Eglwys St Ann’s

Eglwys Sant Anns
Eglwys St Ann’s cyn ei dadfeiliad – llun o archif Ifor Williams, Coetmor, drwy ganiatâd

Eglwys St Ann’s oedd yr olaf o eglwysi Dyffryn Ogwen i’w hadeiladu yn ystod cyfnod Edward Gordon Douglas Pennant, yr ‘Hen Lord’. Rhwng 1840 ac 1886 noddodd yr Arglwydd, drwy ariannu’n uniongyrchol neu drwy gyflwyno tir, adeiladu Eglwys Tanysgrafell (1847), Eglwys y Gelli, Tregarth (1853), Eglwys Crist, Glanogwen (1856) ac Eglwys St Ann’s ym Mryn Eglwys (1865). Mae’n debygol hefyd mai ef oedd y sbardun i adeiladu eglwys newydd Sant Llechid yn Llanllechid yn 1845, ac yn ddiweddarach i gyfrannu at ehangu Eglwys Sant Tegai yn Llandygai yn 1853. Yr oedd cyfraniad rhyddfrydig yr ‘Hen Lord’ i fywyd eglwysig a diwylliannol bro ei stad yn un eithriadol werthfawr o gofio hefyd fod ysgolion dyddiol yn gysylltiedig â nifer o’r eglwysi a sefydlodd.

 

Yn ninas Jerusalem Eglwys St Anne yw’r enghraifft odidocaf o eglwys o gyfnod Rhyfel y Groes ac mae’n nodi safle draddodiadol a gysylltir gyda cartref taid a nain yr Iesu ar ochr ei fam, a man geni y Forwyn Fair. Ar y pared â’r eglwys lleolwyd pyllau dŵr Bethesda. Ond nid santes yng ngwir ystyr y gair a roddodd ei henw i eglwys St Ann’s ym Mryn Eglwys ond yn hytrach, cysegrwyd yr addoldy yn enw Anne Susannah, gwraig Richard Pennant, Arglwydd cyntaf y Penrhyn. Hen grybiban ffroenuchel a hynod benderfynol oedd hi. Yn wreiddiol safai’r eglwys gerllaw Llyn Meurig ar safle a oedd gryn hanner milltir i gyfeiriad y de o leoliad yr eglwys bresennol. Erbyn cyfnod canol y ganrif yr oedd ymlediad difäol Chwarel y Penrhyn yn bygwth traflyncu safle’r eglwys wreiddiol a rheidrwydd oedd dewis lleoliad newydd ar gyfer adeiladu yr olynydd. Ond paham dewis llecyn a oedd mor anghysbell â Bryn Eglwys ar gyfer adleoli’r eglwys? Yn sgil sefydlu’r eglwys newydd ar Douglas Hill, fel y gelwid y lleoliad bryd hynny, adeiladwyd nifer bychan o dai yn ei chysgod. Yn ystod yr un cyfnod, er hynny, yr oedd datblygiad ehangach yn digwydd ym Mynydd Llandygái wrth i resi tai cyfochrog Llwybr Main a Than y Bwlch gael eu codi gan greu canolbwynt llawer mwy poblog na’r safle diarffordd a ddewiswyd ar Douglas Hill, gryn hanner milltir i ffwrdd i gyfeiriad y gogledd.  Byddai rhywun yn disgwyl mai yno felly ym Mynydd Llandygái y  byddid wedi lleoli’r eglwys newydd.

o'r tŷ
Safle amlwg meindwr eglwys St Ann’s yn nhirlun Dyffryn Ogwen

Mae lleoliad yr eglwys newydd felly yn bwrpasol, oherwydd fe’i dewiswyd nid er hwylustod i’w chymunwyr, ond yn hytrach fel symbol daearyddol gweladwy yn Nyffryn Ogwen i nodi uwch awdurdod yr Eglwys Anglicanaidd dros yr holl gyfundrefnau ysbrydol eraill a oedd mewn cystadleuaeth yn ystod cyfnod canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg.  Pan agorwyd yr eglwys, nifer y cymunwyr oedd 160 ond 1765 oedd poblogaeth y rhan hon o blwyf Llandygái. Tybed felly mai y gweledol ac nid yr ysbrydol a oedd yn tra arglwyddiaethu pan sefydlwyd yr achos yn Eglwys St Ann’s?

Agorwyd yr eglwys ar 5 Medi 1865 ym mhresenoldeb 33 o offeiriaid gan gynnwys Esgob Bangor. Cynhaliwyd gwasanaeth Saesneg yn y bore a Chymraeg yn yr hwyr, ac meddai Hugh Derfel ‘taflodd pawb ar y pryd ei ragfarn o’r neilltu, ac aed yno, a chawsom bregethau rhagorol’. Cost adeiladu’r eglwys newydd oedd oddeutu £5,000 gyda chost ychwanegol o £1,500 i adeiladu’r persondy. Ar ddiwrnod agor yr eglwys cynhaliwyd cinio i’r gwesteion mewn pabell ar gost o £150 a ariannwyd  gan yr ‘Hen Lord’- jyncet i’w gofio bid sicr!

Yn annisgwyl, efallai, mae gan yr eglwys gysylltiad anuniongyrchol â’r Wladfa ym Mhatagonia.

bedd-ed-roberts-4-e1531949629915.jpg
Arysgrif mewn Sbaeneg ar fedd Edwyn Roberts ym mynwent St Ann’s

Y cysylltiad annisgwyl yw Edwyn Cynrig Roberts, gŵr a ystyrir yn un o sylfaenwyr y Wladfa  a chanddo hefyd gysylltiadau teuluol agos â Bethesda. Arhosodd yn Nyffryn Ogwen yn 1893 ar gychwyn taith i ymweld â chloddfeydd aur yn yr Andes yng nghwmni W. J. Parry a chydymaith arall o beiriannydd a hanai o Ddolgellau. Yr oedd arbenigwyr o Gymru wedi darganfod yr aur mewn sawl lleoliad yn yr Andes, a mor fuan ag 1886 yr oedd Michael D. Jones yn annog Cymry blaenllaw i fuddsoddi yn y fenter. Yn 1892 sefydlwyd cwmni y Welsh Patagonian Gold Fields Syndicate yn Llundain i ariannu cloddio’r aur ac ar ran y cwmni hwn y trefnwyd i Roberts a’i ddau gydymaith ymweld â’r cloddfeydd. O’r cychwyn cyntaf yr oedd holl fenter y Welsh Patagonian ar dir sigledig. Trefnwyd fod y tri ymwelydd i deithio draws gwlad mewn trol a cheffylau i’w tywys, taith a oedd i gymryd pedwar mis o amser i’w chwblhau. Roedd cynllunio taith a oedd mor anhygoel o ddiffaith ac anodd yr un mor anhygoel o amhosibl â cheisio rhoddi trefn ar y gweithfeydd aur wrth droed yr Andes. Yn ddisymwth, ar Fedi 17eg 1893, bu farw Edwyn Roberts a hynny ddeng niwrnod yn unig cyn cychwyn y daith arfaethedig ar Fedi 27ain. A dyna egluro sut y bu i Edwyn Roberts gael ei gladdu ym mynwent St Ann’s. A beth ddigwyddodd i Parry? Gwnaethpwyd trefniadau brys iddo ef hwylio ar ei ben ei hun i’r Ariannin ar 11 Hydref, taith a oedd i orffen yr un mor aflwyddiannus a pe byddai wedi marchogaeth drwy’r paith i gyrraedd y cloddfeydd. Ei nod oedd ‘to see to their business there and to put their business matters straight there’. Cewch ragor o hanes y daith honno yma.

 

Yr oedd gan eglwys St Ann’s gysylltiad arall annisgwyl â’r Wladfa. Drwy ymdrechion y Canon Walter Thomas, a ddaeth yn ficer yr eglwys yn 1871, y sefydlwyd Eglwys Anglicanaidd Gymraeg ei hiaith  ym Mhatagonia, a gwraig y Canon, Morfydd Eryri, a ddysgodd Sbaeneg i Hugh Davies o Lasinfryn  a benodwyd yn gaplan cyntaf yr eglwys.

Beth a feddyliai y Canon Walter Thomas a’i briod, Morfydd Eryri, o weld cyflwr presennol eglwys St Ann’s yn graddol droi yn furddun a’r fynwent lle claddwyd Edwyn Roberts yn anghyfannedd? Ac am faint y pery ei meindwr gosgeiddig yn nodwedd argraffiadol mor bwysig yn nhirlun y fro? Ysywaeth, cyflwr bregus y meindwr yw un o brif ffaeleddau’r adeilad a’r prif reswm dros ddiffyg cadwraeth gweddill corff yr eglwys.

eglwys St anne 1
Cyflwr gwael yr adeilad heddiw

Adeiladwyd y meindwr ar we mewnol o frigau haearn, a’r brigau hyn sydd bellach yn cancro ac yn gollwng eu gafael ar adeiladwaith brau y meindwr allanol. Yn eglwysi mawr y canol oesoedd yn Lloegr, megis Caersallog (Salisbury) neu Ely, adeiladwyd y meindwr ar fframwaith o goed ac mae cysylltiad y pren gyda’r adeiladwaith yn llawer sicrach ar ôl canrifoedd na’r sefyllfa druenus a ddigwydd yn St Ann’s ar ôl cwta ganrif a hanner yn unig o draul.

 

Gwybodaeth ychwanegol – Tegid Roberts,  Caernarfon; Helen Hughes, Hendyrpeg.

Ffynonellau

Hugh Derfel Hughes. 1866. Hynafiaethau Llandegai a Llanllechid. Bethesda

J.Ll.W. Williams. 2005. W. J. Parry, Coetmor Hall, Bethesda – portread o gyfrifydd, masnachwr a hapfasnachwr Cymreig yn negawdau olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Trafodion Hanes Sir Gaernarfon. 66, tt. 137-167.

Jean Lindsay . 1996. ‘Not Eldorado’: W.J. Parry and the Welsh Patagonian Gold Fields Syndicate.  Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion , Cyfres newydd, Cyfrol 3. 1997. tt. 136- 163.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s