Capel Bethania oedd yr olaf o addoldai Bethesda i’w adeiladu, ac mae’n perthyn i gynllun a ddatblygodd o 1875 ymlaen i wella’r fynedfa o’r gogledd i Fethesda. Adeiladwyd y capel gan enwad yr Annibynwyr yn 1885 ar safle twll hen chwarel Llety’r Adar, ac yn groes i’r arfer lleol defnyddiwyd brics llachar coch i’w godi – brics a fewnforiwyd ar reilffordd y LNWR a oedd newydd agor rhwng Bangor a Bethesda yn 1884. Cynlluniwyd y capel gan y Parch. Thomas Thomas, arch gynllunydd capeli Cymru ac mae’n un o gampweithiau olaf y gŵr hwn cyn iddo farw yn 1888. Mae’r capel yn arddull Eidalaidd Thomas ac yn un o 900 o gapeli a gynlluniodd drwy Gymru yn ystod hanner olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Thomas oedd hefyd yn gyfrifol am gynllunio Capel Tabernacl y Bedyddwyr ym Methesda yn 1865 ac am ail gynllunio capel Carmel yr Annibynwyr yn Rachub yn 1860.
Capel ‘split’ oedd Bethania oddi wrth gapel Bethesda, prif addoldy’r Annibynwyr yn y pentref, yn dilyn rhwyg ymhlith y swyddogion a’r gynulleidfa. Un o brif flaenoriaid capel Bethesda oedd W. J. Parry, gŵr busnes eithriadol ddylanwadol ym Methesda a Chymru’r cyfnod. Yn 1902 priododd Parry am y drydedd waith â Saesnes o Dudley ger Birmingham. Oherwydd nad oedd swyddogion Capel Bethesda am ganiatáu gwasanaethau yn Saesneg ar ei chyfer symudodd Parry ei aelodaeth i Fethania lle gwireddwyd ei ddymuniad i gael oedfa Saesneg ar fore Sul gan ddyfnhau’r rhwyg rhwng y ddau gapel. Ond bellach, fel yn achos capel Bethesda yr ochr arall i’r pentref, cau fydd tynged drysau capel Bethania yn y dyfodol agos.
Ffynonellau
Hughes, Steven. 2005. Thomas Thomas, 1817-88: the First National architect of Wales. Archaeoligia Cambrensis, 152 (2003), 69-166
Williams, J. Ll. W. 2009. Portread o fywyd teuluol W. J. Parry, Coetmor Hall, Bethesda. Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon, 70, 85-106