Y Dalar Hir

Adroddir bod offeiriad eglwys Llanllechid yn fuan ar ôl adeiladu’r eglwys newydd yn 1846 wedi penderfynu dadorchuddio rhai o’r beddrodau cynnar yn y fynwent. Darganfu nifer o feddrodau, ac un o’r rhai mwyaf diddorol oedd y feddrod fwrdd sydd yn y fynwent heddiw ond a leolwyd yn wreiddiol i’r gogledd o safle’r hen eglwys.  Mae’r bedd, sy’n dyddio o 1682, yn coffáu William Buckley o Goyden a fu farw’n wyth deg oed ar ymweliad â’i deulu a oedd yn byw ym mhlasty Coetmor. Dywedir ei fod yn briod â merch y plasty. Achos ei farwolaeth oedd iddo gael ei daro gan fellten, ond edrydd traddodiad iddo gael ei ladd ym mrwydr y Dalar Hir.

Ymladdwyd y frwydr hon ar 5 Mehefin 1648 yng nghyffiniau fferm y Wig ar ddolydd gwastad plwyf Llanllechid sy’n ffinio Afon Menai. Brwydr ydoedd rhwng dilynwyr y Brenin a chefnogwyr y Seneddwyr yn y Rhyfel Cartref a rwygodd gymdeithas Prydain yn yr ail ganrif ar bymtheg. Yn 1643 ar ddechrau’r anghydfod yr oedd cefnogaeth uchelwyr Gwynedd yn gadarn a diwyro i’r brenin ond wedi hynny erydodd y gefnogaeth wrth i luoedd y Seneddwyr roi pwysau ar eu teyrngarwch ac ymosod o’r dwyrain ar eu tiriogaeth. Syr John Owen, Clenennau (1600-1666) oedd y ffigur mwyaf blaenllaw ymysg y brenhinwyr. Roedd yn ymladdwr dewr a di-ildio ac yn ŵr cyson ei deyrngarwch i’r brenin. Ar ddechrau’r rhyfel ef oedd cadfridog catrawd troedfilwyr Gwynedd a frwydrodd ar ran y brenin mewn nifer o ymladdfeydd yn Lloegr.  Anafwyd Syr John ym mrwydr Bryste ganol 1643 ac yn ddiweddarach yn yr un flwyddyn fe’i penodwyd yn raglaw Reading. Y flwyddyn ganlynol derbyniodd swydd fel rhaglaw Castell Conwy, penodiad nad oedd wrth fodd John Williams, Archesgob Caer Efrog, a oedd wedi ymgartrefu yn y castell wedi iddo gael ei ddarostwng o’i uchel benodiad yn yr eglwys gan y Seneddwyr. Erbyn 1646 roedd byddin Thomas Mytton, cadfridog lluoedd y Seneddwyr yn y gogledd wedi meddiannu Castell Conwy a gorfu i Syr John ildio i’w fyddin. Fe’i dirwywyd yn drwm a’i alltudio i dawelwch ei stad yn Clenennau.

syr-john-owen
Syr John Owen Clenennau, llun drwy ganiatâd Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Ym mis Mawrth 1648 dechreuodd Syr John Owen gynllunio gwrthymosodiad yn erbyn y Seneddwyr yng Ngwynedd. Erbyn hynny roedd Thomas Mytton wedi meddiannu castell Caernarfon ac fe gychwynnodd Syr John nifer o gyrchoedd bychan yn erbyn ei gadarnle. Fis yn ddiweddarach ehangodd Syr John ei fyddin i gynnwys 150 o farchfilwyr a 120 o droedfilwyr gan ymosod ar Mytton  a oedd a byddin fechan o 20 marchfilwr a 60 troedfilwr o dan warchae yn y castell. Danfonodd Mytton am gymorth a chasglwyd garsiwn o tua 100 o droedfilwyr a 69 marchfilwr o Gaer a Chonwy i ddod i’w gynorthwyo, a hynny o dan arweinyddiaeth Twisleton, rhaglaw Dinbych, a Carter rhaglaw Conwy. Cyfarfu byddin Syr John â byddin y Seneddwyr mewn brwydr symudol ar y Dalar Hir ar 5 Mehefin. Bu’r frwydr ar y cychwyn yn llwyddiannus i’r Brenhinwyr ond bwriwyd Syr John oddi ar ei geffyl ac fe’i hanafwyd a’i gymryd yn garcharor gan roi terfyn buan i’r holl ymrafael. Yn y sgarmes adroddir bod 30 o filwyr cyffredin Syr John wedi’u lladd a 100 wedi’u cymryd yn garcharorion tra bo gweddill gwŷr y pladuriau a’r picffyrch wedi ffoi. Yn ôl tystiolaeth Hugh Derfel yr oedd y ‘Cadben Bukley’ hefyd yn un o’r rhai a laddwyd.

Ar derfyn y frwydr aed â Syr John i Lundain a’i garcharu yng nghastell Windsor. Dedfrydwyd ef i’w ddienyddio, ond drwy ymbil ei gyfeillion cafodd bardwn ac fe’i hanfonwyd yn ôl i’w stad yn Clenennau. Bu raid iddo eto dalu dirwyon drud am ei gamweddau. Derbyniodd y Cadben Taylor, a fu’n gyfrifol am fwrw Syr John oddi ar ei geffyl, wobr o £200 am ei orchest ac roedd yr arian i’w gymryd o etifeddiaeth Syr John. Derbyniodd y ddau raglaw Twisleton a Carte  wobr o £1,000 yr un am eu gwasanaeth gorchestol yn y frwydr â’r arian hwnnw i’w gymryd o ystadau y rhai a orchfygwyd yn y rhyfel. Yn dilyn y frwydr cynhaliwyd cyrch o ddychryn ac ysbeilio yn ardal Llanllechid gan fintai o filwyr buddugoliaethus, gan ychwanegu at boen a diflastod cymdeithas gyffredin a oedd eisoes mewn cynni mawr. Adroddir bod ffosydd y frwydr i’w canfod yn y caeau gerllaw y Wig a bod  pelennau magnel wedi’u canfod mor bell i ffwrdd â Bronydd, ac eraill yn dra annisgwyl mor bell â Phlas Hwfa yn Llanllechid.

Mae’n bur debyg fod helynt y frwydr, hanes y cyrchoedd a ddilynodd ac enwau’r rhai a gymerodd ran wedi tyfu i fod yn rhan o chwedloniaeth lafar Dyffryn Ogwen a gofnodwyd gan Hugh Derfel Hughes. Rhaid dychwelyd felly at hanes y Cadben Bukley a gladdwyd ym mynwent Eglwys Llanllechid. Tybed ai chwedloniaeth sy’n ei anfarwoli fel un a laddwyd ym mrwydr y Dalar Hir tra, mewn gwirionedd, iddo gael ei gladdu fel y bonheddwr William Buckley ddeugain mlynedd yn ddiweddarach ar ôl cael ei daro gan fellten yng Nghoetmor.

Ffynonellau

Hughes, Hugh Derfel. 1866. Hynafiaethau Llandegai a Llanllechid. Bethesda.

Dodd, A.H.  1968. A History of Caernarvonshire 1284-1900.  Caernarvonshire Historical Society,  Dinbych.

2 sylw ar “Y Dalar Hir

  1. Hysbysiad Cyfeirio: Eglwys Llanllechid – Hanes Dyffryn Ogwen

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s