Porticos llechi

Un o nodweddion pensaernïol amlycaf pentrefi chwarelyddol Gwynedd oedd y portico llechi a warchodai’r drws ffrynt rhag y ddrycin. Erbyn heddiw ysgubodd drycin ail gynllunio nifer helaeth ohonynt o strydoedd pentrefi Dyffryn Ogwen ac ychydig o’r briwsion, megis, sy’n aros i gofnodi hanes eu datblygiad. Ar gyfrif brysiog, ac anghyflawn fe dybiwn, erys pedwar ar hugain portico llechi yn Nyffryn Ogwen: dau ym Mynydd Llandygái; un yn Nhregarth; dau yn Nhyn Lôn ger y Gelli, un ger Hendyrpeg; pump yn Gerlan; dau yn Hen Barc, a’r gweddill ym Methesda. Gellir ychwanegu wyth at y cyfanswm wrth edrych ar hen luniau o dai’r ardal ond nid oroesodd yr un o’r rhain.

Cynllun syml ac unffurf a oedd i’r portico. Byddai iddo ddau dalcen talsyth o bob tu i’r drws a tho crib yn arwain y glaw i’r naill ochr, er bod rhai enghreifftiau llai niferus sydd â tho fflat yn goron iddynt. Cysylltid y darnau llechi yn gadarn â’i gilydd â bolltau haearn. Mae’r talcenni yn blaen a diaddurn ond yn y mwyafrif torrir ar undonedd y cyfanwaith ag addurn syml a leolir yn y canol uwchlaw’r drws. Gall hwn fod yn addurn unigryw fel y pysgodyn ar bortico yn Stryd Cefnfaes neu’r tair saeth ar bortico ym Mynydd Llandygái, ond gall hefyd arwyddo gwaith cwmni seiri meini unigol. Enghraifft o hyn yw’r ffurf tarian fwa â llinell gyfochrog, sy’n nodweddu drws cefn y tŷ cyntaf yn Coetmor Mownt;  dau dŷ yn Stryd Cefnfaes; rhes o bump yn Stryd ‘Rallt, Gerlan; dau dŷ yn Hen Barc a dau fwthyn yn Nhŷ’n Lôn ger y Gelli. Yr un arwyddlun sydd i’w weld ar bortico pedwar tŷ yn Ffordd Carneddi, sy’n awgrymu mai’r un adeiladydd a adeiladodd yr holl res, ac ailadroddir yr arwyddlun ar bortico Haulfre yng Nghilfodan ac yn yr un enghraifft a oroesodd yn Llwybr Main, gan awgrymu fod yr holl dai hyn hefyd yn cyfoesi â Ffordd Carneddi.

tan-y-coed-1
Portico Tan y Coed, Bangor

Yn ganolog i hanes y portico llechi mae portico Tan y Coed ym Mangor, y mwyaf ei faint a’r mwyaf gosgeiddig ei ffurf gyda tho fflat uwchben gorchudd syml ar ffurf bwa dros y drws, a’r unig enghraifft y mae dyddiad ei adeiladu wedi ei nodi. Cynlluniwyd Tan y Coed yn 1810 gan Benjamin Wyatt, ysgrifennydd stad y Penrhyn yng nghyfnod Richard Pennant, fel ysbyty gyntaf yr ardal, sef y Caernarfon and Anglesey Local, ac fe fu’n agored tan 1834. Mae’n bur amlwg i ffurf portico gosgeiddig Lime Grove sef cartref Benjamin Wyatt wrth geg afon Cegin ddylanwadu ar gynllun Tan y Coed, er mai mewn bric, gyda dwy golofn ar naill ochr y fynedfa, ac nid mewn llechen y’i hadeiladwyd. Cynllunydd Lime Grove oedd Samuel Wyatt, brawd Benjamin, pensaer enwog yn Llundain a chefnogwr mawr defnyddio llechi pensaernïol o chwarel y Penrhyn yn ei adeiladau, gan wneud hynny mor gynnar â diwedd y ddeunawfed ganrif.

Y Felin Gerrig yng Nghoed y Parc oedd man cychwyn yr holl broses o ffurfio’r portico. Yno, datblygwyd dulliau o lifio a chaboli cerrig melin mawr eu maint, a’r llechi hyn oedd yn sail i wneuthuriad y portico. Dyddiad adeiladu’r felin oedd 1813, er bod lle i gredu fod darpariaeth ar gyfer trin cerrig melin yn dyddio i gyfnod cynharach fel mae tystiolaeth Samuel Wyatt yn ei awgrymu. Yn 1846 cyflwynwyd llifiau crwn a dulliau mwy modern o drin y cerrig melin yng Nghoed y Parc, addasiadau a arweiniodd at hwyluso prosesau masgynhyrchu yn y diwydiant. Wrth ystyried dosbarthiad y portico llechi cyfyd rhai cwestiynau diddorol. Yn gyntaf, a oes modd adnabod nifer o ffurfiau cynnar ymhlith y porticos? Yn ail, a ellir canfod newid yn y broses o lifio’r clytiau llechi yn ffurf orffenedig y portico? Yn olaf, a ellir rhoi trefn ar hanes datblygiad y portico o gofio mai briwsion yn unig sydd bellach yn cynrychioli’r nifer gwreiddiol?

poryico-tynclwt
Portico Tyn Clwt

Ymhlith y detholion gellir adnabod grŵp bychan a allai fod ymhlith y rhai cynharaf i’w datblygu. Nodweddir y rhain yn bennaf gan gynllun syml, ond unigryw, a pherthynant i dai unigol yn hytrach nag i res, a hyd y gellir canfod mae’r tŷ a’r portico yn cyfoesi. Ymhlith yr enghreifftiau cynharaf mae portico tafarn Tyn Clwt, sy’n dyddio i gyfnod y Ffordd Dyrpeg yn 1802, ac mae ffurf eithriadol syml portico bwthyn Gwêl Elidir yng Nghilfodan hefyd yn awgrymu ei hynafiaeth.

portico-bryn-estyn
Portico Bryn Estyn

Rhaid cynnwys portico unigryw Bryn Estyn ym Mynydd Llandygái ymhlith y detholion yn ogystal. Nodweddir y portico hwn gan addurn tri phen saeth yn crogi am i lawr o fwa’r canopi, y saeth ganol yn fawr a’r ddau o bob tu yn llai. Ffurf crwm y bwa yw ei nodwedd bwysicaf er hynny, a gellir ei gymharu â phortico tebyg ei ffurf, ond sydd heb yr addurn, yn yr Hen Dŷ ar y cei ym Mhorth Penrhyn. Tybir fod y ddau dŷ yn dyddio i gyfnod cynnar yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg gan fod Bryn Estyn yn un o ffermydd cynharaf Mynydd Llandygái a’r Hen Dŷ yn cyfoesi â chyfnod adeiladu’r porthladd.

 

 

Gellir awgrymu fod portico Tyn Clawdd yn Nhregarth hefyd yn perthyn i’r grŵp cynnar hwn. Mae’n enghraifft eithriadol ddiddorol ar sawl cyfri. Mae i’r portico gynllun syml gyda tho brig yn gapan ar ei ben. Mae wyneb y llechen yn fras a heb ei lathru’n llyfn ac mae ansicrwydd ai nod cyllell ynteu lif gron a welir ar ymyl y talcenni. Dan y brig mae arwyddlun ar ffurf bwa dolennog gyda blaen miniog canol y bwa yn cyfeirio at i fyny, ac er mwyn pwysleisio cyfanwaith y cynllun ysgythrwyd llinell gyfochrog i ddilyn ymyl uchaf y bwa. Mae ffurf gywasgedig y bwa yn awgrymu y gallasai’r patrwm fod yn rhagflaenydd i’r holl arwyddluniau tebyg a berthyn i borticos diweddarach y fro. Addaswyd Tyn Clawdd yn dŷ dau lawr yn gynnar yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac mae’n bur debyg i’r addasiad gynnwys ychwanegu portico at yr adeilad newydd.

Perthyn dau bortico unigryw arall i’r grŵp cynnar hwn a’r ddau’r drws nesaf i’w gilydd yn Rhes Cefnfaes, Bethesda. Yn dra gwahanol i holl borticos eraill Dyffryn Ogwen nodweddir y ddau gan do fflat fel yn yr enghraifft gynnar yn Nhan y Coed. Yn ychwanegol, mae gan y ddau arwyddlun unigryw uwchlaw’r drws: un ar ffurf pysgodyn, a’r llall yn fwa pigfain tri onglog gyda hicyn bychan lawn mor onglog o bob tu ar gychwyn y bwa. Ystyrir fod y ddau bortico yn enghreifftiau cynnar o’u bath, ond cyfyd cwestiwn diddorol ynghylch eu lleoliad yn Rhes Cefnfaes. A yw’r ddau yn weddillion cyfres a fyddai wedi nodweddu’r stryd gyfan yn hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg ynteu a ydynt yn ychwanegiadau diweddarach gan ddau gymydog y drws nesaf i’w gilydd, efallai er mwyn harddu stryd nad oedd portico yn rhan o’i chynllun gwreiddiol?

Mae dau bortico arall yn rhes Cefnfaes, ond nid ar y rhan wreiddiol o’r stryd a adeiladwyd ar dir stad Cefnfaes. Yn hytrach, perthynant i ddau dŷ un talcen (semi-detached) a adeiladwyd yn rhan o ddatblygiad diweddarach ar dir stad Penrhyn. Nodweddir y ddau bortico gan doeau crib; cynllun unffurf; toriad caboledig a llyfnder eu gorffeniad ac, yn bennaf oll, gan yr arwyddlun ar ffurf bwa dolennog islaw’r brig sy’n rhoi stamp ychwanegol i’r holl gynllun. Mae toriad yr arwyddlun yn gywir a medrus, ac yn bur debyg wedi’i dorri gan beiriant yn hytrach nag â llaw.

porticostryd-cenfaes-3
Portico to crib Stryd Cefnafes

Yn wir, gellir ystyried holl gyfanwaith y portico yn gynnyrch masgynhyrchu ac mae dosbarthiad eang y math hwn o bortico yn Nyffryn Ogwen yn cadarnhau’r awgrym. Cysylltir y portico bwaog yn bennaf â rhai o strydoedd y pentref a adeiladwyd yn chwech a saith degau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, megis Ffordd Carneddi, yr Allt Ucha yn Gerlan a Coetmor Mownt ym Methesda, ond cysylltir hwy hefyd â thai un talcen megis yn Nhyn Lôn, Hen Barc a Llwybr Main, gyda Heulfre yng Nghilfodan yr unig dŷ sengl. Gwelir un ychwanegiad at addurn porticos Ffordd Carneddi lle mae rhai yn arddangos cyfres o saethau ar grib y toeau. Mae’n debyg fod y porticos cymesur hyn felly yn gynnyrch y cyfnewidiau sylweddol a wnaethpwyd yn y Felin Gerrig ar ôl 1846, cyfnewidiau a roddodd derfyn bid sicr ar grefft y seiri meini annibynnol a fyddai wedi cynllunio’r porticos unigol cynnar.

Mae hanes y portico llechi yn codi nifer o gwestiynau na ellir eu hateb heb lawer mwy o ymchwil. Tybed a ystyrid y porticos cynnar yn symbolau o statws a chyrhaeddiad cymdeithasol yn ogystal â bod yn gysgod defnyddiol rhag y glaw a’r gwynt? Ac nid pawb a allai eu fforddio, bur debyg; bargod pren syml a gysgodai dai mewn strydoedd cynharach megis yn Nolgoch, Caerberllan a Braichmelyn. Mae’n debyg mai i bedwar degau a saith degau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg y gellir priodoli cyfnod bri y portico llechi yn Nyffryn Ogwen, ond eto nid pob tŷ yn y rhesi lle’r oedd rhai a feddai ar y cyfleuster. Pam, er enghraifft, mai dau dŷ yn unig yn Nhyn Lon sydd â phortico. Beth tybed oedd yn cyfrif am yr amrywiaeth yn y porticos: prinder arian efallai; diffyg statws cymdeithasol, ynteu newid mewn ffasiwn? Gallasant oll fod yn rhesymau dilys. Erbyn degawd olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg nid oedd y portico llechi yn rhan o bensaernïaeth y strydoedd a adeiledid bryd hynny. Bargod cyfansawdd o hyd y rhes gyfan oedd yn Rhes Gordon er enghraifft, a bargod unigol a roddwyd i bob tŷ yn Ffordd Tanrhiw, ac ni chafodd Rhes Elfed na bargod na phortico.

Ar ychydig iawn o ymchwil y seiliwyd rhai o’r damcaniaethau a gyflwynwyd yn y nodyn hwn, a gallasai gwybodaeth fanylach am y cysylltiad rhwng portico a dyddiad adeiladu rhai o’r tai a restrwyd chwalu’n deilchion yr holl ddoethinebu! Da fyddai cael rhagor o wybodaeth a syniadau gan ein darllenwyr yn hyn o beth.

Gwybodaeth

Sara Oliver, Tregarth

Ieuan Wyn, Carneddi

Ffynonellau

Hughes, Hugh Derfel. 1866. Hynafiaethau Llandegai a Llanllechid. Bethesda.

Roberts, T. Theo. 1999. Y Felin Fawr (Chwarel y Penrhyn); ei hanes a’i rhamant. Dinbych.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s