Y Beudy Newydd

Beudy newydd 2
Y Beudy Newydd (daw’r llun drwy ganiatâd Roland Flook)

Ar daith i’r Gyrn heibio godre Moel Faban fe welwch adeilad unig yn sefyll ar ffin eithaf stad Cefnfaes a thir agored y Goron yng Ngwaun Cwys Mai. Mae’r adeilad bellach heb ei do ac fe’i defnyddir fel rhan o gorlan i ddefaid. Cyfeirir ato fel y Beudy Newydd ond o edrych yn fanwl fe welwch fod gan yr adeilad gynllun arbennig. Mae iddo ystafell eang yn y canol, ystafell fechan yn ei ben gogleddol a chlamp o fur cerrig a phridd yn gwarchod mur y gorllewin. Yr adeilad hwn oedd cwt ffrwydron W. J. Parry, asiant i gwmni Nobel a chyflenwr ffrwydron mwyaf llwyddiannus Gogledd Cymru yn ystod degawdau olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Cychwynnodd Parry ar ei yrfa fel gŵr busnes yn 1864 gan sefydlu ei hun yn gyfrifydd ariannol a masnachwr cyffredinol ym Methesda. Dengys ei hysbyseb yn Sutton’s Directory (1889/90) y gallai gyflawni holl anghenion adeiladu’r pentref, a mwy: ‘General MerchantIron, Lead,  Steel, Chains, Nails, Timber, Bricks, Tiles, Cement, and Lime; oils, paints, ropes, asbestos and hemp packing; grates, ranges, landers, and general ironmongery; powder, fuse caps,&’. Lleolwyd ei iard ar dir tomennydd rwbel hen chwarel Llety’r Adar ar safle a oedd yn rhan o orsaf a iard nwyddau y rheilffordd ym mhen gogleddol y pentref. Fel y nodwyd uchod ei fasnach fwyaf proffidiol oedd ei asiantaeth ffrwydron a phylor du ar gyfer cwmni Nobel o Glasgow. Enillodd yr asiantaeth yn 1877 a gwasanaethai chwareli llechi Arfon a Dyffryn Conwy; chwareli calchfaen Penmon; chwareli gwenithfaen Penmaenmawr; mwyngloddiau plwm Dyffryn Conwy a rhai o gynlluniau peirianyddol mwyaf y gymdogaeth, megis cynllun ehangu porthladd Caergybi. Ei archeb bwysicaf oedd i werthu ffrwydron i Chwarel y Penrhyn, archeb a oedd, o’i hennill yn 1875, yn cyfrannu ar gyfartaledd £1762 y flwyddyn i’w goffrau. Yn ddirybudd yn 1892, terfynwyd y cytundeb gan yr Arglwydd Penrhyn, perchennog y chwarel a phrif elyn gwleidyddol  Parry, a hynny yn bennaf oherwydd ei weithgareddau gydag Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru. Stori arall yw honno nad yw’n gwbl berthnasol i hanes y cwt ffrwydron yng Ngwaun Cwys Mai. Cewch wybod rhagor am yr anghydfod rhwng Parry ar Arglwydd Penrhyn yn y cofnod am y Farchnad.

Mwy perthnasol fyddai gofyn pam fod Parry wedi dewis safle mor anghyfleus yn storfa i’w gynnyrch ffrwydrol? Ceir yr ateb yn yr Herald Gymraeg , rhifyn Hydref 20fed,1896:

Fflamio a Ffrwydro :‑Dinystrio Coetmor Yard. Golygfa frawychus yn Methesda.

Yn fuan wedi deuddeg o’r gloch, brydnawn Mercher, brawychwyd trigolion Bethesda gan y newydd fod ystorfa eang yr Henadur W.J.Parry ar dan, a mawr oedd y dychryn oblegid y gwyddid fod yn y lle swm o dynameit a phylorau eraill yn arfer cael eu cadw yno….Torodd y tan allan yn un o’r ystafelloedd canol….. Tybir mae casgen o olew gymerodd dan rywfodd, ac wedi i’r fflamau gyneu unwaith, buan yr ymledasant, fel ag yr oedd yr holl le …yn un goelcerth. Daeth Mr Robert Thomas, Coetmor, i’r lle yn ebrwydd, a charlamodd ar gefn ei farch i hysbysu Mr Parry a chwarelwyr Pantdreiniog,  Daethant yno ar unwaith, yn nghyda’r holl ddynion oedd yn gweithio ar adeilad yr ysgol ganolraddol, a channoedd eraill o bob rhan o’r dref. Dechreuwyd ar unwaith ar y gwaith o geisio achub hynny ellid o’r nwyddau, a theilynga pawb y ganmoliaeth uchaf am y dewrder a ddangosasant wrth ymladd a’r elfen ddinystriol.  Gwyddent yn dda fod ar y pryd swm o bylor yn cael ei gadw yn rhywle yn yr adeiladau, a chan fod y foreman oddicartref ni wyddent pa mor agos y gallai y tan fod oddiwrth y dynameit.  Buwyd am beth amser mewn penbleth yn methu a chael dwfr, ond er yr holl beryglon anturiodd nifer o ddynion i mewn i’r lle, a chludwyd y llyfrau a rhan o’r nwyddau i ddiogelwch, yn nghyda’r dodrefn. Gan fod cymaint o goed ac olew yn y lle gellir dychmygu gyda pha gyflymdra yr oedd y tan yn ymledu. Er hyn i gyd, gweithio yn ddiwyd yr oedd y dynion drwy bob perygl.  Yn ffodus iawn, daeth Mr Parry i’r lle mewn pryd i rybuddio y dynion i ddianc ymaith yn ddiymdroi, gan fod y tan wedi cyrraedd y lle yr oedd y dynameit.  Erbyn hyn yr oedd yr holl dref wedi codi mewn braw, a phawb oedd yn byw yn y tai cylchynol wedi dianc am noddfa i rywle o gymdogaeth yr ystorfa.  Rhybuddiwyd bawb i gadw yn glir ar yr heol hefyd.  Yr oedd y gerbydres ar ddyfod i mewn, ac attaliwyd hi bellder cyn cyrraedd yr orsaf. Gyda hyn wele dwrf arswydus.  Yr oedd y twrf y fath na chlybuwyd ei debyg yn yr ardal yng nghof neb sydd yn fyw,  Dywedir ei fod i’r glywed am filltiroedd.  Teimlwyd yr ysgytwad yn Upper Bangor.  Ni chreodd dim y fath fraw yn Methesda;  crynai pob man, maluriwyd ffenestri yn mhob cyfeiriad, ac yr oedd pennau y tai o amgylch yn Station‑road, wedi eu niweidio yn enfawr. Cafodd ty Mr Richard Owen, y gof, ei niweidio, a chafodd yr efail ei rhydyllio.  Cyrhaeddai’r effeithiau gan belled a’r Cafe, a gwnaed niwed i orsaf y rheilffordd.  Ni raid dywedyd fod yr holl ystordy yn gydwastad a’r llawr mewn canlyniad i’r tan a’r ffrwydrad, ac yr oedd yr olwg ar y lle yn dangos fod y tan wedi gwneuthur difrod aruthrol.  Gellid gweled malurion wedi eu lluchio i bellder mawr.  Chafwyd hyd i rai darnau yn ymyl Ty’n clwt ‑ pellder o tua chwarter milltir. Yr hyn sydd bron yn wyrthiol yw na chollodd neb ei fywyd, ac na anafwyd neb yn nglyn a’r tan na chan y darnau a luchiwyd gan y ffrwydriad.  Priodolir hyn yn fwyaf neillduol i’r ffaith fod y pylor yn y rhan bellaf i’r adeiladau, ac felly mewn lle mwy agored.  Pe buasai y malurion wedi eu lluchio i’r cyfeiriad cyferbyniol, gallasai y canlyniadau fod yn fwy difrifol. Anfonwyd i Fangor am y tan‑ddiffoddwyr, a daethant yno mewn ychydig iawn o fynydau, ond yr oedd y ffrwydriad newydd gymeryd lle erbyn hyn.  Llwyddasant i ddiffodd y tan yn ebrwydd, er fod y coed yn cyneu ar ol y ffrwydriad.  Y mae’r olygfa yn awr ar y malurion yn hynod dorcalonus. Cydymdeimlir yn fawr a theulu caredig Coetmor Hall yn ngwyneb y trychineb.  Dywedir fod y golled oddeutu £3000.

Ychwanegodd gohebydd y North Wales Chronicle fod y golled wedi ei yswirio hyd at hanner y gost. Wedi ymchwiliad, cafwyd mai achos y danchwa oedd fod un gasgen betrol tu mewn i’r adeilad, a thair arall y tu allan i’r storfa ffrwydron ac yn ôl yr asesydd difrod o Lerpwl, torrai hyn amodau’r polisi yswiriant. Cwmni’r Alliance oedd yswirwyr yr iard, a Parry oedd cynrychiolydd y cwmni ym Methesda, ac fel asiant i stad y Cefnfaes roedd wedi sicrhau fod yswiriant hanner pentref Bethesda yng ngofal y cwmni. Trwy ryfedd ffawd a graslonrwydd rhyfeddol y cwmni, penderfynwyd digolledu hanner swm y golled i Parry. Un o’r amodau oedd na châi storio ffrwydron yn iard y stesion mwyach er diogelwch y pentref ac y byddai raid cynllunio storfa i gadw pylor du a’r ffrwydron mewn ystafelloedd ar wahân. A dyna’r rheswm paham fod yr adeilad yn sefyll yn unigeddau Gwaun Cwys Mai. Ewch i’w weld, ond gofalwch fod gennych yswiriant cyn mynd!

Ffynonellau

Williams , J. Ll. W. 1997. ‘Two powder magazines in the parish of Llanllechid, Bethesda, and their significance in the industrial turmoil of the late nineteenth century.’ Gwynedd Ddiwyiannol  3, tt.7-17.

Williams, J. Ll. W. 2005.’W. J. Parry, Coetmor Hall, Bethesda: Portread o Gyfrifydd, Masnachwr a Hapfasnachwr Cymreig yn negawdau olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg.’ Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon, 66, tt. 37-167.

Un sylw ar “Y Beudy Newydd

  1. Hysbysiad Cyfeirio: Hanes Dyffryn Ogwen

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s