Cilfachau Telford

Yr oedd cynlluniau Thomas Telford (1757-1834) ar gyfer adeiladu’r ffordd bost rhwng Llundain a Chaergybi yn rhai eithriadol fanwl. Ystyriwch, wrth wynebu i gyfeiriad Nant Ffrancon mae cilfachau arbennig wedi’u hadeiladu bob rhyw ganllath yn rhan o wal ochr chwith y ffordd. Ar yr ochr dde fe saif y cerrig milltir. Y cilfachau oedd y mannau ar gyfer paratoi a storio defnyddiau ar gyfer adeiladu’r ffordd, malu cerrig metlin, trin y cerrig, chwalu gro ac yn y blaen. Yr oedd gofyn i wyneb y ffordd gwrdd â gofynion eithriadol fanwl. Roedd y sail i fod yn 16 troedfedd ei led, wedi’i osod â llaw a’i orchuddio â thrwch o gerrig mân i ddyfnder o saith modfedd yn y canol a phum modfedd ar yr ochr. Yr oedd ail haen o gerrig mân i orchuddio’r gwely cyntaf i ddyfnder o chwe modfedd ac yna drydedd haen ar yr wyneb o raean mân heb fod yn rhy fras rhag gwneud niwed i garnau’r ceffylau.

Un o'r cilfachau ar hyd ffordd Telford lle byddid yn paratoi deunyddiau ar gyfer adeiladu'r ffordd
Un o’r cilfachau ar hyd ffordd Telford lle byddid yn paratoi deunyddiau ar gyfer adeiladu’r ffordd

Yn gyffredinol gallai cloddio’r ffordd gyflenwi digon o gerrig ar gyfer gofynion codi’r ffordd. Yn 1819 talwyd cyflog a amrywiai o 10 swllt i £2 am fis o waith i naw dyn i falu’r cerrig ar gyrion Bethesda. Lle nad oedd digon o gerrig cyflogid merched i gasglu cerrig o gaeau cyfagos. Yn 1819 er enghraifft talwyd gini a £1.11.0 am fis o waith i ddwy wraig o Ddyffryn Ogwen. Mae’n debyg, o ystyried enwau’r rhai a gyflogid, mai llafur lleol a ddefnyddiwyd i adeiladu’r ffordd yn ardal Bethesda heb orfod mewnforio nafis o ardaloedd eraill. Nid felly mewn ardal llai diwydiannol a thenau ei phoblogaeth megis Uwch Aled. Yno yr oedd cwffio parhaol rhwng gweision ffermydd yr ardal a nafis brwnt o gyrion Rhiwabon, a hynny oherwydd bod y nafis yn bychanu’r bechgyn lleol oherwydd eu harfer lleol o weu ‘sannau!

Rhoddwyd yr adroddiad canlynol am gyflwr y ffordd rhwng Capel Curig a Bangor yn 1844:  ‘The travelling in this district with the exception of that part of the road which lies between Coetmor Slate Quarry and Bangor is generally of a light description and the repair materials being of good quality and the surface is in excellent order’. Serch hynny, yr oedd yn anodd cynnal a chadw safon uchel y ffordd yn arbennig wedi i’r rheilffordd ddwyn y traffig o 1848 ymlaen ac i arian y llywodraeth ddod i ben. Doedd ryfedd felly fod deiseb wedi’i chyflwyno gan drigolion Bethesda i warchodwyr y ffordd ym mis Ebrill 1888 yn cwyno am ei chyflwr ‘disgraceful….with mud and dirt having been allowed to accumulate and no means taken to have same removed’. Yr ymateb cwrtais, ond pendant, oedd mai hwy bellach oedd yn gyfrifol am lanhau’r ffordd. Mae’r wers yn eglur – arian mawr i adeiladu, dim arian i gynnal. Ai dyma fydd tynged y llwybr beics newydd tybed?

Ffynonellau

Archif Telford, Archifdy Cenedlaethol, Kew

Quartermaine, J., Trinder, B., Turner, R. 2003  Thomas Telford’s Holyhead Road. CBA  Research Report 135. CBA York

Williams, J.Ll. W., a Williams, Lowri W. 2016. Retracing Thomas Telford’s footsteps, the building of the post road through Dyffryn Ogwen in Gwynedd, 1815 – 1824. Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon. I ymddangos yng nghyfrol  76, 2016.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

w

Connecting to %s