Abercaseg

abercaseg
Abercaseg

Ar y pedwerydd o Orffennaf 1284 ymwelodd Edward 1af, brenin Lloegr, ag Abercaseg. Yr oedd ar wibdaith drwy Wynedd yn dilyn ei goncwest o Gymru yn 1283. Ar y cyntaf o’r mis ymwelodd â chastell Dolwyddelan, Gumbadolph (Dolbadarn?) ar yr ail cyn mynd ymlaen i Abercaseg, a gorffen ei daith yng Nghaernarfon ar y pumed. Mae’n bur debyg ei fod ef a’i osgordd wedi gwersylla’r nos ar y ddôl ar lan Afon Caseg ar lawr y dyffryn. Diben ei ymweliad ag Abercaseg oedd archwilio adeilad ei wrthwynebydd, Llywelyn ap Gruffudd, sef y tŵr arsyllu a safai ar y lan gyferbyn ar gopa’r graig yn Nhyn Tŵr.

Mae’n ddiddorol nodi mai i Abercaseg yr aeth Edward ac fel ’le towre de Abercassek’ y cyfeirir at y tŵr mewn dogfen gyfreithiol yn 1485. Pam nodi pwysigrwydd Abercaseg yn hytrach na Thyn Tŵr felly? Gadewch i ni hedfan dros y canrifoedd ac ymweld â thyddyn Abercaseg yn 1768, dyddiad yr Arolwg cyntaf a wnaethpwyd gan Richard Pennant o’i eiddo yn Stad y Penrhyn.

abercaseg1768b
Cynllun Tyddyn Abercaseg yn 1768. Archif Penrhyn Ychwanegol 2944, drwy ganiatâd Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor

Bryd hynny yr oedd Abercaseg yn dyddyn 13 acer yn nhenantiaeth Thomos Williams, ac wedi’i rannu yn 13 uned, oll oddeutu un acer neu lai eu maint ac eithrio cae y Wern Uchaf Bella a oedd ychydig dros bedair acer. Mae mapiau George Leigh, y tirfesurydd o Norwich a gyfrannodd yn helaeth at yr Arolwg, yn cyflwyno darlun arbennig o leoliad Abercaseg mewn perthynas â’r sefydliadau eraill a oedd yn rhannu glan Afon Caseg.

abercaseg-1768-a
Cofrestr caeau Abercaseg yn 1768. Archif Penrhyn Ychwanegol 2944, drwy ganiatâd Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol  Bangor

Mae’n ddiddorol sylwi ar enwau a maint nifer o’r unedau a berthynai i’r sefydliadau hyn. Yr oedd gan Abercaseg ddwy berllan ac un gardd, ac yn Nhyddyn Caseg y drws nesaf, tyddyn 7 acer gyda phont yn croesi’r afon, yr oedd yno Gae Ceirch, Gardd y Wal a’r Arddlas, oll yn unedau llai nag un acer. Wedi’u cysylltu’n ddaearyddol, ond yn perthyn i fferm Gerlan, yr oedd dwy uned eithriadol fychan Gerddi’r Gerlan. Ar y lan gyferbyn yr oedd tir fferm Tyn Tŵr, fferm sylweddol ei maint yn cynnwys ffriddoedd agored Braichmelyn a Rhydd Wreiddiog. Ger y tŷ yr oedd y Berllan yn arwain at Gae Cefn y Berllan a dwy uned fychan Llain y Tŵr a Gerddi’r Cae Beudy Newydd, a gerllaw yr oedd dau gae Lleiniau Gwynion Uchaf. Ar aber Afonydd Ogwen a Chaseg lleolwyd Lleiniau Gwynion Isaf a Llwyn yr Hudd Du, un yn bedair a’r llall yn dair acer eu maint. Mae enwau caeau sy’n cynnwys lleiniau, perllannau a gerddi yn brin yn archif caeau Arolwg 1768. Sut felly y gellir dehongli’r defnydd o’r enwau hyn yn y fan hon? Tybed a oes yma adlais uniongyrchol o gyfnod cynharach yn hanes yr ardal benodol hon. Mae enwau’r unedau, maint bychan y berllan a’r ardd, maint mwy y lleiniau, a’u perthynas agos â lleoliad y tŵr arsyllu yn awgrymu fod yma sefydliad a berthynai i deyrnas Tywysogion Gwynedd yn y ddeuddegfed a’r drydedd ganrif ar ddeg.

Awgrym yn unig yw hwn sy’n haeddu mwy o ymchwil, ond os cywir y dadansoddiad yna mae’n egluro pam y bu i’r Brenin Edward wersylla yn yr uned economaidd a gynhaliai safle amddiffynnol Tyn Tŵr. Tybed a fyddai Thomos Williams, bum canrif yn ddiweddarach, yn ymwybodol o dras tywysogaidd ei dyddyn.

abercaseg-1855
Map Johnson o Abercaseg yn 1855. Drwy ganiatâd Archifau a Chasgliadau Prifysgol Bangor, Papurau a Mapiau Penrhyn PFA/6/173

 

Un sylw ar “Abercaseg

  1. Dafydd Fon

    Diddorol dros ben. I ychwanegu at y ddamcaniaeth, gellir ystyried enw’r fferm Ciltrefnus, ond yn wreiddiol Ciltreflys ( Cymharer Capel Treflys ). Mae’n wybyddus mai ‘treflys’ yw’r fferm sy’n gwasanaethu’r llys, yn ei gynnal. Mae Ciltreflys yn llawer rhy bell o lys Aber, ac mae tir llawer mwy ffrwythlon yn y fan honnoi gynal y llys. Fodd bynnag, gallai gynnal llys bychan/ eilaidd o gwmpas Tyn Twr. Mae Melville Richard, ar sail tystiolaeth o un enw, yn awgrymu’n betrus fod gan deuu Ednyfed Fychan eiddo/ plasdy yn ardal Tyn Twr, sydd bellach dan domen y chwarel. Os gwir, gallai hynny, hefyd, fod yn olion o sefydliad o oes y tywysogion yn yr ardal

    Hoffi

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s