Cyfleusterau angenrheidiol

Mae cofnodi rhestr o adeiladau atodol a oedd yn rhan o gyfleusterau angenrheidiol mewn tai yn Nyffryn Ogwen yn dasg anodd bellach oherwydd diflannodd y mwyafrif wrth i’r tai gael eu moderneiddio a’r gwasanaethau gael eu cynnwys dan yr un to. Yr adeiladau perthnasol oedd y cwt glo, yr ystafell ymolchi a’r tŷ bach, cyfleusterau a fyddai gan amlaf y tu allan i’r tŷ yn arbennig mewn rhesi tai unffurf eu hadeiladwaith. Mewn ffermdy sylweddol megis Coetmor, a adeiladwyd yn 1875, lleolwyd yr ystafell ymolchi, a oedd hefyd yn gwasanaethu fel washiws, y tu allan i’r drws cefn, a chuddiwyd y tŷ bach y tu draw i gornel gul ddisylw.

Gwern Go Isa
Lle chwech Gwern Gof Isaf

Mantais fawr y ffermdai oedd y gellid lleoli’r tai bach beth pellter oddi wrth y tŷ, a’u gosod yn aml uwchlaw ffos ddŵr y gallai gwyntoedd teg ei awyru. Dyna gyfleuster na ellid ei drefnu mor gyfleus mewn rhesi tai yn y pentref wrth gwrs. Yng Nghoetmor yr oedd ail gyfleuster uwchlaw’r domen dail, ond nid oedd hon ar gyfer defnydd gwahoddedigion i’r tŷ, ond yr oedd ei chynnwys yr un mor ddefnyddiol ar gyfer priddo’r ardd a’r caeau. Does ryfedd fod Coetmor yn enwog am ei thatws!

Ar waelod yr ardd yr oedd y tai bach fel arfer, ond prin fod un o’r adeiladau hollbwysig hyn wedi goroesi erbyn hyn heb gael eu trosi yn siediau aml bwrpas. Er yn llawer llai na’r cwt glo yr oedd eu hadeiladwaith yn

Lle chwech Llanllechid
Lle chwech yn Llanllechid

fwy cymesur, a’r to wedi ei doi â llechi pwrpasol a fesurai naill ai 10×5 neu 12×6 modfedd. Roedd y llechi hyn wedi’u hollti’n arbennig ar gyfer y math hwn o gyfleuster gan y bechgyn bach a fyddai’n dysgu eu crefft yn Chwarel y Penrhyn. Cyn dyddiad sefydlu system carthffosiaeth gymunedol ar lan Afon Ogwen yn Nolgoch oddeutu’r 1850au , arferid gwagio carthion y tai bach gan gasglwr yn gyrru trol o un stryd i’r llall. Dyna swydd na fyddai rhestr hir o ymgeiswyr yn cystadlu am ei llenwi bid sicr!

 

 

Cwt glo Dolgoch
Cwt glo Dolgoch

Y cwt glo yw’r adeilad sydd wedi goroesi yn bennaf hyd heddiw. Mewn rhesi tai cynnar a adeiladwyd cyn 1850 yn y tir agored, megis Caeberllan neu Ddolgoch, lleolwyd y cytiau diaddurn hyn yn y fynedfa i’r ardd mewn safle cyfleus i’w cyflenwi a’u gwagio gan wraig y tŷ. Adeiladwyd nifer o’r cytiau hyn o bennau llifio llechi bras gyda chrawiau anghymesur yn do arnynt, megis yn yr enghreifftiau yng Nghaeberllan. Mewn llawer o resi tai diweddarach a adeiladwyd ar diroedd mwy cyfyng, megis y rhai ar lethrau serth y Gerlan sy’n dyddio o chwedegau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, yr oedd cynllunio’r cwt glo yn fwy problemus.  Yr ateb yno, wrth gwrs, oedd  lleoli’r cwt glo mewn cloddfa danddaearol yn y llethr yn union gyferbyn â’r drws cefn, megis yn Stryd y

Cwt Glo Tai'r Berllan
Cwt glo Caeberllan

Ffynnon a Stryd Goronwy.  Cynllun tebyg oedd yn Stryd Hir, Gerlan, ac yno mae cwt enwocaf, er mwyaf ysgeler ei hanes yn Nyffryn Ogwen, lle carcharwyd mam y llenor Caradog Pritchard. Fel gweddill y rhesi tai adeiladwyd y cwt hwn yn rhan o wal y cae sydd dros y ffordd i’r tŷ.

Mae un adeilad domestig arall sy’n haeddu sylw yn Nyffryn Ogwen a hwn yw’r cwt rhew a adeiladwyd ym Mryn Meurig Mae’r adeilad bellach yn furddun ond fe dybir ei fod unwaith yn storfa ar gyfer rhewi bwyd, math o ragflaenydd i rewgelloedd ein cyfnod ni. Adeilad unigryw fyddai hwn wrth gwrs ac nid yw’n gyd-ddigwyddiad y cynlluniwyd Bryn Meurig ar gyfer un o giperiaid y stad.

Mewn cymhariaeth â rhesi tai ym Methesda mae gan rai o brif resi tai Mynydd Llandygái gyfleusterau tra gwahanol. Cymharer er enghraifft stryd megis Llwybr Main gyda Stryd Goronwy yn Gerlan, dau ddatblygiad sy’n cydoesi fwy neu lai. A derbyn fod tirwedd y ddau ddatblygiad yn bur wahanol – Llwybr Main ar dir gwastad a Stryd Goronwy ar lethr serth – yr oedd amcan y ddau ddatblygiad mor wahanol. Yn Gerlan y bwriad oedd cywasgu’r nifer mwyaf o dai i lain cymharol fychan o dir, tra yn y Mynydd adeiladwyd stryd o dai dwbl gydag acer o dir yn gysylltiedig. Yr adnodd pennaf felly oedd y tir a fyddai’n galluogi’r deiliad i ychwanegu elfen hunangynhaliol at eu bywoliaeth drwy gadw mochyn, ychydig o ddefaid, neu hyd yn oed fuwch, yn ogystal â dilyn galwedigaeth yn y chwarel. Yn Gerlan perthynai’r tir i ddatblygydd annibynnol a rhaid oedd cywasgu’r tai er mwyn ennill y gorau o’r datblygiad. Ym Mynydd Llandygái stad y Penrhyn oedd y perchennog, fel yng ngweddill y plwyf,  ac o ganlyniad nid oedd gofyn cyfyngu ar faint y cynllun.

Ffynhonnell

Gwybodaeth ychwanegol gan Wyn Roberts, Tregarth.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

w

Connecting to %s