Perfformiad i’w gofio

Rydym wedi gwahodd cyfraniadau gan gyfranwyr eraill sydd â gwybodaeth am hanes Dyffryn Ogwen. Y cyntaf o’r rheiny yw J. Elwyn Hughes isod. Cofiwch gysylltu os hoffech chi gyfrannu at y wefan. 

 

Deuthum ar draws toriad papur-newydd yn ddiweddar yn cynnwys adroddiad, diddyddiad, a ymddangosodd mewn papur, na chofnodwyd ei enw (ond Y Cymro, efallai), yn dweud hanes y ddrama a berfformiwyd yn yr Ogwen Cinema (Neuadd Ogwen bellach) ym Methesda. Cyflwynwyd y ddrama honno gyntaf mewn perfformiad ar gyfer plant Ysgol Dyffryn Ogwen am hanner awr wedi un bnawn Mercher, Chwefror 13, 1957, ac yna, am saith o’r gloch yr un diwrnod, rhoddwyd ail berfformiad ar gyfer oedolion yr ardal, a’r neuadd dan ei sang y ddwy waith.

Yn ôl yr enw ar ddiwedd yr adolygiad, LLYW oedd yr awdur. Dyfynnaf ei adolygiad isod fel yr ymddangosodd yn y papur-newydd:

 

‘ALECSANDER FAWR’

 

HYFRYD o beth ar noson oer a gwlyb o Chwefror oedd troi i mewn i gynhesrwydd Neuadd Ogwen, nos Fercher, y 13eg o’r mis, ac yno ein traws-symud i gyfnod dros ddwy fil o flynyddoedd yn ôl, cyfnod Alecsander fab Philip o Facedon, y gwladweinydd athrylithgar, a’r cadfridog talentog, brenin Macedon, llywodraethwr Groeg, ymerawdwr Persia, gŵr a arfaethai yn y diwedd fod yn arglwydd yr holl ddaear drwy uno tylwythau’r byd yn un teulu mawr. Bu’r cyfrifoldeb a oedd ar ei ysgwyddau yn ormod iddo ac amharwyd ar gydbwysedd ei feddwl. Mewn ffit o dymer nwydwyllt llofruddiodd ei gyfaill gorau a chryfed ei chwant am allu nes mynnu ohono i’r Groegiaid ei gydnabod fel Duw. Ond er amled ei feiau, anghofiwyd hwy’n fuan oherwydd y daioni a gyflawnodd a’i natur hoffus, garedig.

Bu farw yn ŵr ieuanc 32 oed ym MabiIon yn 323 C.C., ond mae’r hanes a greodd yn nhymor byr ei fri o ddeuddeng mlynedd yn fwy ei sylwedd, efallai, nag eiddo neb arall o feibion dynion.

Dyna gefndir y ddrama ‘Alecsander Fawr’ a gyflwynwyd am y tro cyntaf yn Gymraeg gan Gwmni Ysgol Dyffryn Ogwen, Bethesda. Troswyd a chyfaddaswyd y ddrama yn gelfydd o lyfn a naturiol gan Mr Ieuan Ll. Jones, o ‘Adventure Story’ Terence Rattigan. Cynhyrch­wyd gan Mr Maxwell Roberts a gellid gweld ôl ei hyfforddi gofalus yn y siarad hyglyw, y symudiadau esmwyth a didramgwydd, a’r dysgu trwyadl ar y sgript—segur-swyddi oedd eiddo’r cofweinyddion, gan na fu ball ar gof un o’r cymeriadau.

Rhoed cynhorthwy i gyfarwyddwr y llwyfan, Mr Cecil McCarter, gan aelodau’r staff, Mr Emlyn Evans, a rhai o’r bechgyn hynaf. Gwaith manylgraff Miss Carder oedd llenni’r golygfeydd a fu’n gymorth syl­weddol i greu awyrgylch priodol i’r cyfnod, megis y Deml yn Nelphi, y pebyll a Gerddi Babilon. Cyn­nyrch gwaith celfydd Mrs Eurig Davies, Miss Mabel Jones ac eraill o’r staff oedd y mentyll heirdd cyf­oes a wisgid gan y genethod a dwylo cywrain Mr Idwal Williams a luniodd arfwisgoedd y milwyr—y llurigau a’r coesarnau. Mr Leng o Goleg y Brifysgol, Bangor, a ofalai am y coluro, a gwnaeth ei waith yn fedrus iawn, heb fod yn rhy o ddim.

Gofalwyd am ochr busnes y per­fformiad gan Mr Lewis Hughes, y dirprwy brifathro, gyda’i ddeheurwydd arferol, a bu’r ficer, y Parch. D. T. Davies, yn garedig iawn yn rhoi benthyg set Eglwys Glanogwen i’r cwmni, ac felly arbed cost trwm i’r ysgol.

Aeth anrhydedd blaenaf y perfformiad yn naturiol i DERFEL GRUFFYDD, a lwyddodd i gyfleu cymeriad cymhleth Alecsander i’r byw—ei gorff lluniaidd, ei hyrddiau o dymer afresymol, ei uchelgais gwrthun, ei anwyldeb, ei fonedd, ei garedigrwydd a’i fawrfrydigrwydd—daeth y nodweddion hyn oll i’r golwg yn eu tro yn y rhan hon o’i eiddo—y baich trymaf o ddigon yn y ddrama—rhan a gyflwynwyd yn effeithiol a deallus.

Yr oedd FRANK WILLIAMS, a gynrychiolai Hephaestion—cyfaill mynwesol yr Ymherawdr—yn cyfleu yn ffyddlon a theilwng iawn y cymeriad hoffus, cadarn a theyrngar hwn; bendithiwyd Frank â llais treiddgar, cyfoethog, a fu o gryn help iddo wneud ei ran yn naturiol a chredadwy.

Gwych hefyd oedd actio ANN GWYN EVANS, a gyfleodd gymeriad Y Fam Frenhines yn urddasol ac argyhoeddiadol (er ieuenged ei golwg o ystyried ei bod yn ‘Nain’).

Gofod a ballai imi graffu’n fanwl ar weddill y cymeriadau; gwnaeth pob un ohonynt ei ran yn ganmol­adwy o gofio eu hoed a’u diffyg profiad. Dyma enwau’r gweddill o’r cast: Elwyn Roberts (Perdiccas), Myrddin Gruffydd (Ptolemy), Vin­cent Roberts (Mazares), Enid Huws (Proffwydes Delphi), Ffrancon Roberts (Philotas), John Ff. Davies (Dar­ius, brenin Persia), Clive Llewelyn (y Tywysog Bessus), Gwen Owen (Brenhines Persia), Diana Evans (ei merch), John Elwyn Hughes (Clei­tus), Meirion Parry (y Cadfridog Parmenian), Delyth Pardoe (Rox­ana), June Davies, Carys Hughes a Dorothy Roberts (Morynion y Deml), Dewi Morris, LIion Jones a Geraint Williams (milwyr).

Yr oedd y perfformiad drwyddo—gwaith yr actorion ar y llwyfan, a llafur dyfal y sawl a ofalai am ei holl reidiau—yn enghraifft glodwiw o gydweithrediad hapus a llwyddiannus rhwng staff a disgyblion. Llongyfarchwn yn galonnog y Prif­athro, Mr Ronald Pardoe, a phawb a fu’n gyfrwng i roi i ardalwyr Dyffryn Ogwen ddehongliad mor gywir o neges y ddrama rymus hon—neges nas dysgwyd hyd yn hyn, ysywaeth, gan deyrnedd daear, sef mai oferedd yw holl ymdrechion uchelgeisiol dyn, pa mor dalentog bynnag y bo hwnnw os sylfaenir hwy ar drachwant am allu ac awdurdod, ar dreisio cyd-ddyn a thywallt gwaed.

*          *          *

Roedd darllen yr adolygiad yn peri i mi fynd i lawr lôn atgof yn syth. Bu sawl tro trwstan yn ystod yr ymarferion – a hefyd yn ystod y perfformio ei hun yn yr Ogwen Cinema! Hyd y cofiaf, Mr Ieuan Llewelyn Jones oedd yn cynnal yr ymarferion efo ni a byddai ei wraig, Eurwen, yn dod i’r ysgol i’w helpu ambell waith. Caem hwyl fawr wrth ymarfer a chofiaf fel y byddai Frank Williams (o Faes Bleddyn), John Ffrancon Davies (o Faes Coetmor), Vincent Roberts (o Adwy’r Nant) a minnau (o Fraichmelyn) yn cael hwyl fawr bob tro y clywem gyfeiriad at le o’r enw Egbertana; byddai un ohonom yn siŵr o ofyn ’Be’ am Herbertana, Cuthbertana, Hubertana, aballu?’. Ar adegau eraill, byddem yn sicr o ddod o hyd i rywbeth neu’i gilydd a godai hwrdd o chwerthin arnom – a difetha’r ymarfer am rai munudau.

Ar gyfer y perfformiadau eu hunain, Mrs Eirwen Llewelyn Jones oedd wedi gofalu bod gwisgoedd pawb mor driw ag y bo modd i gyfnod y ddrama ac roedd John Ffrancon, Frank a minnau’n gorfod gwisgo math o ’sgertiau’ byr a rhyw stribedi o fetal yn hongian i lawr drostynt – hynny, heb sôn am y ’grefi brownin’ yr oedd yn rhaid i ni ei rwbio ar ein breichiau a’n coesau i roi gwedd dramorol arnom. Doedd neb wedi meddwl y byddai’r gwres cryf o lampau’r llwyfan wedi achosi i’r brownin redeg yn ffrydiau i lawr ein coesau nes gwneud i rywun feddwl am groen sebra.

Bu ambell dro chwithig a barodd embaras hefyd, fel yr adeg honno pan oedd Alecsander, a chwaraeid gan Derfel Gruffydd (o Garneddwen), yn syrthio’n farw ar soffa yng nghanol y llwyfan. Wrth iddo fynd yn ôl yn wysg ei gefn i orwedd ar y soffa, cododd ei ’sgert’ yn ddirybudd. ’Wnâi hynny mo’r tro i’r hen Derfel, wrth gwrs, a chododd ar ei eistedd, tynnu’r ’sgert’ i lawr, a marw eto – i sŵn bonllefau o chwerthin o’r gynulleidfa!

A dyna’r olygfa honno pan oedd tri milwr, sef Frank, John Ffrancon a minnau ar y llwyfan, yn cymryd arnom ein bod yn feddw ond aeth pethau’n llanast pan roddodd un ohonom y ciw anghywir (a hynny ddwywaith yn olynol) i’w gydactor a pheri i ni fynd drwy ddeialog tair tudalen deirgwaith – afraid dweud mai’r hyn oedd yn mynd drwy feddyliau’r gynulleidfa (heb sôn am y tri actor!) oedd: ’Rydan ni wedi clywed y sgwrs yma o’r blaen … a ddwywaith cyn hynny hefyd!’ Afraid dweud nad aeth yr un o’r tri ohonom ymlaen i fod yn actorion!

Dro arall, roedd y Fam Frenhines, sef Ann Gwyn Evans (Min Ogwen, ger Cae Gias), wedi rhoi gorchymyn i Mazares (Vincent Roberts) fynd i nôl dŵr i olchi traed Alecsander. Troes Vince i fynd allan i gefn y llwyfan trwy agoriad yn y llenni duon. Gwaetha’r modd, doedd yr agoriad ddim yn amlwg a bu Vince yn ymbalfalu’n wyllt ar hyd y llenni yn ceisio dod o hyd i ble gallai eu gwahanu i gael hyd i’r ffordd allan. Ond methiant fu ei ymdrechion a safodd, wedi ildio’n llwyr, yn wynebu’r gynulleidfa â’i freichiau ymhleth. Yna, yn wyrthiol bron, ymddangosodd llaw yn dal desgil drwy agoriad yn y llenni wrth ymyl Vince a gosod y ddesgil yn ei law. Mwy o chwerthin o blith y gynulleidfa a Vince yn cerdded fel pe na bai dim wedi digwydd a chyflwyno’r ddesgil, yn gwbl ddiffwdan, gyda’r geiriau: ‘Dyma eich dŵr, meistr’. A dyna ddiwedd gyrfa fer Vince fel actor!

 

A dyna hefyd f’ymddangosiad cyntaf ac olaf innau yn ceisio ‘actio’ ar lwyfan!

 

Un sylw ar “Perfformiad i’w gofio

  1. Wedi cael mwynhâd o ddarllen am ardal Dyffryn Ogwen ac yn arbennig y cyfeiriadau at Rachub/ Llanllechid a’r cylch.
    Diolch am yr erthyglau John Llywelyn.
    Diolch hefyd i John Elwyn Hughes am ei doriad papur newydd yn dweyd hanes y ddrama Alecsander Fawr.
    Mae gen i gof go lew am y cymeriadau yn y ddrama yngyd a’r athrawon a fu’n gweithio mor galed er lles y perfformiad. Chefais i mor fraint o weld y perfformiad ei hun gan fy mod wedi gadael yr ysgol yn 1954.
    Llwyddais i anfon copi o’r adroddiad i Ann Gwyn Evans ‘y fam frenhines’ ac i Marian chwaer Derfel; ‘Alecsander Fawr.’
    Mae Ann yn byw yn Vancouver Canada ers blynyddoedd a Marian yn byw yn Victoria ar Ynys Vancouver.
    Mi fyddai mewn cysylltiad a’r ddwy yn bur aml.
    Mi rydw inna hefyd yn byw ar Ynys Vancouver er dros hanner can mlynedd bellach,ond wedi fy ngeni a’m magu yn Rachub ac wrth gwrs wedi mynychu ysgol Cownti ym Methesda.
    Diolch am y toriad papur newydd ac am yr adroddiad am ddrama Alecsander Fawr. Bu’r atgofion am Ddyffryn Ogwen a dyddiau ysgol yn byrlymu o’m cof.
    Diolch eto,

    Idris Rees Hughes.

    Hoffi

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s