Stad o dai cyngor a adeiladwyd ym Methesda yn chwedegau’r ugeinfed ganrif yw Glanogwen fel y gŵyr pawb sy’n byw yn lleol, ond nid y Glanogwen yma yw testun y cyfraniad hwn ond yn hytrach long hwyliau o’r un enw. Adeiladwyd llong Glanogwen gan John Parry yn ei iard longau ar y traeth yn Hirael, Bangor yn 1855. A bod yn fanwl gywir brigantine ydoedd a bwysai 143 tunnell a hon oedd y llong fwyaf iddo’i hadeiladu a hefyd yr olaf gan iddo farw yn yr un flwyddyn. Hyd y llong oedd 83.6 troedfedd ac roedd yn 20 troedfedd ei lled ac roedd yr howld yn 12.8 troedfedd o ddyfnder. Addurnwyd y bwa â phenddelw merch.
Ar farwolaeth y tad aeth Glanogwen y llong i berchnogaeth ei ddau fab ac fe barhaodd ym meddiant y teulu am dair cenhedlaeth hyd at 1897 pan gafodd ei gwerthu i gwmni ym Mhorthmadog. Er hynny bu hanes pur gythryblus i’w pherchnogaeth oherwydd aeth y teulu ar un cyfnod yn ei hanes yn fethdalwyr, a thro arall tua diwedd perchnogaeth y teulu tua 1890 cafwyd problemau ynghylch ei morgeisio. Ond pwysigrwydd y llong oedd ei mordeithiau. Nid llong y glannau oedd y Glanogwen ond yn hytrach long a hwyliai’r cefnfor mawr. Yn ystod ei thymor hir ar y môr bu’n hwylio i Fôr y Canoldir gan gyrraedd Toulon a Sisili ac i Fôr y Baltig hyd at Stetin yng ngwlad Pwyl. Roedd yn ymwelydd cyson â Hamburg, Dieppe a Llundain. Ar fordaith i Gibraltar gorfodwyd Owen Jones ei chapten i dalu dirwy i ryddhau dau o’r criw o’r carchar am fod yn feddw. Dro arall yn Hamburg carcharwyd dau o’r criw am ddwyn cwch i ddychwelyd o’r lan i’r llong, ac unwaith eto bu raid i Owen Jones dalu’r ddirwy. Bywyd caled oedd un llongwr ac ar un fordaith yn 1893 bu’r llong i ffwrdd o Fangor am naw mis gan ymweld â naw phorthladd rhwng Hamburg, Silloth (yr Alban), Bryste, Llundain, Guernsey a Limerick cyn dychwelyd i Gaernarfon. Ar fordaith arall yn 1913 boddodd y capten mewn tymestl oddi ar arfordir Llŷn.
Nid y Glanogwen oedd yr unig long o Fangor oedd â chysylltiadau â Dyffryn Ogwen. Yn ystod cyfnod penllanw adeiladu llongau ym Mangor rhwng 1854 a 1866 adeiladwyd yr Heather Bell yn 1860, barc 257 tunnell a’r fwyaf a adeiladwyd erioed ym Mangor. Adeiladwyd hefyd y Mary Edwards yn 1863, sgwner 65 tunnell. Adeiladwyd y ddwy gan Edward Ellis, adeiladydd llongau oedd â’i iard ar safle datblygiad newydd stad y Bae sydd heddiw yn y Garth. Cofrestrwyd yr Heather Bell yn Aberystwyth dan berchnogaeth Evan Phillips o Gei Newydd a chonsortiwm yn cynnwys 18 o forwyr a ffermwr o Gei Newydd a Llangrannog; pum perchennog llongau o Lerpwl; saith person o Fethesda yr oedd pump ohonynt yn chwarelwyr, a dwy wraig weddw o gylch Bangor. Pobl o Fethesda oedd prif arianwyr y Mary Edwards yn ogystal. Roedd 21 ohonynt yn chwarelwyr a chwech o’r rhain hefyd yn gyfrannog yn yr Heather Bell. Chwarelwr o Fethesda, John Hugh Jones, oedd hefyd yn rheolwr gyfarwyddwr y buddsoddwyr. Yn nwylo’r buddsoddwyr hyn y parhaodd y llong hyd at ei gwerthu yn 1896 i berchennog llongau o Gaernarfon a’i gwerthodd ymlaen i brynwr yn Iwerddon, cyn iddi gael ei thorri i fyny yn Plymouth yn 1936. Ond yr oedd un siâr yn dal ym meddiant gwraig o Fethesda bryd hynny, Mary Edwards Williams o’r Gerlan, a hi bid sicr a roddodd ei henw i’r llong yn y lle cyntaf.
Mae hanes llongau Bangor a’u buddsoddwyr yn ddrych sy’n cofnodi’r cyfnewidiadau moesol a materol a ddigwyddodd i gymdeithas yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Pan sefydlwyd y porthladd yn Aber Cegin yn 1780 dim ond cymdeithas bwerus arch-gyfalafol tylwyth y Penrhyn a’i swyddogion a berchnogai’r llongau a foriai o Fangor, a llechi oedd prif nwyddau eu masnach.

Yn nhridegau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg daeth newid sylweddol pan sefydlwyd nifer o iardiau adeiladu llongau ar y traeth yn Hirael, diwydiant hunangynhaliol a hynod lwyddiannus a ddaeth a pharch a bri i’w sefydlwyr hyd at saithdegau’r ganrif. Ni ddeuai eu sylfaenwyr o blith cylch y Penrhyn nac o blith pwysigion dosbarth canol y fro a oedd â’u golwg ar fwyngloddio. Yn hytrach, pobl weddol gyffredin oeddynt ar y dechrau ond fe ddaethant yn fuan i hawlio eu lle ymhlith y dosbarth canol. Yr oedd awch cyfalafol yn gyrru’r gwŷr hyn er eu bod yn barchusion a goleddai foesau Cristnogol a daeth nifer ohonynt yn amlwg o fewn enwad y Methodistiaid Calfinaidd. Roedd un ohonynt, Samuel Roberts, yn weinidog ordeiniedig yn yr enwad yn ogystal â bod yn adeiladwr llongau, yn ysgrifennydd cwmni yswiriant ac yn berchen ar storfa nwyddau morwrol. Mae’n amlwg nad oedd cydwybod yn pigo’r dynion hyn a oedd ar yr un llaw yn gyfalafwyr ymwthgar ac ar y llaw arall yn warchodwyr defosiwn a moesoldeb.
Erbyn chwedegau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd y cylch wedi troi a bellach roedd y gweithiwr cyffredin am fentro i’r byd cyfalafol. Mewn cyfnod pan oedd chwarel y Penrhyn ar ei mwyaf llwyddiannus gallasai rhai o’r chwarelwyr mwyaf ariannog hefyd ymelwa o fuddsoddiad cyfalafol drwy fentro prynu cyfranddaliadau mewn llongau fel y gwnaethpwyd yn gynharach gan berchnogion y gwaith. Cynigiai hyn gyfle iddynt na ellid ei wrthod mewn cyfnod pan oedd banciau a chymdeithasau adeiladu ond megis cychwyn ac felly prin yn gallu creu gwarant i’w henillion sbâr.
Ffynhonnell
Elis-Williams, M. 1988. Bangor port of Beaumaris; the nineteenth centuary shipbuilders and shipowners of Bangor, Gwasanaeth Archifau Cyngor Gwynedd, Caernarfon.
Thomas, David. 1952. Hen Longau Sir Gaernarfon. Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon, Caernarfon.