Chwarel cerrig hogi’r Benglog

Yn ystod yr Oes Efydd oddeutu pedair mil a hanner o flynyddoedd yn ôl yr oedd bod meddu ar galen hogi gyn bwysiced â meddu ar gyllell efydd. Ym meddau arwrol y cyfnod gosodid y galen hogi ochr yn ochr â’r gwrthrychau metel i ddynodi statws cymdeithasol yr unigolyn ac i’w baratoi ar gyfer y byd nesaf. Ar fynydd Penmaenmawr claddwyd cerrig hogi ar lawr cylch o feini hirion o’r un cyfnod, ond mewn gweithred o ddefosiwn, mae’n debyg, yn hytrach na fel symbol o arwriaeth. Mewn cyfnod diweddarach daeth y galen hogi i fod yn angenrheidiol yng nghyfundrefnau amaethyddol y Canol Oesoedd gan ddod â bri i nifer o fannau lle roedd cerrig addas i gynhyrchu’r offer.

Nid pob craig sy’n addas i’w defnyddio fel carreg hogi. Mae’n ofynnol iddi fod yn galed ac heb risialau bras yn ei chyfansoddiad naturiol fel nad yw’n amharu ar lyfnder ei defnydd fel carreg hogi. Y creigiau mwyaf addas yw’r rhai o gyfansoddiad gwaddod mân, megis llechen, ond sydd wedi eu trawsffurfio a’u crasu dan wasgedd metamorffig aruthrol. Mae nifer o safleoedd yn Eryri lle mae creigiau o’r math hyn yn rhan o’r ddaeareg ac un o’r lleoliadau pwysicaf yw mynedfa’r llwybr o Lyn Ogwen i Gwm Idwal yn y Benglog. Ar y safle heddiw saif canolfan wybodaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a thu cefn i’r adeilad, mewn agen gul, ond tra dofn, cloddiwyd y graig i gynhyrchu’r calennau.

Cyfeiriwyd gyntaf at gloddfa Nant y Benglog yn 1759 mewn llythyr gan un o Forrisiad enwog Môn, William at ei frawd Lewis yn Llundain, ond mae’n debyg fod y safle yn llawer hŷn na dyddiad y llythyr hwn. Yn yr un flwyddyn ataliwyd prydles ar y chwarel gan  Syr Hugh Warburton, etifedd hanner stad y Penrhyn, oherwydd ei fod wedi ymuno â nifer o anturwyr eraill i fwyngloddio copr yn Nyffryn Ogwen. Yr oedd y chwarel wedi ail agor erbyn i Thomas Pennant deithio drwy Eryri yn 1775-6 oherwydd mae’n dweud ‘near this place {Ogwen} is a quarry noted for excellent hones of which quantities are sent annually to London’, a cheir cofnod pellach gan ymwelydd arall fod y farchnad yn ymestyn cyn belled â Dulyn yn 1800. Erbyn 1796 yr oedd llygad blysiog Richard Pennant, Arglwydd newydd y Penrhyn ar y fenter ac roedd ei estyniad o Ffordd y Lord o Goed y Parc drwy Nant Ffrancon i Lyn Ogwen yn creu cyfleoedd am fentrau newydd. Adroddwyd bryd hynny fod llwyth llong o gerrig heb eu trin wedi’u danfon i’r Unol Daleithiau.

Yn 1801 cymerodd y diwydiannwr o Lerpwl, Samuel Worthington, a oedd yn gyfaill agos i Richard Pennant brydles am un mlynedd ar hugain ar y safle am rent blynyddol o £20 a breindal o ddeg swllt y dunnell ar y cynnyrch. Adeiladodd felin i drin y cerrig yn y Felin Isaf yn Llandygái yn rhan o’i sefydliad pwysig yno a oedd yn malu callestr ar gyfer gofynion ei grochendy yn Lerpwl. Daeth cyfnod Worthington yn gweithio’r safle i ben yn 1829 pan aeth yn ôl i ddwylo’r Penrhyn, ond nid oedd llawer o lewyrch yno hyd nes i ŵr o Hirael ym Mangor gymryd y gwaith yn 1864. Cyflogai ef hyd at saith o weithwyr ac adeiladodd dŷ ar gyfer y goruchwyliwr. Sefydlodd felin i drin y cerrig ar y safle gan ddefnyddio dŵr yr afon o Lyn Idwal i yrru’r peiriannau.

Cofnodir fel y byddai crefftwyr o ardal Hiraethog yn pwrcasu calennau o’r Benglog drwy ofyn i ffermwyr a oedd yn gwerthu nwyddau ym Methesda eu dwyn yn ôl ar eu taith gartref, ac yn yr un modd yr oedd gofyn parod am ‘Idwal hones’ cyn belled i’r de â’r Drenewydd. Ond byr fu atgyfodiad y diwydiant yn y Benglog wrth i galennau carborwndwm  ddisodli’r cerrig traddodiadol fel arfau hogi ar derfyn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Dim ond agen ddofn y gloddfa sydd ar ôl bellach yn y Benglog, a throswyd y felin yn ganolfan wybodaeth i’r ymwelwyr sy’n tyrru i’r ardal hon heddiw nad ydynt gan fwyaf yn ymwybodol o chwys a llafur gorffennol y safle.

Chwarel Carreg Hogi y Benglog
Yr agen sy’n dynodi lle’r oedd y chwarel calenni hogi

 

Ffynonellau

Bassett, T. M. 1974. ‘Diwydiant yn Nyffryn Ogwen’.  Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon 35. 73-84

Davies, Ivor E.  1976. ‘The Manufacture of Hone Stones in Gwynedd’. Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon 37. 80-86

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s