Fel llawer o bentrefi diwydiannol Cymru datblygodd Bethesda yn gyflym iawn yn ystod hanner cyntaf bedwaredd ganrif ar bymtheg i gartrefu’r boblogaeth newydd a oedd yn tyrru i’r ardal i weithio yn Chwarel y Penrhyn. Erbyn 1850 yr oedd canolbwynt y pentref wedi ei sefydlu’n bennaf ar dir stad Cefnfaes gyda strydoedd cyfan o dai wedi eu hadeiladu ym Mrynteg, Tan y Ffordd, Penygraig, Tŵr, Bryntirion a’r Stryd Fawr a’i chyrion yn Cae Star. Perthynai datblygiadau cyffelyb i’r un cyfnod yn Rachub, Carneddi a Braichmelyn.
Nid drwy gynlluniau pwrpasol yr adeiladwyd nifer o’r datblygiadau hyn, a chan amlaf yr oedd ansawdd yr adeiladau yn wael a chyfleusterau cyffredinol megis dŵr a charthffosiaeth yn absennol o’r ddarpariaeth. Yn dilyn sefydlu Bwrdd Iechyd Lleol ym Mangor yn 1850 lluniwyd deddf gwelliant ym Methesda yn 1854 er gosod isafswm safonau ar gyfer iechyd cyhoeddus. Mae datblygiadau tai pâr Llwybr Main a Than y Bwlch ym Mynydd Llandygái a Phenybryn ym Methesda yn brawf o’r gwelliannau a oedd i ddilyn.
Datblygiad arall o bwys oedd sefydlu cronfa ddŵr yn 1854 ar lan Afon Caseg yn Nant Graen ger Braichmelyn ar gyfer cyflenwi gofynion dinas Bangor.

Cyn hyn yr oedd y sefyllfa ym Mangor yn ddyrys iawn gydag Afon Adda yn cyflenwi dŵr yfed yn ogystal â bod yn bibell garthffosiaeth i ran helaeth o’r dref. Roedd rhan arall yn ddibynnol ar gyflenwad o gronfa ddŵr a sefydlwyd yn 1845 gan ddrepar lleol, Hugh Roberts, ar Gae Ffynnon Ddeiniol (cyfeirnod grid Arolwg Ordnans SH 575708), ac a wasanaethai gyn lleied ag 20% o boblogaeth y ddinas. Cwmni preifat ‘The Bangor Waterworks Company’, a ailsefydlwyd drwy ddeddf gwlad yn ‘Bangor Water and Gas Company’, a ddatblygodd safle Nant Graen drwy drefniant gyda’r Arglwydd Penrhyn. Yno adeiladwyd cronfa i buro’r dŵr a’i ddanfon drwy bibellau pridd i gronfa gynhaliol ar Fynydd Bangor, a thrwy drefniant cronfa Nant Graen oedd hefyd yn cyflenwi gofynion dŵr Bethesda.
Er cymaint yr ymdrech i wella safonau glendid cyhoeddus yr oedd haint y teiffoid yn ymwelydd achlysurol â Bethesda cyn iddo dorri allan yn ymosodiad ffyrnig a lledu’n gyflym drwy Ddyffryn Ogwen a Bangor ym mis Mai 1882. Buan y sylweddolwyd mai tarddle’r haint oedd tyddyn Llwynrhandir lle’r oedd carthion yn llifo i mewn i afon Llafar uwchlaw cronfa Nant Graen, ac yn ogystal, canfuwyd fod system puro yn y gronfa yn ddiffygiol gan adael i draean y dŵr lifo heb ei buro i’r cyflenwad. Yn ystod cyfnod yr haint defnyddiwyd ystafell yn ysgol Glanogwen fel ysbyty dros dro a bu nifer o farwolaethau yn y pentref, er nad yw nifer y rhai a fu farw yn 1882 yn uwch na’r cyffredin yn ôl tystiolaeth mynwent Eglwys Glanogwen.
Yn 1932 ad-drefnwyd cynllun cyflenwi dŵr Bangor drwy adeiladu cronfa a phurfa newydd ger Tyddyn Du ar Afon Lafar i’r de o Gerlan. Agorwyd y safle ar 11 Gorffennaf 1932 a gosodwyd llechen ysgrifenedig ar dalcen adeilad y Tŷ Dŵr Bach i gofnodi’r digwyddiad. Oddi fewn i’r adeilad mae tabled arall mewn llechen, mwy addurnedig na’i gymar oddi allan, yn cofnodi’r canlynol – ‘Bangor Waterworks established by Hugh Roberts of Bangor AD 1815’, ac mewn arysgrif islaw – ‘Removed from the old Nant Water Works to Bethesda in 1932’. Felly dyma gofnod o gronfa wreiddiol Cae Ffynnon Ddeiniol yn Glanadda, Bangor, ond gyda’r dyddiad anghywir 1815 wedi ei ddynodi yn hytrach na 1845, sef dyddiad cywir sefydlu gwasanaeth arloesol Hugh Roberts i ddinasyddion Bangor.

Ffynonellau
Barry, F. W. 1893. Report to the Local Government Board – an extensive outbreak of Enteric Fever ar Bangor and its neighbourhooh. 29 September 1892. MS Gwynedd Health Authority
Jones, Peter Ellis. 1976. The Bangor Local Board of Health 1850-188.3. Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon. 37. 87-133
Jones, Glyn Penrhyn. 1962. Newyn a Haint yng Nghymru. Caernarfon