Mae ffos Coetmor yn tarddu ym mhen uchaf Gwaun Cwys Mai gan godi dŵr o Afon Ffrydlas. O’i tharddiad i’r man lle mae’n llifo i afon Ogwen mae’n mesur oddeutu pedwar cilomedr mewn hyd ac mae’n disgyn tua 280 metr mewn graddiant.

Nodir man ei tharddiad yn Afon Ffrydlas gan faen hirfain sy’n sefyll ar raniad y dŵr. Oddi yno mae’r ffos yn crymanu i gyfeiriad Bwlch Molchi cyn gwyro eto i ddilyn godre Moel Faban a disgyn i wastatir ysgwydd ddwyreiniol Dyffryn Ogwen yn Llidiart y Gweunydd. Yna mae’n llifo ar dir gwastad drwy Hen Barc i gyfeiriad Fferm Coetmor. O Goetmor i ymuno ag afon Ogwen mae ei chwrs yn gymharol fyr ond ar lan yr afon estynnwyd y ffos mewn addasiad diweddarach i lifo’n gyfochrog â’r afon hyd nes cyrraedd melin Coetmor gryn hanner milltir i’r gogledd.
Gwelir y cofnod cyntaf am y ffos yn 1786 ar fap o dir comin plwyf Llanllechid. Er hynny, mae’n perthyn i gyfnod llawer cynharach yn hanes Dyffryn Ogwen, er nid i gyfnod y Rhufeiniaid fel sydd wedi ei nodi ar rai o fapiau’r Arolwg Ordnans. Er nad oes dogfennau i gadarnhau dyddiad ei ffurfio mae’n weddol bendant ei bod yn gysylltiedig â phlasty Canol Oesol Coetmor, sef cartref hen deulu pendefigaidd y gellir olrhain ei dras yn ôl i’r bymthegfed ganrif ac, yn ôl traddodiad, i gyfnod cynharach yn y drydedd ganrif ar ddeg. Nid oedd gan y plasty gyflenwad parhaol o ddŵr yn llifo i’r safle ac, felly, rhaid oedd goresgyn y diffyg drwy lunio ffos, a Ffos Coetmor oedd datrysiad y broblem. Yng Nghoetmor mae’r ffos yn llifo drwy Gae Llyn ac yno gwelir fod ei llwybr wedi ei gysylltu â dau hen gafn a fyddai yn y gorffennol pell wedi cynnal olwynion dŵr at wasanaeth y plasty hynafol. Pan adeiladwyd y Coetmor presennol oddeutu 1870 lluniwyd llyn arbennig ar gyfer y fferm wedi ei leoli i’r dwyrain ar ymyl Lôn Bach Odro.
Dŵr o’r ffynhonnell hon oedd yn bwydo un olwyn ddŵr a safai wrth dalcen yr ysgubor, ac ynni o’r olwyn hon a oedd yn gyfrifol am droi holl offer y fferm ar gyfer dyletswyddau megis corddi a malu bwyd yr anifeiliaid. Dibynnai llawer o ffermydd Dyffryn Ogwen ar ynni dŵr i gyflawni eu dyletswyddau. Yn ogystal â bwydo fferm Coetmor yr oedd ffos Coetmor yn danfon dŵr i Dyddyn Sabel a Chae Ifan Gymro ac yr oedd nifer o ffosydd eraill yn yr ardal yn cyflawni’r un gofyn i ffermydd eraill. Dim ond olion nifer o’r ffosydd sydd i’w gweld megis creithiau ar y tir bellach. Er enghraifft derbyniai Tan y Foel ddŵr o Ffos Fawr Pantdreiniog a Bryn Owen ddŵr o ddyfroedd chwarel Bryn Hafod y Wern, a derbyniai hen weithdy Pont y Pandy ddŵr o Afon y Llan. Mae’n amlwg fod llawer mwy o’r ffosydd hyn i’w cofnodi yn y dyffryn.

Chwaraeodd ynni dŵr ran eithriadol bwysig mewn sefydlu diwydiant cynnar yn Nyffryn Ogwen yn ogystal, ac fel y byddai’r disgwyl roedd lleoliad ger Afon Ogwen yn eithriadol ddefnyddiol. Ar lan yr afon yng Nghae Star y sefydlwyd stad ddiwydiannol gynharaf y dyffryn gyda ffatri wlân, melin gerrig, melin bwyd anifeiliaid, lladd-dy a bragdy ymhlith y cyfleusterau a ddibynnai ar ddŵr yr afon. Cyflenwai’r afon yn ogystal ynni i Chwarel y Penrhyn ac i Chwarel Dôl Goch, i felin Coetmor a’r pandy ym Mhont y Pandy a dŵr i droi y ddwy felin rawn a safai un o bob tu’r afon yn Nhal-y-bont. Yr oedd holl chwareli plwyf Llanllechid, ac eithrio Chwarel Tan y bwlch, hefyd yn ddibynnol ar ynni dŵr i’w gweithio, a threfnwyd ffosydd pwrpasol i’w cyflenwi. Tarddai ffos Coetmor o afon Ffrydlas i gyflenwi dŵr i chwarel Llety’r Adar; tarddai ffos fawr Pantdreiniog, eto o afon Ffrydlas, i gyflenwi chwarel Pantdreiniog, a tharddai ffos o afon bellennig yr Afon Wen yng Nghwm Caseg i chwarel Bryn Hafod y Wern.
Yr hyn sy’n wych yn Nyffryn Ogwen heddiw wrth gwrs yw bod cynllun newydd Ynni Ogwen ar droed i greu ffynhonnell ynni o ddyfroedd Afon Ogwen uwchlaw Ogwen Banc i gynhyrchu nid yn unig drydan ond hefyd er budd cymunedol ac amgylcheddol. Byddai cynllunwyr ffos Coetmor wedi bod yn gefnogol iawn i’r fenter ond yn rhyfeddu mae’n siŵr at gynnyrch y dechnoleg. ‘Trydan? … Beth ydy trydan’?
Ffynonellau
J.Ll.W.Williams a D.A.Jenkins. 1993. ‘Dŵr a Llechi ym Mhlwyf Llanllechid, Bethesda- agweddau ar ddatblygiad diwydiant yn Nyffryn Ogwen’. Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon. 54. tt. 29-62.
J.Ll.W. Williams a D.A. Jenkins. 2010. ‘Ffos Coetmor: ffos ddŵr gynharaf Dyffryn Ogwen’. Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon, 71, tt. 10-