yn blygiau mawr yn ôl cyfeiriad Hugh Derfel Hughes? A phwy tybed sy’n sefyll yn y blaendir i’r dde yn fintai bwysig mewn ymgom ddofn? Tybed ai Richard Pennant a Benjamin Wyatt yw’r ddau mewn dillad parchus a hetiau uchel ar bwys eu ffyn, yn trafod gyda William Williams a’i olynydd James Greenfield? Go brin efallai, er mae’n amlwg fod pwnc y drafodaeth yn ddigon pwysig i’w chofnodi ar ddalen enfawr gan y gŵr olaf sy’n sefyll yn barchus ar ymyl y criw. Er tybed, tybed, mai ef yw’r artist Rawle sydd yn y broses o ddarlunio’r holl lun? Boed hynny fel y bo, yr hyn sy’n sicr yw fod y chwarel dan reolaeth William Williams yn fenter lwyddiannus iawn er symled y dulliau o’i gweithredu. Pan brynodd Richard Pennant brydlesau yr wyth deg o gloddwyr ar ffridd Cae Braich y Cafn yn 1782 ei incwm blynyddol oedd £80, sef gwerth y prydlesau. Yn 1808, blwyddyn marwolaeth y perchennog, yr oedd ei incwm blynyddol o’r chwarel yn £7,000. Roedd y gweithlu wedi cynyddu o 80 dyn i 600 o ddynion ac roedd y cynnyrch blynyddol wedi chwyddo o tua 1,000 tunnell i 20,000 tunnell. Ac i William Williams y mae’r clod am y llwyddiant hwn.

Ffynonellau  

XXVII – Cyfeiriadau at y plan o chwarel lechi y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Penrhyn, Mehefin 1793.   Atodiad yn W. J. Parry. 1897. Chwareli a Chwarelwyr. Caernarfon, tud. 253-255 yn cynnwys cynllun.

Advertisements

Un sylw ar “Chwarel William Williams

  1. Hysbysiad Cyfeirio: Bryn Derwen – Hanes Dyffryn Ogwen

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s