Pentref Llandygái

 

Pentref Llandygai 1841
Cynllun pentref Llandygái yn 1841. Rhan o fap Penrhyn Ychwanegol PFA/6/166, drwy ganiatâd Archifau a Casgliadau Arbennig, Prifysgol Bangor.

Pentref Llandygái oedd y pentref ‘delfrydol’ a gynlluniwyd i gwrdd â gofynion Edward Gordon Douglas Pennant, Barwn Cyntaf y Penrhyn, oedd â’r syniad o greu ‘modelau’ pensaernïol buddiol ac effeithiol i gartrefu deiliaid ei stad. Cynlluniwyd pentref Llandygái ar gyfer lletya gweithwyr a chrefftwyr y stad. Yn Llwybr Main a Than y Bwlch ym Mynydd Llandygái lletywyd gweithwyr chwarel y Penrhyn, ac egin ddosbarth canol pentref Bethesda a gymerai ei sylw wrth gynllunio unedau pensaernïol Penybryn, Garneddwen a Ffordd Pantglas.

Llandegai village
Pentref Llandygái circa 1855. Ysgythriad a gyhoeddwyd gan J. Newman & Co,; Casgliad Tirlun Cymru, drwy ganiatâd  Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth.

Perthyn cyfnod adeiladu pentref Llandygái i ddegawdau canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac fe’i lleolwyd yng nghesail fonheddig y Grande Lodge a godwyd ychydig flynyddoedd yn gynharach fel y brif fynedfa i gastell y Penrhyn. I gartrefu’r trigolion adeiladwyd tai pâr deulawr cyfforddus ar dir y Tŷ Mawr. Tŷ cynnar sy’n dyddio i 1468 yw hwn a bu’n gartref i WilliamWilliams, y polimath disglair ei ddysg a gynlluniodd chwarel y Penrhyn i’w feistr Richard Pennant ar derfyn y ddeunawfed ganrif. Defnyddiwyd sgwâr y Tŷ Mawr yn ganolbwynt i’r datblygiad i gysylltu gyda’r eglwys, yr ysgol, y neuadd bentref a’r berllan. Gan mai creadigaeth unigol oedd y datblygiad adeiladwyd y naw tŷ ar hugain mewn arddull frodorol i gwrdd â delwedd y pentref fel y tlws, y detholedig a’r delfrydol. Yr oedd pob uned i gydymffurfio ag arddull y cynllun cyffredinol ond eto nid oeddynt yn unffurf eu hadeiladwaith. Cysylltwyd gardd eang gyda phob tŷ a defnyddiwyd waliau isel a gwrychoedd trwchus i nodi’r terfynau. Yr oedd gosodiad gofalus y tai yn golygu na oredrychai un ar ddrws ffrynt y llall gan warantu eu preifatrwydd. Telid rhent o rhwng £4 a £6 y flwyddyn yn dibynnu ar faint y tŷ ac adroddid y byddai’r rigolion yn cynnig ‘a lettuce and the rent’ yn wylaidd wrth ymostwng i dalu’r dreth flynyddol. Nid oedd capel, tafarn na siop yn rhan o gynllun y pentref.

Ty Mawr
Y Tŷ Mawr a’r sgwâr

Rhydd cyfrifiad 1891 drawsdoriad o alwedigaethau’r bobl a oedd yn byw yn y pentref ar y pryd. Yr oedd y ganran uchaf yn weithwyr ar y stad yn blastrwyr, towyr, seiri coed a meini, gofaint, garddwyr a choedwigwyr. Ymddengys fod yr ail genhedlaeth yn dewis swyddi oddi allan i’r stad oherwydd yn eu plith ceir clercod banc, clercod cyfraith a llys sirol, asiant tir organydd, athro ysgol a nyrs gymunedol. Yno hefyd yr oedd meddyg, clerigwr, trafeiliwr nwyddau, gwneuthurwr hetiau a theilwriaid yn ogystal â rhai siopwyr. Yr oedd cyfran fechan iawn yn chwarelwyr ac roedd rhai ohonynt yn gweithio mewn mân swyddi gweinyddol yn y chwarel neu yn y porthladd fel pwyswyr llechi neu glercod.

llandega church 1726
Eglwys Llandygái yn 1726 – ysgythriad gan James Newton; Casgliad Tirlun Cymru drwy ganiatâd  Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth.

Prin y gellir honni fod canolfan bentrefol wedi bodoli yn Llandygái cyn i’r pentref presennol gael ei adeiladu yn greadigaeth ddetholedig i’r Barwn. Dengys map Arolwg 1768 fod sgwâr Tŷ Mawr yn fan cyfarfod i sawl llwybr pwysig oedd yn cyrraedd o’r plasty sef y llwybrau o Gonwy dros Afon Ogwen; o Ddyffryn Ogwen; o Finffordd dros Afon Cegin ac o Fangor. Sefydlwyd yr eglwys yn gynnar yn y canol oesoedd a pherthyn corff yr adeilad i gyfnod y bedwaredd ganrif ar ddeg a’r gangell i’r unfed ganrif ar bymtheg. Mae rhannau eraill yn ganlyniad ail-lunio sylweddol yn 1853, eto ar orchymyn y Barwn, pan ehangwyd y corff ac adnewyddwyd y ffenestri ac ailadeiladwyd y tŵr yn ei gyfanrwydd. Yn ôl y traddodiad honnir i Tygái, y sant o Lydaw a gyrhaeddodd yn y chweched ganrif Oed Crist, sefydlu ei eglwys ar lain o dir a elwid yn Maes y Llan ar gwr y Meusyn Glasog ac, ymhen amser, i’r lleoliad hwn gael ei alw yn Tan y Fynwent. Yn Arolwg 1768 tyddyn bychan o wyth acer oedd Tanyfonwent ac roedd un o’r caeau yn dwyn yr enw Cae’r Ddeiol. Eto yn ôl traddodiad, dywedir mai colofn garreg Tygái oedd y ddeiol yn wreiddiol cyn iddi gael ei hail-lunio a’i symud i’r eglwys bresennol i bennu’r amser ar sail cylchdro’r haul. Yn ystod yr archwiliadau i archaeoleg y caeau i’r gorllewin o Landygái yn 1966/67 daethpwyd o hyd i safle pur ddadlennol. Yno, nepell o’r cae criced presennol darganfuwyd olion seintwar fechan o goed gyda bedd cysegr yng nghanol yr adeilad. Roedd y safle wedi ei amgylchynu gan fynwent yn cynnwys o leiaf bump deg saith o feddau. Mewn llawysgrif sy’n dyddio i 1575/6 cofnodir bod eglwys gynharaf Llandygái wedi ei sefydlu yn ‘Cae Meusyn Glasog’ a bod y lleoliad hyd at ddau saethiad bwa saeth o’r eglwys bresennol, ond ni nodwyd y cyfeiriad. Tybed ai hwn oedd safle gynharaf eglwys Tygái yn y chweched ganrif?

Cofnodwyd bod naw tŷ yn Llandygái yn 1811 ond mewn bras gynllun o’r pentref yn 1820 gan Telford dangosir safle’r eglwys, neuadd Talgai, y Tŷ Mawr a dau dŷ arall yn unig. Yn Arolwg 1768 enw un o gaeau y Tŷ Mawr oedd y ‘garden’ a hwn bid sicr oedd y llain tir a nodwyd fel y ‘berllan’ yng nghynllun pentref y Barwn. Ar gyfer ei defnydd fel ysgol i ferched yr adeiladwyd neuadd Talgai yn 1813, er mai clochydd yn yr eglwys, Thomas Thomas, biau’r clod am gynnal yr ysgol gyntaf yn Llandygái yn 1765. Ond mae sefydlu ysgol i ferched yn 1813 yn gam sylfaenol tra arbennig. Y sylfaenydd oedd Anne Susannah, gwraig Richard Pennant, arglwydd cyntaf y Penrhyn. Bu ef farw yn 1808 a thasg anodd ei wraig oedd sefydlogi sefyllfa ariannol fregus y stad yn dilyn dyledion enfawr ei gŵr. Mae’n amlwg fod Susannah yn wraig alluog a thra phenderfynol a hawliodd adeiladu yn ei hoes gyfres o safleoedd anghyffredin megis llaethdy, baddondy ac arsyllfan. Sefydlu ysgol i ferched oedd un o’i chreadigaethau mwyaf blaengar ac uchelgeisiol. Yn 1843 dan nawdd y Barwn y sefydlwyd ysgol i fechgyn yn Llandygái.

Mae pentref Llandygái yn cynrychioli rhai o agweddau gorau pendefigion y Penrhyn, o raslonrwydd ryddfrydig Anne Susannah i gymwynasgarwch ewyllysgar y Barwn. Yr oedd y pentref model hwn hefyd yn ddrych i ddatblygiad pentrefi ‘model’ mwy a gynlluniwyd yn ddiweddarach yn y ganrif gan rai o farwniaid diwydiant mwyaf dylanwadol Prydain megis teulu Cadbury yn Bournville a theulu Lever yn Port Sunlight. Trueni na chadwyd at gynllun y ‘model’ yn Llandygái drwy wrthod caniatâd i adeiladu tai nad oeddynt yn gymesur â phensaernïaeth ddewisol y tai gwreiddiol a thrwy hynny ddryllio peth ar gyfanrwydd y pentref delfrydol.

Ffynonellau

Judith Alfrey. 2001.  Rural Buiding in Nineteenth Century North Wales; the role of the great estates. Archaeologia Cambrensis, CXLVII (1998), 199-216.

Emyr Gwynne Jones. 1975. A Survey of the Ancient And Present State of the County of Caernarvon by William Williams (Pt 3). Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon. 36. 194- 231.

E H Douglas Pennant . 1998. The Penrhyn Estate  1760-1997: the Pennants and the Douglas Pennants. Trafodion Cymdeithas  Hanes Sir Gaernarfon. 59. 35-54.

Catrin Wager. 2014. Will Power. Gwreiddiau Gwynedd. 1 (66), 31.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s