Capel Ogwen

 

Aberogwen 1768
Capel Ogwen yn 1768. Manylyn o Fap Arolwg Penrhyn gan George Leigh. Archif Penrhyn Ychwanegol 2944 – drwy garedigrwydd a chaniatâd Archifau a Chasgliadau Arbennig, Prifysgol Bangor.

Perthynai prysurdeb arbennig i fywyd masnachol Aberogwen yn y ddeunawfed ganrif. Yno ar y foryd yr oedd fferm unigryw Capel Ogwen wedi ei lleoli. Roedd yn fferm fechan, 31 acer ei maint ac roedd mwyafrif ei chaeau yn dwyn yr enw ‘Cae Ychain’ gydag un cae yn y canol yn dwyn yr enw ‘Cae’r Efail’. Gerllaw, yr oedd dau dyddyn y Tafarnau, a ‘Lodge’ oedd enw rhai o’r caeau yno, er nad oedd, hyd y gwyddys, adeiladau parhaol ar y caeau hyn. Mae’r holl enwau’n awgrymu fod Capel Ogwen a’r Tafarnau yn unedau pur arbenigol a sefydlwyd i dderbyn gwartheg a ddanfonwyd o Fiwmares dros Draeth Lafan gan y porthmyn. Yn Aberogwen, felly, awgrymir y byddai cyfle i aildrefnu’r fintai ar ôl i’r anifeiliaid groesi’r Fenai. Gellid rhoi sylw i’r gwartheg cloff drwy eu pedoli a gallai’r gyrwyr wersylla’r nos yno cyn cychwyn ar eu taith i farchnadoedd Lloegr naill ai drwy Ddyffryn Ogwen a Nant Ffrancon neu drwy Fwlch y Ddeufaen a Thal y Cafn yn Nyffryn Conwy.

Ni dderbyniodd Capel Ogwen sylw gan rai o deithwyr cynnar Gogledd Cymru fel canolfan porthmona ond, yn hytrach, nodwyd ganddynt bwysigrwydd rhyfeddol yr hafan am resymau llawer mwy pruddglwyfus. Ar y penrhyn safai adeilad bychan ar ffurf eglwys yn goruchwylio llif yr afon Ogwen i’r môr drwy ‘Lyn Celanedd’. Pan ymwelodd Fenton â’r capel yn 1805 yr oedd yn adfail, ond mae’n ei ddisgrifio fel annedd i dderbyn cyrff y meirw cyn iddynt gael eu hebrwng ‘till wind and tide favoured the ferrying them over the Styx of Menai to Llanfaes’. Ychwanegwyd mwy o fanylion am yr arfer gan William Williams, sy’n nodi y trefnwyd gwylnos, ‘when candles were lighted on the coffins and all the neighbours attended to take their last farewells of the deceased and to pray for his soul’s…. After this temporary rest, the corpse was next morning, or at an appointed time, removed to a boat prepared for the purpose and transported over and placed in its sacred repository’. Teulu’r Penrhyn oedd perchenogion y fferi ac fe dalai’r cychwr rent o ddeg swllt iddynt hwy am ddefnyddio’r cyfleuster. Roedd teulu’r Penrhyn hefyd yn hawlio’r wythfed rhan o werth y llechi a gludid i’r traeth yn Aberogwen. Beth ddywed yr hen ddywediad – ‘i’r pant y rhed y dŵr’.

Aberogwen 1
Llyn Celanedd heddiw – golygfa o fwth gwylio adar yr RSPB yn Aberogwen.

Gwnaethpwyd cyfnewidiadau mawr i’r arfordir yn Aberogwen pan benderfynwyd unioni cwrs Afon Ogwen drwy hepgor dolen fawr Llyn Celanedd. Yn y broses golchwyd ymaith weddillion Capel Ogwen a thanseiliwyd meini cromlech gynhanes enfawr a safai yn aber yr afon yn ôl tystiolaeth William Williams. Mae’n debyg i’r cyfnewidiau hyn ddigwydd yn ystod cyfnod creu parc amgaeedig o amgylch Castell Penrhyn oddeutu tridegau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Golygodd y cynllun hwn gau Ffordd Domas, sef llwybr yr hen ffordd, a’r ffordd fwyaf uniongyrchol rhwng Bangor a Chonwy, dros lyn Celanedd. Er mawr ryfeddodd pery Llyn Celanedd hyd heddiw, ond bellach mae ar newydd wedd fel gwarchodfa i adar y môr.

 

 

 

 

 

Ffynhonnell

Jones, Emyr Gwynne. 1975. A Survey of the Ancient And Present State of the County of Caernarvon by William Williams (Pt 3). Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon. 36. 194- 231.

Advertisements

3 sylw ar “Capel Ogwen

  1. Diddorol dros ben!
    Ambell sylw sydd gen i
    Mae’r awgrym am Gapel Ogwen fel canolfan gasglu gwartheg o Fon ar sail enwau’r caeau yn ddiddorol. Fodd bynnag, chlywqis i ddim am wartheg Mon yn dod ar draws y Fenai o Fiwmares – ym Mhorthaethwy y digwyddai’r croesi, fel arfer, o Fon i Ynys y Moch, ac yna drosodd i Arfon. Mae problem croesi o Fiwmares i Fangor , oherwydd mai ond am rhyw 3 i 4 awr ym mhob 12, ar y mwyaf, y dydd, y gellid croesi Traeth Lafan, ac ni ellid o gwbl ar dywydd gwael a niwlog. Byddai hyn yn broblem fawr i groesi gwartheg, nid cymaint i’r gwartheg, sy’n nfwyr cryfion, ond i’r porthmyn fyddai’n eu gyrru! Dyma’r rheswm pam, er bod Biwmares yn y cyfnod cynnar, yn dref bost mewn enw, mai trwy Borthaethwy yr ai’r post hwnnw gan amlaf. Dyna pam, hefyd, y cychwynnai taith fferi Biwmares o Benmaenmawr a Llanfairfechan, ac y cynghorid teithwyr yng Nghonwy i barhau i Fangor os oedd y llanw i mewn yn Nhraeth Lafan. Wrth gwrs, gallai’r gwartheg groesi ym Mhorthaethwy a dilyn yr arfordir i dueddau capel Ogwen, ac ymgasglu yno cyn cychwyn ar eu taith ar y llwybr dros Fwlch y Ddeufaen ac am Dalycafn. Mae’n arwyddocaol, hefyd, fel y nodir, nad oes son am unrhyw weithgarwch porthmona yn y lleoliad gan y teithwyr cynnar, a hynny mewn cyfnod pan oedd porthmona ar ei anterth.
    Mae gennyf fwy o amheuon am yr hyn a ddywedir am y capel ei hun,ac am darddiad yr enw Llyn Celanedd.
    Mae tri ystyr i ‘capel’ yn yr oesoedd canol
    a) ystafell ychwanegol mewn eglwys, wedi ei chodi,k a’i gwaddoli, yn benodol i weddio am enaid rhywun a fu farw
    b) adeilad bychan wedi ei godi ar gyfer teulu bonheddig y plwyf at eu defnydd personol, fel nad oes raid iddyn fynd i’r eglwys bob dydd
    c) adeilad bychan a godwyd mewn rhannau mwy anghysbell o blwyf mawr, i arbed teithio i blwyfolion ( dyna yw cychwyn capel Curig a Capel Garmon )
    Nid lle i gadw cyrff ydyw – gan mai ‘marwdy’ yw hwnnw. Wrth gwrs, gellid cadw cyrff ynddo cyn eu claddu, ond nid i hynny y’i codid
    Wedyn, rhaid gofyn pam y byddai trigolion Arfon yn cael eu claddu ym mhriordy Llanfaes? Gwyddom i Siwan gael ei chladdu yno, ond nid ei gwr, Llywelyn. Roedd eglwys a mynwent Llanllechid a Llandygai yn llawer nes, ac. os am gael eu claddu mewn lle ‘pwysicach’ onid oedd eglwys gadeiriol a phriordy’r Brody Duon o fewn rhyw filltir neu ddwy i Gapel Ogwen, a hynny heb groesi unrhyw ddwr, na gorfod digwyl am unrhyw gychwr?
    Rhaid gofyn, hefyd, os byddai ambell un am gael ei gladdu ym mhriody Llanfaes, a fyddai digon ohonynt i gyfiawnhau codi capel ar gyfer cadw eu cyrff? Rhaid cofio, hefyd, i briordy Llanfaes, fynd yn beth digon tila wedi’r Goncwest, a symud trigolion y fwrdeisdref Gymraeg i Rosyr. Yn 1400, doedd dim un brawd yno, ( yn bennaf oherwydd eu cefnogaeth i Owain Glyndwr ) er iddo ail-sefydlu erbyn 1414.
    Mae’r dystiolaeth a nodir am Gapel Ogwen a Llyn Celanedd, parthed y cyrff, yn dod o gyfnod sy’n tynnu am dair canrif wedi dadwaddoli’r mynachlogydd, ac, felly, bron i dir canrif wedi diflaniad priordy Llanfaes. Tenau iawn, iawn fyddai gafael y trigolion lleol ar yr hyn oedd yn diwgydd yn yr ardal dair canrif, a mwy, ynghynt. ( Ac nid brodor o’r ardal oedd William Williams, beth bynnag ) Hawdd iawn gen i gredu mai un o’r dyfaliadau onomastig arferol sydd yma, ac, fel y rhan fwyaf o’r rheiny, yn ffansiol iawn. Cymharer Llyn yr Afanc, Llyn y Morynion, Llyn Wyth Eidion, a nifer helaeth o lynnoedd eraill sydd wedi bod yn fagwrfa gynhyrchiol i ‘esboniadau’. Wedi dweud hynny, gellid yn hawdd iawn gysylltu’r ‘celanedd’ yn enw’r llyn gyda’r garnedd fawr y sonnir amdani. Eto rhaid cofio nad oedd carneddau, mawrion na man, yn bethau anghyffredin iawn ( yn wir, yr oeddynt yn arbennig o gyffredin ) cyn canol y ddeunawfed ganrif, ac nad oedd gwybodaeth am yr hyn oeddynt yn gyfarwydd i lawer o bobl y cyfnod.Roeddynt yn fwy o fan i gael mynediad i’r is-fyd, nag o leoliad cyrff a chelanedd.

    Parhewch gyda’r safwe – mae’n un arbennig o dda! Diolch i chi amdani!

    Hoffwyd gan 1 person

  2. Hysbysiad Cyfeirio: Capel Ogwen – Hanes Dyffryn Ogwen

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s