Caban Signal Hendyrpeg

Dyma erthygl arall gan gyfranwr gwadd, sef Dafydd Roberts. 

Boc Signal Hen Dyrpaig (1)Un o’r mannau hynny yn Nyffryn Ogwen sydd wedi gweld newid sylweddol dros y cyfnod ers dechrau’r 1960’au ydi Hendyrpeg, Tregarth. Fel mae’r enw yn awgrymu, ar un adeg mi roedd yna adeilad neu dŷ tyrpeg yma, yn rheoli symudiadau ar hyd y ffordd yn arwain o Fethesda i gyfeiriad Porth Penrhyn. Dyma’r ffordd a adeiladwyd gan Ymddiriedolaeth Tyrpeg Capel Curig yn 1802. Yn ogystal, roedd nifer o ffyrdd  eraill yn cyfarfod yma – o Fryn Bella, o Ben Dinas, ac o Hafoty. Ac, i ychwanegu at y prysurdeb, byddai croesfan wedi bod yma ar gyfer Tramffordd Chwarel Penrhyn, adeiladwyd yn 1801 fel rhan o’r broses o hwyluso cludiant llechi o’r chwarel i Borth Penrhyn. Nid oes fawr ddim gwybodaeth wedi goroesi am y groesfan wreiddiol yma; ond mae llawer mwy o wybodaeth am y groesfan a’i holynodd yn 1879. Dyma pryd yr agorwyd rheilffordd gul (sef lled rhwng y cledrau o 1’ 11“  neu ychydig llai na 60cm) ar gyfer injans stêm, yn cysylltu Coed y Parc a Phorth Penrhyn. Goroesodd hon tan 24 Gorffennaf 1962, er bod y cledrau wedi parhau’n eu lle tan 1965. Ers yr adeg hynny, cymerwyd y cyfle i aildrefnu’r gybolfa o ffyrdd, cledrau, clwydi ac adeiladau yn Hendyrpeg, gan adael cyffordd agored a hwylus. Atgof bellach ydi trafferthion gyrwyr Purple Motors, wrth geisio troi bws fyddai’n teithio o gyfeiriad Tregarth, rhwng y clwydi, ac i gyfeiriad Bryn Bella!

Os daw cyfle i oedi rhyw ychydig yma, mae yna nifer o elfennau sydd yn parhau’n dystiolaeth o’r cyfnod pan fyddai yr injans Charles, Linda a Blanche (ac ambell un arall hefyd ar adegau) yn llusgo eu llwythi o lechi gleision heibio’r fan. Mae rhai o’r pileri llechfaen cydnerth fyddai wedi cynnal y clwydi i’w gweld o hyd, ac mae’r lôn sydd yn arwain yn hwylus at gefnau’r rhes tai gerllaw yn dilyn llwybr y rheilffordd stem. Ond mae yna un goroesiad rhyfeddol arall. Sylwch ar y caban pren taclus ger mynediad Lon Hafoty, sydd wedi ei baentio’n llwyd bellach, ac fel petai’n goruchwylio’r cyfan o’r mynd-a’r-dod dyddiol. Dyma’r caban signal ar gyfer y groesfan rheilffordd.

Beth oedd diben hwn? Yn ddigon syml, y rheswm oedd bod yma arwydd neu signal, ar ben polyn tal, wedi ei ddarparu a’i leoli gerllaw’r caban ar ochr orllewinol llwybr y rheilffordd, yn weledol o bellter i’r gyrrwr oedd yn gofalu am injan stêm fyddai’n teithio naill ai o Goed y Parc, neu i Goed y Parc. Gyda’i drên o wagenni llwythog yn pwyso hyd at, efallai, gyfanswm o 100 tunnell, roedd yn bwysig iddo wybod – wrth deithio i gyfeiriad Porth Penrhyn – fod y clwydi yn Hendyrpeg wedi eu cau ar draws y ffordd, a bod ganddo felly y gallu i groesi yma yn ddiogel ac heb rwystr. Byddai gofalydd y caban signalau yn deall amserlen y trenau, ac yn gofalu fod y clwydi wedi eu cau, rai munudau cyn dyfodiad y trên. Yna, ar ôl eu cau, byddai’n tynnu lifer yn y caban, oedd wedi ei gysylltu trwy gyfrwng rhaff wifren gyda’r signal ar y polyn gerllaw. Yn arferol, byddai’r signal yn llorweddol; ond, yn sgil plwc y lifer, byddai’n ongli at lawr – a dyna’r arwydd i’r gyrrwr fod y cyfan yn ddiogel. Petai’r trên yn teithio i gyfeiriad Coed y Parc, o Borth Penrhyn, roedd yr un mor bwysig i’r gyrrwr wybod fod y clwydi wedi cau, a’r groesfan yn glir. Gan gofio yn yr achos yma mai teithio i fyny’r dyffryn y byddai’r trên, heb lwyth llechi, ond efallai gyda llwyth o lo yn y wagenni, roedd yn bwysig i’r gyrrwr gadw symudiad ei drên yn gyson ac esmwyth. Anodd fyddai ailgychwyn, petai’n gorfod atal y cyfan. “Wedi chwythu ei blwc” fyddai’r hanes wedyn !

Felly, lloches ar gyfer gofalydd y groesfan oedd y caban signalau. Mae lluniau o’r caban yn ei ogoniant (mae yna un arbennig o dda yn llyfr Boyd) yn dangos cwt pren taclus, wedi ei adeiladu fymryn uwchlaw’r rheilffordd,  a phibell corn simddai yn arwydd o’r lle tân tu fewn. Mae’r polyn a’r signal i’w weld yn y llun yma, hefyd, a diddorol yw sylwi fod y polyn ar ochr orllewinol y rheilffordd. Mae yna bolyn, hyd heddiw, ar ochr ddwyreiniol y rheilffordd, bron wedi ei dagu mewn drysfa o eiddew. O grafu eich ffordd trwy’r eiddew, gellir gweld mai polyn dur ydi hwn, ac mae’n debygol felly mai pibell awyru sydd yma ar gyfer system carthffosiaeth, nid polyn fyddai wedi cynnal signal. Mae’r darlun yn llyfr Boyd yn lled-gadarnhau hyn.

Diddorol ydi sylwi nad yw argraffiad 1887/88 o fap yr Arolwg Ordnans yn dangos bodolaeth y caban signal (gyda’r talfyriad SB), na’r polyn signal (sef SP).Ond, mae’n dangos adeilad bychan yn y man cywir. Mae adolygiad 1901 eto’n dangos yr adeilad, gyda SP gerllaw. Yn adolygiad 1919, dangosir SB ac SP yma. Tybed felly os mai croesfan heb signal osodwyd yma yn wreiddiol yn 1879, gyda’r signal yn ychwanegiad diweddarach?

Ar reilffyrdd confensiynol, yr arferiad gan amlaf yw fod un signal yn rheoli symudiad trên i un cyfeiriad. Yn Hendyrpeg, fodd bynnag, roedd yr un signal, ar ei bolyn, yn cael ei ddefnyddio i reoli symudiadau trenau yn y ddau gyfeiriad. Does dim i awgrymu fod lampau rhybudd, coch neu wyrdd, wedi eu defnyddio fel rhan o’r signal – posib iawn nad oedd eu hangen, gan na fyddai trenau yn teithio wedi iddi nosi. Mae Boyd hefyd yn manylu ar liwiau’r fraich signal – gwyn, gyda streipen ddu, oedd yn arferol, ond fe fu yna adeg pan ychwanegwyd streipiau melyn o bob tu’r streipen ddu. Tybed os oedd hyn yn ymdrech i wella gwelediad y signal?

Rhywbeth arall sydd yn bur hynod am y caban yw ein bod yn gwybod mai merch oedd yn gyfrifol amdano, ar un cyfnod, beth bynnag. Mae sawl un yn cofio Mrs Parry, oedd yn ei warchod yn ystod y blynyddoedd olaf o’i ddefnydd. Dyma hefyd, hyd y gwyddom, yr unig gaban signal ar Reilffordd Penrhyn. Roedd yna fan pasio ar gyfer trenau yn y llecyn gweddol wastad rhwng Pandy a Than Lôn, Tregarth, ond doedd dim caban na signalau yma; nac ychwaith yn y gyffordd ar gyfer y “twll gro” ger Felin Hen. Roedd yna signal wrth agosáu at Borth Penrhyn, ond heb gaban ar gyfer ei warchodwr.

Da gweld fod yr hen gaban wedi ei ddiogelu a’i dacluso yn ddiweddar– ond cofiwch ei fod yn eiddo preifat, felly peidiwch â cheisio mynd i fewn iddo.

Ffynonellau

J.I.C. Boyd, Narrow Gauge Railways in South Caernarvonshire : (Cyfrol 2) The Penrhyn Quarry Railway ( Oakwood, 1985)

Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd,  Adroddiad PRN 21186

 

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s