Tŷ John Iorc

Yn ôl y traddodiad cuddiodd John Williams, Archesgob Efrog yn Nhyn Tŵr yn ystod trafferthion y Rhyfeloedd Cartref rhwng 1642 a 1648. Mae’r tŷ ym Mhont y Tŵr yn dyddio i gyfnod llawer cynharach a chredir iddo gael ei adeiladu rhwng 1450 a 1500.

Lleolir y tŷ ar y gwastad rhwng Afon Ogwen a chysgod bôn craig Tyn Tŵr. Adeiladwyd muriau trwchus y tŷ ar sylfaen o feini llwydfaen praff sy’n cynnal waliau sych o lechi bras wedi’u huno â chalch a’u gorchuddio mewn gwyngalch. Yn wreiddiol tŷ ffrâm nenffyrch wedi’i rannu oddi fewn yn dair uned oddi mewn oedd Tyn Tŵr gyda neuadd agored i’r nenfwd yn y canol, y gegin  i’r chwith a siambrau personol y teulu i’r dde. Rhannwyd yr ystafelloedd mewnol gan barwydydd o ddistiau derw a waliau o blethwaith a chlai. Gwellt fyddai cyfansoddiad y to ac yr oedd tân agored ar lawr y neuadd a gadewid i’r mwg dreiddio’n hamddenol drwy wellt y to. Oddeutu 1530 adeiladwyd simdde anferthol ar ganol llawr y neuadd gan rannu’r ystafell yn ddwy. Yn y cyfnod yr oedd yn ffasiwn o bwysigrwydd cymdeithasol i gael simdde yn rhan o’r tŷ ac nid yw simdde Tyn Tŵr yn siomi. Cynhaliwyd yr adeiladwaith ar ddistyn enfawr yn y neuadd ac uwchlaw to’r adeilad mae’n codi’n uwch na phen y graig. Mae ei ffurf fel pe bai’n mynd i’r pedwar gwynt, mae effeithiolrwydd ei thynfa yn ardderchog ond mae ei phresenoldeb symbolaidd yn fwy effeithiol fyth.

Tŷ John Iorc
Tŷ John Iorc

Yn yr ail ganrif ar bymtheg ychwanegwyd lloriau i rannu’r adeilad yn ddau lawr ac adeiladwyd grisiau cerrig ar dro ym mhen gogledd orllewinol y tŷ i gyrraedd at y croglofftydd. Ymhen amser ailosodwyd y to mewn llechi gan greu straen enfawr ar yr adeiladwaith bregus a chodwyd bwtresi llechi mawr ar flaen y tŷ i atgyfnerthu’r adeiladwaith. Erbyn chwedegau’r ganrif ddiwethaf yr oedd y tŷ yn adfeilio’n gyflym ac roedd un rhan o dair o’r adeilad wedi disgyn, ond drwy benderfyniad a dyfalbarhad y perchennog achubwyd yr adeilad a’i adfer yn breswylfa i’w drysori.

Ond nid tŷ yn unig oedd Tyn Tŵr ond yn hytrach, erbyn 1768 ,yr oedd yn fferm o 133 acer ar Stad y Penrhyn a Catherine Griffith oedd ei deiliad. Rhannwyd y tir yn ugain uned. Roedd rhai ohonynt ar gyrion pellaf y fferm yn ffriddoedd agored, megis 26 acer Braichmelyn a 38 acer Rhydd Wreiddiog, ond yng nghyffiniau’r tŷ mae’r unedau yn llawer llai. Mae uned y tŷ yn cynnwys iard a pherllan sydd yn ymestyn o’r graig hyd at Gae Cefn y Berllan. Yn gyfochrog mae uned Rhwng y Ddau Glogwyn ac i’r gogledd, rhwng y tŷ ac aber Afonydd Ogwen a Chaseg mae Lleiniau Gwynion Isaf a Llwyn yr Hudd Du. Unedau llawer llai yw Gerddi’r Cae Beudy Newydd a Llain y Tŵr, yr olaf yn adlais uniongyrchol o gyfnod cynharach yn hanes Tyn Tŵr. Trasiedi fawr Tyn Tŵr yw fod y graig wedi’i fandaleiddio yn lled ddiweddar gan ddatblygwr lleol cyn bod archwiliad manwl o’i nodweddion wedi’i gwblhau.

Ffynhonnell

Kiln, Robert, 2001.  John York’s Houses. Cymdeithas Archaeoleg Llandygái a Llanllechid

Un sylw ar “Tŷ John Iorc

  1. Hysbysiad Cyfeirio: Eglwys Llanllechid – Hanes Dyffryn Ogwen

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s