Rhes y Graig

Nid oedd cynllunio ffordd drwy Ddyffryn Ogwen yn dasg hawdd i Thomas Telford pan benodwyd ef gan y Llywodraeth yn 1810 i adeiladu’r ffordd bost rhwng Llundain a Chaergybi. Yr oedd gan bob rhan o’r ffordd ei phroblemau peirianyddol a thrwy ddarllen ei gyfarwyddiadau manwl mewn perthynas â’r tirlun presennol gellir deall sut y gwnaeth oresgyn nifer o’r problemau hyn. Mae gan y rhan o Bont y Pandy i Bont Ffrydlas ei harwyddocâd arbennig oherwydd ar y darn hwn y sefydlwyd pentref Bethesda ar lethrau bryn creigiog a serth.

Lot 23 - Fig b Telford
Lot 23 sy’n dangos llwybr y lôn o Bont y Pandy i Bont Ffrydlas. Defnyddir y ddelwedd drwy ganiatâd yr Archifau Cenedlaethol yn Kew.

Gill, Hodges & Co enillodd y cytundeb i adeiladu’r ffordd ym mis Tachwedd 1818 am bris o £2,256. Roedd y gwaith yn ei anterth rhwng misoedd Awst a Rhagfyr 1819, gyda nifer y gweithlu’n amrywio rhwng 36 ar y dechrau, 52 yn y canol ac 16 ar y diwedd. Yn rhan o’r gweithlu roedd chwarelwyr, seiri meini, saer troliau, gofaint, metalwyr a labrwyr. Cynlluniwyd y ffordd i redeg yn unionsyth o Fryn Bella at leoliad clogwyn llechfaen enfawr oedd yn creu rhwystr naturiol wrth ddisgyn yn ddibyn serth i wely Afon Ogwen, sef safle Rhes y Graig heddiw. Roedd y gwaith llafurus o hollti creigiau yn rhan allweddol bwysig o bob contract a chost miniogi cynion yn gofnod ar bob mantolen ariannol. Roedd cost naddu hefyd yn destun bargeinio ffyrnig rhwng Telford a’r contractwyr gyda’r olaf yn herio fod 2/6 yn bris rhy isel am naddu llathen ciwbig sgwâr o graig.

Craig Stryd y Graig
Craig Stryd y Graig

Mae’n amlwg fod gan glogwyn Rhes y Graig ran allweddol bwysig yng nghynllun y ffordd. Unig ddewis Telford oedd anelu’r llwybr at safle’r graig hon er mwyn osgoi dringo’r llethrau serth uwchlaw. Drwy wneud hynny gallai gadw at ei brif fwriad o greu graddiant gwastad i’r ffordd. Drwy chwalu’r clogwyn gallai agor porth eithriadol gul i dir mwy agored oedd â rhwystr pellach mewn craig anferth ar safle Grisiau Mawr heddiw. Drwy gyd-ddigwyddiad yr oedd clogwyn Rhes y Graig yn dynodi’r ffin rhwng stadau’r Cefnfaes a’r Penrhyn, a thrwy agor y porth cyfyng drwy’r graig fe sicrhawyd lleoliad parhaol ar stad Cefnfaes i gnewyllyn pentref Bethesda ddatblygu yno o 1820 ymlaen.

Grisiau Mawr
Y Grisiau Mawr

Ffynhonnell  

Williams, J.Ll. W. a Williams, Lowri W. 2016. ‘Retracing Thomas Telford’s footsteps, the building of the post road through Dyffryn Ogwen in Gwynedd’, 1815 – 1824. Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon. I ymddangos yng nghyfrol  76, 2016.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s